{"id":15179,"date":"2020-06-26T00:01:59","date_gmt":"2020-06-26T00:01:59","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pandemig-y-coronafeirws-a-phris-iechyd\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:55","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:55","slug":"pandemig-y-coronafeirws-a-phris-iechyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pandemig-y-coronafeirws-a-phris-iechyd\/","title":{"rendered":"Pandemig y Coronafeirws a phris iechyd"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r pandemig Coronafeirws presennol wedi gosod gofal iechyd ac arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth yng nghanol y drafodaeth gyhoeddus. Mae cwestiynau ynghylch dogni adnoddau megis mynediad at ofal iechyd arbenigol, profi, ac argaeledd cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu trafod yn ddyddiol. Fe drafodwyd <a href=\"https:\/\/www.reuters.com\/article\/us-health-coronavirus-britain-healthcare\/who-gets-the-ventilator-british-doctors-contemplate-harrowing-coronavirus-care-choices-idUSKBN2172FC\">dogni mynediad at welyau a thriniaeth<\/a>, gyda gweithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen yn yr Eidal a Sbaen yn gorfod gwneud <a href=\"https:\/\/www.reuters.com\/article\/us-health-coronavirus-italy-ethics-speci\/special-report-all-is-well-in-italy-triage-and-lies-for-virus-patients-idUSKBN2133KG\">penderfyniadau i achub neu golli bywydau<\/a> yn seiliedig ar argaeledd staff ac offer yn hytrach na\u2019r angen clinigol.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r cwestiwn o <a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/30448a84-736d-11ea-90ce-5fb6c07a27f2\">ddogni gofal iechyd<\/a> yn un newydd. Mae\u2019r drafodaeth, wedi\u2019i hysgogi gan economeg iechyd, wedi bod yn digwydd <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/coronavirus-as-a-health-economist-im-not-convinced-the-case-for-mass-testing-stacks-up-135257\">am ddegawdau<\/a> yn y DU a thu hwnt. O fynediad at ddialysis yr arennau yn y 1970au, triniaethau trawsblannu calonnau yn y 1980au ac, yn fwy diweddar, <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/health-38769625\">triniaeth cyffuriau canser<\/a> drud, mae\u2019r GIG wedi bod yn wynebu\u2019r cyfyng-gyngor cyson o ran sut i <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/publications\/understanding-nhs-financial-pressures\">ddefnyddio adnoddau gofal iechyd cyfyngedig yn wyneb galw cynyddol<\/a>.<\/p>\n<p>Mae\u2019r argyfwng presennol yn cynnig cyfle i ailystyried sut mae gofal iechyd bellach wedi\u2019i ddominyddu gan economeg iechyd. Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o\u2019r DU, mae argaeledd triniaethau a <a href=\"https:\/\/www.nice.org.uk\/news\/blog\/carrying-nice-over-the-threshold\">phenderfyniadau ynghylch pwy sydd \u00e2\u2019r hawl iddynt<\/a> wedi cael eu dylanwadu fwyfwy gan ddulliau a chysyniadau economeg. Fel yr ysgrifennodd Richard Horton, prif olygydd y <em>Lancet<\/em>, mewn <a href=\"https:\/\/www.thelancet.com\/pdfs\/journals\/lancet\/PIIS0140-6736(17)31798-1.pdf\">erthygl olygyddol yn 2017<\/a>:<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\"><em>\u2018Economegwyr yw duwiau iechyd byd-eang... eu clogynnau llachar o awdurdod meintiol... yn tawelu lleisiau meddygol gwannach\u2019.<\/em><\/p>\n<p>Nid yw Cymru wedi dilyn defnydd Lloegr o gystadleuaeth a ffug-farchnadoedd i geisio rheoli costau, ond mae sut i ddiwallu\u2019r galw cynyddol am ofal iechyd wedi bod yn fater gwleidyddol pwysig yma gyda <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cefnogi-gwelliannau-mewn-byrddau-iechyd\/\">sawl bwrdd iechyd yn cael trafferth i ddarparu gofal o ansawdd uchel ac aros o fewn eu cyllidebau.<\/a><\/p>\n<p>Ceir tystiolaeth, hyd yn oed cyn sefydlu\u2019r GIG ym 1948, fod y wladwriaeth yn ymwybodol o \u2018bris\u2019 afiechyd. Er enghraifft ym 1943, cynhyrchwyd poster (llun isod, <em>Science and Society Picture Library<\/em>) gyda\u2019r pennawd \u2018Beth yw pris annwyd?\u2019.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-4142\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/poster-1.jpg\" alt=\"\" width=\"286\" height=\"428\" \/><\/p>\n<p>Erbyn y 1970au, roedd gan economeg iechyd y gallu i gynnig naratif \u2018cyflenwad-galw\u2019 i wleidyddion oedd yn argyhoeddi ond hefyd yn syml: darparwyd gofal iechyd ar sail adnoddau cyfyngedig (e.e. meddyginiaeth, nyrsys\/meddygon, gwelyau) ond profwyd galw diderfyn (h.y. roedd disgwyliadau pobl o iechyd ar gynnydd). Roedd rhai o\u2019r datrysiadau a gynigwyd yn cynnwys gosod fframweithiau \u2018gwrthrychol\u2019 yn seiliedig ar resymeg er mwyn gwneud penderfyniadau trwy ddefnyddio technegau cyfrifo cost a budd, gan nodi dewisiadau unigol a gwerthuso perfformiad gwasanaethau.<\/p>\n<p>Ers hynny, mae economeg iechyd wedi dod yn rhan o sut mae gofal iechyd yn cael ei ffurfio, ei gyflwyno a\u2019i werthuso. Er enghraifft, mae blwyddyn-fywyd a addaswyd yn \u00f4l ansawdd (QALYs) (gweler y ffigur isod), adnodd economeg a ddatblygwyd i werthuso cost-effeithiolrwydd triniaethau, yn dod \u00e2 morbidrwydd a marwoldeb ynghyd mewn cymhareb sengl i werthuso canlyniad ymyriadau iechyd. Y cwestiwn a ofynnir gan <a href=\"https:\/\/nypost.com\/2020\/03\/19\/coronavirus-crisis-the-wrong-way-to-decide-which-patients-get-hospital-care\/\">foesegwyr<\/a> yw a ddylai ystyried blynyddoedd bywyd a enillir ac sydd ar \u00f4l i\u2019w hennill fod yn sail i wneud penderfyniadau yn ystod y pandemig Coronafeirws yma. Yn wir, ers <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0277953618303605\">ffurfio QALYs gan economegwyr Prydeinig yn y 1970au<\/a>, bu cryn feirniadaeth ei fod yn gysyniad sy\u2019n gwahaniaethu ar sail oedran ac anabledd. Ni fu\u2019r meini prawf hyn erioed <a href=\"https:\/\/www.bmj.com\/content\/bmj\/369\/bmj.m1496.full.pdf\">mor amlwg<\/a> ag y maen nhw nawr.<\/p>\n<figure id=\"attachment_4149\" aria-describedby=\"caption-attachment-4149\" style=\"width: 618px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-4149 size-full\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/poster-2-1.jpg\" alt=\"\" width=\"618\" height=\"435\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-4149\" class=\"wp-caption-text\">(Remedia blog: https:\/\/bit.ly\/2WxCqzj)<\/figcaption><\/figure>\n<p>Er gwaetha\u2019r ffaith yr ymddengys fod gan economeg iechyd r\u00f4l gynyddol, mae rhai ymchwilwyr wedi cymharu a gwerthuso p\u2019un a yw\u2019r ddisgyblaeth yn effeithio ar benderfyniadau cyllido mewn gwirionedd. <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S1098301516300547\">Maent<\/a> yn awgrymu, er fod y drafodaeth ar economeg iechyd yn ymddangos yn flaenllaw, \u2018ymddengys fod gwerthusiad economeg iechyd, fodd bynnag, yn cael ychydig o effaith yn unig ar gyfyngu mynediad a\/neu wrthod cyffuriau dadleuol\u2019. Mae gwerth symbolaidd economeg \u2013 gyda\u2019i wrthrychedd honedig a\u2019i werthoedd niwtral \u2013 mewn maes polisi dadleuol megis gofal iechyd yn ddefnyddiol i dynnu\u2019r elfen wleidyddol o ddyrannu adnoddau. Caiff <a href=\"https:\/\/blogs.bmj.com\/bmj\/2020\/04\/30\/andy-cowper-slippery-language-and-defensive-politics-try-to-hide-the-real-problems\/\">penderfyniadau gwleidyddol<\/a> eu disgrifio dro ar \u00f4l tro fel rhai \u2018<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2020\/apr\/28\/theres-no-such-thing-just-following-the-science-coronavirus-advice-political\">a arweinir gan wyddoniaeth\u2019<\/a>, fodd bynnag, bydd \u2018gwyddorau\u2019, mathau o arbenigedd a thystiolaeth gwahanol, yn fframio problemau yn wahanol, gydag atebion gwahanol.<\/p>\n<p>Canfyddir corff o waith ymchwil defnyddiol sy\u2019n edrych ar r\u00f4l economeg mewn gofal iechyd o fewn <a href=\"https:\/\/www.ingentaconnect.com\/content\/tpp\/pap\/2014\/00000042\/00000002\/art00002\">llenyddiaeth dadwleidyddoli<\/a> sy\u2019n dadlau, yn arbennig, y gall llywodraethau geisio dadwleidyddoli penderfyniadau trwy eu dirprwyo i gyrff sydd hyd braich.\u00a0 Mae Matthew <a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/full\/10.1111\/1467-856X.12060\">Wood<\/a>, er enghraifft, yn dadlau fod Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) y DU yn cyflawni\u2019r swyddogaeth hon mewn polisi iechyd ac yn elwa o\u2019r hyn mae\u2019n ei alw\u2019n \u2018\u201cwydro dwbl\u201d sefydliadol\u2019 sy\u2019n atal gweinidogion rhag ymyrryd yng ngwaith y sefydliad (2015, p.646). Fodd bynnag, mae cryfder y gwydro dwbl hwn yn dibynnu ar y llywodraeth, gyda\u2019r potensial iddo gael ei \u2018chwalu\u2019 yn wyneb pwysau gwleidyddol gormesol. Un enghraifft yw\u2019r Gronfa Gyffuriau Canser yn Lloegr yn 2011, a oedd yn hepgor argymhellion NICE ar gyfer cyffuriau canser penodol.\u00a0 Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio \u00e2 chyflwyno cronfa debyg yng Nghymru ac fe wynebodd Gweinidogion yma feirniadaeth am hyn o rai cyfeiriadau.<\/p>\n<p>Yn ystod yr argyfwng hwn, gwelwyd gwahaniaethau yn y cyflymder a\u2019r ffyrdd y mae pedair gwlad y DU wedi llacio ar gyfyngiadau\u2019r cyfnod clo ac mae\u2019r cwestiwn ynghylch mynediad at ofal a <a href=\"https:\/\/www.nationalreview.com\/corner\/coronavirus-health-care-should-not-be-rationed-based-on-quality-of-life-judgments\/\">dogni a <em>triage<\/em><\/a> yn cael ei ailnegodi yn ddyddiol ac yn wahanol mewn <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-52483859\">gwledydd gwahanol<\/a> a wardiau ysbyty. Yr hyn sy\u2019n amlwg, fodd bynnag, yw hyd at y pandemig yma, mae polisi gofal iechyd ar draws y DU wedi canolbwyntio ar gostau\u2019r GIG o ran <a href=\"https:\/\/www.england.nhs.uk\/2019\/01\/missed-gp-appointments-costing-nhs-millions\/\">apwyntiadau a gollwyd<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/sites\/default\/files\/2018-04\/Rising-cost-of-medicines.pdf\">rhagnodi gormodol<\/a>, neu <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/society\/2017\/aug\/30\/nhs-cost-cutting-drive-to-reduce-hospital-referrals-revealed\">atgyfeiriadau<\/a>. Bellach mae\u2019r naratif yn canolbwyntio ar \u2018beth bynnag fo\u2019n ei gymryd\u2019 gydag Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd Llywodraeth y DU yn datgan <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/politics\/live\/2020\/apr\/03\/uk-coronavirus-live-emergency-nightingale-hospital-opens-today-matt-hancock-covid-19-latest-updates?page=with:block-5e86e03b8f0866297e9f6305\">\u201ccostied a gostio\u201d<\/a> yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws (lluniau isod: gov.uk a Iechyd Cyhoeddus Cymru) ac mae ei gyfoedion mewn gwledydd eraill yn dilyn trywydd tebyg.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-4146\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/poster-3.jpg\" alt=\"\" width=\"862\" height=\"434\" \/><\/p>\n<p>Wrth i\u2019r byd ddechrau rheoli pandemig y Coronafeirws, bydd yn bwysig dogfennu sut mae <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/coronavirus-crisis-is-a-turning-point-for-the-nhs-for-good-or-bad-we-just-dont-know-yet-135778\">gwasanaethau iechyd wedi\u2019u trawsnewid ac ystyried y ffyrdd y gall y GIG ymadfer ar \u00f4l hyn.<\/a> Bydd hefyd yn hynod ddiddorol gweld p\u2019un a yw economeg wedi colli ei afael mewn gwirionedd ar benderfyniadau dyrannu neu p\u2019un a fydd pwysigrwydd cost-effeithiolrwydd yn adennill ei le wrth i\u2019r bygythiad i fywyd ddechrau cilio ac wrth i\u2019r sylw droi at y niwed economaidd a achoswyd gan y feirws.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r pandemig Coronafeirws presennol wedi gosod gofal iechyd ac arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth yng nghanol y drafodaeth gyhoeddus. Mae cwestiynau ynghylch dogni adnoddau megis mynediad at ofal iechyd arbenigol, profi, ac argaeledd cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu trafod yn ddyddiol. Fe drafodwyd dogni mynediad at welyau a thriniaeth, gyda gweithwyr gofal iechyd ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15175,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135,140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15179","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Funding-gap-finances-8.jpg","filesize":76288,"sizes":{"medium":{"file":"Funding-gap-finances-8-744x484.jpg","width":744,"height":484,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40145,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-8-744x484.jpg"},"thumbnail":{"file":"Funding-gap-finances-8-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37281,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-8-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Funding-gap-finances-8-768x499.jpg","width":768,"height":499,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41786,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-8-768x499.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15174","name":"Funding-gap-finances-8.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-8.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-8-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-8.jpg","title":"Funding-gap-finances-8.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15179","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15179"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15179\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15180,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15179\/revisions\/15180"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15175"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15179"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15179"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15179"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15179"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}