{"id":15154,"date":"2020-05-27T10:18:10","date_gmt":"2020-05-27T10:18:10","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/goblygiadau-pandemig-y-coronafeirws-i-economi-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:48","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:48","slug":"goblygiadau-pandemig-y-coronafeirws-i-economi-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/goblygiadau-pandemig-y-coronafeirws-i-economi-cymru\/","title":{"rendered":"Goblygiadau pandemig y Coronafeirws i economi Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws yn cael effaith ddofn a digynsail ar economi Cymru \u2013 economi sydd eisoes wedi'i wanhau gan gwtogi a llymder yn y sector cyhoeddus yn dilyn argyfwng ariannol 2008, yn ogystal \u00e2'r heriau a achosir gan adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae pandemig y Coronafeirws yn ychwanegu at yr heriau hyn ac yn amlygu gwendidau presennol. Serch hynny, mae hefyd yn gyfle cadarnhaol i feddwl am r\u00f4l y wladwriaeth a chymdeithas. Mae'r blog hwn yn crynhoi rhai o'r heriau ac yn adlewyrchu ar y cyfleoedd y mae'r pandemig yn eu cynnig i wneud newidiadau cadarnhaol i hybu adferiad economaidd a chadernid yn y tymor canolig a hir yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yr her gyntaf yw faint o amser y bydd yr adferiad yn ei gymryd, a'r crebachu dilynol ar yr economi yn y byrdymor a'r tymor canolig. Mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/llacior-cyfyngiadau-ar-ein-cymdeithas-heconomi-dal-i-drafod?_ga=2.116512771.443973884.1590506076-1641537180.1584700000\">strategaeth gadael<\/a> cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru, yn debyg i wledydd eraill y DU, yn rhoi blaenoriaeth i adfer gweithgarwch economaidd, iechyd y cyhoedd a'r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu'n llawn dros weithgareddau cymdeithasol a rhyddid yr unigolyn. Fodd bynnag, hyd yn oed ar \u00f4l caniat\u00e1u ar gyfer hyn, bydd yr adferiad yn cymryd amser a bydd yr economi yn crebachu yn y tymor byr a chanolig. Ac felly y dylai fod: gwnaeth llywodraethau ledled y byd ati i gau eu heconom\u00efau er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Y prawf allweddol fydd sut y bydd gweithgarwch economaidd yn cael ei adfer, a bydd y camau <a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/agenda\/2020\/04\/wales-and-the-crisis-how-will-our-economy-recover\/?lang=cy\">a gymerir nawr<\/a> yn penderfynu hyn.<\/p>\n<p>Yr ail her yw effeithiau anghyfartal yr argyfwng, o fewn a rhwng gwledydd y DU: ni fydd pandemig y Coronafeirws yn wastat\u00e4wr mawr. Mae i Gymru nodweddion penodol sy'n ei gwneud yn wahanol i rai rhannau eraill o'r DU. Er bod rhai o'r rhain yn lliniaru yn erbyn unrhyw ddirywiad a ddisgwylir, e.e. mae cyfran fwy o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae rhai eraill yn heriau penodol. Mae gan Gymru gyfran uwch o weithwyr ar gyflogau isel ac yn gweithio mewn sectorau a gafodd eu cau fel manwerthu a lletygarwch cyn y pandemig.<\/p>\n<p>Trydedd her yw'r ffaith nad yw tynged economaidd Cymru yn gyfan gwbl yn ei dwylo ei hun. Mae'r sylfaen drethi yng Nghymru wedi lleihau'n ddramatig o ganlyniad i gyfyngiadau symud, a bydd hynny\u2019n lleihau cyllideb Llywodraeth Cymru, ac mae argyfwng o'r maint hwn yn gofyn am ymyriadau economaidd allweddol a arweinir gan y wladwriaeth. Mae ymyrraeth y wladwriaeth yn yr economi \u2013 drwy gynlluniau cadw swyddi yn ogystal \u00e2 chymorth treth a lles \u2013 yn hanfodol, ond Senedd y DU sy'n bennaf gyfrifol amdani. Nid oes gan y Senedd na Llywodraeth Cymru bwerau benthyca \u2013 na'r gallu i wneud hynny \u2013 i weithredu ar eu pennau eu hunain.<\/p>\n<p>Fel yr amlinellwyd uchod, mae'r heriau a wynebir yn enfawr. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth hefyd yn cyfeirio at nifer o ymyriadau allweddol y gellir eu cymryd i gynnal a chefnogi gweithgarwch economaidd yn y tymor canolig a hirach.<\/p>\n<p>Bydd angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi'n barhaus bobl sydd wedi cael eu gwneud yn arbennig o agored i niwed - yn feddygol, yn economaidd ac yn gymdeithasol - gan bandemig y Coronafeirws. Yn ogystal \u00e2 mynd i'r afael \u00e2'r mathau gwahanol hyn o wendidau, mae blaenoriaethau economaidd hirsefydlog sgiliau a seilwaith yn parhau yr un mor bwysig ag erioed. Ac mae'n amlwg y bydd rhai busnesau a sectorau yn adfer mewn <a href=\"https:\/\/www.resolutionfoundation.org\/publications\/getting-britain-working-safely-again\/\">gwahanol ffyrdd<\/a> i eraill.<\/p>\n<p>Bydd ar rai, er enghraifft rhai siopau manwerthu, angen cymorth tra byddant yn dychwelyd yn raddol i rywbeth sy'n debyg i weithgarwch economaidd arferol. Bydd angen cymorth mwy parhaus ar fusnesau eraill, fel y rhai yn y sector lletygarwch, oherwydd bydd dychwelyd i'r arfer yn cymryd mwy o amser, ac ni ellir cadw llafur a sgiliau cyflogeion yn \u00f4l am gyhyd. Mae'n bosibl y bydd angen cymorth wedi'i deilwra ar drydydd gr\u0175p bach ond pwysig o fusnesau yng Nghymru, megis y rhai mewn ardaloedd twristiaeth gwledig, nad oes ganddynt ffynhonnell amlwg arall o incwm a gweithgarwch wrth fynd i'r afael \u00e2'r pandemig.<\/p>\n<p>Mae hyn yn gofyn llawer gan y llywodraeth a'i gallu i gefnogi'r economi'n effeithiol. Mae <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2020\/mar\/18\/the-covid-19-crisis-is-a-chance-to-do-capitalism-differently\">Mazzucato yn dadlau<\/a> bod pandemig y Coronafeirws yn 'gofyn am ailfeddwl am yr hyn y mae Llywodraethau yn ei wneud: yn hytrach nag atgyweirio methiannau'r farchnad pan fyddant yn codi, dylent symud tuag at fynd ati i lunio a chreu marchnadoedd sy'n sicrhau twf cynaliadwy a chynhwysol'. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r wladwriaeth fynd ati i sbarduno twf, gan ganolbwyntio'n fwy penodol ar sectorau a lleoedd penodol.<\/p>\n<p>Mae mabwysiadu fersiwn o'r dull hwn yn dibynnu ar nifer o ystyriaethau. A oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i chwarae rhan mor ragweithiol yn economi Cymru? A oes gan sefydliadau eraill fel Llywodraeth Leol y gallu i wneud hynny? Os nad oes, sut y gellir creu hyn? Mae fy nghydweithwyr <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/wedi-cyrraedd-y-pwynt-tyngedfennol-llywodraeth-leol-cymru-a-chyni\/\">eisoes wedi dangos<\/a> bod angen dadl am gadernid a chynaliadwyedd Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae hefyd yn codi cwestiynau am r\u00f4l actorion eraill, fel prifysgolion, sefydliadau angori, y trydydd sector a busnesau eu hunain. Mae\u2019n debygol y bydd <a href=\"https:\/\/www.itv.com\/news\/wales\/2020-04-29\/wales-coronavirus-jeremy-miles-gordon-brown\/\">gr\u0175p cynghori<\/a>, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ystyried llawer o'r materion hyn.<\/p>\n<p>Mae pandemig y Coronafeirws hefyd wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd sylfaenol y wladwriaeth. <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2020\/mar\/25\/there-is-no-trade-off-between-the-economy-and-health\">Mae Portes yn dadlau<\/a> nad argyfwng ariannol 2008 ei hun a oedd yn gostwng disgwyliad oes a lles economaidd y bobl dlotaf ym Mhrydain, ond y tangyllido yn y wladwriaeth a'r system les a oedd yn sail i ymateb Llywodraeth y DU yn y canlyniadau. Ceir cyd-ddibyniaeth rhwng buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a lles, ac economi ddeinamig. Bydd cefnogi'r rhai a wnaed yn agored i niwed gan bandemig y Coronafeirws a'i effeithiau yn darparu cyflogaeth hollbwysig a chyfleoedd i greu cyfoeth, ac yn eu tro yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus er budd cenedlaethau'r dyfodol.<\/p>\n<p>Mae'r heriau hyn yn amlochrog ac mae angen ymateb systematig a hyblyg gan y Llywodraeth. Bydd angen cyfaddawdu a chymryd penderfyniadau ac amhosibl i Lywodraethau eu cymryd, a thrwy hynny dylent ddod \u00e2 chymaint o eglurder, tryloywder a chraffu ag y bo modd. Fodd bynnag, er bod hyn yn her nas gwelwyd yn ystod ein hoes, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig hefyd yn cynnig cyfle allweddol, a bod ymatebion a allai, o'u mabwysiadu, gefnogi economi fwy cynaliadwy a gwydn yng Nghymru yn y dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pandemig y Coronafeirws yn cael effaith ddofn a digynsail ar economi Cymru \u2013 economi sydd eisoes wedi'i wanhau gan gwtogi a llymder yn y sector cyhoeddus yn dilyn argyfwng ariannol 2008, yn ogystal \u00e2'r heriau a achosir gan adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae pandemig y Coronafeirws yn ychwanegu at yr heriau hyn ac yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15153,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140],"research-and-impact":[132],"class_list":["post-15154","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"virus-money-2.jpg","filesize":670217,"sizes":{"medium":{"file":"virus-money-2-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49496,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-744x372.jpg"},"large":{"file":"virus-money-2-1200x601.jpg","width":1200,"height":601,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":105933,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-1200x601.jpg"},"thumbnail":{"file":"virus-money-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57204,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"virus-money-2-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51950,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-768x384.jpg"},"1536x1536":{"file":"virus-money-2-1536x769.jpg","width":1536,"height":769,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":159644,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-1536x769.jpg"},"2048x2048":{"file":"virus-money-2-2048x1025.jpg","width":2048,"height":1025,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":264070,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-2048x1025.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"virus-money-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":276917,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15153","name":"virus-money-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2.jpg","title":"virus-money-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/virus-money-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15154","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15154"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15154\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16460,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15154\/revisions\/16460"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15153"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15154"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15154"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15154"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15154"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}