{"id":15103,"date":"2019-11-29T09:34:10","date_gmt":"2019-11-29T09:34:10","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/hyrwyddo-cysylltiadau-ystyrlon-rhwng-tystiolaeth-ac-ymarfer\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:37","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:37","slug":"hyrwyddo-cysylltiadau-ystyrlon-rhwng-tystiolaeth-ac-ymarfer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/hyrwyddo-cysylltiadau-ystyrlon-rhwng-tystiolaeth-ac-ymarfer\/","title":{"rendered":"Hyrwyddo Cysylltiadau Ystyrlon rhwng Tystiolaeth ac Ymarfer"},"content":{"rendered":"<p>Yng <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/\">Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCCP)<\/a> rydym ni\u2019n barhaus yn adfyfyrio ar ein r\u00f4l fel \u2018corff brocera gwybodaeth\u2019. Rydym ni\u2019n gweld \u2018brocera gwybodaeth\u2019 fel cysylltu ymchwilwyr \u00e2 phenderfynwyr er mwyn helpu i lywio polis\u00efau cyhoeddus ac arferion proffesiynol. Er bod potensial mawr gan frocera gwybodaeth, rydym ni hefyd yn cydnabod y cymhlethdod sy\u2019n rhan annatod o\u2019n gwaith.<\/p>\n<p>Er mwyn archwilio rhai o\u2019r cymhlethdodau hyn, yn ddiweddar fe gynhaliom ni ddigwyddiad ochr yn ochr \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/social-science-research-park\">SPARK (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd)<\/a>, gan ddod \u00e2 brocerwyr gwybodaeth ac aelodau eraill o\u2019r gymuned polisi yng Nghymru at ei gilydd i rannu dysgu ac ymarfer gorau.<\/p>\n<p>Cynigiodd yr Athro Jonathan Sharples o\u2019r <a href=\"https:\/\/educationendowmentfoundation.org.uk\/\">Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF)<\/a> a Dr Rhiannon Evans o\u2019r<a href=\"http:\/\/decipher.uk.net\/\"> Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) <\/a>safbwyntiau o feysydd addysg ac iechyd cyhoeddus yn eu tro.\u00a0 O <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/researching-the-use-of-evidence-in-policy-making\/\">d\u00eem ymchwil<\/a> WCPP cynigiodd Dr Eleanor MacKillop gipolwg ar ein gwaith ar ddeall y r\u00f4l mae tystiolaeth yn ei chwarae wrth lunio polis\u00efau.<\/p>\n<p>Er bod y drafodaeth yn eang, bydd y blog hwn yn canolbwyntio ar adfyfyrio ar natur tystiolaeth a gwleidyddiaeth defnyddio tystiolaeth.<\/p>\n<p>Thema allweddol yn y drafodaeth oedd gwerth dulliau cymysg ac ymchwil ansoddol ym maes brocera gwybodaeth, y cyfeirir ato hefyd fel symudedd gwybodaeth. Bu panelwyr yn gwerthuso\u2019r defnydd o hierarchaethau tystiolaeth sy\u2019n breintio ymchwil ansoddol (yn benodol hap-dreialon wedi\u2019u rheoli) yn lle canolbwyntio ar y ffit rhwng y cwestiwn a\u2019r dulliau ymchwil. Er enghraifft ar gyfer <a href=\"https:\/\/educationendowmentfoundation.org.uk\/public\/files\/Campaigns\/TA_scale_up_lessons_learned.pdf\">gwerthuso<\/a> gwaith EEF gydag awdurdodau lleol i wella\u2019r defnydd o Gynorthwywyr Addysgu roedd angen ymagwedd dulliau cymysg i gwmpasu elfennau allweddol brocera ar lefel ranbarthol. Caniataodd yr ymagwedd hon i EEF grynhoi dysgu am y perthnasoedd a\u2019r rhwydweithiau oedd yn hanfodol i gyflawni effaith.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, mae WCPP yn cynnal ymagwedd eang a beirniadol wrth bennu beth sydd ac nad sy\u2019n \u2018dystiolaeth\u2019, gan dynnu ar ddata ansoddol a meintiol cadarn heb freintio dulliau penodol. Wrth symud ymlaen, bydd WCPP yn cynnal ymchwil i ddeall beth mae \u2018tystiolaeth\u2019 yn ei olygu i wahanol randdeiliaid yn y broses polisi yng Nghymru ac yn ystyried sut y gallai hynny effeithio ar ein gwaith.<\/p>\n<p>Thema arall a drafodwyd oedd \u2018cyd-gynhyrchu\u2019 tystiolaeth rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr. Er bod cyd-gynhyrchu wedi\u2019i gydnabod gan y panelwyr fel elfen hanfodol mewn brocera gwybodaeth, fe\u2019i cydnabuwyd fel cysyniad llithrig gydag amrywiaeth o ystyron posibl. Yng nghyd-destun gwaith EEF gydag ysgolion, gellid defnyddio\u2019r term \u2018cyd-gynhyrchu\u2019 ar gyfer llawer o wahanol weithgareddau, yn amrywio o gymryd rhan mewn hap-dreialon wedi\u2019u rheoli i gyd-gynllunio <a href=\"https:\/\/educationendowmentfoundation.org.uk\/public\/files\/Publications\/Teaching_Assistants\/TA_Guidance_Report_MakingBestUseOfTeachingAssistants-Printable.pdf\">canllawiau ar y defnydd gorau o Gynorthwywyr Addysgu.<\/a><\/p>\n<p>Gallai ymagweddau sydd wedi\u2019u seilio mewn cyd-gynhyrchu helpu i \u2018bontio\u2019r bwlch\u2019 rhwng gwahanol gredoau ynghylch tystiolaeth, gan ganiat\u00e1u dialog rhwng cynhyrchwyr tystiolaeth a\u2019i defnyddwyr yn y pen draw. Fodd bynnag, nid yw defnydd o gyd-gynhyrchu yn rhydd o\u2019i gymhlethdodau ei hun. Fel yr amlygodd Dr MacKillop, mae\u2019n bwysig i ymchwilwyr a broceriaid gwybodaeth archwilio\u2019r cysyniad o gyd-gynhyrchu\u2019n feirniadol, yn enwedig ei allu i eithrio yn ogystal \u00e2 chynnwys amrywiol leisiau. Mae ymarfer cyd-gynhyrchu yn anochel yn wleidyddol ac fel broceriaid gwybodaeth mae angen i ni herio anghydraddoldebau o ran pwy sy\u2019n cael penderfynu beth sy\u2019n dystiolaeth ddefnyddiol a beth nad yw\u2019n ddefnyddiol.<\/p>\n<p>Yn gyffredinol, roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i symud y sgwrs am frocera gwybodaeth yn ei blaen - gallwch gael blas o\u2019r sgwrs fywiog a gawsom yn yr ystafell ac ar-lein drwy ein <a href=\"https:\/\/twitter.com\/i\/moments\/1197816754266918913\">moment Twitter.<\/a> Edrychwn ymlaen at barhau \u00e2\u2019r drafodaeth gyda phawb sy\u2019n gweithio yn y rhyngwyneb tystiolaeth a pholisi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCCP) rydym ni\u2019n barhaus yn adfyfyrio ar ein r\u00f4l fel \u2018corff brocera gwybodaeth\u2019. Rydym ni\u2019n gweld \u2018brocera gwybodaeth\u2019 fel cysylltu ymchwilwyr \u00e2 phenderfynwyr er mwyn helpu i lywio polis\u00efau cyhoeddus ac arferion proffesiynol. Er bod potensial mawr gan frocera gwybodaeth, rydym ni hefyd yn cydnabod y cymhlethdod sy\u2019n rhan annatod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14444,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,130],"class_list":["post-15103","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"idea-sharing-smaller-2.jpg","filesize":275331,"sizes":{"medium":{"file":"idea-sharing-smaller-2-744x397.jpg","width":744,"height":397,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51854,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-744x397.jpg"},"large":{"file":"idea-sharing-smaller-2-1200x641.jpg","width":1200,"height":641,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97318,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-1200x641.jpg"},"thumbnail":{"file":"idea-sharing-smaller-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54985,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"idea-sharing-smaller-2-768x410.jpg","width":768,"height":410,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54776,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-768x410.jpg"},"1536x1536":{"file":"idea-sharing-smaller-2-1536x820.jpg","width":1536,"height":820,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":134654,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-1536x820.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"idea-sharing-smaller-2-1920x1068.jpg","width":1920,"height":1068,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198865,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-1920x1068.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"13198","name":"idea-sharing-smaller-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2.jpg","title":"idea-sharing-smaller-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[{"file":[15104],"title_for_display":"Cyflwyniad Jonathan Sharples (Saesneg yn unig)"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15103","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15103"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15103\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16443,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15103\/revisions\/16443"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14444"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15103"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15103"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15103"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15103"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}