{"id":15169,"date":"2020-06-19T00:01:24","date_gmt":"2020-06-19T00:01:24","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pandemig-y-coronafeirws-cyfle-ar-gyfer-entrepreneuriaid-polisi\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:54","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:54","slug":"pandemig-y-coronafeirws-cyfle-ar-gyfer-entrepreneuriaid-polisi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pandemig-y-coronafeirws-cyfle-ar-gyfer-entrepreneuriaid-polisi\/","title":{"rendered":"Pandemig y Coronafeirws - cyfle ar gyfer entrepreneuriaid polisi?"},"content":{"rendered":"<p>Mae wedi dod yn rhyw fath o fantra \u2018na all pethau fod yr un fath\u2019 ar \u00f4l pandemig y Coronafeirws.\u00a0 Mae hynny\u2019n rhannol oherwydd ymdeimlad cynyddol na fydd modd i ni weithio, siopa, dysgu a chymdeithasu fel y buon ni, hyd yn oed pan ddeuwn ni\u2019n raddol allan o\u2019r cyfyngiadau symud, os bydd pandemig y Coronafeirws gyda ni am beth amser, fel sy\u2019n ymddangos yn debygol. Ond yn fwy cadarnhaol, mae\u2019r pandemig wedi rhoi cipolwg i ni ar sut gallai pethau fod yn wahanol.\u00a0 Er enghraifft, mae cyflymdra a chwmpas rhai o ymatebion llywodraethau\u2019r Deyrnas Unedig, fel y cynllun ffyrlo neu <a href=\"https:\/\/housingevidence.ac.uk\/coronavirus-a-historic-opportunity-to-end-homelessness-for-good-in-the-uk\/\">gomisiynu llety brys ar gyfer y rhai sy\u2019n cysgu allan,<\/a>wedi awgrymu bod capasiti gan y wladwriaeth i weithredu\u2019n radical, yn gyflym ac mewn modd llawn dychymyg.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019n syndod, felly, ein bod wedi gweld ymatebion creadigol iawn yn ystod y tri mis diwethaf gan felinau trafod, grwpiau diddordeb, elusennau ac academyddion.\u00a0 \u00a0O <a href=\"https:\/\/www.basicincomeconversation.org\/recovery-ubi\">Incwm Sylfaenol Cyffredinol<\/a>, <a href=\"https:\/\/discoversociety.org\/2020\/04\/24\/higher-education-after-covid-19\/\">i newid sut rydym ni\u2019n meddwl am addysg uwch<\/a>, i <a href=\"https:\/\/iea.org.uk\/covid-19-pay-stuctures-and-compensating-differentials-why-we-need-greater-wage-flexibility\/\">ddadreoleiddio differynnau cyflog<\/a>, <a href=\"https:\/\/resetcymru.wordpress.com\/2020\/06\/08\/dros-gymru-gan-gymru\/\">cynigiwyd polis\u00efau<\/a> yn atebion i broblemau sydd wedi dod i\u2019r amlwg yn sg\u00eel y pandemig, gan obeithio neu ddisgwyl y byddant yn cael eu clywed gan lunwyr polisi sy\u2019n gobeithio ymdrin a\u2019r materion hyn.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, ychydig iawn o\u2019r cynigion hyn, os o gwbl, sy\u2019n newydd.\u00a0 Mae\u2019n llawer mwy tebygol bod y rhai sydd o\u2019u plaid wedi eu hyrwyddo am beth amser ac wedi canfod cyfle newydd i\u2019w cyflwyno fel rhai perthnasol ac angenrheidiol.\u00a0 Dylid pwysleisio nad oes dim o gwbl o\u2019i le ar hyn.\u00a0 Yr hyn sy\u2019n digwydd yw bod pobl sy\u2019n credu mewn cynnig polisi wedi cael hyd i sail arall ar gyfer dadlau o\u2019i blaid.\u00a0 Problem arall y maent yn credu ei fod yn cynnig ateb iddi.\u00a0 Yn gryno, maent yn gwneud yn union beth byddech chi\u2019n disgwyl i <a href=\"https:\/\/paulcairney.wordpress.com\/2017\/06\/05\/three-habits-of-successful-policy-entrepreneurs\/\">entrepreneuriaid polisi<\/a> ei wneud.<\/p>\n<p>Mae ffigur yr entrepreneur polisi yn ganolog i\u2019r dull <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/13876988.2016.1174410\">Fframwaith Llifoedd Lluosog<\/a> o ddadansoddi polisi, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan yr ysgolhaig o America, John Kingdon. Roedd Kingdon yn dadlau, yn hytrach na bod polis\u00efau (bob amser) yn cael eu cynhyrchu mewn ymateb i broblemau a nodwyd, fod polis\u00efau a phroblemau yn bodoli mewn \u2018llifoedd\u2019 sy\u2019n annibynnol ar ei gilydd.\u00a0 Ac yn rhedeg ochr yn ochr \u00e2 nhw mae trydydd llif - gwleidyddiaeth - sy\u2019n cynnwys ystod aruthrol o ffactorau a allai olygu bod llywodraeth neu gorff deddfu yn barod i weithredu ar fater.<\/p>\n<p>Pan ddaw\u2019r llifoedd hyn ynghyd - pan fydd polisi yn cwrdd \u00e2 phroblem y mae\u2019n ymddangos yn ateb iddi ac mae\u2019r llif gwleidyddiaeth yn teimlo fel gweithredu - bydd ffenestr o gyfle neu newid yn agor.\u00a0 Ond nid yw\u2019r llifoedd yn dod ynghyd wrthynt eu hunain: fe\u2019u cyfunir gan entrepreneuriaid polisi - pobl neu sefydliadau sydd \u00e2 pholisi neu safbwynt maent yn credu ynddo (neu, weithiau, y maent yn credu y byddant yn elwa ohono), ac sy\u2019n barod i roi o\u2019u hamser, eu hegni neu adnoddau eraill i geisio sicrhau ei fod yn cael ei fabwysiadu.\u00a0 Dyfyniad cofiadwy o waith <a href=\"https:\/\/archive.org\/details\/agendasalternati00king\">Kingdon<\/a> yw\u2019r ddelwedd o entrepreneuriaid polisi fel:<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\"><em>\u2018syrffwyr yn aros am y don fawr. Rydych chi\u2019n mynd allan, mae\u2019n rhaid i chi fod yn barod i fynd, yn barod i badlo.\u00a0 Os nad ydych chi\u2019n barod i badlo pan ddaw\u2019r don fawr, fyddwch chi ddim ar ei chefn pan ddaw i\u2019r lan\u2019.<\/em><\/p>\n<p>Ond, i estyn y trosiad, y pwynt yw nad yw\u2019r syrffiwr yn adeiladu bwrdd syrffio penodol ar gyfer ton benodol: mae\u2019r bwrdd syrffio yn ei meddiant eisoes ac mae\u2019n chwilio am y don fydd yn golygu ei bod yn gallu dangos cryfderau\u2019r bwrdd.<\/p>\n<p>Eto, does dim yn sinigaidd nac yn anonest am hyn.\u00a0 Os oes gennych chi syniad neu bolisi rydych chi\u2019n credu bod iddo werth, byddwch chi\u2019n naturiol am ddangos, os gallwch chi, sut y bydd yn helpu i ddatrys y problemau mae llunwyr polisi yn chwilio am atebion iddyn nhw.\u00a0 Er enghraifft, mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol wedi cael ei gynnig yn ei dro yn ateb <a href=\"https:\/\/citizensincome.org\/research-analysis\/updated-microsimulation-research-results-and-responses-to-questions\/\">i anghydraddoldeb incwm a thlodi<\/a>, <a href=\"https:\/\/citizensincome.org\/news\/citizens-basic-income-and-social-cohesion\/\">i bryderon ynghylch cydlyniant cymdeithasol,<\/a> <a href=\"https:\/\/basicincome.org\/news\/2018\/01\/international-mckinsey-report-identifies-basic-income-potential-response-automation\/\">i newidiadau yn y farchnad lafur yn dilyn awtomateiddio ar raddfa fawr<\/a>, ac, yn awr, <a href=\"https:\/\/futuregenerations.wales\/news\/urgent-universal-basic-income-a-four-day-week-and-a-wellbeing-economy-future-generations-commissioners-plan-to-reshape-wales-after-coronavirus\/\">i heriau adeiladu cymdeithas well wedi\u2019r pandemig<\/a>. Mae\u2019r rhain i gyd yn ddadleuon sy\u2019n haeddu ein sylw, ac mae syniadau eraill, yr un mor ddifrifol, wedi cael eu hyrwyddo mewn ffyrdd tebyg.<\/p>\n<p>Mae ysgolheigion polisi Llifoedd Lluosog yn dadlau bod entrepreneuriaid polisi yn werthfawr i lunwyr polisi oherwydd bod y naratifau y maent yn eu llunio yn gallu helpu i leihau\u2019r ystod o opsiynau polisi i nifer ymarferol.\u00a0 Mewn byd lle mae gan swyddogion a gwleidyddion amser a lle cyfyngedig i brosesu gwybodaeth a meddwl am ddewisiadau amgen, gall hyn fod yn r\u00f4l bwysig.\u00a0 Ond a allai pandemig y Coronafeirws fod yn gyfle i lunio polisi mewn ffordd wahanol?<\/p>\n<p>Wrth i ni feddwl am sut dylai pethau newid ar \u00f4l y pandemig, efallai bydd llunwyr polisi yn gallu cymryd mwy o amser i ymgysylltu\u2019n feirniadol \u00e2 chynigion ar gyfer newid.\u00a0 Wrth edrych y tu hwnt i\u2019r honiadau uniongyrchol a wneir gan entrepreneuriaid polisi, fe allent, er enghraifft, gomisiynu cyfuno tystiolaeth neu dreialon lleol i weld sut gallai\u2019r cynigion weithio yn ymarferol.\u00a0\u00a0 Os na ddaw dadleuon rhesymedig yn erbyn newid i\u2019r amlwg ar unwaith, gallent fynd ati i chwilio amdanynt a\u2019u pwyso a\u2019u mesur.<\/p>\n<p>Ni fydd cyfle fel hwn, os ydyw\u2019n bodoli, yn para, oherwydd nid oes byth ddigon o amser na chapasiti i ystyried popeth y gallai llywodraeth wneud.\u00a0 Bydd angen bob amser i lunwyr polisi gael hyd i ffyrdd o ffocysu eu hymdrechion.\u00a0 Ond os yw \u2018all pethau ddim bod yr un fath\u2019 yn fantra ar gyfer ble hoffem ni fod wrth adael y pandemig ar \u00f4l, tybed a allai fod yn fantra hefyd ar gyfer sut cyrhaeddwn ni\u2019r fan honno?<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae wedi dod yn rhyw fath o fantra \u2018na all pethau fod yr un fath\u2019 ar \u00f4l pandemig y Coronafeirws.\u00a0 Mae hynny\u2019n rhannol oherwydd ymdeimlad cynyddol na fydd modd i ni weithio, siopa, dysgu a chymdeithasu fel y buon ni, hyd yn oed pan ddeuwn ni\u2019n raddol allan o\u2019r cyfyngiadau symud, os bydd pandemig y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9406,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,132],"class_list":["post-15169","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Bright-idea.jpg","filesize":383887,"sizes":{"medium":{"file":"Bright-idea-744x558.jpg","width":744,"height":558,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39620,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-744x558.jpg"},"large":{"file":"Bright-idea-1200x900.jpg","width":1200,"height":900,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":81219,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-1200x900.jpg"},"thumbnail":{"file":"Bright-idea-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35855,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Bright-idea-768x576.jpg","width":768,"height":576,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41298,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-768x576.jpg"},"1536x1536":{"file":"Bright-idea-1536x1152.jpg","width":1536,"height":1152,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":117996,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-1536x1152.jpg"},"2048x2048":{"file":"Bright-idea-2048x1536.jpg","width":2048,"height":1536,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":181601,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-2048x1536.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Bright-idea-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":146990,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9448","name":"Bright-idea.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea.jpg","title":"Bright-idea.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15169","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15169"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15169\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16465,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15169\/revisions\/16465"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9406"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15169"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15169"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15169"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15169"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}