{"id":15161,"date":"2020-06-12T00:01:48","date_gmt":"2020-06-12T00:01:48","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/rol-llywodraeth-leol-cymru-mewn-byd-wedir-coronafeirws\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:51","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:51","slug":"rol-llywodraeth-leol-cymru-mewn-byd-wedir-coronafeirws","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/rol-llywodraeth-leol-cymru-mewn-byd-wedir-coronafeirws\/","title":{"rendered":"R\u00f4l llywodraeth leol Cymru mewn byd wedi\u2019r Coronafeirws"},"content":{"rendered":"<p>Mae r\u00f4l llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn cael ei hamlygu a\u2019i dwysau ar adegau o argyfwng.\u00a0 Mae cynghorau ledled Cymru wedi cydlynu a chyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu mewn ymateb i\u2019r pandemig Coronafeirws, gan gynnwys dosbarthu dros \u00a3500m mewn grantiau i fusnesau a chefnogi ystod eang o bobl a theuluoedd mewn sefyllfa fregus.<\/p>\n<p>Mae\u2019n debygol y bydd cynghorau\u2019n parhau i gyflawni r\u00f4l bwysig wrth i Gymru symud allan o\u2019r cyfyngiadau symud, gan gynnwys tracio ac ynysu achosion newydd o\u2019r feirws, gan fod timau iechyd amgylcheddol mewn sefyllfa dda i arwain y <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/apr\/26\/to-tackle-this-virus-local-public-health-teams-need-to-take-back-control\">gwaith cymunedol<\/a> hwn. Fodd bynnag, mae\u2019r argyfwng presennol hefyd wedi amlygu sawl mater mae llywodraeth leol yng Nghymru yn eu hwynebu a ddylai dderbyn sylw wedi\u2019r Coronafeirws.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Sut mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cydweithio<\/strong><\/p>\n<p>Gall cydweithio a chydlynu gwaith amrywiol randdeiliaid ddarparu ymateb mwy cynaliadwy na chanoli mewn argyfwng.\u00a0 Mae\u2019r ymatebion i argyfyngau yn digwydd ar <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/politicsandpolicy\/governance-systems-covid19\/\">amrywiol lefelau<\/a>, ac mae\u2019n bwysig creu cysylltiad rhwng y lefelau hynny.\u00a0 Er y gellid defnyddio mecanweithiau sydd eisoes yn bodoli, fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd yn hanfodol canfod pa strwythur sydd yn y sefyllfa orau i gyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y tymor canolig i\u2019r hir dymor.\u00a0 Mae\u2019n bosib na fydd strwythurau sydd wedi methu cyflawni cyn yr argyfwng yn addas at y diben o gydlynu wedi\u2019r argyfwng.\u00a0 Fodd bynnag, dylid gochel rhag <a href=\"https:\/\/www.assembly.wales\/research%20documents\/18-50%20timeline\/18-050-web-english.pdf\">diwygio llywodraeth leol yng Nghymru eto fyth<\/a>, gan y byddai hynny\u2019n ddrud ac yn amharu\u2019n sylweddol, yn arbennig o dan yr amgylchiadau presennol.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ymateb ar y cyd.\u00a0 Mae Gweinidogion wedi bod yn cwrdd ag arweinyddion pob un o\u2019r 22 cyngor o leiaf ddwywaith yr wythnos i drafod problemau a chanfod atebion a chamau gweithredu.\u00a0\u00a0 Trwy gynnwys llywodraeth leol yn yr ymateb i\u2019r feirws, mae\u2019r her yn cael ei rhannu ar draws lefelau\u2019r llywodraeth.\u00a0 Mae arweinyddion gr\u0175p Dinasoedd Craidd y Deyrnas Unedig yn dadlau bod <a href=\"https:\/\/www.localgov.co.uk\/Put-localism-at-the-heart-of-recovery-say-city-leaders\/50447\">angen i elfennau lleol fod yn ganolog i\u2019r adferiad<\/a> ac mae <a href=\"https:\/\/www.greatermanchester-ca.gov.uk\/coronavirus\/weekly-mayoral-covid19-press-conference\/\">enghreifftiau diweddar o Fanceinion Fwyaf <\/a>\u00a0yn awgrymu arwyddion cadarnhaol o ran arweinyddiaeth a gweithio cydlynus. Mae lleoleiddio ymateb yn creu cyfle i <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/society\/2020\/apr\/21\/community-spirit-hope-coronavirus-public-services\">gilfachau o arfer da<\/a> gael eu rhannu ar draws y sector. Mae angen i Lywodraeth Cymru a chynghorau yng Nghymru barhau i gydweithio\u2019n agos er mwyn sicrhau ymateb cydlynus, effeithiol i\u2019r pandemig Coronafeirws.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Diffyg capasiti llywodraeth leol<\/strong><\/p>\n<p>Mae cyni, yn ogystal \u00e2 degawdau o <a href=\"https:\/\/publications.parliament.uk\/pa\/cm201213\/cmselect\/cmpolcon\/656\/656iv.pdf\">ddadrymuso<\/a> a diwygio dro ar \u00f4l tro ym maes <a href=\"https:\/\/www.coe.int\/en\/web\/conventions\/full-list\/-\/conventions\/treaty\/122\">llywodraeth leol<\/a> ar draws y Deyrnas Unedig, wedi peri i gapasiti llywodraeth leol grebachu ac wedi <a href=\"https:\/\/www.local.gov.uk\/coronavirus-pushing-councils-financial-failure-without-cast-iron-government-funding-pledge\">cyfyngu ar<\/a> ymateb y sector i\u2019r pandemig. Mae\u2019r trydydd sector - sy\u2019n darparu gwasanaethau hollbwysig ar adegau o argyfwng - hefyd wedi dioddef toriadau sylweddol i\u2019w cyllid.<\/p>\n<p>Un o ganlyniadau\u2019r cyfyngiadau ar gapasiti yw\u2019r symudiad i ffwrdd oddi wrth ddarparu gwasanaeth yn uniongyrchol gan gynghorau lleol at gomisiynu a chydlynu rhwydweithiau o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, gyda chyfleoedd i ddinasyddion gyfranogi\u2019n fwy.\u00a0 Ond nid oes llawer o dystiolaeth i awgrymu bod y newid yn r\u00f4l llywodraeth leol - o ddarparwr i <a href=\"http:\/\/www.socialvalueuk.org\/app\/uploads\/2016\/09\/Localis_commissioning_report_web_FINAL.pdf\">gomisiynydd strategol<\/a> a chydlynydd \u2013 yn gwneud <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/267641440_Efficiency_in_Third_Sector_Partnerships_for_Delivering_Local_Government_Services_The_role_of_economies_of_scale_scope_and_learning\">defnydd llai dwys o adnoddau<\/a>, a bod modd ei wneud yn effeithiol heb <a href=\"https:\/\/www.birmingham.ac.uk\/Documents\/college-social-sciences\/social-policy\/tsrc\/reports\/seminar-one-sector-as-pubserv-provider.pdf\">neilltuo adnoddau<\/a>. Hefyd nid oes llawer o werthuso cadarn i awgrymu bod dulliau o\u2019r fath, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/op.europa.eu\/en\/publication-detail\/-\/publication\/fbac90e1-c6b9-11e8-9424-01aa75ed71a1\/language-en\/format-PDF\/source-117211901\">cyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus gan ddinasyddion<\/a>, yn arwain at well canlyniadau (er bod <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/14494035.2018.1521676\">peth ymchwil yn dod i\u2019r amlwg<\/a>). Mae amheuon difrifol hefyd ynghylch cynaliadwyedd mentrau a sut mae goresgyn anawsterau fel sicrhau\u00a0 <a href=\"https:\/\/www.scie.org.uk\/integrated-care\/better-care\/guides\/bring-budgets-together\/pooling\">atebolrwydd<\/a>.<\/p>\n<p>Gall llywodraeth leol gyflawni r\u00f4l gydlynu yn dda, ac mae rhai <a href=\"https:\/\/www.local.gov.uk\/our-support\/coronavirus-information-councils\/covid-19-good-council-practice\">astudiaethau achos<\/a> \u2018arfer da\u2019 ynghylch sut mae llywodraeth leol yn cefnogi mentrau cymunedol i ddiwallu anghenion y grwpiau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus.\u00a0\u00a0 Ar yr un pryd, mae nifer sylweddol o fentrau a arweinir yn gymunedol wedi tyfu\u2019n organig mewn ymateb i\u2019r argyfwng, a gallent fod yn \u2018llenwi bylchau\u2019 yn narpariaeth llywodraeth leol.\u00a0 Mae rhwydweithiau newydd ar gyfer cydlynu gweithredu gwirfoddol (megis <a href=\"https:\/\/volunteering-wales.net\/vk\/volunteers\/index-covid.htm\">rhaglen wirfoddoli\u2019r GIG<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.edenprojectcommunities.com\/community-action-response\">phartneriaeth ymateb gweithredu cymunedol<\/a>) yn ogystal \u00e2 miloedd o grwpiau Facebook\u00a0 cymunedol <a href=\"https:\/\/covidmutualaid.org\/\">Cymorth COVID<\/a> a grwpiau WhatsApp lleol yn y Deyrnas Unedig.\u00a0 Mae i ba raddau mae cynghorau Cymru yn cyflawni r\u00f4l weithredol ac effeithiol wrth <a href=\"https:\/\/www.wlga.wales\/local-government\">gydlynu ymatebion ardal leol<\/a> a gweithredu fel canolbwynt ar gyfer mentrau cymunedol a thrydydd sector yn debygol o amrywio yn \u00f4l perthnasoedd ac adnoddau presennol.<\/p>\n<p>Yn y cyfnod wedi\u2019r Coronafeirws, bydd yn bwysig trafod a phenderfynu pwy sydd yn y sefyllfa orau i barhau \u00e2\u2019r mentrau a ddisgrifiwyd uchod.\u00a0 Ble byddai\u2019r mannau gorau i dargedu buddsoddiad mewn llywodraeth leol a\/neu yn y sector gwirfoddol er mwyn ychwanegu\u2019r gwerth mwyaf a chefnogi cymunedau i ymadfer? Mae angen llunio modelau ariannu sy\u2019n cydnabod cryfderau pob sector ac mae angen gwerthuso mentrau presennol a rhannu\u2019r canlyniadau er mwyn lledaenu arfer da.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>R\u00f4l llywodraeth leol yn y dyfodol?<\/strong><\/p>\n<p>Fel y dangosodd adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), roedd llywodraeth leol yng Nghymru eisoes ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/wedi-cyrraedd-y-pwynt-tyngedfennol-llywodraeth-leol-cymru-a-chyni\/\">ymyl y dibyn<\/a> yn ariannol cyn y pandemig.\u00a0 Er gwaethaf cynnydd diweddar yn y setliad diweddaraf ac <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/society\/2020\/apr\/17\/english-councils-set-for-1bn-bailout-coronavirus-ravages-finances\">arian argyfwng<\/a>, mae\u2019r costau i gynghorau wrth ymateb i\u2019r feirws yn sylweddol, a hynny ar ben yr incwm a gollwyd. Er gwaethaf capasiti cyfyngedig, mae llywodraeth leol wedi dangos <a href=\"https:\/\/www.lgcplus.com\/politics\/coronavirus\/jim-mcmanus-councils-embody-how-we-will-get-through-this-emergency-06-04-2020\/\">gallu i ymdopi ac ymateb i\u2019r argyfwng<\/a>, trwy staff medrus, seilwaith a rheolaeth ar rwydweithiau.\u00a0 Mae ei <a href=\"https:\/\/www.lgcplus.com\/politics\/coronavirus\/steven-pleasant-covid-19-response-better-if-done-through-localities-28-04-2020\/\">natur leol a\u2019i gallu i ddatblygu ymatebion wedi\u2019u targedu ar gyfer meysydd penodol<\/a> i\u2019w gweld yn y mathau o <a href=\"https:\/\/www.nalc.gov.uk\/library\/news-stories\/3221-coronavirus-case-studies\/file\">gamau gweithredu mae cynghorau lleol yn eu defnyddio<\/a>. Gellid gwneud mwy yn y dyfodol i ddarparu\u2019r <a href=\"https:\/\/www.ifs.org.uk\/research\/100\">offer<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-52791804\">adnoddau<\/a> angenrheidiol i ardaloedd lleol er mwyn darparu gwasanaethau rhagorol, yn ogystal \u00e2\u2019r pwerau angenrheidiol i lunio ymatebion effeithiol sy\u2019n seiliedig ar le. Mae angen gwreiddio newidiadau cadarnhaol a gyflwynwyd oherwydd y feirws a\u2019u gwneud yn rhai hirdymor, yn hytrach na dychwelyd at hen ffyrdd o weithio.<\/p>\n<p>Mae angen i gynghorau ddysgu gan y rhai sydd wedi ymateb yn gyflym i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, ac mae angen i bob gwasanaeth cyhoeddus ddeall beth sy\u2019n gallu cael ei wneud i annog mwy o ystwythder ar draws y sector.\u00a0 Mae angen i gynghorau drafod ffyrdd o osgoi dyblygu ac annog gweithio ar y cyd lle gall hynny wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd, er enghraifft <a href=\"https:\/\/medium.com\/loti\/beyond-the-crisis-how-local-government-can-build-a-positive-legacy-after-covid-3ac6e3d32a24\">trawsffurfio gwasanaeth trwy ei alluogi\u2019n ddigidol<\/a>. Fodd bynnag, mae\u2019r holl ffyrdd newydd hyn o weithio yn cynnwys heriau, er enghraifft gall gweithio cydlynus a chrynhoi adnoddau arwain at\u00a0 <a href=\"http:\/\/orca-mwe.cf.ac.uk\/2638\/1\/Cowell_Martin_envplanC_2003.pdf\">gur pen o ran atebolrwydd<\/a>.\u00a0 Gallai fod yn ddefnyddiol dysgu o sut mae llywodraeth leol wedi ymateb mewn gwledydd eraill - sydd ar gael gan yr <a href=\"http:\/\/www.oecd.org\/coronavirus\/policy-responses\/the-territorial-impact-of-covid-19-managing-the-crisis-across-levels-of-government-d3e314e1\/\">OECD<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/www.regionalstudies.org\/about\/pandemics-cities-regions-industry\/\">Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol<\/a> - er mwyn rhoi\u2019r gwersi hynny ar waith yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r pandemig Coronafeirws wedi amlygu\u2019r heriau mae llywodraeth leol yn eu hwynebu ac wedi datgelu gallu dulliau cydlynu a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus lleol i addasu, arloesi ac ymateb i angen seiliedig ar le.\u00a0 Wedi\u2019r argyfwng, dylai fod cyfle i fyfyrio ar r\u00f4l, <a href=\"https:\/\/www.themj.co.uk\/A-better-place\/217472\">statws<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.localgov.co.uk\/Councils-need-another-12.8bn-to-cope-with-coronavirus---LGA\/50394\">ariannu<\/a> llywodraeth leol er mwyn cyflawni\u2019r gorau i gymunedau ledled Cymru a sicrhau ein gwydnwch mewn ymateb i argyfwng yn y dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae r\u00f4l llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn cael ei hamlygu a\u2019i dwysau ar adegau o argyfwng.\u00a0 Mae cynghorau ledled Cymru wedi cydlynu a chyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu mewn ymateb i\u2019r pandemig Coronafeirws, gan gynnwys dosbarthu dros \u00a3500m mewn grantiau i fusnesau a chefnogi ystod eang o bobl a theuluoedd mewn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14115,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15161","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"town-hall-smaller.jpg","filesize":398207,"sizes":{"medium":{"file":"town-hall-smaller-744x393.jpg","width":744,"height":393,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44817,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller-744x393.jpg"},"large":{"file":"town-hall-smaller-1200x633.jpg","width":1200,"height":633,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97624,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller-1200x633.jpg"},"thumbnail":{"file":"town-hall-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":47587,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"town-hall-smaller-768x405.jpg","width":768,"height":405,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":47035,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller-768x405.jpg"},"1536x1536":{"file":"town-hall-smaller-1536x811.jpg","width":1536,"height":811,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":146917,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller-1536x811.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"town-hall-smaller-1920x1054.jpg","width":1920,"height":1054,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":247444,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller-1920x1054.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9928","name":"town-hall-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/town-hall-smaller.jpg","title":"town-hall-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15161","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15161"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15161\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16462,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15161\/revisions\/16462"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14115"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15161"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15161"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15161"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15161"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}