{"id":15162,"date":"2020-06-10T00:01:40","date_gmt":"2020-06-10T00:01:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ailadeiladu-ar-ol-pandemig-y-coronafeirws-cynnal-etifeddiaeth-o-wirfoddoli\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:52","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:52","slug":"ailadeiladu-ar-ol-pandemig-y-coronafeirws-cynnal-etifeddiaeth-o-wirfoddoli","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ailadeiladu-ar-ol-pandemig-y-coronafeirws-cynnal-etifeddiaeth-o-wirfoddoli\/","title":{"rendered":"Ailadeiladu ar \u00f4l pandemig y Coronafeirws: cynnal etifeddiaeth o wirfoddoli"},"content":{"rendered":"<p>Un o sgil-effeithiau cadarnhaol prin y pandemig yw\u2019r cynnydd aruthrol mewn gwirfoddoli rydym wedi\u2019i weld ledled cymunedau Cymru - o ran y <a href=\"https:\/\/covidmutualaid.org\/\">grwpiau llawr gwlad<\/a> sydd wedi ymddangos ledled y wlad a\u2019r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru a chynghorau lleol. Rydym wedi clywed llawer am sut mae cymunedau wedi dod ynghyd mewn ymateb i\u2019r pandemig yng Nghymru, a\u2019r tu hwnt, a sut gall y math hwn o wirfoddoli gael ei gefnogi, ond llai am beth gallai hyn i gyd ei olygu i ddyfodol gwirfoddoli yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae pethau perthnasol i\u2019w dysgu o drychinebau blaenorol, yn arbennig o ran \u2018gwirfoddoli digymell\u2019 mewn sefyllfaoedd o argyfwng, megis mewn ymateb i lifogydd neu ymosodiadau terfysgol. <a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/epdf\/10.1111\/j.1559-1816.2005.tb02173.x\">Gwelodd ymchwil ar wirfoddoli digymell yn ystod 9\/11<\/a> gynnydd aruthrol mewn gwirfoddoli yn y cyfnod o dair wythnos yn dilyn 9\/11, ond gostyngodd y cyfraddau gwirfoddoli yn \u00f4l i lefelau arferol wedi hynny. Mae cynnal gwirfoddoli ar \u00f4l yr argyfwng presennol yn bwysig ar gyfer datblygu etifeddiaeth o gyfranogiad cynyddol yng Nghymru ond hefyd i allu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i donnau\u2019r dyfodol o Covid-19 neu bandemigau eraill. Dyma dri pheth y mae angen i ni eu hystyried wrth baratoi ar gyfer y dyfodol hwn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Mae angen i ni wybod a oes unrhyw gynnydd wedi bod mewn gwirfoddoli mewn ymateb i\u2019r pandemig.<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Gwnaeth bron i <a href=\"https:\/\/statswales.gov.wales\/Catalogue\/National-Survey-for-Wales\/Well-being-and-Finances\/percentageofpeoplewhovolunteer-by-age\">draean o oedolion (28%) yng Nghymru wirfoddoli<\/a> yn 2017-18. A yw\u2019r rheini sydd nawr yn gwirfoddoli yn wirfoddolwyr newydd yn bennaf, neu\u2019n bobl a oedd eisoes yn gwirfoddoli ond sydd wedi troi eu hymdrechion at y pandemig? Os mai\u2019r olaf o\u2019r ddau sy\u2019n wir, efallai na fydd unrhyw gynnydd go iawn mewn gwirfoddoli. Yn wir, fe allai fod gostyngiad mewn cyfraddau gwirfoddoli cyffredinol, gyda gweithgarwch gwirfoddoli wedi\u2019i atal mewn rhai achosion a llawer o wirfoddolwyr yn hunan-warchod.<\/p>\n<p>Os oes yna wirfoddolwyr newydd, sut gellir eu cefnogi i barhau i wirfoddoli pan fydd y pandemig wedi lleddfu, yn arbennig os bydd dychwelyd i fywyd gwaith a chymdeithasol yn golygu bod gan bobl lai o amser? Rydym yn gwybod, cyn y pandemig, fod sectorau penodol yn dioddef o ddiffyg gwirfoddolwyr, gyda channoedd o bobl ifanc ar restrau aros ScoutsCymru gan nad oes digon o arweinwyr Sgowtiaid, er enghraifft. Mae\u2019r defnydd chwim o wirfoddolwyr dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn awgrymu y gallai dileu <a href=\"https:\/\/www.ivar.org.uk\/civic-and-community-action-in-times-of-crisis\/\">rhwystrau diangen<\/a> i gynnwys a chefnogi gwirfoddolwyr newydd i ddod o hyd i gyfleoedd ar \u00f4l y pandemig, <a href=\"http:\/\/www.transformingsociety.co.uk\/2020\/06\/03\/how-volunteering-might-change-because-of-the-pandemic\/?utm_source=Bristol+University+Press%2FPolicy+Press+sign+up+list&amp;utm_campaign=2f75899fc7-Volunteers+Week+Jun+20&amp;utm_medium=email&amp;utm_term=0_f395de8081-2f75899fc7-129882601\">gan gynnwys mathau newydd o wirfoddoli o bell sydd wedi dod i\u2019r amlwg<\/a>, helpu i lenwi rhai o\u2019r bylchau hyn yng Nghymru. <a href=\"http:\/\/eprints.qut.edu.au\/61606\/1\/Spontaneous_Volunteering_Final_Report_July_31_(2).pdf\">Canfu astudiaeth ddigymell o wirfoddolwyr mewn ymateb i drychinebau naturiol yn Awstralia<\/a> fod agen ymatebion targedig sy\u2019n ystyried anghenion penodol ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a phrofiadol i gynnal etifeddiaeth o wirfoddoli.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong>Anaml y mae gwirfoddoli\u2019n costio dim ac mae angen ei gydlynu a darparu adnoddau.<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae angen adnoddau i gefnogi gwirfoddolwyr newydd a phresennol hefyd. Mae cronfeydd amrywiol o gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi\u2019u cadarnhau i gefnogi elusennau yng Nghymru drwy\u2019r argyfwng presennol. Ond mae elusennau Cymru yn <a href=\"https:\/\/wcva.cymru\/views\/an-eye-on-the-future-in-uncertain-times\/\">cael trafferthion ariannol er gwaethaf hyn<\/a>, boed gyda\u2019r galw digynsail yn y galw am eu gwasanaethau neu gan fod gweithgareddau codi arian traddodiadol wedi\u2019u hatal dros dro. Mae Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol yn <a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/about-us\/media-centre\/press-releases\/2748-every-day-counts-as-charities-still-wait-for-government-support\">amcangyfrif<\/a> y bydd elusennau yn y DU wedi colli mwy na \u00a34bn dros 12 wythnos. Bydd hyn nid yn unig yn effeithio ar drydydd sector bywiog Cymru, yn arbennig y micro-elusennau sy\u2019n cynrychioli cyfran helaeth o\u2019n 8,000 o elusennau, ond hefyd sefydliadau ag adnoddau annigonol nad ydynt o bosib yn gallu ymgysylltu\u2019n llawn ag unrhyw wirfoddolwyr newydd sydd eisiau helpu. I reoli hyn - mewn ffordd sy\u2019n sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn annibynnol ar y llywodraeth - bydd yn hanfodol cynnig cymorth ac adnoddau priodol i\u2019r trydydd sector yng Nghymru i gynnal gwirfoddoli wrth i ni symud i mewn i\u2019r cyfnod adfer.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong>Bydd yn bwysig ystyried y gweithgareddau y mae gwirfoddolwyr wedi\u2019u hysgwyddo mewn ymateb i\u2019r pandemig i lywio eu rolau a\u2019u perthynas \u00e2\u2019r wladwriaeth yn y dyfodol. <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae\u2019r berthynas rhwng y trydydd sector a\u2019r llywodraeth hefyd yn codi cwestiynau am y mathau o weithgareddau y dylai (ac na ddylai) gwirfoddolwyr eu cyflawni. Yn ystod y pandemig rydym wedi clywed straeon am wirfoddolwyr yn codi arian i gyfrannu at fesuryddion trydan pobl y mae eu hawliadau budd-dal wedi\u2019u hoedi, yn gwn\u00efo Cyfarpar Diogelwch Personol, a\u2019r Capten Tom yn codi \u00a340m i Elusennau Ynghyd y GIG - pethau y gellid dadlau ddylai fod yn gyfrifioldeb i\u2019r wladwriaeth yn hytrach nag elusen breifat. Mae <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/sites\/default\/files\/field\/field_publication_file\/volunteering-in-health-and-social-care-kingsfund-mar13.pdf\">pryderon wedi bod ers cryn amser<\/a> fod angen ymdrin \u00e2 gwirfoddoli mewn iechyd a gofal cymdeithasol, er ei fod yn rhan hanfodol o\u2019r gwasanaeth, yn ofalus i osgoi llithro o waith cyflenwol i eilyddio swyddi.<\/p>\n<p>Roedd y materion hyn eisoes yn rhai sensitif cyn y pandemig, wedi\u2019u gwaethygu gan galedi, ond gallant ddod yn bwysicach fyth wrth ailadeiladu yn dilyn y pandemig ac mewn argyfyngau yn y dyfodol. Os bydd y GIG yn dechrau gael ei ystyried yn elusen, pa effaith fydd hyn yn ei gael ar gydymdeimlad cyhoeddus i godiadau treth i ariannu gofal iechyd neu <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-11\/paying-for-social-care.pdf\">ardoll gofal cymdeithasol<\/a> yn y dyfodol, er enghraifft?<\/p>\n<p>Mae\u2019r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig yw\u2019r r\u00f4l y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae ym mywyd Cymru, gyda chydlyniant a chefnogaeth ofalus. Bydd dysgu o\u2019r profiad hwn yn hanfodol i ailadeiladu ein cymdeithas ar \u00f4l y pandemig.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Un o sgil-effeithiau cadarnhaol prin y pandemig yw\u2019r cynnydd aruthrol mewn gwirfoddoli rydym wedi\u2019i weld ledled cymunedau Cymru - o ran y grwpiau llawr gwlad sydd wedi ymddangos ledled y wlad a\u2019r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru a chynghorau lleol. Rydym wedi clywed llawer am sut mae cymunedau wedi dod ynghyd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15159,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15162","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"c19-food-delivery-smaller.jpg","filesize":415169,"sizes":{"medium":{"file":"c19-food-delivery-smaller-744x493.jpg","width":744,"height":493,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":47750,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-744x493.jpg"},"large":{"file":"c19-food-delivery-smaller-1200x794.jpg","width":1200,"height":794,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":96874,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-1200x794.jpg"},"thumbnail":{"file":"c19-food-delivery-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41727,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"c19-food-delivery-smaller-768x508.jpg","width":768,"height":508,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49981,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-768x508.jpg"},"1536x1536":{"file":"c19-food-delivery-smaller-1536x1017.jpg","width":1536,"height":1017,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":142396,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-1536x1017.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"c19-food-delivery-smaller-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":177483,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15159","name":"c19-food-delivery-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller.jpg","title":"c19-food-delivery-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/c19-food-delivery-smaller-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15162","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15162"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15162\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16463,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15162\/revisions\/16463"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15159"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15162"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15162"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15162"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15162"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}