{"id":15117,"date":"2020-02-05T09:26:36","date_gmt":"2020-02-05T09:26:36","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pwysigrwydd-ymgysylltu-sicrhau-bod-gan-y-cyhoedd-lais-yn-nyfodol-iechyd-a-gofal-cymdeithasol-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:39","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:39","slug":"pwysigrwydd-ymgysylltu-sicrhau-bod-gan-y-cyhoedd-lais-yn-nyfodol-iechyd-a-gofal-cymdeithasol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pwysigrwydd-ymgysylltu-sicrhau-bod-gan-y-cyhoedd-lais-yn-nyfodol-iechyd-a-gofal-cymdeithasol-cymru\/","title":{"rendered":"Pwysigrwydd ymgysylltu: sicrhau bod gan y cyhoedd lais yn nyfodol iechyd a gofal cymdeithasol Cymru"},"content":{"rendered":"<p><em>Mae\u2019r blog hwn yn tynnu ar adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) <\/em><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/ymgysylltu-ar-cyhoedd-a-cymru-iachach\/\"><strong><em>Ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd a \u2018Cymru Iachach\u2019<\/em><\/strong><\/a> <em>a ysgrifennwyd ar y cyd gan Paul Worthington, Sarah Quarmby a Dan Bristow o\u2019r Ganolfan. Mae\u2019r adroddiad yn ystyried sut y gellir troi\u2019r ymrwymiadau i gynnwys y cyhoedd yng nghynllun Cymru Iachach yn rhaglen o weithgareddau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth.<\/em><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2019-10\/a-healthier-wales-action-plan.pdf\"><em>Cymru Iachach<\/em><\/a> yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hollol newydd, sy\u2019n canolbwyntio ar symud tuag at fodelau gofal yn y gymuned, a dull mwy ataliol.<\/p>\n<p>Yn rhan o hyn ceir y syniad y dylai \u2018ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd\u2019 fod yn ganolog i system y dyfodol ac i\u2019r broses o gyrraedd y system honno.<\/p>\n<p>Nid yw hyn yn syndod. Ceir cymorth eang ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/how-can-governments-engage-with-the-public-about-healthcare\/\">mwy o ymgysylltu<\/a>, mewn trafodaethau am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal ag ar draws ystod o feysydd polisi.<\/p>\n<p>Dadleuir bod cynnwys y cyhoedd yn dda \u2013 does bosib na ddylai\u2019r rhai hynny y mae penderfyniadau\u2019n effeithio arnynt gael dweud eu dweud?<\/p>\n<p>Yn fwy na hyn, serch hynny, y gobaith yw y bydd ymgysylltu yn arwain at well dyluniad o ran polisi a gwasanaeth a chanlyniadau gwell: mae'r rhai a fyddai'n profi canlyniadau penderfyniadau mewn sefyllfa dda i helpu i asesu eu heffaith bosibl.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth yw ymgysylltu?<\/strong><\/p>\n<p>Rhan o\u2019r her wrth geisio gwireddu\u2019r buddion hyn yw bod y term \u2018ymgysylltu\u2019 yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pethau gwahanol iawn; gan amrywio o roi gwybodaeth, i bobl yn cael y p\u0175er i wneud penderfyniad penodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ymdrech i gynnwys y cyhoedd yn y broses gwneud penderfyniadau mewn rhyw ffordd yn gyffredin ymysg y rhain.<\/p>\n<p>Ond mae\u2019r diffyg eglurder o ran ystyr \u2018ymgysylltu,\u2019 a\u2019r hyn ddylai ei gynnwys, yn arwain at ganolbwyntio ar y <em>broses<\/em> ar draul cael trafodaeth ynghylch y <em>diben.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Ymgysylltu \u2018da\u2019 yn erbyn ymgysylltu \u2018gwael\u2019<\/strong><\/p>\n<p>Yn rhy aml, mae ymdrechion i ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd yn dechrau drwy geisio diffinio\u2019r broses ei hun: a ddylai fod yn ymgynghoriad ar-lein, yn wasanaeth i ddinasyddion, yn sgwrs ar Twitter, neu bob un o\u2019r uchod?<\/p>\n<p>Y broblem gyda hyn yw ei fod yn anghofio am y cam hollbwysig o ddisgrifio pam y gofynnir i\u2019r cyhoedd gymryd rhan. Beth y gofynnir iddynt ei wneud? A pha effaith fydd eu cyfraniad yn ei chael ar y broses gwneud penderfyniadau?<\/p>\n<p>Yr eglurder hwn dros ddiben ymgysylltu yw un o\u2019r prif ffactorau dros ymdrechion fwy a llai llwyddiannus.<\/p>\n<p>Os mai\u2019r man cychwyn yw \u2018sut y byddwn yn ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd?\u2019, y perygl yw y bydd ymdeimlad bod ymgysylltu\u2019n fwy ac yn ddyfnach yn \u2018well\u2019 yn dylanwadu ar y dewis: a bod prosesau sy\u2019n rhoi llai o r\u00f4l i\u2019r cyhoedd rywsut yn \u2018waeth\u2019.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, mae tystiolaeth yn dangos bod unrhyw gynnig o ymgysylltu\u2019n debygol o fod yn aflwyddiannus oni bai bod y cynnig yn ddilys \u2013 nid yw\u2019r cyhoedd yn ymateb yn dda i ddulliau ymgysylltu symbolaidd.<\/p>\n<p>Dyma pam mae\u2019n bwysig bod yn glir ac yn dryloyw am r\u00f4l y cyhoedd, ac yn agored o ran sut y bydd eu safbwyntiau\u2019n dylanwadu ar yr hyn sy\u2019n digwydd. Os oes penderfyniad eisoes wedi\u2019i wneud, peidiwch \u00e2 honni fel arall.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Ymgysylltu a \u2018Cymru Iachach\u2019<\/strong><\/p>\n<p>Beth yw ystyr hyn oll ar gyfer y rhaglen drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol?<\/p>\n<p>Mae<em> Cymru Iachach <\/em>yn gwneud cyswllt rhwng ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd ag ystod o faterion a chanlyniadau gwahanol, gan gynnwys \u2013 gofal sy\u2019n canolbwyntio ar y claf, ymddygiadau iach, dylunio gwasanaeth, ad-drefnu gwasanaeth, a newid y berthynas rhwng y cyhoedd a'r system iechyd a gofal.<\/p>\n<p>Yn ei hadroddiad, rydym yn edrych ar y dystiolaeth am r\u00f4l a natur ymgysylltu er mwyn cyflawni pob un o\u2019r rhain. Rydym hefyd yn crynhoi\u2019r wybodaeth a gawsom o\u2019n sgyrsiau gyda rhanddeiliaid am y sylfaen dystiolaeth hon.<\/p>\n<p>Yr hyn sy\u2019n dod i\u2019r amlwg yn eithaf cryf o hyn i gyd yw bod angen gwell dealltwriaeth ac eglurder ar bawb ynghylch diben unrhyw raglen ymgysylltu, y tu hwnt i ymrwymiadau<em> Cymru Iachach.<\/em><\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, nid yw ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd yn ganolog i gyflawni\u2019r rhaglen drawsnewid yn y ffordd a ragwelwyd yng nghynllun <em>Cymru Iachach, <\/em>ac oherwydd bod y cyfrifoldeb amdano wedi\u2019i rhannu rhwng cyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, nid yw\u2019n glir pwy ddylai fod yn gwneud beth.<\/p>\n<p>Dylid rhoi mwy o bwyslais ar sut y gall y cyhoedd lywio\u2019r gwaith o ddatblygu modelau gofal newydd, a sut y caiff gwasanaethau eu trefnu yn y dyfodol. Ond byddai hyn yn gofyn am benderfyniadau gweithredol i roi\u2019r systemau goruchwylio, cydlynu a\u2019r adnoddau ar waith er mwyn gwireddu hynny.<\/p>\n<p>Mae hefyd lle ar gyfer ymarfer ymgysylltu cenedlaethol, megis gwasanaeth i ddinasyddion, ynghylch problem allweddol y mae\u2019r system iechyd a gofal yn ei hwynebu. Yn wir, mae <em>Cymru Iachach,<\/em> yn awgrymu cynnwys y cyhoedd er mwyn penderfynu\u2019r hyn i\u2019w wneud ynghylch cyllid gofal cymdeithasol. Byddai hyn yn dangos arweiniad ar ymgysylltu \u00e2'r cyhoedd, ac yn arwydd o'r newid yn y berthynas rhwng y cyhoedd a'r sector.<\/p>\n<p>Mae gan y dyhead am ymgysylltu \u00e2'r cyhoedd yn fwy sail gadarn yn y dystiolaeth, a chefnogaeth eang gan y sector. Yr her yw cyfuno\u2019r ddau i ddiffinio, a chyflawni, r\u00f4l gydlynol ac ystyrlon ar gyfer y cyhoedd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r blog hwn yn tynnu ar adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) Ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd a \u2018Cymru Iachach\u2019 a ysgrifennwyd ar y cyd gan Paul Worthington, Sarah Quarmby a Dan Bristow o\u2019r Ganolfan. Mae\u2019r adroddiad yn ystyried sut y gellir troi\u2019r ymrwymiadau i gynnwys y cyhoedd yng nghynllun Cymru Iachach yn rhaglen o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13792,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135,143],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15117","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-profiad-bywyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"generations-cropped.jpg","filesize":442158,"sizes":{"medium":{"file":"generations-cropped-744x301.jpg","width":744,"height":301,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57716,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped-744x301.jpg"},"large":{"file":"generations-cropped-1200x486.jpg","width":1200,"height":486,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":123339,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped-1200x486.jpg"},"thumbnail":{"file":"generations-cropped-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":72709,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"generations-cropped-768x311.jpg","width":768,"height":311,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60712,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped-768x311.jpg"},"1536x1536":{"file":"generations-cropped-1536x622.jpg","width":1536,"height":622,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":182557,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped-1536x622.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"generations-cropped-1920x806.jpg","width":1920,"height":806,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":301773,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped-1920x806.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9628","name":"generations-cropped.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/generations-cropped.jpg","title":"generations-cropped.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15117","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15117"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15117\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16447,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15117\/revisions\/16447"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13792"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15117"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15117"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15117"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15117"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}