{"id":15114,"date":"2019-12-17T11:17:09","date_gmt":"2019-12-17T11:17:09","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/2019-adolygiad\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:39","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:39","slug":"2019-adolygiad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/2019-adolygiad\/","title":{"rendered":"2019 - Adolygiad"},"content":{"rendered":"<p>Wrth i flwyddyn gythryblus arall dynnu tua'i therfyn, rydym ni wedi bod yn edrych yn \u00f4l ar rai o gyflawniadau allweddol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2019.\u00a0 Rydym ni'n byw mewn cyfnod diddorol dros ben, ond mae ansicrwydd gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf wedi'i gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn gallu darparu tystiolaeth awdurdodol, annibynnol i lunwyr polis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar yr heriau mwyaf cymhleth sy\u2019n eu hwynebu: sut i fodloni'r galw cynyddol am ofal iechyd a chymdeithasol, sut i ymateb i argyfwng newid yn yr hinsawdd, a sut i hybu ffyniant economaidd a thegwch - i enwi tri yn unig.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ddwy flynedd ers i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gael cais i fabwysiadu mandad ehangach a gweithio gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal \u00e2 gweinidogion Llywodraeth Cymru.\u00a0 Dros y cyfnod hwnnw, rydym ni wedi cyhoeddi dros 40 o adroddiadau gan weithio gyda thros 100 o arbenigwyr ar draws y DU, ac mor bell \u00e2 Canada a Sweden.<\/p>\n<p>Mae adroddiadau diweddar wedi cynnwys gwaith ar: <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/at-the-tipping-point-welsh-local-government-and-austerity\/\">Llywodraeth Leol Cymru a chyni<\/a>; <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/supporting-improvements-in-health-boards\/\">cefnogi gwelliannau yn y byrddau iechyd<\/a>; a'r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/migration-in-wales\/\">effaith y gallai Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fewnfudo ei gael ar Economi Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym ni wedi gweithio gyda Chwarae Teg ar yr <a href=\"https:\/\/chwaraeteg.com\/projects\/gender-equality-review\/#phase-two\">Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd<\/a> a gomisiynwyd gan Weinidogion, yn cynhyrchu adroddiadau ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/tackling-inequality-through-gender-budgeting\/\">ymdrin ag anghydraddoldeb drwy gyllidebu rhywedd<\/a>, a'r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/nordic-gender-equality\/\">gwersi i'w dysgu gan y cenhedloedd Norwyaidd<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym ni wedi dadansoddi pam fod cynghorau Cymru'n <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/analysis-of-the-factors-contributing-to-the-high-rates-of-care-in-wales\/\">gosod nifer cynyddol o blant mewn gofal<\/a>, edrych ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/achieving-a-prosperous-economy-insights-from-other-nations-and-regions\/\">beth gall Cymru ei ddysgu gan ranbarthau twf uchel ar draws Ewrop<\/a>, ac ystyried sut i fesur <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/the-value-of-trade-unions-in-wales\/\">gwerth undebau llafur<\/a> i'w haelodau ac i gyflogwyr.<\/p>\n<p>Rydym ni wedi cyhoeddi 30 blog, gyda phynciau'n amrywio o'r angen am '<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/pam-trawsnewid-cyfiawn-datgarboneiddio-a-chyfiawnder-economaidd\/\">drawsnewid cyfiawn<\/a>' i gymdeithas net-sero carbon, i ymdrin \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/what-does-the-evidence-say-about-loneliness-in-wales\/\">phroblem unigrwydd<\/a>, i holi a yw <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/the-preston-model-a-panacea-for-wales\/\">Model Preston <\/a>yn cynnig sail ar gyfer diwygio caffael yng Nghymru i adolygiad o gyfraddau <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/male-suicide-a-silent-epidemic\/\">hunanladdiad dynion<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym ni wedi cynnull cyfres o <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/increasing-the-impact-of-the-what-works-network-across-the-uk\/\">Gynadleddau Beth sy'n Gweithio<\/a> i ddod \u00e2'r dystiolaeth a gr\u00ebwyd gan Ganolfannau Beth sy'n Gweithio eraill i Gymru a'r cenhedloedd datganoledig eraill, ac rydym ni wedi cynnal digwyddiadau pwysig yng Nghymru ac yn Llundain gan gynnwys: cynhadledd gyda Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/welsh-policy-and-politics-in-unprecedented-times\/\">bolisi a gwleidyddiaeth mewn cyfnod digynsail<\/a>; seminar gyda Pharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/mobilising-meaningful-connections-between-evidence-and-practice\/\">fanteision ac arfer gorau symudedd gwybodaeth<\/a>, gyda'r Athro Jonathan Sharples o\u2019r Sefydliad Gwaddol Addysg yn cyflwyno'r prif anerchiad, a <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/5-things-we-learned-about-procurement\/\">chynhadledd rhwng gweithwyr caffael proffesiynol <\/a>ac arbenigwyr yn cynnwys Liz Lucas o Gyngor Caerffili a\u00a0 Steve Robinson o Gyngor Caerdydd ar yr heriau ymarferol sy'n wynebu gweithwyr caffael a'r camau ymarferol i ymdrin \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Yn yr haf fe lansion ni ein podlediad newydd <a href=\"https:\/\/anchor.fm\/wcpp\">PEP Talk<\/a>, sy'n cynnwys gorolwg difyr yn cynnig blas ar <a href=\"https:\/\/anchor.fm\/wcpp\/episodes\/Episode-1-Youth-Homelessness-e4n8si\">ddigartrefedd pobl ifanc<\/a>, <a href=\"https:\/\/anchor.fm\/wcpp\/episodes\/Episode-2-Council-Tax-and-Vulnerable-Debtors-e5do66\">y dreth gyngor a dyledwyr agored i niwed<\/a>, a <a href=\"https:\/\/anchor.fm\/wcpp\/episodes\/Episode-3-Gender-Equality-e7upcr\">chydraddoldeb rhywedd<\/a>. Gwrandewch am ein rhifyn diweddaraf ar undebau llafur yn y flwyddyn newydd.<\/p>\n<p>Roeddem ni wrth ein bodd yn cael ein gosod yn y <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/news-and-media\/news-article\/wales-centre-for-public-policy-acclaimed-for-outstanding-impact-on-policy-in-wales\/\">rownd derfynol ar gyfer Effaith Eithriadol<\/a> ar Bolisi Cyhoeddus yng Ngwobrau clodfawr Dathlu Effaith yr ESRC.\u00a0 Roedd hwn yn ymdrech t\u00eem gwirioneddol a hoffwn ddiolch i'n cyllidwyr, yr arbenigwyr oedd yn bartneriaid i ni, gweinidogion, swyddogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gweithio gyda ni, a fy holl gydweithwyr yn nh\u00eem WCPP am wneud 2019 yn llwyddiant.<\/p>\n<p>Ar ran y Ganolfan dymunwn Nadolig heddychlon a Blwyddyn Newydd dda iawn i chi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i flwyddyn gythryblus arall dynnu tua'i therfyn, rydym ni wedi bod yn edrych yn \u00f4l ar rai o gyflawniadau allweddol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2019.\u00a0 Rydym ni'n byw mewn cyfnod diddorol dros ben, ond mae ansicrwydd gwleidyddol y flwyddyn ddiwethaf wedi'i gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn gallu darparu tystiolaeth awdurdodol, annibynnol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15115,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150,18,12],"tags":[],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15114","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","category-taclo-anghydraddoldebau","category-yr-amgylchedd-a-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"2019-cover.jpg","filesize":27455,"sizes":{"medium":{"file":"2019-cover-744x336.jpg","width":744,"height":336,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":12083,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019-cover-744x336.jpg"},"large":{"file":"2019-cover-1200x543.jpg","width":1200,"height":543,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":23446,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019-cover-1200x543.jpg"},"thumbnail":{"file":"2019-cover-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":15318,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019-cover-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"2019-cover-768x347.jpg","width":768,"height":347,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":12842,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019-cover-768x347.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15113","name":"2019-cover.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019-cover.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019-cover-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019-cover.jpg","title":"2019-cover.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15114","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15114"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15114\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16446,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15114\/revisions\/16446"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15115"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15114"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15114"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15114"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15114"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}