{"id":15146,"date":"2020-05-12T13:16:53","date_gmt":"2020-05-12T13:16:53","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/a-all-prentisiaethau-ymchwil-agor-y-drws-i-yrfa-ym-maes-polisi\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:47","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:47","slug":"a-all-prentisiaethau-ymchwil-agor-y-drws-i-yrfa-ym-maes-polisi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/a-all-prentisiaethau-ymchwil-agor-y-drws-i-yrfa-ym-maes-polisi\/","title":{"rendered":"A all Prentisiaethau Ymchwil agor y drws i yrfa ym maes polisi?"},"content":{"rendered":"<p>Cyflwynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru y Cynllun Prentisiaeth Ymchwil yn 2017. Y nod oedd cynyddu capasiti ymchwilwyr i ymgysylltu gyda llunwyr polis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael \u00e2 heriau allweddol ar draws Cymru.<\/p>\n<p>Bob blwyddyn, rydym ni'n cynnig cyfle i fyfyriwr graddedig rhagorol gael profiad ymarferol o ddarparu tystiolaeth ar gyfer llunio polisi. Mae'r cynllun yn denu dros 100 o geisiadau'n flynyddol gan ymgeiswyr rhagorol sy'n gwneud y broses o lunio rhestr fer a dethol yn anodd dros ben.<\/p>\n<p>Wrth ystyried y r\u00f4l, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, rydym ni'n awgrymu y gallai'r arloesedd hon fod yn briodol i sefydliadau a chanolfannau ymchwil eraill.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth yw'r syniad? <\/strong><\/p>\n<p>Prifysgol Caerdydd sy'n cyllido'r cynllun, sy'n cynnig profiad i rywun ar ddechrau eu gyrfa ymchwil weithio ar draws yr ystod o'n gweithgareddau ni yma yn y Ganolfan. Mae prentisiaid yn cynnal adolygiadau tystiolaeth ar gyfer Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus, ac yn cynnal ymchwil academaidd ar ddefnydd o dystiolaeth a llunio polisi.<\/p>\n<p>Yr ysgogiad a'r rhesymwaith y tu \u00f4l i'r cynllun yw'r cyfleoedd cyfyngedig i raddedigion ddysgu hanfodion gwaith polisi a chynnig 'troed ar yr ysgol' iddyn nhw. Mae'r llwybrau safonol i mewn i'r proffesiwn yn cynnwys cynnal astudiaethau academaidd pellach (fel rhaglenni Meistr arbenigol), ymgeisio i ymuno \u00e2'r gwasanaeth sifil neu gynllun hyfforddi i raddedigion, ymgymryd ag interniaeth neu wirfoddoli.<\/p>\n<p>Ond mae anfanteision yn perthyn i bob un o'r rhain. Mae Meistr mewn Polisi Cyhoeddus fel arfer yn golygu benthyciad myfyriwr arall, gan gynyddu dyled y myfyriwr (<a href=\"https:\/\/commonslibrary.parliament.uk\/research-briefings\/sn01079\/\">\u00a336,000 ar gyfartaledd yn 2018<\/a>), a allai fod yn ddigon i rai graddedigion beidio \u00e2 mynd amdani. Mae'r gystadleuaeth ar gyfer rhaglen nodedig <a href=\"https:\/\/www.faststream.gov.uk\/\">Llwybr Carlam<\/a> y Gwasanaeth Sifil yn ffyrnig gyda <a href=\"https:\/\/www.instituteforgovernment.org.uk\/explainers\/civil-service-fast-stream\">32,450 o geisiadau ar gyfer 973 o benodiadau<\/a> rai blynyddoedd yn \u00f4l, ac mae llawer o'r swyddi hyn yn Llundain. O wynebu'r opsiynau hyn, mae rhai graddedigion yn teimlo mai'r unig opsiwn yw gwneud <a href=\"https:\/\/www.ippr.org\/research\/publications\/the-inbetweeners\">interniaethau anffurfiol, di-d\u00e2l neu \u00e2 th\u00e2l isel<\/a> er mwyn cael profiad gwaith - rhywbeth sydd y tu hwnt i allu llawer. Mae Cynllun Prentisiaeth Ymchwil y Ganolfan yn cynnig model amgen, gan dalu cyflog cystadleuol a gweithredu fel man cychwyn ar yrfa mewn polisi cyhoeddus neu'r byd academaidd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Sut mae hyn wedi gweithio?<\/strong><\/p>\n<p>Mae'r cynllun wedi cynnig cyfleoedd i brentisiaid gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau. Mae rhai yn ymateb yn gymharol gyflym i anghenion tystiolaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru, tra bod eraill yn aseiniadau tymor hirach. Mae rheoli gwahanol fathau o brosiectau gyda therfynau amser sy'n cystadlu a newid blaenoriaethau wedi bod yn sgil allweddol mae'r holl brentisiaid wedi'i ddatblygu.<\/p>\n<p>Mae'r gweithgareddau a gynhelir drwy'r flwyddyn wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg a'u teilwra i anghenion unigol y prentis. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig rhaglen bwrpasol, sy'n caniat\u00e1u datblygu organig. Bu hyn yn hanfodol i lwyddiant y cynllun er ei fod yn galw am adnoddau ac amser ychwanegol.<\/p>\n<p>Mae prentisiaid wedi ysgrifennu blogiau a chyd-awduro adroddiadau ar bynciau'n cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/strategaethau-a-thechnolegau-ansawdd-aer\/\">Mentrau ansawdd aer rhyngwladol<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cydraddoldeb-rhywiol-dysgu-gwersi-gan-wledydd-nordig\/\">Cydraddoldeb Rhywedd \u2013 Dysgu Gwersi gan Wledydd Nordig<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gwerth-undebau-llafur-yng-nghymru\/\">Gwerth Undebau Llafur yng Nghymru<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/beth-mae-plant-a-phobl-ifanc-syn-derbyn-gofal-au-teuluoedd-yn-ei-feddwl-o-ofal\/\">Beth yw barn plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd am ofal?<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/unigrwydd-yn-ystod-y-cyfyngiadau-ar-symud\/\">Unigrwydd yng Nghymru<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn ogystal, maen nhw wedi cyflwyno mewn cynadleddau academaidd a chyhoeddi papurau mewn <a href=\"https:\/\/www.ingentaconnect.com\/content\/tpp\/pap\/2020\/00000048\/00000002\/art00008\">cyfnodolion ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid<\/a>, gydag eraill ar waith.<\/p>\n<p>Rydym ni'n pwysleisio datblygiad proffesiynol yn y Ganolfan ac mae ein prentisiaid yn gallu mynychu cyrsiau fel rhan o <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/research\/our-research-environment\/supporting-researchers\/early-career-researchers\">raglen Datblygu Ymchwilwyr<\/a> Prifysgol Caerdydd - o gyrsiau gloywi sgiliau ymchwil a dysgu dulliau newydd, i gyrsiau mwy generig ar reoli amser a sgiliau ysgrifennu - ochr yn ochr \u00e2'r gyfres lawn o hyfforddiant prifysgol. Ceir mynediad hefyd at gyngor a chefnogaeth gyrfaoedd\u00a0 drwy'r Brifysgol.<\/p>\n<p>Ceir cyfleoedd sylweddol i ddysgu'n ymarferol wrth weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr mwy profiadol yn y Ganolfan. Mae'r prentisiaid hefyd wedi ymgymryd \u00e2 lleoliadau gwaith byr mewn sefydliadau polisi ymchwil eraill yn cynnwys <a href=\"http:\/\/www.assembly.wales\/en\/bus-home\/research\/Pages\/research.aspx\">Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/gov.wales\/statistics-and-research\/about\/user-engagement\/plans-practices\/knowledge-analytical-services-evidence-plan\/?lang=en\">Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru<\/a> a'r <a href=\"https:\/\/www.instituteforgovernment.org.uk\">Sefydliad Llywodraethu<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Ydy'r cynllun wedi llwyddo?<\/strong><\/p>\n<p>Rydym ni wedi gweld bod y cynllun yn helpu prentisiaid i ddeall tirwedd polisi Cymru a chymhwyso'r sgiliau maen nhw'n eu dysgu (yn cynnwys cyrchu tystiolaeth a defnyddio dulliau ymchwil priodol) i amgylchedd 'byw', gan weithio mewn timau bach \u00e2 ffocws. Dyma'r nodweddion allweddol fydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae dau o'r prentisiaid bellach yn astudio am PhD ym Mhrifysgol Caerdydd ar bynciau \u00e2 chyswllt agos iawn \u00e2 gwaith y Ganolfan, sy'n arwydd o'r budd a gafodd y ddau drwy'r cynllun. Yn yr un modd, mae'r Ganolfan hithau wedi elwa'n sylweddol o gael prentisiaid. Maen nhw wedi sicrhau dealltwriaeth newydd mewn prosiectau sy'n bodoli, gan weithio fel aelodau brwd o'r t\u00eem a chefnogi gweithrediad y Ganolfan mewn sawl ffordd. Mae ein prentisiaid bellach yn rhan hanfodol o staff y Ganolfan, gan ysgwyddo cyfrifodebau ychwanegol yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd t\u00eem ac arwain ar gynllunio a chyflenwi digwyddiadau.<\/p>\n<p>Mae'r prentisiaethau ymchwil wedi bywiogi'r Ganolfan, gan roi safbwyntiau ffres ac ymgymryd \u00e2 gwaith cydweithredol gwerthfawr, yn ogystal \u00e2 chynnig cyfleoedd sylweddol i raddedigion diweddar. Gallai sefydliadau eraill sy'n dymuno ehangu'r gronfa o weithwyr polisi proffesiynol ansawdd uchel edrych ar ein hesiampl ac ystyried sefydlu eu cynllun prentisiaethau ymchwil eu hunain.<\/p>\n<figure id=\"attachment_3965\" aria-describedby=\"caption-attachment-3965\" style=\"width: 834px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3965\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/research-apprentices3.jpg\" alt=\"\" width=\"834\" height=\"282\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-3965\" class=\"wp-caption-text\">Sarah Quarmby (2017), Suzanna Nesom (2018), Megan Park (2019)<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyflwynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru y Cynllun Prentisiaeth Ymchwil yn 2017. Y nod oedd cynyddu capasiti ymchwilwyr i ymgysylltu gyda llunwyr polis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael \u00e2 heriau allweddol ar draws Cymru. Bob blwyddyn, rydym ni'n cynnig cyfle i fyfyriwr graddedig rhagorol gael profiad ymarferol o ddarparu tystiolaeth ar gyfer llunio polisi. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15144,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"research-and-impact":[133,131],"class_list":["post-15146","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-interniaid-phd"],"meta_box":{"project":12918,"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Knowledge-sharing-smaller.jpg","filesize":166227,"sizes":{"medium":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":30438,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-744x372.jpg"},"large":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-1200x600.jpg","width":1200,"height":600,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58528,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-1200x600.jpg"},"thumbnail":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34401,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":31267,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-768x384.jpg"},"1536x1536":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-1536x768.jpg","width":1536,"height":768,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":80572,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-1536x768.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Knowledge-sharing-smaller-1920x1000.jpg","width":1920,"height":1000,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":124154,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-1920x1000.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15143","name":"Knowledge-sharing-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Knowledge-sharing-smaller.jpg","title":"Knowledge-sharing-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15146","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15146"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15146\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15147,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15146\/revisions\/15147"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15144"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15146"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15146"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15146"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15146"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}