{"id":15107,"date":"2019-12-05T09:10:42","date_gmt":"2019-12-05T09:10:42","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/5-peth-y-dysgom-ni-am-gaffael\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:38","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:38","slug":"5-peth-y-dysgom-ni-am-gaffael","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/5-peth-y-dysgom-ni-am-gaffael\/","title":{"rendered":"5 peth y dysgom ni am gaffael"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ystyried yr achos dros agwedd fwy strategol at gaffael cyhoeddus ers yn agos i ddwy flynedd. Ym mis Gorffennaf 2018 cynhaliom ni ddigwyddiad oedd yn ystyried y gwersi yn sgil <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/learning-the-lessons-from-carillion-thoughts-from-our-panel-discussion\/\">cwymp Carillion<\/a>. Yn gynharach eleni fe gyhoeddom ni adroddiadau ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/beyond-contracting-public-service-stewardship-to-maximise-public-value\/\">gontractio, stiwardiaeth a gwerth cyhoeddus<\/a> ac ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/sustainable-public-procurement\/\">gaffael cyhoeddus cynaliadwy.<\/a> Ym mis Chwefror 2019 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/we-need-to-talk-about-procurement\/\">cynhaliom ni ddigwyddiad <\/a>a ddaeth \u00e2 gweithwyr caffael proffesiynol, academyddion ac eraill at ei gilydd i drafod y cyfleoedd a\u2019r rhwystrau o ran agweddau at gaffael sy\u2019n ceisio cynyddu gwerth cyhoeddus.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar cynhaliom ni ddigwyddiad i ddod \u00e2 gweithwyr caffael proffesiynol a rhanddeiliaid sydd \u00e2 diddordeb at ei gilydd i drafod beth sydd wedi newid ers i gaffael ddod yn fwy blaenllaw yn y drafodaeth ar bolisi cyhoeddus, a beth sydd angen digwydd o hyd. Ein siaradwyr oedd Dr Jane Lynch, Liz Lucas, Steve Robinson a\u2019r Athro Kevin Morgan. Mae\u2019r blog hwn yn crynhoi pum peth a ddysgom ni.<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Dyw Cymru ddim yn gwneud yn rhy ddrwg<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Drwy fynd ati (yn ddigon rhesymol) i nodi problemau gyda chaffael a cheisio canolbwyntio ar welliannau, mae\u2019n hawdd swnio\u2019n wangalon. Ond mae\u2019r drafodaeth a\u2019r arfer yng Nghymru\u2019n fwy aeddfed nag ydyw mewn rhai cenhedloedd. Mewn datganiadau polisi a deddfwriaeth arall, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod yr egwyddorion gor-redol ar gyfer caffael cyhoeddus, sy\u2019n cynnwys cyflenwi budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i\u2019r gymuned.<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong>Mae angen parchu caffael fel proffesiwn<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Am nifer o wahanol resymau, ceir diffyg capasiti yn y proffesiwn caffael. Yn rhannol, y rheswm am hyn yw bod llymder mewn llywodraeth leol wedi dileu capasiti caffael. Ond mae hefyd yn ymwneud \u00e2 sut mae\u2019r proffesiwn yn cael ei weld. Dadleuodd y panelwyr fod caffael bob amser ar waelod y gadwyn fwyd: yn dipyn o \u2018ymrwymiad meddal\u2019. Ceir problem ddiwylliannol ynghylch y ffordd y caiff swyddi caffael eu hystyried a\u2019r gwerth a roddir arnynt mewn llywodraeth leol. Ydy penaethiaid caffael yn adrodd yn uniongyrchol i\u2019r prif weithredwyr? Neu ydyn nhw\u2019n adrodd i lefelau is o awdurdod, lle gallai caffael cael ei weld yn fwy fel ymarfer arbed costau yn hytrach na chreu gwerth cyhoeddus?<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong>Mae diffyg adnoddau a chapasiti yng Nghymru i gyflenwi\u2019n effeithiol, ac mae hyn yn effeithio ar gaffae<\/strong>l<\/li>\n<\/ol>\n<p>Ydy datganoli wedi rhoi\u2019r pwerau, y liferi a\u2019r capasiti i Gymru gyflawni dyheadau polisi? Y teimlad cyffredinol yn yr ystafell oedd \u2013 yng nghyd-destun caffael \u2013 nad oedd wedi gwneud hynny. Mae Cymru wedi pasio deddfwriaeth dda, ond nid yw\u2019r adnodd a\u2019r cyfeiriad strategol yno. Mae angen gweld caffael yng nghyd-destun sut y gall gyflenwi polisi effeithiol o fewn y llywodraeth. Mae hyn yn arbennig o wir os yw\u2019n ddatrysiad i heriau polisi cyhoeddus mawr (fel hybu\u2019r economi sylfaenol a chyflenwi rhai o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol). Nid yw\u2019n ymwneud \u00e2 deddfu (yn unig), ond \u00e2 dilyn hynny \u2018ar lawr gwlad\u2019 i wneud yn si\u0175r fod y blaenoriaethau hyn yn cael eu gwreiddio.<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong>Mae\u2019n wirioneddol anodd gwreiddio arfer da<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Cafwyd trafodaeth gyfyngedig ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ond un her i gorff cenedlaethol yw\u2019r dybiaeth bod awdurdodau lleol yn meddwl ac yn gweithredu yn yr un ffordd; yn hytrach ceir 22 sefydliad gwahanol mewn ardaloedd gwahanol gyda phwysau a blaenoriaethau gwahanol.\u00a0 Fodd bynnag, mae ailgynllunio\u2019r olwyn caffael 22 o weithiau\u2019n feichus ac yn ddiangen. Mae lle i wneud llawer yn well gyda chydweithio rhwng awdurdodau lleol, a rhannu a datblygu arfer da ar draws y sector, yn ogystal \u00e2 gyda chyrff sector cyhoeddus eraill.<\/p>\n<p>Bydd rhanddeiliaid cenedlaethol yn bwysig i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae r\u00f4l gan Lywodraeth Cymru. Mae r\u00f4l gan gyrff cyhoeddus fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau\u2019r Dyfodol. Gallai fod angen i wasanaethau cyhoeddus greu a gwreiddio ecosystem caffael sy\u2019n gallu rhannu arfer da a chydweithio.<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong>Sut gallwn ni annog arloesedd?<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Cafwyd cytundeb bod arloesi o ran caffael yn cael ei lesteirio, a bod bwlch o hyd rhwng deddfwriaeth a chyflawni. Beth sy\u2019n ein rhwystro ni a sut gallwn ni oresgyn y rhwystrau?<\/p>\n<p>Thema gyson drwy\u2019r digwyddiad oedd yr angen i annog capasiti caffael. Gallai hynny olygu egluro r\u00f4l y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn y tymor byr, ac yn y tymor hir gallai olygu trawsnewid y diwylliant i alluogi cydweithio, a chynyddu cydnabyddiaeth o\u2019r sector er mwyn iddo fod yn adnodd \u00e2 gwerth amlwg ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.<\/p>\n<p>Gellir darllen ein holl waith ar gaffael <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/project\/sustainable-public-procurement\/\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ystyried yr achos dros agwedd fwy strategol at gaffael cyhoeddus ers yn agos i ddwy flynedd. Ym mis Gorffennaf 2018 cynhaliom ni ddigwyddiad oedd yn ystyried y gwersi yn sgil cwymp Carillion. Yn gynharach eleni fe gyhoeddom ni adroddiadau ar gontractio, stiwardiaeth a gwerth cyhoeddus ac ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15106,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[140],"research-and-impact":[133],"class_list":["post-15107","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-economi","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"procurement-booklets.jpg","filesize":807449,"sizes":{"medium":{"file":"procurement-booklets-744x426.jpg","width":744,"height":426,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51347,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-744x426.jpg"},"large":{"file":"procurement-booklets-1200x686.jpg","width":1200,"height":686,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":112878,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-1200x686.jpg"},"thumbnail":{"file":"procurement-booklets-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50411,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"procurement-booklets-768x439.jpg","width":768,"height":439,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53496,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-768x439.jpg"},"1536x1536":{"file":"procurement-booklets-1536x879.jpg","width":1536,"height":879,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":173275,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-1536x879.jpg"},"2048x2048":{"file":"procurement-booklets-2048x1171.jpg","width":2048,"height":1171,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":292174,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-2048x1171.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"procurement-booklets-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":254051,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15106","name":"procurement-booklets.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets.jpg","title":"procurement-booklets.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/procurement-booklets-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15107","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15107"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15107\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16444,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15107\/revisions\/16444"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15106"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15107"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15107"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15107"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15107"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}