{"id":15132,"date":"2020-03-30T14:24:24","date_gmt":"2020-03-30T14:24:24","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-ydym-ni-ac-nad-ydym-nin-ei-wybod-am-heneiddion-well-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:43","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:43","slug":"beth-ydym-ni-ac-nad-ydym-nin-ei-wybod-am-heneiddion-well-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-ydym-ni-ac-nad-ydym-nin-ei-wybod-am-heneiddion-well-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Beth ydym ni, ac nad ydym ni'n ei wybod am heneiddio'n well yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn ddiweddar gwahoddodd y Ganolfan Dr Anna Dixon, Prif Weithredwr What Works Centre for Ageing Better, i ymweld \u00e2 ni a chyfnewid gwybodaeth ar heneiddio'n well gyda rhanddeiliaid allweddol yma yng Nghymru mewn trafodaeth a <\/em><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/event\/what-works-in-ageing-better\/\"><strong>digwyddiad cyhoeddus<\/strong><\/a><em>. Yn y blog hwn, mae Dr Martin Hyde, Athro Cyswllt Gerontoleg yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe, yn trafod un o'r materion allweddol a godwyd yn ystod y digwyddiadau hyn: y dirwedd tystiolaeth ar heneiddio yng Nghymru.<\/em><\/p>\n<p>Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn ffenomen <a href=\"https:\/\/www.un.org\/development\/desa\/ageing\/\">fyd-eang<\/a>. Heddiw, mae o ddeutu 9% o boblogaeth y byd (650m o bobl) yn 65 oed a throsodd. Rhagwelir y bydd y ganran hon yn cynyddu i yn agos i 17% erbyn 2050 (1.6b o bobl). Nid yw Cymru\u2019n eithriad. Rhagwelir erbyn 2038 y bydd chwarter o'r boblogaeth dros 65 oed. Dylem ddathlu'r llwyddiant hwn. Fodd bynnag, ceir <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/birthsdeathsandmarriages\/deaths\/articles\/changingtrendsinmortalityinenglandandwales1990to2017\/1990to2018#toc\">tystiolaeth<\/a> fod gwelliannau o ran disgwyliad oes yn arafu ac <a href=\"https:\/\/www.olderpeoplewales.com\/en\/reviews\/sotn.aspx\">nad yw pawb<\/a> yn gallu cyflawni bywyd h\u0177n da. Felly mae'n hanfodol fod llunwyr polis\u00efau ac ymarferwyr yn gweithio i frwydro'r anghydraddoldebau ymhlith y boblogaeth h\u0177n. Dylai Cymru fod yn falch iawn o'i gwaith arloesol yn y maes hwn. Hi oedd y wlad gyntaf yn y byd i benodi <a href=\"https:\/\/ec.europa.eu\/eip\/ageing\/sites\/eipaha\/files\/library\/50f3de25495ca_Role%20of%20Commissioner%20for%20European%20Partners.pdf\">Comisiynydd Pobl H\u0177n<\/a> i sicrhau bod hawliau a barn pobl h\u0177n yn cael parch. Bu Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol, yn cyhoeddi Strategaeth Pobl H\u0177n yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2003. Mae gan bron bob Llywodraeth Leol gynllun <a href=\"https:\/\/www.ageingwellinwales.com\/en\/localplans\">Heneiddio'n Dda<\/a> ar waith. Ceir amrywiaeth gwych hefyd o sefydliadau trydydd sector, fel <a href=\"https:\/\/www.ageuk.org.uk\/cymru\/\">AgeCymru<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.copacharity.com\/\">Chynghrair Pobl H\u0177n Cymru<\/a>, sy'n gweithio gydag ac ar ran pobl h\u0177n.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, er mwyn deall sefyllfa pobl h\u0177n yng Nghymru a gwybod a yw polis\u00efau ac arferion yn cael effaith ar fywydau pobl h\u0177n, mae'n hanfodol ein bod yn cael gwybodaeth dda. Yn anffodus, er bod llawer o ymchwil ragorol yn cael ei chynnal yng Nghymru, mae gennym rywfaint o 'ddiffyg data\u2019 - ansoddol a meintiol - ar heneiddio. Byddwn i'n dweud bod tri maes allweddol y mae angen i ni ymdrin \u00e2 nhw:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><u>1) Dydyn ni ddim yn casglu data ar oed <\/u><\/p>\n<p>Oed yw un o'r <a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/law-and-courts\/discrimination\/protected-characteristics\/age-discrimination\/\">nodweddion gwarchodedig<\/a> dan gyfraith y DU. Eto i gyd rwyf i'n cael fy synnu'n barhaus cyn lleied o sefydliadau sy'n cofnodi oed wrth fynd ati i gasglu data. Diolch i sylw cynyddol ar anghydraddoldeb rhywedd yn y gweithle mae'n iawn fod disgwyl i gyflogwyr adrodd ar gyfansoddiad rhywedd eu gweithlu, t\u00e2l ac ati. Ond pan wyf i wedi holi am wybodaeth am gyfansoddiad oed gweithluoedd yng Nghymru, er enghraifft, dywedir wrthyf i nad yw hyn yn cael ei gasglu ym mhob man. Nid yw Cymru yn unigryw yn hyn o beth. Dangosodd <a href=\"https:\/\/www.cipd.co.uk\/Images\/managing-an-age-diverse-workforce_2014_tcm18-10841.PDF\">adroddiad<\/a> diweddar gan y Sefydliad Siartredig Person\u00e9l a Datblygu mai dim ond 17% o gyflogwyr y DU sy'n monitro cyfansoddiad oed eu gweithlu. Mae hyn yn drueni oherwydd ceir <a href=\"https:\/\/www.shrm.org\/foundation\/ourwork\/initiatives\/the-aging-workforce\/Documents\/Age-Diverse%20Workforce%20Executive%20Briefing.pdf\">tystiolaeth<\/a> o wledydd eraill bod gweithluoedd sydd \u00e2 mwy o amrywiaeth o ran oed yn perfformio'n well. Ond heb yr wybodaeth hon yng Nghymru nid yw'n bosibl gweld a yw hyn yr un fath yma. Mae sicrhau bod yr holl sefydliadau'n casglu data ar oed, ynghyd \u00e2 rhywedd, ethnigrwydd ac ati, yn rhywbeth y gallem ni ei wneud yng Nghymru gan arwain yn y DU.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><u>2) Dydyn ni ddim yn casglu data gwerthuso (priodol) wrth gynnal ymyriadau. <\/u><\/p>\n<p>Ers i mi symud i Gymru mae'r nifer o fentrau a gaiff eu rhedeg gydag oedolion h\u0177n wedi gwneud argraff dda arnaf i. Ond rwyf i hefyd yn mynd yn rhwystredig o weld cyn lleied o wybodaeth sy'n cael ei chasglu am y gweithgareddau hyn. Mae hyn yn drueni mawr oherwydd gallai'r wybodaeth hon fod yn hanfodol drwy helpu i asesu pa weithgareddau sy'n gweithio, pryd maen nhw'n gweithio ac i bwy maen nhw'n gweithio. Unwaith eto, nid yw Cymru'n unigryw yn hyn o beth, gan fod hyn yn fater cyffredin mae llywodraeth leol a chyrff trydydd sector yn ei wynebu. Fe wn fod rhywfaint o hyn yn digwydd oherwydd diffyg adnoddau a\/neu ddiffyg ymwybyddiaeth o'r hyn mae cynnal gwerthusiad yn ei olygu. Felly, rwyf i'n credu y dylai fod mwy o gyfrifoldeb ar y cyllidwyr i bennu'n glir pa fath o ddata sydd ei angen, rhoi amcangyfrifon realistig o'r adnoddau sydd eu hangen a chyfeirio ymgeiswyr at <a href=\"https:\/\/measure.whatworkswellbeing.org\/\">ganllawiau da<\/a> ar sut i wneud hyn. Ond rwyf i hefyd yn meddwl y gallwn ni wneud mwy yng Nghymru, er enghraifft drwy ddod \u00e2 llywodraeth leol, cyrff trydydd sector a Phrifysgolion at ei gilydd i redeg 'gweithdai gwerthuso' i helpu grwpiau i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae angen hefyd i ni wella wrth gofnodi a chatalogio canlyniadau gwerthuso, ac yn ddelfrydol, archwilio ffyrdd i greu cronfa o ddata i gynnal astudiaethau mwy o faint, mwy pwerus neu feta-ddadansoddiadau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><u>3) Diffyg astudiaeth gynrychioliadol sy'n dilyn pobl wrth iddyn nhw heneiddio<\/u><\/p>\n<p>I fi dyma'r bwlch pwysicaf sydd angen i ni ei drin. Os ydym ni wir am ddeall y profiad o heneiddio yng Nghymru yna mae angen i ni gasglu data ar unigolion wrth iddyn nhw heneiddio. Er enghraifft os ydych chi'n cymharu iechyd pobl sydd wedi ymddeol \u00e2 phobl sy'n gweithio gallech ganfod fod y rheini mewn gwaith yn fwy iach. Yna gallai hyn eich arwain i dybio bod ymddeol yn ddrwg i'ch iechyd (ac y dylem ni i gyd aros yn y gwaith cyhyd ag y bo'n bosibl). Ond efallai fod pobl wedi ymddeol oherwydd iechyd gwael yn y gwaith. Felly byddai eich rhagdybiaeth a'ch neges polisi'n anghywir. Yn y sefyllfa hon yr hyn sydd ei angen yw mesuriad o iechyd yr un bobl cyn ac ar \u00f4l ymddeol. Gelwir hyn yn ddata hydredol. Mae gan Gymru hanes gwych o astudiaethau hydredol o'r fath e.e. <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/abs\/pii\/S0890406599800978\">Astudiaeth Hydredol Bangor ar Heneiddio<\/a>. Ond yn wahanol i wledydd eraill y DU, nid oes gennym ni astudiaeth hydredol genedlaethol o heneiddio yng Nghymru. Mae astudiaethau fel <a href=\"https:\/\/www.elsa-project.ac.uk\/\">ELSA<\/a> yn Lloegr a <a href=\"https:\/\/nicola.qub.ac.uk\/sites\/NICOLA\/AboutNICOLA\/\">NICOLA<\/a> yng Ngogledd Iwerddon yn creu darlun diddorol o heneiddio yn y gwledydd hyn. Ond yng Nghymru rydym ni'n cael ein gadael ar \u00f4l yn gyflym iawn.<\/p>\n<p>Mae gan Gymru draddodiad gwych o hyrwyddo hawliau a lles ei phoblogaeth h\u0177n. Mae llawer i ymfalch\u00efo ynddo yn yr hyn sydd wedi'i gyflawni eisoes. Ond os ydym ni wir am wireddu ein potensial i fod y wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi yna mae angen sail tystiolaeth o'r radd flaenaf i gyd-fynd a'n dyheadau byd-eang.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar gwahoddodd y Ganolfan Dr Anna Dixon, Prif Weithredwr What Works Centre for Ageing Better, i ymweld \u00e2 ni a chyfnewid gwybodaeth ar heneiddio'n well gyda rhanddeiliaid allweddol yma yng Nghymru mewn trafodaeth a digwyddiad cyhoeddus. Yn y blog hwn, mae Dr Martin Hyde, Athro Cyswllt Gerontoleg yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13204,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135,145],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15132","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-tai-chartrefi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"ACTIVE-SENIORS-scaled.jpg","filesize":545211,"sizes":{"medium":{"file":"ACTIVE-SENIORS-744x391.jpg","width":744,"height":391,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":85648,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-744x391.jpg"},"large":{"file":"ACTIVE-SENIORS-1200x631.jpg","width":1200,"height":631,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":177226,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-1200x631.jpg"},"thumbnail":{"file":"ACTIVE-SENIORS-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":89199,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"ACTIVE-SENIORS-768x404.jpg","width":768,"height":404,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":90110,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-768x404.jpg"},"1536x1536":{"file":"ACTIVE-SENIORS-1536x808.jpg","width":1536,"height":808,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":256068,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-1536x808.jpg"},"2048x2048":{"file":"ACTIVE-SENIORS-2048x1077.jpg","width":2048,"height":1077,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":392513,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-2048x1077.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"ACTIVE-SENIORS-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":367287,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"ACTIVE-SENIORS.jpg","ID":"13204","name":"ACTIVE-SENIORS-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-scaled.jpg","title":"ACTIVE-SENIORS.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ACTIVE-SENIORS-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15132","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15132"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15132\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16454,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15132\/revisions\/16454"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13204"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15132"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15132"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15132"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15132"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}