{"id":15141,"date":"2020-04-30T09:36:15","date_gmt":"2020-04-30T09:36:15","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/unigrwydd-yn-ystod-y-cyfyngiadau-ar-symud\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:46","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:46","slug":"unigrwydd-yn-ystod-y-cyfyngiadau-ar-symud","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/unigrwydd-yn-ystod-y-cyfyngiadau-ar-symud\/","title":{"rendered":"Unigrwydd yn ystod y Cyfyngiadau ar Symud"},"content":{"rendered":"<p>Cyn pandemig y Coronafeirws (COVID-19), roedd <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2019-01\/national-survey-wales-headline-results-2017-18.pdf\">16% o boblogaeth Cymru<\/a> yn dweud eu bod yn unig, ac mae\u2019n hysbys bod unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn cyflwyno heriau sylweddol i iechyd a llesiant y cyhoedd.\u00a0 Mae sawl Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus wedi nodi bod eu lleihau yn flaenoriaeth ar gyfer eu hardaloedd, a rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ei <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2020-02\/connected-communities-strategy-document.pdf\">Strategaeth Unigrwydd<\/a> ei hun ym mis Chwefror, ychydig cyn y cyfyngiadau presennol ar symud.<\/p>\n<p>Mae\u2019r mesurau cadw pellter yn gymdeithasol er mwyn lleihau\u2019r trosglwyddo ar y Coronafeirws wedi golygu bod y gwaith o fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem yn anoddach ac yn fwy o fater brys.\u00a0 Maent ar yr un pryd yn cynyddu risg unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ac yn gwneud rhai o\u2019n ffyrdd mwyaf dibynadwy o\u2019u datrys yn amhosibl.\u00a0 I wneud materion yn waeth, mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.carnegieuktrust.org.uk\/publications\/role-digital-exclusion-social-exclusion-2\/\">dystiolaeth<\/a>yn awgrymu mai\u2019r rhai sy\u2019n wynebu\u2019r risg fwyaf o ran unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau ar symud, yn enwedig pobl h\u0177n sy\u2019n byw ar eu pen eu hunain, yw\u2019r rhai lleiaf galluog i gael mynediad i\u2019r ffyrdd o ymdopi \u00e2 hynny sy\u2019n dod yn sg\u00eel technoleg a systemau o bell.\u00a0 Nhw hefyd sydd fwy na thebyg yn wynebu\u2019r cyfnod hwyaf o ynysu, o bosib i mewn i\u2019r flwyddyn nesaf.<\/p>\n<p>Mae unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn gysyniadau gwahanol.\u00a0 Mae unigrwydd yn cyfeirio at deimladau person ynghylch ansawdd eu perthnasoedd.\u00a0 Mae ynysu cymdeithasol yn mesur yn wrthrychol faint o berthnasoedd sydd gan rywun.\u00a0 Bu ein cyfres o flogiau y llynedd yn trafod y <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/what-does-the-evidence-say-about-loneliness-in-wales\/\">dystiolaeth o unigrwydd yng Nghymru<\/a> a ffyrdd posibl o fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/how-do-we-tackle-loneliness-evidence-on-supporting-younger-and-older-people\/\">pobl h\u0177n a iau, <\/a>\u00a0rhai <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/how-do-we-tackle-loneliness-evidence-on-deprivation-and-different-communities\/\">sy\u2019n ddifreintiedig yn faterol ac ar gyfer cymunedau trefol a gwledig<\/a>.<\/p>\n<p>Mae\u2019n eglur o\u2019r gwaith hwnnw bod y rhan fwyaf o ymyriadau presennol yn dibynnu ar gyswllt wyneb yn wyneb ac yn annog hynny.\u00a0 Er bod <a href=\"https:\/\/whatworkswellbeing.org\/resources\/tackling-loneliness-review-of-reviews\/\">diffyg tystiolaeth gadarn<\/a> ynghylch effeithiolrwydd y mentrau hyn, bernir mai dulliau gweithredu person-ganolog ac wedi\u2019u teilwra yw\u2019r rhai mwyaf effeithiol.\u00a0 Mae\u2019r rhain yn cynnwys treulio amser gydag anifeiliaid, dysgu pobl sut i ddefnyddio technoleg, garddio, gweithgaredd corfforol, therapi hel atgofion, cyfeillio a chael mynediad i wasanaethau.<\/p>\n<p>O ganlyniad, mae\u2019r rhan fwyaf o ddulliau cyfredol i gefnogi gwell cysylltiadau cymunedol yn canolbwyntio ar ddarparu mecanweithiau i gysylltu pobl \u00e2\u2019r mentrau, y grwpiau a\u2019r gwasanaethau hyn.\u00a0 Ymhlith yr enghreifftiau yng Nghymru mae rolau gweithiwr cyswllt sy\u2019n galluogi pobl i gael mynediad i ddarpariaeth gymunedol, er enghraifft <a href=\"https:\/\/www.aceplace.org\/aboutus\/\">ACE - Gweithredu yng Nghaerau ac Elai<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=wPYhGJ0NwLA&amp;feature=youtu.be\">Cydlynwyr Ardal Leol Abertawe<\/a>, a<a href=\"https:\/\/2025movement.org\/2018\/09\/25\/first-north-wales-social-prescribing-communities-of-practice-gathering-25-october-in-st-asaph\/\">dull Gwnaed yng Ngogledd Cymru o ragnodi cymdeithasol<\/a>.<\/p>\n<p>Mae cadw pellter cymdeithasol yn golygu nad yw\u2019r dulliau gweithredu hyn yn ddichonadwy bellach, felly mae angen i ni gael hyd i ymyriadau effeithiol sydd ddim yn dibynnu ar gysylltiadau cymdeithasol uniongyrchol.\u00a0 Atebion sy\u2019n cael eu galluogi\u2019n ddigidol sy\u2019n darparu\u2019r ateb amlycaf.\u00a0 Gall platfformau cyfryngau cymdeithasol yn arbennig roi pobl mewn cysylltiad \u00e2\u2019i gilydd, a galluogi gwasanaethau cyhoeddus i nodi a diwallu anghenion cymunedau ac unigolion.\u00a0 Rhai enghreifftiau yw apiau a mentrau megis Ymgyrch <a href=\"https:\/\/www.bankofcreativity.co.uk\/work\/2018\/10\/22\/breathelife\">Breathe Life<\/a>, <a href=\"https:\/\/letstalkloneliness.co.uk\/resource\/bookey\/\">Bookey<\/a>, a <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=-S-5EfwpFOk\">Speaking Exchange<\/a>, sy\u2019n cefnogi pobl i ddod yn rhan o gr\u0175p sydd \u00e2 diddordeb a rennir ac yn gallu lleihau teimladau o unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid dyma\u2019r ateb cyfan. Rydym ni\u2019n gwybod bod cyfleu emosiynau ac awgrymiadau cymdeithasol yn anodd ar-lein, felly dyw e ddim yn disodli cyswllt uniongyrchol.\u00a0 Mae atebion a alluogir yn ddigidol hefyd yn eithrio un o bob pump o\u2019r boblogaeth yng Nghymru sydd heb sgiliau digidol sylfaenol a\u2019r 13% o aelwydydd sydd heb fynediad i\u2019r rhyngrwyd.<\/p>\n<p>Ein nod yw helpu i gychwyn deialog ynghylch gwerth ymyriadau nad ydynt yn rhai wyneb yn wyneb i leihau unigrwydd er mwyn gwella dealltwriaeth o beth sy\u2019n gweithio i wahanol grwpiau.\u00a0 Gallai\u2019r mesurau presennol ar gyfer cadw pellter cymdeithasol fod yn eu lle am beth amser, yn arbennig yn achos grwpiau bregus a rhai sy\u2019n cael eu \u2018gwarchod\u2019, ac mae\u2019n debygol y bydd goblygiadau\u2019r Coronafeirws ar gyfer capasiti gwasanaethau cyhoeddus, darpariaeth iechyd cyhoeddus a\u2019n canfyddiadau personol ynghylch pa mor agored ydym ni i risgiau iechyd yn parhau hefyd.\u00a0 Ond hyd yn oed mewn cyfnodau \u2018normal\u2019 mae ystod o grwpiau yn ein cymunedau sy\u2019n teimlo bellter i ffwrdd yn gymdeithasol, gan gynnwys gofalwyr, mamau newydd, rhai \u00e2 chyfyngiadau ar eu symudedd corfforol, a rhai sydd \u00e2 salwch meddwl.\u00a0 A gallai fod pethau i ni eu dysgu o sut mae technoleg wedi cael ei defnyddio i gefnogi\u2019r grwpiau hyn, y mae modd eu cymhwyso\u2019n fwy cyffredinol i\u2019r amgylchiadau presennol.<\/p>\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn trafod y dystiolaeth hon mewn br\u00eeff polisi sydd i ddod ac yn nodi materion allweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy\u2019n chwilio am atebion sy\u2019n cael eu galluogi gan dechnoleg i fynd i\u2019r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau ar symud.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyn pandemig y Coronafeirws (COVID-19), roedd 16% o boblogaeth Cymru yn dweud eu bod yn unig, ac mae\u2019n hysbys bod unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn cyflwyno heriau sylweddol i iechyd a llesiant y cyhoedd.\u00a0 Mae sawl Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus wedi nodi bod eu lleihau yn flaenoriaeth ar gyfer eu hardaloedd, a rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ei [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15140,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15141","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller.jpg","filesize":984752,"sizes":{"medium":{"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36991,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-744x496.jpg"},"large":{"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-1200x801.jpg","width":1200,"height":801,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":86820,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-1200x801.jpg"},"thumbnail":{"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33349,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":38897,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-1536x1025.jpg","width":1536,"height":1025,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":143432,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-1536x1025.jpg"},"2048x2048":{"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-2048x1366.jpg","width":2048,"height":1366,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":278990,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-2048x1366.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":209078,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15140","name":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller.jpg","title":"adult-alone-anxious-black-and-white-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-alone-anxious-black-and-white-smaller-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15141","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15141"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15141\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16458,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15141\/revisions\/16458"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15140"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15141"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15141"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15141"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15141"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}