{"id":15165,"date":"2020-06-17T09:15:12","date_gmt":"2020-06-17T09:15:12","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ailadeiladun-well-pwysigrwydd-ysgogiad-gwyrdd\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:53","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:53","slug":"ailadeiladun-well-pwysigrwydd-ysgogiad-gwyrdd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ailadeiladun-well-pwysigrwydd-ysgogiad-gwyrdd\/","title":{"rendered":"Ailadeiladu\u2019n well: pwysigrwydd ysgogiad gwyrdd"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cyfnod cloi sydd wedi\u2019i orfodi ledled y DU, a sbardunwyd gan y pandemig Coronafeirws, wedi cael effaith enfawr ar y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd o ddydd i ddydd. Er bod cost economaidd y cyfnod cloi yn ddifrifol, un sgil-effaith amlwg yw effaith y cyfnod cloi ar yr amgylchedd. Yn fyd-eang, mae allyriadau CO2 wedi lleihau\u2019n fwy o ganlyniad i\u2019r pandemig Coronafeirws <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/science-environment-52485712\">nag unrhyw ddigwyddiad byd-eang arall<\/a>.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae risg y gallai polis\u00efau a gaiff eu mabwysiadu i sbarduno\u2019r economi achosi adlam allyriadau a fyddai\u2019n niweidio\u2019r amgylchedd, gan atal y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd - a pho hwyaf y parha\u2019r pandemig, y mwyaf yw\u2019r risg y tueddir yn fwy at hybu twf economaidd uwchlaw\u2019r effaith bosib ar yr amgylchedd. Dylai llunwyr polisi ystyried ffyrdd o fanteisio ar yr angen am ysgogiad economaidd a <a href=\"https:\/\/www.ipsos.com\/ipsos-mori\/en-uk\/two-thirds-britons-believe-climate-change-serious-coronavirus-and-majority-want-climate-prioritised\">phryderon y cyhoedd yngl\u0177n \u00e2 newid yn yr hinsawdd<\/a> i annog \u2018gwellhad gwyrdd\u2019 o\u2019r pandemig.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, er bod y cyfnod cloi yn amlwg wedi achosi lleihad dramatig mewn gweithgarwch unigol (o leiaf dros dro) mewn rhai sectorau diwydiannol, mae hefyd wedi amlygu cyfyngiadau gweithredoedd unigol. Er bod allyriadau carbon wedi lleihau, mae hyn wedi amrywio yn \u00f4l dwysedd carbon diwydiannau lleol: dim ond <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/science-environment-52485712\">lleihad o 10% mewn allyriadau<\/a> sydd wedi\u2019i weld yn Efrog Newydd, er bod y ddinas gyfan wedi\u2019i chau i raddau helaeth, tra bod y lleihad ym Mharis yn tua 80%.\u00a0 Mae hyn gan fod gweithfeydd tanwyddau ffosil o fewn ffiniau dinas Efrog Newydd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o allyriadau, sy\u2019n golygu mai cymharol fach yw effaith y lleihad mewn trafnidiaeth ar allyriadau nwyon t\u0177 gwydr cyffredinol.<\/p>\n<p>I\u2019r gwrthwyneb, fodd bynnag, roedd lefelau llygredd aer yn y DU ar ddiwedd Mawrth yn debyg i \u201c<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/environment\/2020\/mar\/27\/coronavirus-uk-lockdown-big-drop-air-pollution\">Sul y Pasg arferol<\/a>\u201d, gyda lefelau nitrogen deuocsid yn gostwng gan draean i hanner yn Llundain, Birmingham, Bryste a Chaerdydd. Mae\u2019r gostyngiadau mwyaf mewn llygredd aer wedi\u2019u gweld yn yr ardaloedd sydd \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-england-52202974\">traffig ffordd trymaf<\/a>, oherwydd yn gyffredinol <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/beth-a-wnaer-ar-draws-y-byd-i-fynd-ir-afael-a-llygredd-aer\/\">mae\u2019r rhan fwyaf o lygredd aer trefol yn cael ei achosi gan draffig<\/a>.<\/p>\n<p>Awgryma hyn, er ei fod yn beth positif, nad yw\u2019n ddigon i gymryd yn ganiataol y bydd newidiadau ymddygiadol sydd wedi digwydd oherwydd y pandemig a\u2019r cyfnod cloi yn parhau ar \u00f4l i\u2019r cyfyngiadau gael eu codi, nac y bydd hyn yn ddigon i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng hinsawdd. Yn sgil hyn, bydd angen ystyried sut mae ynni\u2019n cael ei gynhyrchu a\u2019i drawsyrru yn llawer ehangach i allu cynnal ac adeiladu ar y manteision amgylcheddol sydd wedi\u2019u gweld wrth i\u2019r cyfyngiadau gael eu llacio\u2019n raddol.<\/p>\n<p>Mae profiad blaenorol yn destun optimistiaeth a phryder. Yn dilyn y cwymp ariannol yn 2009, gwelwyd gostyngiad mewn allyriadau. Fodd bynnag, cafwyd <a href=\"https:\/\/www.sciencedaily.com\/releases\/2011\/12\/111205140613.htm\">adlam amlwg yn 2020<\/a>, gyda chynnydd parhaus i ddilyn. Roedd hyn gan fod yr ysgogiad yn canolbwyntio ar adfer twf economaidd uwchlaw ystyriaethau amgylcheddol, gan gynnwys gwariant ysgogol a gynyddodd y defnydd o danwyddau ffosil. Daeth ymchwilwyr a archwiliodd yr achos i\u2019r casgliad fod yr adlam mewn allyriadau carbon deuocsid yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang <a href=\"https:\/\/www.sciencedaily.com\/releases\/2011\/12\/111205140613.htm\">yn gyfle a gollwyd i symud yr economi fyd-eang i ffwrdd o duedd allyriadau uchel<\/a>.<\/p>\n<p>I osgoi ailadrodd y sefyllfa hon, mae ymdrech bendant wedi\u2019i gwneud i sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd wedi\u2019u cynnwys yn yr adferiad yn dilyn y Coronafeirws. Er enghraifft, ysgrifennodd y <a href=\"https:\/\/www.theccc.org.uk\/\">Pwyllgor ar Newid Hinsawdd<\/a> lythyr agored at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn cynghori sut \u201c<a href=\"https:\/\/www.theccc.org.uk\/publication\/letter-building-a-resilient-recovery-from-the-covid-19-crisis-to-prime-minister-boris-johnson\/?utm_campaign=Carbon%20Brief%20Daily%20Briefing&amp;utm_medium=email&amp;utm_source=Revue%20newsletter\">y gallai ac y dylai polisi hinsawdd effeithiol chwarae rhan yn yr adferiad<\/a>\u201d. Amlinellodd y pwyllgor chwe egwyddor y dylai\u2019r llywodraeth alinio gwariant ysgogol yn eu herbyn, wedi\u2019u hanelu at newidiadau polisi unigol a systematig.<\/p>\n<p>Mae tystiolaeth y gallai\u2019r dull gweithredu hwn arwain at <a href=\"https:\/\/www.carbonbrief.org\/leading-economists-green-coronavirus-recovery-also-better-for-economy?utm_campaign=Carbon%20Brief%20Daily%20Briefing&amp;utm_medium=email&amp;utm_source=Revue%20newsletter\">ganlyniadau byrdymor a hirdymor gwell ar wariant ysgogol llywodraethol<\/a> o gymharu \u00e2 gwariant ysgogol confensiynol, fel y dadleuir mewn <a href=\"https:\/\/www.smithschool.ox.ac.uk\/publications\/wpapers\/workingpaper20-02.pdf\">papur arfaethedig<\/a> yn seiliedig ar arolwg o 230 o economegwyr blaenllaw.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, bydd cyflawni ysgogiad \u2018gwyrdd\u2019 yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael (y bydd rhan helaeth ohono\u2019n si\u0175r o ddibynnu ar ganlyniadau Barnett yn sgil gwariant llywodraeth y DU) a\u2019r pwerau penodol sydd wedi\u2019u dirprwyo i Lywodraeth Cymru. Serch hynny, mae nifer o feysydd lle gallai Llywodraeth Cymru weithredu i ddatblygu ei pholisi amgylcheddol ei hun a hyrwyddo \u2018gwellhad gwyrdd\u2019 yn unol ag <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/pam-trawsnewid-cyfiawn-datgarboneiddio-a-chyfiawnder-economaidd\/\">agenda \u2018trosi teg\u2019<\/a>. Gallai\u2019r rhain gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>buddsoddi mewn seilwaith ffisegol gl\u00e2n drwy annog ynni adnewyddadwy graddfa fach, gan ddefnyddio\u2019r pwerau sydd wedi\u2019u dirprwyo i Lywodraeth Cymru;<\/li>\n<li>rhaglenni effeithlonrwydd ar gyfer adnewyddu ac \u00f4l-ffitio cartrefi;<\/li>\n<li>buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i fynd i\u2019r afael \u00e2 diweithdra cynyddol o ganlyniad i\u2019r pandemig ac annog newid strwythurol tuag at ddatgarboneiddio; a<\/li>\n<li>buddsoddiad cyfalaf naturiol i sicrhau bod ecosystemau\u2019n wydn ac yn adfywio.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd yn bwysig datblygu\u2019r rhain ochr yn ochr \u00e2 mesurau ysgogol mwy traddodiadol, o ystyried dyfnder disgwyliedig y dirwasgiad, a allai gyfyngu\u2019r graddau y gall Cymru fwrw \u2018mlaen \u00e2\u2019r polis\u00efau hyn. Fodd bynnag, mae\u2019r adferiad yn cynnig cyfle allweddol ar gyfer annog economi a chymdeithas hinsawdd-gyfeillgar, gyda barn arbenigol yn dangos y gall mesurau ysgogol \u2018gwyrdd\u2019 gyflawni hyn ar ben adferiad economaidd effeithiol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cyfnod cloi sydd wedi\u2019i orfodi ledled y DU, a sbardunwyd gan y pandemig Coronafeirws, wedi cael effaith enfawr ar y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd o ddydd i ddydd. Er bod cost economaidd y cyfnod cloi yn ddifrifol, un sgil-effaith amlwg yw effaith y cyfnod cloi ar yr amgylchedd. Yn fyd-eang, mae allyriadau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15164,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,142,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15165","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-pontio-cyfiawn","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"building-back-green-smaller.jpg","filesize":174596,"sizes":{"medium":{"file":"building-back-green-smaller-744x327.jpg","width":744,"height":327,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":31090,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller-744x327.jpg"},"large":{"file":"building-back-green-smaller-1200x528.jpg","width":1200,"height":528,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60084,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller-1200x528.jpg"},"thumbnail":{"file":"building-back-green-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34546,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"building-back-green-smaller-768x338.jpg","width":768,"height":338,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":31666,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller-768x338.jpg"},"1536x1536":{"file":"building-back-green-smaller-1536x676.jpg","width":1536,"height":676,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":84701,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller-1536x676.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"building-back-green-smaller-1920x880.jpg","width":1920,"height":880,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127401,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller-1920x880.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15164","name":"building-back-green-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/building-back-green-smaller.jpg","title":"building-back-green-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15165","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15165"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15165\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16464,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15165\/revisions\/16464"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15164"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15165"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15165"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15165"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15165"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}