{"id":15138,"date":"2020-04-09T14:51:43","date_gmt":"2020-04-09T14:51:43","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/digartrefedd-ieuenctid-symud-tuag-at-ei-atal\/"},"modified":"2026-01-14T15:04:11","modified_gmt":"2026-01-14T15:04:11","slug":"digartrefedd-ieuenctid-symud-tuag-at-ei-atal","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/digartrefedd-ieuenctid-symud-tuag-at-ei-atal\/","title":{"rendered":"Digartrefedd ieuenctid: Symud tuag at ei atal"},"content":{"rendered":"<p>Cyhoeddwyd adroddiadau WCPP ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/atal-digartrefedd-pobl-ifanc\/\"><em>Atal Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc<\/em><\/a> yn 2018. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i roi gwybod am ein <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Atal-digartrefedd-pobl-ifanc-crynodeb-gweithredol.pdf\">canfyddiadau allweddol<\/a> ac i helpu i symud tuag at system ataliol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ar y cyd \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.llamau.org.uk\/eyhcymru\">Rhoi Terfyn Ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru\/End Youth Homelessness Cymru (EYHC)<\/a>, galwon ni gyfarfod ynghyd ar 9 Mawrth i gynnig lle i ni ystyried y cynnydd yng Nghymru tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid ac i glywed gan y rhai sy\u2019n cyflwyno atebion arloesol mewn mannau eraill yn y byd.<\/p>\n<p>Clywon ni gan amrywiaeth ardderchog o siaradwyr, gan gynnwys prif areithiau gan Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a gan <a href=\"https:\/\/awayhome.ca\/\">Melanie Redman<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.homelesshub.ca\/\">Stephen Gaetz<\/a>, arbenigwyr o Ganada a gyfrannodd i\u2019n hadroddiad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r negeseuon a glywon ni wedi dod yn rhai mwy brys o ystyried argyfwng Covid-19 sy\u2019n datblygu. Er y gall y mesurau a wnaed yn ystod y cyfyngiadau symud guddio\u2019r broblem dros dro, gallai effaith economaidd yr achosion olygu cynnydd mewn digartrefedd ieuenctid. Gallai\u2019r gwersi isod grynhoi sut gallem sicrhau bod gan bob person ifanc gartref.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae angen ymateb gwahanol ar Bobl Ifanc<\/strong><\/p>\n<p>Nid \u2018digartrefedd i rai iau\u2019 yn unig yw digartrefedd ieuenctid. Mae gan bobl ifanc resymau gwahanol i oedolion dros fynd yn ddigartref ac anghenion gwahanol pan fyddant yn gwneud hynny, felly dylem ymateb yn unol \u00e2 hynny.<\/p>\n<p>Ystyr hyn yn rhannol yw ystyried y ffaith y bydd plant a phobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau ac yn cael profiad ohonynt mewn ffordd wahanol i oedolion: er enghraifft, gallent droi at staff ysgol am gymorth yn hytrach na gwasanaethau\u2019r llywodraeth. A bydd teulu, boed yn gadarnhaol neu\u2019n negyddol, fel arfer yn chwarae r\u00f4l i bobl ifanc mewn ffordd na fydden nhw, o bosibl, i oedolion (gwelodd adroddiad EYHC i <a href=\"https:\/\/www.llamau.org.uk\/out-on-the-streets\">brofiadau pobl ifanc LGBTQ+ o ddigartrefedd<\/a> mai cael eu gwrthod gan eu teulu oedd achos eu hargyfwng yn aml).<\/p>\n<p>Mae\u2019r heriau hynny, a\u2019r gwahaniaethau datblygiadol rhwng pobl ifanc ac oedolion, yn golygu y dylai fod gan Gymru strategaeth a dull penodol ar gyfer digartrefedd ieuenctid.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae data\u2019n bwysig... ond hefyd yr hyn y byddwn yn ei wneud \u00e2 nhw<\/strong><\/p>\n<p>Mae rhan o\u2019r symud i atal digartrefedd ieuenctid yn ymwneud \u00e2\u2019i adnabod yn gynnar. Ystyr hyn yw ceisio dod o hyd i\u2019r bobl ifanc hynny a all fod mewn perygl o fynd yn ddigartref fel bod modd rhoi ymyriadau yn eu lle cyn iddyn nhw golli eu cartref.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, mae llawer o awdurdodau lleol wedi addasu\u2019r <a href=\"http:\/\/www.youthworkwales.org.uk\/library\/yepf-youth-engagement-and-progression-framework-implementation-plan\/\">Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid<\/a> sy\u2019n bodoli\u2019n barod i brofi am berygl digartrefedd. Yn wreiddiol, bwriad y Fframwaith oedd dod o hyd i unigolion a oedd mewn perygl o fod yn <a href=\"https:\/\/gov.wales\/young-people-not-education-employment-or-training-neet\">NEET<\/a>, ond mae ymarferwyr wrthi yn gweithio i newid eu dull er mwyn defnyddio\u2019r dull hwn hefyd i adnabod y rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.<\/p>\n<p>Yn ein digwyddiad clywsom am ddulliau adnabod cynnar sy\u2019n cael eu targedu\u2019n fwy. Mae <a href=\"https:\/\/www.homelesshub.ca\/blog\/preventing-youth-homelessness-upstream-project\">Upstream Project<\/a>, er enghraifft, yn defnyddio holiaduron wedi\u2019u teilwra mewn ysgolion i sgrinio pob disgybl i asesu faint o berygl sydd iddo\/iddi fod yn ddigartref. Mae\u2019r model hwn, sy\u2019n seiliedig ar <a href=\"http:\/\/www.thegeelongproject.com.au\/\">brosiect arloesol yn Awstralia<\/a>, yn gofyn am ragor o adnoddau, er bod canfyddiadau cynnar yn UDA ac Awstralia yn nodi ei fod yn llwyddo i adnabod pobl ifanc na fyddai dulliau eraill wedi\u2019u codi fel arall. Bydd y rhaglenni peilot sydd yn yr arfaeth yng Nghymru yn ein helpu i weld a oes modd trosi hyn i\u2019r system yng Nghymru.<\/p>\n<p>Roedd pawb yn yr ystafell yn cytuno bod y data rydym yn eu casglu\u2019n bwysig, ond mai\u2019r peth pwysig yw sut rydym yn eu defnyddio. Mae modelau mewn ysgolion, fel Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, cystal \u00e2\u2019r perthnasoedd sy\u2019n codi rhwng addysgwyr ac ymarferwyr. Ac, ar \u00f4l adnabod yn gynnar, dylid addasu\u2019r ymyriadau nesaf yn ofalus i bobl ifanc. Gallai <a href=\"https:\/\/yaptool.com\/\">adnodd YAP<\/a> fod yn un ffordd o asesu angen ar \u00f4l y cam hwn, ond byddai angen ei addasu i\u2019r cyd-destun Cymreig.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae angen Camau Gweithredu ar y Cyd i gael Newid <\/strong><\/p>\n<p>Roedd llawer yn yr ystafell yn teimlo bod angen i ni newid rhai agweddau ar y systemau cyfredol. Ond roedd pobl yn cydnabod y byddai newidiadau\u2019n cymryd amser i\u2019w gweithredu\u2019n iawn, ac y byddai angen cydweithredu ac adnoddau ychwanegol i\u2019w gwneud yn iawn.<\/p>\n<p>Mae sefydlu perthnasoedd rhwng gwahanol gymunedau ymarfer, megis rhwng gweithwyr ieuenctid, swyddogion digartrefedd, ac addysgwyr, yn gofyn am amser i ddatblygu ymddiriedaeth rhwng y naill a\u2019r llall; ond mae arwyddion gobeithiol (nid lleiaf o\u2019r ymgysylltu yn y digwyddiad hwn!) fod hyn yn digwydd yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dylid gwerthuso projectau newydd yn iawn fel y gallwn weld a ydynt yn gweithio \u2014 a dylem gydnabod y bydd rhai dulliau\u2019n fwy effeithiol nag eraill. Nododd Frances Beecher, Cadeirydd EYHC, fod angen treialu arferion newydd a\u2019u \u2018methu\u2019n gyflym\u2019 lle nad oeddent yn gweithio. Mae sefyllfa Cymru yn dda er mwyn arloesi, diolch i ymdrechion presennol i ymateb yn gydgysylltiedig, a\u2019r <a href=\"https:\/\/law.gov.wales\/publicservices\/housing\/social-housing\/local-authorities\/homelessness\/#\/publicservices\/housing\/social-housing\/local-authorities\/homelessness\/?tab=overview&amp;lang=en\">Ddyletswydd i Gynorthwyo<\/a>, sy\u2019n gwneud i awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am helpu\u2019r rhai sy\u2019n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.<\/p>\n<p>Er mwyn symud tuag at y cam nesaf bydd rhaid gwerthuso\u2019n gyflym ganlyniadau\u2019r detholiad o ddulliau arloesol sydd ar y gweill ac i\u2019r cydweithredu sydd wedi\u2019i ddatblygu hyd yma barhau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae Diwygio Tai yn Allweddol<\/strong><\/p>\n<p>O\u2019r amrywiaeth o syniadau a rannwyd yn y digwyddiad, roedd llawer yn canolbwyntio ar dai, er bod pobl yn derbyn mai rhan yn unig o\u2019r ateb yw tai. Yn yr argyfwng tai presennol, bellach rhaid ystyried anghenion tai penodol pobl ifanc ar incwm isel a\u2019r rhai sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd.<\/p>\n<p>Yn y digwyddiad, rhannwyd dau ddull sy\u2019n cael eu datblygu yng Nghymru, yn seiliedig ar arferion da rhyngwladol. Mae\u2019r cyntaf, sy\u2019n cael ei arwain gan Gymdeithas Tai Unedig Cymru, wedi\u2019i ysbrydoli gan NAL, Cymdeithas Tai Ieuenctid y Ffindir, sy\u2019n cynnig tai gwirioneddol fforddiadwy wedi\u2019u dylunio gan ystyried anghenion pobl ifanc. Fforddiadwyedd yw\u2019r her fwyaf yma.<\/p>\n<p>Y dull tai allweddol arall a drafodwyd oedd Tai i Ieuenctid yn Gyntaf (HF4Y), amrywiad sy\u2019n canolbwyntio ar ieuenctid o <a href=\"https:\/\/www.homelesshub.ca\/solutions\/housing-accommodation-and-supports\/housing-first\">ddull Tai yn Gyntaf<\/a> sy\u2019n cynnig tai heb unrhyw ragamodau. Mae chwe pheilot HF4Y ar y gweill yng Nghymru ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Gallai dysgu o\u2019r ddau fodel hyn a\u2019u hehangu\u2019n briodol wneud gwahaniaeth enfawr i roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru yn y pen draw.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae Newid y System wrth Wraidd Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd Ieuenctid <\/strong><\/p>\n<p>Clywodd cynrychiolwyr yn y digwyddiad yn uniongyrchol gan Angharad, Chloe a Charlie, tri pherson ifanc sydd wedi bod yn ddigartref yn y blynyddoedd diweddar, pob un ohonynt wedi byw yn y system gofal. Mae pobl ifanc yn aml yn mynd yn ddigartref, hyd yn oed os nad yw hyn yn digwydd yn syth, ar \u00f4l gadael y system gofal, sy\u2019n golygu y bydd gwrando ar leisiau\u2019r rhai sydd wedi cael profiad o ofal yn sylfaenol er mwyn osgoi \u2018methiannau system\u2019 sy\u2019n arwain at ddigartrefedd ieuenctid.<\/p>\n<p>Bydd ymchwil sydd i ddod gan EYHC, sy\u2019n ymwneud \u00e2 lleisiau pobl ifanc o bob rhan o Gymru, yn ymdrin \u00e2\u2019r mater hwn yn benodol. Bydd hyn, ynghyd \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/beth-mae-plant-a-phobl-ifanc-syn-derbyn-gofal-au-teuluoedd-yn-ei-feddwl-o-ofal\/\">gwaith WCPP ar bobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal<\/a>, yn cyfrannu i sylfaen dystiolaeth ar y system gofal yng Nghymru. Nid yw\u2019r methiannau system hyn yn unigryw i Gymru, ond maent yn cynrychioli her y bydd rhaid ei goresgyn er mwyn i ni roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyhoeddwyd adroddiadau WCPP ar Atal Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yn 2018. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i roi gwybod am ein canfyddiadau allweddol ac i helpu i symud tuag at system ataliol yng Nghymru. Ar y cyd \u00e2 Rhoi Terfyn Ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru\/End Youth Homelessness Cymru (EYHC), galwon [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12743,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[145,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15138","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tai-chartrefi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"child-poverty2-scaled.jpg","filesize":423526,"sizes":{"medium":{"file":"child-poverty2-744x393.jpg","width":744,"height":393,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48141,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-744x393.jpg"},"large":{"file":"child-poverty2-1200x635.jpg","width":1200,"height":635,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":111473,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-1200x635.jpg"},"thumbnail":{"file":"child-poverty2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51660,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"child-poverty2-768x406.jpg","width":768,"height":406,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50660,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-768x406.jpg"},"1536x1536":{"file":"child-poverty2-1536x812.jpg","width":1536,"height":812,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":171369,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-1536x812.jpg"},"2048x2048":{"file":"child-poverty2-2048x1083.jpg","width":2048,"height":1083,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":283989,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-2048x1083.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"child-poverty2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":271630,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"child-poverty2.jpg","ID":"9328","name":"child-poverty2-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-scaled.jpg","title":"child-poverty2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/child-poverty2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15138","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15138"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15138\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16457,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15138\/revisions\/16457"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12743"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15138"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15138"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15138"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15138"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}