{"id":15125,"date":"2020-04-20T11:20:40","date_gmt":"2020-04-20T11:20:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-y-gall-dylanwad-swyddogion-is-eu-statws-ar-brosesau-llunio-polisiau-fod-yn-gryfach-nar-disgwyl\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:41","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:41","slug":"sut-y-gall-dylanwad-swyddogion-is-eu-statws-ar-brosesau-llunio-polisiau-fod-yn-gryfach-nar-disgwyl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-y-gall-dylanwad-swyddogion-is-eu-statws-ar-brosesau-llunio-polisiau-fod-yn-gryfach-nar-disgwyl\/","title":{"rendered":"Sut y gall dylanwad swyddogion is eu statws ar brosesau llunio polis\u00efau fod yn gryfach na\u2019r disgwyl?"},"content":{"rendered":"<p>Sut y gall llywodraethau is-genedlaethol, bychan eu tiriogaethau, wneud y gorau o\u2019u sefyllfa? Mae llywodraethau is-genedlaethol megis y rhai datganoledig yn y deyrnas hon yn cyfuno nifer o gyfleoedd a chyfyngiadau\u2019r llywodraethau lleol a gwladol maen nhw rhyngddynt. Mae gyda nhw rai cyfrifoldebau ac adnoddau gwladol eu math megis awdurdod deddfwriaethol a phwerau ariannu, er bod yr adnoddau hynny wedi\u2019u cyfyngu gan eu statws israddol. Ar y llaw arall, gan fod eu tiriogaethau\u2019n gymharol fychan (mae yn yr Alban 5.5 miliwn o bobl a 32 awdurdod lleol ac mae yng Nghymru ychydig dros 3 miliwn a 22 awdurdod lleol), gallai fod modd iddyn nhw feithrin cysylltiadau \u2018llywodraeth leol\u2019 ag amrywiaeth helaeth o gylchoedd lleol.<\/p>\n<p>Fyddai hynny\u2019n eu galluogi i weithredu mewn ffordd wahanol, felly? Yn benodol, oes rhywbeth am eu cyfuniad o bwerau, eu hadnoddau ffurfiol (cyfyngedig) a\u2019u sefyllfaoedd a allai effeithio ar eu gallu i weithredu yn \u00f4l egwyddorion meta-lywodraethant \u2013 sefydlu a rheoli rhwydweithiau polis\u00efau?<\/p>\n<p>Mewn erthygl am bolis\u00efau a gwleidyddiaeth yn ddiweddar, ystyrion ni\u2019r cwestiwn hwnnw trwy astudio datblygiad deddfau digartrefedd Cymru. Er bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn llunio strategaethau lleddfu digartrefedd bron ers dechrau datganoli ym 1999, doedd dim llawer y gallai ei wneud i newid fframwaith San Steffan ar gyfer gwasanaethau statudol. Newidiodd hynny yn 2011 pan roddwyd hawl i\u2019r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ynghylch materion wedi\u2019u datganoli. Bron yn syth, dechreuodd Llywodraeth Cymru lunio Deddf Tai 2014. Mae\u2019r ddeddf honno, sy\u2019n pwysleisio camau osgoi digartrefedd, wedi cwtogi ar nifer y bobl sy\u2019n colli eu cartrefi yng Nghymru a sbarduno deddfau tebyg yn San Steffan.<\/p>\n<p>Dangosodd ein hymchwil y byddai rhwydweithiau polis\u00efau cryf iawn sy\u2019n cwmpasu\u2019r trydydd sector, awdurdodau lleol a grwpiau Llywodraeth Cymru yn hanfodol yngl\u0177n \u00e2 helpu pawb i ddeall amryw broblemau ac atebion wrth ddiwygio polis\u00efau lleddfu digartrefedd. Roedd y rhwydweithiau wedi\u2019u meithrin a\u2019u cynnal dros gyfnod hir gan swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru ac, i ddeall sut y gwnaethon nhw hynny, defnyddion ni ddadansoddiad Eva S\u00f8rensen a Jacob Torfing o feta-lywodraethant. Maen nhw wedi didoli\u2019r syniad yn \u00f4l pedwar categori: llunio\u2019r rhwydwaith a llywio ei nodau a\u2019i fframwaith (categor\u00efau datblygu lle y byddwch chi\u2019n canolbwyntio ar lunio\u2019r rhyngweithio yn hytrach na chymryd rhan ynddo) a rheoli\u2019r rhwydwaith a chymryd rhan ynddo (categor\u00efau gweithredu).\u00a0 At hynny, mae S\u00f8rensen a Torfing yn awgrymu bod grwpiau ac unigolion gwladol mewn sefyllfa well i fod yn feta-lywodraethwyr am fod gyda nhw adnoddau ehangach a chryfach i atgyfnerthu eu hawdurdod, er bod modd i unrhyw gylch neu unigolyn a chanddo\u2019r adnoddau angenrheidiol weithredu\u2019n llywodraethwr o\u2019r fath.<\/p>\n<p>Mae canlyniadau ein hymchwil yn cyd-fynd \u00e2\u2019r honiad: mae Llywodraeth Cymru yn bwysig iawn o ran ariannu gwasanaethau i bobl ddigartref (mudiadau gwirfoddol a grwpiau llywodraeth leol a gynrychiolwyd yn y rhwydweithiau sy\u2019n rhoi rhan helaeth o\u2019r rheiny) a dim ond y llywodraeth allai sefydlu\u2019r deddfau oedd yn hanfodol ar gyfer diwygio sylfaenol. Yn wir, wrth i Lywodraeth Cymru gael gafael ar ragor o adnoddau, daeth i\u2019r amlwg bod grwpiau eraill wedi gweld y byddai\u2019n fwyfwy pwysig iddyn nhw gymryd rhan yn ei rhwydweithiau er mwyn cael dylanwadu ar yr hyn y byddai\u2019r adnoddau hynny yn ei hwyluso. Fe welon ni nad oedd ffiniau categor\u00efau meta-lywodraethant yn eglur yn y rhwydweithiau, fodd bynnag.<\/p>\n<p>Mae\u2019r categor\u00efau hynny\u2019n rhai delfrydol, wrth reswm, ac mae S\u00f8rensen a Torfing yn awgrymu mai cyfuniad o ddulliau yng ngwahanol rannau gweithredu\u2019r rhwydwaith a allai fod yn fwyaf effeithiol. Yn ein hachos ni, fodd bynnag, gwelon ni fod rhai dulliau ar waith yr un pryd ac y byddai modd defnyddio sawl dull mewn mwy nag un categori. Daeth y gwahaniaeth rhwng categor\u00efau datblygu a gweithredu yn arbennig o amwys: byddai swyddogion yn llunio, yn llywio ac yn rheoli\u2019r rhwydweithiau yr un pryd, yn ogystal \u00e2 chymryd rhan ynddynt, gan gyflawni rolau llywodraethwyr a chyfranogwyr fel ei gilydd. Cylch bychan o swyddogion wnaeth hynny: dim ond tri swyddog oedd yn nh\u00eem polisi digartrefedd Llywodraeth Cymru sy\u2019n gyfrifol am lywodraethu\u2019r rhwydweithiau\u2019n feunyddiol, ac nid swyddogion uchelradd oedd y rheiny, chwaith. Mae hynny\u2019n groes i egwyddorion S\u00f8rensen a Torfing, sy\u2019n awgrymu bod medrau swyddogion polis\u00efau uwch eu statws yn debygol o fod yn well o ran meta-lywodraethant.<\/p>\n<p>Yn y b\u00f4n, felly, gwelon ni fod manteision cryf gan Lywodraeth Cymru ym maes meta-lywodraethant o achos ei hadnoddau ffurfiol, a defnyddiodd bob un o\u2019r pedwar categori llywodraethu sydd wedi\u2019u pennu gan S\u00f8rensen a Torfing. Gwnaeth hynny mewn ffyrdd nad oedden nhw wedi\u2019u disgrifio yn y deunydd cyfredol, fodd bynnag, yn arbennig tuedd swyddogion cymharol is i ysgwyddo r\u00f4l llywodraethwr a chyfranogwr. Yng Nghymru, roedd y \u2018cadwyni\u2019 a gysylltai\u2019r llunio polis\u00efau \u00e2\u2019r gweithredu yn eithaf byr, a dim ond ychydig o gylchoedd ac unigolion oedd yn ymwneud \u00e2\u2019r prosesau hynny. O ganlyniad, roedd sawl cylch ac unigolyn yn ymwneud \u00e2\u2019r llunio a\u2019r gweithredu fel ei gilydd - yn y llywodraeth yn ogystal \u00e2\u2019r tu allan iddi.<\/p>\n<p>Byddai\u2019n ddefnyddiol edrych ar achosion eraill a llywodraethau is-genedlaethol eraill, fodd bynnag, i weld pa gasgliadau allai ddeillio o\u2019r astudio. Yn y cyfamser, mae\u2019n hymchwil yn awgrymu y gall ehangder a sefyllfa llywodraeth effeithio ar ei ffordd o reoli rhwydweithiau \u2013 ac ar y rhai sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rheoli.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sut y gall llywodraethau is-genedlaethol, bychan eu tiriogaethau, wneud y gorau o\u2019u sefyllfa? Mae llywodraethau is-genedlaethol megis y rhai datganoledig yn y deyrnas hon yn cyfuno nifer o gyfleoedd a chyfyngiadau\u2019r llywodraethau lleol a gwladol maen nhw rhyngddynt. Mae gyda nhw rai cyfrifoldebau ac adnoddau gwladol eu math megis awdurdod deddfwriaethol a phwerau ariannu, er [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9442,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[141],"research-and-impact":[133],"class_list":["post-15125","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-llywodraeth-leol","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Networks-smaller-6.jpg","filesize":402888,"sizes":{"medium":{"file":"Networks-smaller-6-744x517.jpg","width":744,"height":517,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33530,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-744x517.jpg"},"large":{"file":"Networks-smaller-6-1200x834.jpg","width":1200,"height":834,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":71455,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-1200x834.jpg"},"thumbnail":{"file":"Networks-smaller-6-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29251,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Networks-smaller-6-768x534.jpg","width":768,"height":534,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35310,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-768x534.jpg"},"1536x1536":{"file":"Networks-smaller-6-1536x1067.jpg","width":1536,"height":1067,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":112512,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-1536x1067.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Networks-smaller-6-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":149641,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15123","name":"Networks-smaller-6.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6.jpg","title":"Networks-smaller-6.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Networks-smaller-6-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15125","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15125"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15125\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16451,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15125\/revisions\/16451"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9442"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15125"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15125"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15125"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15125"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}