{"id":15151,"date":"2020-05-20T10:35:48","date_gmt":"2020-05-20T10:35:48","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pan-fydd-hyn-ar-ben-codin-ol-ar-ol-coronafeirws\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:47","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:47","slug":"pan-fydd-hyn-ar-ben-codin-ol-ar-ol-coronafeirws","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pan-fydd-hyn-ar-ben-codin-ol-ar-ol-coronafeirws\/","title":{"rendered":"Pan fydd hyn ar ben: Codi\u2019n \u00f4l ar \u00f4l Coronafeirws"},"content":{"rendered":"<p>Mae'n ddigon posibl mai <em>'Pan fydd hyn ar ben'<\/em> yw un o'r ymadroddion a ddefnyddir fwyaf yn ystod y pandemig Coronafeirws.\u00a0 Ond a ddaw i ben mewn gwirionedd?\u00a0 Efallai mai sioc sydyn ond byrhoedlog fydd hyn.\u00a0 Ond mae'n llawer yn fwy tebygol y caiff Coronafeirws effaith tymor hir parhaus fydd yn newid ein heconomi a'n cymdeithas mor sylfaenol fel na wnawn ni fyth ddychwelyd at y 'normal' cyn y pandemig.<\/p>\n<p>Wrth gwrs mae nifer o bethau nad ydym ni'n eu gwybod.\u00a0 Dydyn ni ddim yn deall digon am y clefyd eto.\u00a0 Mae graddfa a hirhoedledd ei effaith ar yr economi'n aneglur. Dydyn ni ddim yn gwybod sut y caiff blaenoriaethau cyhoeddus ac ymddygiad unigol eu hailffurfio.\u00a0 Ond gallwn edrych ar sut mae econom\u00efau wedi ymateb i sioc yn y gorffennol. Gallwn fod yn eithaf sicr mai'r mwyaf bregus fydd ymhlith y rhai a gaiff eu taro galetaf.\u00a0 A gallwn ddisgwyl dod ar draws heriau polisi cyhoeddus sylweddol wrth i ni geisio ymadfer ar \u00f4l y pandemig.<\/p>\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn darparu tystiolaeth a dadansoddiad annibynnol i helpu i lywio'r penderfyniadau a wneir gan arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, gweinidogion Llywodraeth Cymru a llunwyr polis\u00efau.\u00a0 Dros y mis nesaf byddwn yn cyhoeddi cyfres o flogiau sy'n edrych ar wahanol weddau o'r pandemig Coronafeirws a rhai o'r agweddau y gallai llunwyr polis\u00efau eu mabwysiadu i gynorthwyo adferiad economaidd a chymdeithasol sy'n gynaliadwy'n amgylcheddol.<\/p>\n<p>Mae'r dystiolaeth i gyd yn cyfeirio at bwysigrwydd creu economi ddynamig, arloesol a chynhwysol i gynhyrchu gwaith da a bod yn sylfaen i fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymorth lles.\u00a0 Fe wyddom y bydd angen i bolis\u00efau fydd yn ysgogi adferiad economaidd adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol sylweddol o fewn Cymru.\u00a0 Mae'r diwydiannau twristiaeth, lletygarwch, hamdden, awyrofod a modurol yn gyflogwyr mawr mewn sawl rhan o'r wlad a gallai'r rhain fod yn araf i adfer yn dilyn y pandemig.\u00a0 Bydd hyn yn ergyd drom i drefi arfordirol a rhai cymunedau gwledig.\u00a0 Mae gan Gymru hefyd nifer fawr o ficrofusnesau a BBaChau a allai fod yn <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cryfhau-gwydnwch-economaidd\/\">llai abl i oroesi'r cwymp economaidd <\/a>na chwmn\u00efau mwy o faint.\u00a0 Bydd pobl ifanc a phobl \u00e2 sgiliau isel hefyd yn arbennig o agored i ddiweithdra a thangyflogaeth, ac mae llawer y gall llunwyr polis\u00efau ei wneud yng Nghymru i <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/dulliau-o-alluogi-unigolion-i-gamu-ymlaen-yn-eu-swyddi-mewn-sectorau-sylfaenol-allweddol\/\">hwyluso dilyniant cyflogaeth<\/a> allan o swyddi ansicr a chyflog isel.<\/p>\n<p>Egwyddor arweiniol 'adeiladu yn \u00f4l yn well' yw bod rhaid i unrhyw adferiad fod yn seiliedig ar dwf gwyrdd er mwyn i ni ymdrin \u00e2'r heriau brys y mae'r argyfwng newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno.\u00a0 Tanwydd ffosil sydd wedi pweru adferiadau diweddar. Gallai'r cwymp mewn prisiau olew ein temtio i lawr yr un llwybr y tro hwn.\u00a0 Gan adeiladu ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/pam-trawsnewid-cyfiawn-datgarboneiddio-a-chyfiawnder-economaidd\/\">ein gwaith ar drawsnewidiadau<\/a> cyfiawn, bydd y gyfres hon o flogiau'n edrych ar ffyrdd y gall y llywodraeth osgoi hyn a chefnogi adferiad economaidd sy'n ein helpu i gyflawni Cymru ddi-garbon.<\/p>\n<p>Gweithwyr Iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod ar y llinell flaen yn brwydro'r pandemig. Bydd ein cyfres yn edrych ar Coronafeirws a chostau iechyd. Byddwn hefyd yn ystyried sut y byddwn yn cefnogi gwasanaethau Iechyd a chymdeithasol yn y dyfodol.\u00a0 Un o effeithiau cadarnhaol y pandemig fu'r gydnabyddiaeth gynyddol i'r rolau hanfodol y mae staff llinell flaen yn eu chwarae yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.\u00a0 A fydd hyn yn arwain at welliannau tymor hir mewn cyflog a thelerau ac amodau gweithwyr gofal?\u00a0 Ac os felly sut fyddwn ni'n cwrdd \u00e2 chostau cynyddol gofal?\u00a0 Gallai Brexit waethygu problemau recriwtio a chadw.\u00a0 A fydd y pandemig yn gwneud iechyd a gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa mwy neu lai deniadol i weithwyr y DU?\u00a0 Yn fwy cyfredol, pa gymorth allwn ni ei roi i staff i'w helpu i ddod i delerau gyda'r trawma o drin dioddefwyr y pandemig?<\/p>\n<p>Mae gwasanaethau cyhoeddus eraill, nad ydynt yn cael sylw'n aml, wedi chwarae rhan hanfodol yn ymateb i'r pandemig.\u00a0 Mae'r argyfwng fel pe bai'n datgloi ffyrdd newydd o weithio a chyflymu trawsnewid gwasanaethau.\u00a0 Rydym ni wedi gweld symudiad cyflym i rai gwasanaethau iechyd digidol ynghyd \u00e2 defnyddio capasiti cymunedol i gynorthwyo pobl fregus. Yn ystod y cyfnod clo, rhoddwyd llety brys i bobl oedd yn cysgu ar y stryd a diogelwyd pobl oedd yn rhentu rhag cael eu troi allan.\u00a0 Bydd ein cyfres o flogiau'n ystyried sut olwg fydd ar ddarpariaeth tymor hir i grwpiau bregus wrth i'r mesurau argyfwng hyn leddfu.\u00a0 Byddwn hefyd yn archwilio a ydym ni'n tystio i symudiad tymor hir mewn lefelau o ymgysylltu sifig a sut i gynnal capasiti mewn llywodraeth leol mewn cyfnod pan fydd cyllid cyhoeddus, yn anochel, dan bwysau.\u00a0 A byddwn ni'n ystyried r\u00f4l 'entrepreneuriaid polisi' yn cynhyrchu syniadau polisi newydd.<\/p>\n<p>Ar y cam hwn, nid oes unrhyw atebion diffiniol. Ond wrth i ymatebion polisi i'r pandemig ymddangos, mae'n bwysig eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth o bedwar ban byd am y ffyrdd gorau i liniaru'r risgiau uniongyrchol a thymor hir, a'u bod yn manteisio ar y cyfleoedd i ailffurfio ein heconomi a'n cymdeithas er mwyn i ni allu dod allan o'r argyfwng presennol yn addas ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae'n ddigon posibl mai 'Pan fydd hyn ar ben' yw un o'r ymadroddion a ddefnyddir fwyaf yn ystod y pandemig Coronafeirws.\u00a0 Ond a ddaw i ben mewn gwirionedd?\u00a0 Efallai mai sioc sydyn ond byrhoedlog fydd hyn.\u00a0 Ond mae'n llawer yn fwy tebygol y caiff Coronafeirws effaith tymor hir parhaus fydd yn newid ein heconomi a'n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9676,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[135],"research-and-impact":[132],"class_list":["post-15151","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-anghydraddoldebau-iechyd","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":720,"height":405,"file":"Coronavirus.jpg","filesize":50204,"sizes":[],"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9676","name":"Coronavirus.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Coronavirus.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Coronavirus.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Coronavirus.jpg","title":"Coronavirus.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15151","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15151"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15151\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16459,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15151\/revisions\/16459"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9676"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15151"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15151"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15151"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15151"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}