{"id":15157,"date":"2020-06-03T14:19:44","date_gmt":"2020-06-03T14:19:44","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/clapio-ar-ol-y-coronafeirws-goblygiadaur-pandemig-coronafeirws-i-weithwyr-iechyd-a-gofal-cymdeithasol\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:49","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:49","slug":"clapio-ar-ol-y-coronafeirws-goblygiadaur-pandemig-coronafeirws-i-weithwyr-iechyd-a-gofal-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/clapio-ar-ol-y-coronafeirws-goblygiadaur-pandemig-coronafeirws-i-weithwyr-iechyd-a-gofal-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Clapio ar \u00f4l y Coronafeirws: Goblygiadau\u2019r pandemig Coronafeirws i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r pandemig Coronafeirws wedi golygu bod llygaid y byd ar waith ein gofalwyr.\u00a0 Bob wythnos, mae llawer ohonom ni wedi bod yn clapio i gydnabod a dangos ein gwerthfawrogiad am y swyddi anodd mae\u2019r rhai ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal \u00e2 gweithwyr allweddol eraill, yn ei gyflawni.\u00a0 Mae\u2019r pandemig yn amlygu, yn fwy nag erioed, yr heriau mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu a\u2019r angen am werthfawrogi a chefnogi\u2019r rolau pwysig hyn. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru <a href=\"https:\/\/heiw.nhs.wales\/files\/workforce-strategy-for-health-and-social-care\/workforce-strategy-for-health-and-social-care-final-draft\/\">ar y cyd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol<\/a> yn cyflwyno uchelgais i \u201csicrhau bod lles yn ganolog i\u2019n cynlluniau ar gyfer y gweithlu\u201d.<\/p>\n<p>Mae pryderon ar unwaith i sicrhau lles staff iechyd a gofal sy\u2019n delio gyda llwyth gwaith cynyddol a straen emosiynol ymateb i\u2019r pandemig Coronafeirws. \u00a0Gofynnodd arolwg <a href=\"https:\/\/www.bma.org.uk\/media\/2498\/bma-survey-results-for-covid-19-for-hospital-doctors-4-may-2020.pdf\">diweddar<\/a> i feddygon ysbyty yn y Deyrnas Unedig a oedden nhw\u2019n dioddef o amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl cysylltiedig \u0203\u2019u gwaith. Dywedodd bron traean o\u2019r ymatebwyr eu bod, a bod y pandemig wedi gwneud eu cyflwr yn waeth. \u00a0Dywedodd 12% arall eu bod yn dioddef, ond nid yn waeth nag oeddent cyn y pandemig hwn.\u00a0 Mewn <a href=\"https:\/\/www.nursingtimes.net\/news\/coronavirus\/uk-nurses-feel-unprepared-for-covid-19-peak-finds-new-survey-21-04-2020\/\">arolwg<\/a> tebyg o\u2019r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth, soniodd traean o\u2019r ymatebwyr am broblemau iechyd meddwl difrifol.<\/p>\n<p>Cafwyd bod nifer o ffactorau <a href=\"https:\/\/www.bmj.com\/content\/369\/bmj.m1642\">\u00a0yn lleihau\u2019r effaith seicolegol ar weithwyr gofal iechyd yn ystod argyfwng feirws<\/a> ac mae\u2019r argymhellion yn cynnwys cyfres o ffactorau unigol, fel cefnogaeth teulu a chyfoedion, a chyfres o ffactorau gwasanaeth fel cyfarwyddyd a chyfathrebu clir, hyfforddiant a chyfarpar digonol, sicrhau digon o egwyliau a mynediad at ymyriadau seicolegol unigol wedi\u2019u teilwra.<\/p>\n<p>Mewn llawer o achosion, nid pobl sy\u2019n cael eu cyflogi i ofalu amdanom ni yw\u2019r gofalwyr, ond ffrindiau, teuluoedd, cymdogion a gwirfoddolwyr.\u00a0 Mae <a href=\"https:\/\/www.carersuk.org\/wales\/about-us\/facts-and-figures\">Gofalwyr Cymru<\/a> yn amcangyfrif bod 370,230 o ofalwyr di-d\u00e2l yng Nghymru, yn darparu gofal sy\u2019n werth \u00a38.1 biliwn y flwyddyn.\u00a0 Roedd gofalwyr di-d\u00e2l yn profi lefelau o <a href=\"https:\/\/www.carersuk.org\/wales\/news-campaigns\/news\/press-release-wales-unpaid-carers-suffering-anxiety-and-stress\">straen a gorbryder<\/a>oedd yn destun prydercyn y pandemig. Mae llawer o wasanaethau cefnogi ar gau neu wedi lleihau o ganlyniad i\u2019r pandemig Coronafeirws, a chanfu arolwg <a href=\"https:\/\/www.carersuk.org\/news-and-campaigns\/news\/the-forgotten-families-in-lockdown-unpaid-carers-close-to-burnout-during-covid-19-crisis-wales\">diweddar<\/a> fod 79% o\u2019r gofalwyr di-d\u00e2l yng Nghymru yn darparu mwy o ofal.\u00a0 Dywedodd dros hanner eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu llethu ac yn pryderu y byddent yn llosgi allan.\u00a0 Mae hyn wedi arwain at <a href=\"https:\/\/www.carersuk.org\/news-and-campaigns\/press-releases\/research-the-forgotten-families-in-lockdown-unpaid-carers-close-to-burnout-during-covid-19-crisis\">alwadau<\/a> am gynyddu\u2019r lwfans gofalwyr, ac wedi amlygu\u2019r angen am gefnogaeth i ofalwyr di-d\u00e2l.<\/p>\n<p>Mae cydnabod yr angen am gefnogi lles staff iechyd a gofal cymdeithasol yn yr argyfwng sydd ar ein pennau wedi arwain at lawer o arwyddion o ddiolchgarwch, o barcio am ddim, i ddosbarthu prydau bwyd i wardiau ysbyty, ymdrechion codi arian a <a href=\"https:\/\/www.nursingtimes.net\/news\/social-care\/social-care-staff-in-wales-to-receive-500-one-off-payment-01-05-2020\/\">bonws o \u00a3500 i<\/a> staff gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae <a href=\"https:\/\/cymru-wales.unison.org.uk\/news\/2020\/05\/union-offers-welsh-care-workers-post-traumatic-stress-disorder\/\">UNSAIN Cymru yn<\/a> cynnig cyrsiau ar PTSD, gwydnwch yn wyneb straen ac ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/mental-health-support-scheme-doctors-extended-every-frontline-healthcare-worker-wales\">cynllun cefnogi iechyd meddwl<\/a> i feddygon wedi cael ei estyn i bob gweithiwr gofal iechyd yng Nghymru.\u00a0 Ond roedd <a href=\"https:\/\/www.nuffieldtrust.org.uk\/news-item\/addressing-staff-burnout-a-moral-and-ethical-imperative\">staff iechyd a gofal yn llosgi allan<\/a>yn bryder cynyddol cyn y pandemig Coronafeirws.<\/p>\n<p>Mae lles y rhai sy\u2019n gofalu amdanom ni yn bwysig am gynifer o resymau. Rydym ni\u2019ngwybod bod lles staff yn effeithio ar gyfraddau absenoldeb salwch, profiad y claf ac <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC4938539\/\">ansawdd gofal<\/a>. Bydd sicrhau lles a gwydnwch seicolegol staff mewn cyfnod \u2018normal\u2019 yn golygu ein bod <a href=\"https:\/\/www.bmj.com\/content\/369\/bmj.m1541\">mewn sefyllfa well i ymateb i <\/a>\u00a0argyfyngau yn y dyfodol. Dangoswyd bod ymyriadau fel <a href=\"https:\/\/www.pointofcarefoundation.org.uk\/our-work\/schwartz-rounds\/about-schwartz-rounds\/\">cylchoedd Schwartz<\/a>, sy'n darparu lle i fyfyrio ar realiti emosiynol rolau gofalu, yn rhoi <a href=\"https:\/\/www.journalslibrary.nihr.ac.uk\/programmes\/hsdr\/130749#\/\">lles seicolegol gwell<\/a> i fynychwyr rheolaidd, yn ogystal \u00e2 mwy o empathi a chydymdeimlad.\u00a0 Mae strategaethau i gefnogi lles ac<a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/full\/10.1002\/wps.20311\">atal llosgi allan yn cynnwys<\/a>: grwpiau cefnogi cyfoedion; patrymau gwaith cytbwys; cefnogaeth ar gyfer hunan-ofal personol; a thimau cefnogol.\u00a0 Mae gwerthoedd, diwylliant, a <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/blog\/2020\/03\/covid-19-crisis-compassionate-leadership\">chydymdeimlad arweinwyr<\/a> sefydliad hefyd yn aruthrol o bwysig, ac yn ganolog i <a href=\"https:\/\/heiw.nhs.wales\/files\/news-files\/draft-leadership-principles-for-health-and-social-care-in-wales\/\">Egwyddorion Arweinyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>Roedd gwasanaethau iechyd a gofal yn wynebu pwysau o ran cyllid a galw amdanynt cyn y pandemig, ac mae llawer o sefydliadau wedi bod yn delio gyda heriau swyddi gwag, <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2019-03\/implications-brexit-social-care-and-childcare-workforce.pdf\">prinder gweithlu<\/a> a phroblemau <a href=\"https:\/\/socialcare.wales\/news-stories\/thousands-more-care-workers-needed-in-wales-by-2030\">recriwtio<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/sites\/default\/files\/2019-06\/closing-the-gap-full-report-2019.pdf\">chadw<\/a> staff. Gallai <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2019-03\/implications-brexit-social-care-and-childcare-workforce.pdf\">Brexit<\/a>, a\u2019r pandemig Coronafeirws mewn gwirionedd, waethygu\u2019r prinder yn y gweithlu.\u00a0 Mae llawer o\u2019r rolau anodd mae ein gofalwyr yn eu cyflawni yn derbyn <a href=\"https:\/\/www.resolutionfoundation.org\/publications\/what-happens-after-the-clapping-finishes\/\">t\u200e\u0203l gwael, yn wan o ran sefydlogrwydd y swydd, ac yn wan o ran datblygu gyrfa<\/a>, yn arbennig ym maes gofal cymdeithasol.\u00a0 Y GIG a gofal cymdeithasol yw rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru a bydd\u00a0 <a href=\"https:\/\/www.resolutionfoundation.org\/publications\/what-happens-after-the-clapping-finishes\/#_edn5\">manteision<\/a> i gost buddsoddi mewn gwell cyflog ac amodau gwaith i weithwyr gofal ar ffurf llai o absenoldeb staff, yn ogystal \u0203 chynorthwyo gyda recriwtio a chadw.\u00a0 Mae\u2019r pandemig yn amlygu ymhellach yr angen am gydnabod a gosod gwerth ar y rolau anodd hyn, gyda <a href=\"https:\/\/www.ifs.org.uk\/publications\/14818\">thaliadau digonol a dilyniant gyrfa<\/a>.<\/p>\n<p>Mae ymateb i alwadau brys y pandemig Coronafeirws wedi golygu bod rhaid gohirio triniaethau dewisol.\u00a0 Mae\u2019r niferoedd sy\u2019n mynd i adrannau achosion brys a meddygfeydd yng Nghymru wedi <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/health\/coronavirus-lockdown-ae-999-emergency-18255837\">gostwng yn sylweddol<\/a> a gallai fod adwaith i hynny unwaith mae\u2019r argyfwng presennol drosodd. Mae galwadau dilyn mesurau rheoli heintio, mynd i\u2019r afael ag \u00f4l-groniad o driniaethau a ohiriwyd, deall a rhoi sylw i\u2019r angen heb ei ddiwallu a chynllunio ar gyfer achosion pellach yn y dyfodol, yn golygu na fydd y pwysau ar wasanaethau a gweithwyr yn diflannu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r diolchgarwch a ddangoswyd am waith ein gofalwyr ar hyd y pandemig wedi cynhesu\u2019r galon, a bydd yn bwysig gwerthfawrogi, cydnabod a chefnogi\u2019r rhai sy\u2019n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod ein hadferiad ac wedi hynny.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r pandemig Coronafeirws wedi golygu bod llygaid y byd ar waith ein gofalwyr.\u00a0 Bob wythnos, mae llawer ohonom ni wedi bod yn clapio i gydnabod a dangos ein gwerthfawrogiad am y swyddi anodd mae\u2019r rhai ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal \u00e2 gweithwyr allweddol eraill, yn ei gyflawni.\u00a0 Mae\u2019r pandemig yn amlygu, yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15156,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15157","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"stressed-doctor-PPE-smaller.jpg","filesize":457496,"sizes":{"medium":{"file":"stressed-doctor-PPE-smaller-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56087,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-744x496.jpg"},"large":{"file":"stressed-doctor-PPE-smaller-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":114889,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"stressed-doctor-PPE-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49581,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"stressed-doctor-PPE-smaller-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58771,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"stressed-doctor-PPE-smaller-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":168591,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-1536x1024.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"stressed-doctor-PPE-smaller-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":210306,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15156","name":"stressed-doctor-PPE-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller.jpg","title":"stressed-doctor-PPE-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/stressed-doctor-PPE-smaller-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15157","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15157"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15157\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16461,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15157\/revisions\/16461"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15156"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15157"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15157"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15157"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15157"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}