{"id":15172,"date":"2020-06-24T00:01:45","date_gmt":"2020-06-24T00:01:45","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sefyllfaoedd-ariannol-bregus-yn-ystod-y-pandemig-cyfyng-gyngor-i-awdurdodau-lleol\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:54","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:54","slug":"sefyllfaoedd-ariannol-bregus-yn-ystod-y-pandemig-cyfyng-gyngor-i-awdurdodau-lleol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sefyllfaoedd-ariannol-bregus-yn-ystod-y-pandemig-cyfyng-gyngor-i-awdurdodau-lleol\/","title":{"rendered":"Sefyllfaoedd ariannol bregus yn ystod y pandemig: cyfyng-gyngor i awdurdodau lleol"},"content":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws wedi sbarduno newid yn y ffordd rydym ni, fel cymdeithas, yn meddwl am fod yn fregus. Yn hanesyddol, rydym wedi tueddu i ddefnyddio diffiniad moesol i ddisgrifio bod yn fregus, sy\u2019n arwain at gyfres o rwymedigaethau a dyletswyddau sydd wedi\u2019u hymgorffori mewn deddfwriaeth megis <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/anaw\/2014\/4\/contents\">Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), 2014<\/a> i amddiffyn y rhai hynny sy\u2019n cael eu hystyried fel yr aelodau gwannaf o\u2019n cymdeithas. Mae\u2019n werth nodi bod <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/guidance-on-shielding-and-protecting-extremely-vulnerable-persons-from-covid-19\/guidance-on-shielding-and-protecting-extremely-vulnerable-persons-from-covid-19\">Llywodraethau\u2019r DU<\/a> a <a href=\"https:\/\/gov.wales\/guidance-on-shielding-and-protecting-people-defined-on-medical-grounds-as-extremely-vulnerable-from-coronavirus-covid-19-html\">Chymru<\/a> wedi ceisio amddiffyn y rhai hynny a ystyrir yn hynod fregus yn feddygol tra\u2019n cynnig darpariaeth ar gyfer y rhai hynny sy\u2019n fregus yn ariannol ar yr un pryd. Mae hyn wedi creu problem i awdurdodau lleol a oedd eisoes o dan bwysau ariannol sylweddol cyn y pandemig: sut mae\u2019n bosibl iddynt barhau i ariannu gwasanaethau hanfodol a\u2019u rhwymedigaethau statudol tra\u2019n helpu\u2019r rhai hynny sydd efallai\u2019n cael trafferth yn talu?<\/p>\n<p>Mae maint a chyflymder y newidiadau ym mywydau gwaith pobl yn y misoedd diwethaf yn golygu fod llawer wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm. Gyda llawer yn methu \u00e2 dibynnu ar <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-52399268\">gynilion wrth gefn<\/a>, mae\u2019r pandemig wedi taflu goleuni ar pa mor fregus yw sefyllfa ariannol llawer o bobl o fewn ein cymdeithas. Erbyn dechrau Ebrill, <a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/about-us\/policy\/policy-research-topics\/citizens-advice-cymru-wales-policy-research\/facing-the-cliff-edge-protecting-people-in-wales-from-the-financial-consequences-of-covid-19\/\">roedd 34% o\u2019r rheini sy\u2019n rhentu yng Nghymru ar ei h\u00f4l hi, neu bod disgwyl iddynt fynd ar ei h\u00f4l hi, gyda\u2019u taliadau rhent ac un ym mhob naw (11%) eisoes ar ei h\u00f4l hi o ran taliadau un neu fwy o filiau\u2019r cartref.<\/a> Gyda budd-daliadau ddim bob amser yn ddigon i dalu am wariant mawr yn y cartref, mae mwy a mwy yn gorfod troi at <a href=\"https:\/\/www.trusselltrust.org\/2020\/05\/01\/coalition-call\/\">fanciau bwyd<\/a> gan nad ydynt yn gallu diwallu eu hanghenion sylfaenol.<\/p>\n<p>Mae nifer o gamau wedi\u2019u cymryd i gynnig cefnogaeth ariannol i\u2019r rhai hynny sydd yn methu gweithio. Mae hyn wedi cynnwys <a href=\"https:\/\/www.fca.org.uk\/news\/press-releases\/fca-support-customers-struggling-mortgage-coronavirus\">seibiannau o ran talu morgais<\/a>; <a href=\"https:\/\/gov.wales\/eviction-during-coronavirus-pandemic\">atal rhag troi pobl allan<\/a> o lety cymdeithasol a llety a rentir yn breifat; cymorth gan <a href=\"https:\/\/www.ofgem.gov.uk\/system\/files\/docs\/2020\/06\/open_letter_on_relaxing_network_charge_payment_terms_1.pdf\">gwmn\u00efau cyfleustodau<\/a> i\u2019r rhai sy\u2019n cael trafferth i dalu eu biliau, a\u2019r disgwyl y bydd <a href=\"https:\/\/www.fca.org.uk\/consumers\/coronavirus-information-personal-loans-credit-cards-overdrafts\">benthycwyr<\/a> yn cynnig cefnogaeth dros dro, eithriadol ac ar unwaith i\u2019r defnyddwyr hynny sy\u2019n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i\u2019r amgylchiadau yn sgil coronafeirws. Fodd bynnag, un o\u2019r prif daliadau sydd wedi\u2019u heithrio yw treth y cyngor.<\/p>\n<p>Hyd yn oed cyn y cyfnod clo, dywedodd bron i chwarter o oedolion Cymru sy\u2019n gorfod talu <a href=\"https:\/\/drive.google.com\/file\/d\/13GLgTEO1uWcPZS45Ihj8Cl5LJ9uxcTXq\/view?usp=sharing\">treth y cyngor<\/a> eu bod yn ei gweld hi\u2019n \u2018anodd\u2019 neu\u2019n \u2018anodd iawn\u2019 i gynnal taliadau treth y cyngor, gydag un ym mhob saith yn dweud eu bod nhw wedi methu taliad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yr unigolion a nodwyd fel y rhai sydd \u00e2 risg uwch o fethu taliadau yw\u2019r rhai hynny sydd \u00e2\u2019u hincwm yn amrywio bob mis, gan gynnwys yr hunangyflogedig, y rhai sy\u2019n byw \u00e2 chyflwr iechyd meddwl, sy\u2019n rhiant sengl neu sy\u2019n denant yn y sector rhentu preifat. Dyma\u2019r union bobl sydd wedi teimlo\u2019r ergyd ariannol fwyaf o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws. Mae gan hyn oblygiadau i\u2019r awdurdodau lleol sy\u2019n dibynnu ar y refeniw a gynhyrchir gan daliadau treth y cyngor, incwm gan ganolfannau hamdden a meysydd parcio, a threthi busnes i gynnig gwasanaethau gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi\u2019u targedu at y mwyaf bregus.<\/p>\n<p>Mae awdurdodau lleol yn cynnal cartrefi gofal preswyl a llety lloches; yn cefnogi oedolion a phlant bregus yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau gofal; yn cynnig gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain ac yn helpu\u2019r rhai hynny sydd wedi\u2019u rhyddhau o ysbytai, yn rhan o\u2019u dyletswyddau statudol o dan Ddeddf 2014. Maent hefyd yn ymwneud \u00e2 dosbarthu bwyd i\u2019r rhai hynny sydd mewn angen ac sy\u2019n byw mewn tlodi, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/gov.wales\/free-school-meals-coronavirus-guidance-schools\">darparu prydau ysgol am ddim<\/a>; helpu a rhoi llety i\u2019r <a href=\"https:\/\/gov.wales\/coronavirus-covid-19-local-authority-support-for-rough-sleepers-html\">digartref<\/a>, a chynnig gwasanaethau hanfodol eraill (priffyrdd, iechyd amgylcheddol, diogelu\u2019r cyhoedd a chasglu sbwriel ac ati). Bydd y dirwasgiad economaidd disgwyliedig yn cynyddu\u2019r galw am wasanaethau cyhoeddus wrth i fwy orfod dibynnu ar Gredyd Cynhwysol. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu\u2019r galw am gynlluniau i leihau treth y cyngor a lleihau\u2019r nifer o gartrefi sy\u2019n gorfod talu treth y cyngor.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, mae gwasanaethau cyhoeddus a\u2019u partneriaid dan gontract wedi canfod ffyrdd o <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/ymateb-i-ddinasyddion-sydd-mewn-dyled-i-wasanaethau-cyhoeddus\/\">ymateb yn well i ddyledwyr sy\u2019n fregus,<\/a> gan gael gwared ar y bygythiad o <a href=\"https:\/\/gov.wales\/written-statement-removal-sanction-imprisonment-non-payment-council-tax\">garchar<\/a> am beidio \u00e2 thalu treth y cyngor. Mae <a href=\"https:\/\/www.wlga.wales\/working-in-partnership-to-achieve-a-fairer-council-tax-system\">Protocol Treth Gyngor Cymru<\/a> yn ymrwymo i ddefnyddio dull mwy cyson, sy\u2019n canolbwyntio ar y preswylydd, i fynd i\u2019r afael \u00e2 dyled, \u00f4l-daliadau a gorfodaeth, ac mae eithriadau ar gyfer y rhai analluog yn feddyliol wedi\u2019u hyrwyddo. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi hyrwyddo <a href=\"https:\/\/gov.wales\/are-you-missing-out-help-your-council-tax-bill\">cynllun gostyngiad treth y cyngor<\/a> a <a href=\"https:\/\/gov.wales\/council-tax-discounts-and-reduction\">chymhwysedd ar gyfer gostyngiadau\/eithriadau<\/a> fel mecanweithiau i leddfu\u2019r baich unigol tra bod rhai awdurdodau lleol wedi ymrwymo i <a href=\"https:\/\/www.gwynedd.llyw.cymru\/en\/Residents\/Coronavirus-Covid-19-Council-Tax.aspx\">atal camau gorfodi<\/a>. Ond mae hyn yn debygol o gael goblygiadau parhaol i awdurdodau lleol sy\u2019n dibynnu ar dreth y cyngor fel prif ffynhonnell refeniw \u2013 mae\u2019r WLGA wedi awgrymu fod awdurdodau lleol yn wynebu colled incwm o <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-52339792\">\u00a333 miliwn bob mis<\/a>.<\/p>\n<p>Mae rhywfaint o gymorth wedi\u2019i gynnig, gyda Llywodraeth y DU yn cydnabod r\u00f4l hanfodol yr awdurdodau lleol wrth ymateb i Covid-19, gan roi \u00a395 miliwn yn ychwanegol i Gymru yn wreiddiol, wedi\u2019i ddilyn gan <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-52791805\">\u00a324 miliwn<\/a> pellach ym mis Mai. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda\u2019r cyfraniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y cyllid ychwanegol fydd ar gael yn y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0012\/2399394\/WFA-coronavirus-budget-update-2-02062020.pdf\">gyllideb atodol<\/a>, fe amcangyfrifir y bydd yn cymryd <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-52791804\">cenhedlaeth<\/a> i gynghorau dalu am bandemig y coronafeirws.<\/p>\n<p>Yn dilyn cyfnod estynedig o <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/canfyddiadau-cynghorau-cymru-o-lymder\/\">lymder<\/a>, bydd gwasgedd o\u2019r newydd ar gyllid yn arwain at orfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn i awdurdodau lleol allu diwallu eu rhwymedigaethau statudol i gefnogi\u2019r mwyaf bregus. Bydd angen taro cydbwysedd addas rhwng lleddfu\u2019r baich ar unigolion a chreu\u2019r refeniw angenrheidiol i dalu am wasanaethau hanfodol. Oni bai eu bod yn mynd i\u2019r afael \u00e2 materion cyllid a dosbarthu sylfaenol, bydd awdurdodau lleol yn gorfod wynebu dewis pa grwpiau bregus i\u2019w blaenoriaethu \u2014 sefyllfa y dylem geisio ei hosgoi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws wedi sbarduno newid yn y ffordd rydym ni, fel cymdeithas, yn meddwl am fod yn fregus. Yn hanesyddol, rydym wedi tueddu i ddefnyddio diffiniad moesol i ddisgrifio bod yn fregus, sy\u2019n arwain at gyfres o rwymedigaethau a dyletswyddau sydd wedi\u2019u hymgorffori mewn deddfwriaeth megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), 2014 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15171,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[140,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15172","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-economi","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Little-money-in-purse-scaled.jpg","filesize":376468,"sizes":{"medium":{"file":"Little-money-in-purse-744x497.jpg","width":744,"height":497,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56808,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-744x497.jpg"},"large":{"file":"Little-money-in-purse-1200x801.jpg","width":1200,"height":801,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":115081,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1200x801.jpg"},"thumbnail":{"file":"Little-money-in-purse-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49423,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Little-money-in-purse-768x513.jpg","width":768,"height":513,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":59369,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-768x513.jpg"},"1536x1536":{"file":"Little-money-in-purse-1536x1025.jpg","width":1536,"height":1025,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":167516,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1536x1025.jpg"},"2048x2048":{"file":"Little-money-in-purse-2048x1367.jpg","width":2048,"height":1367,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":261530,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-2048x1367.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Little-money-in-purse-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":205889,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Little-money-in-purse.jpg","ID":"15171","name":"Little-money-in-purse-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-scaled.jpg","title":"Little-money-in-purse.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Little-money-in-purse-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15172","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15172"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15172\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16466,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15172\/revisions\/16466"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15171"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15172"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15172"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15172"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15172"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}