{"id":15100,"date":"2019-11-26T15:08:19","date_gmt":"2019-11-26T15:08:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-syn-gweithio-ar-gyfer-sicrhau-defnydd-o-dystiolaeth\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:36","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:36","slug":"beth-syn-gweithio-ar-gyfer-sicrhau-defnydd-o-dystiolaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-syn-gweithio-ar-gyfer-sicrhau-defnydd-o-dystiolaeth\/","title":{"rendered":"Beth sy\u2019n gweithio ar gyfer sicrhau defnydd o dystiolaeth?"},"content":{"rendered":"<p>Un o brif swyddogaethau EIF yw sicrhau bod tystiolaeth ar ymyrraeth gynnar yn cael ei defnyddio mewn polisi, penderfyniadau ac arferion. Mae Jo Casebourne a Donna Molloy yn crynhoi rhai o\u2019r dulliau amrywiol rydym wedi\u2019u defnyddio i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r her benodol hon, a\u2019n hymrwymiad i wneud gwelliannau parhaus o ran sut rydym yn gweithio pan mae\u2019r dystiolaeth yn symud \u2018y tu hwnt i gyhoeddi\u2019.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dydyn ni ddim yn gwybod digon am yr hyn sy\u2019n gweithio ar gyfer sicrhau defnydd o dystiolaeth<\/strong><\/p>\n<p>Rhan allweddol o fod yn ganolfan What Works yw pennu sut orau i gyfleu tystiolaeth a chefnogi cynulleidfaoedd gwahanol i ddefnyddio\u2019r dystiolaeth honno. Ond fel y noda\u2019r erthygl ddiweddar \u2018What Works now? Continuity and change in the use of evidence to improve public policy and service delivery\u2019, mae ugain mlynedd wedi pasio ers dechrau\u2019r symudiad What Works yn y DU ac nid ydym yn gwybod rhyw lawer o hyd am yr hyn sy\u2019n gweithio o ran sicrhau defnydd o dystiolaeth.<\/p>\n<p>Er bod arbrofi cynyddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf gan ganolfannau What Works a llawer o sefydliadau ymchwil eraill gyda ffyrdd gwahanol o adeiladu perthnasau rhwng cynhyrchwyr tystiolaeth a defnyddwyr, y realiti, fel y noda\u2019r erthygl, yw \u2018nad oes llawer o fentrau sy\u2019n defnyddio tystiolaeth wedi\u2019u dogfennu\u2019n dda, heb s\u00f4n am eu gwerthuso\u2019 (cyfieithiad). Mae rhai eithriadau nodedig fel treialon Octopus EEF, ond nid ydym yn dueddol o werthuso strategaethau gwahanol sy\u2019n defnyddio ymchwil. Y canlyniad yw ein bod i gyd yn gweithio gyda sail dystiolaeth eithaf cyfyngedig ar y defnydd o dystiolaeth ei hun. Mae hyn yn dechrau newid, ac mae cyhoeddiadau fel The Science of Using Science a What Works Now? Evidence-Informed Policy and Practice yn gam pwysig ymlaen.<\/p>\n<p>Ers i ni gael ein sefydlu fel canolfan What Works yn 2013, mae EIF wedi bod yn arbrofi gyda ffyrdd gwahanol o sicrhau defnydd o dystiolaeth. Ni fyddai\u2019r cyntaf i gyfaddef ein bod wedi bod yn gwneud hyn i raddau helaeth heb gyfeirio at y llenyddiaeth sy\u2019n bodoli ar ddefnydd o dystiolaeth. Rydym yn awyddus i bontio\u2019r bwlch rhwng sefydliadau sy\u2019n wynebu\u2019r ymarferydd, fel ein hun un, sy\u2019n arbrofi gyda ffyrdd o wneud hyn ond nad ydynt yn aml yn profi\u2019r hyn rydym yn ei wneud, a\u2019r academyddion sy\u2019n ceisio tyfu\u2019r ddisgyblaeth o ddefnyddio tystiolaeth neu \u2018symud gwybodaeth\u2019 (i roi ei label mwy academaidd iddi). Rydym eisiau bod yn rhan o symudiad cydlynol i ddeall y rhwystrau i ddefnyddio tystiolaeth yn well o fewn y system rydym yn gweithredu ynddi, ac i asesu\u2019r set amrywiol o ddulliau a ddyluniwyd i chwalu\u2019r rhwystrau hyn a hyrwyddo defnydd o dystiolaeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dull gweithredu EIF ar gyfer defnyddio tystiolaeth<\/strong><\/p>\n<p>Yn EIF, ein cenhadaeth yw sicrhau bod ymyrraeth gynnar effeithiol ar gael ac yn cael ei defnyddio i wella bywydau plant a phobl ifanc sy\u2019n wynebu risg o ganlyniadau gwael. Rydym yn gwneud hyn drwy ddadlau\u2019r achos dros ymyrraeth gynnar, drwy gynhyrchu a syntheseiddio tystiolaeth ac annog defnydd o dystiolaeth i newid polisi ac arfer, yn genedlaethol a lleol.<\/p>\n<p>Rydym bob amser wedi mynd y tu hwnt i ddim ond cyhoeddi tystiolaeth, ac rydym wedi bod yn arbrofi gyda mecanweithiau gwahanol i gyfleu a chefnogi ei defnydd ers 2013. Mae ein strategaeth newydd (2018-2023) yn rhoi hyd yn oed yn fwy o bwyslais ar roi cynnig ar ffyrdd gwahanol o ymgysylltu\u2019n rhagweithiol \u00e2\u2019n cynulleidfaoedd gyda\u2019r dystiolaeth rydym yn ei chynhyrchu, a\u2019u cefnogi i feddwl am y goblygiadau i wasanaethau lleol. Yn y blog hwn, rydym yn cyflwyno rhai enghreifftiau o\u2019r dulliau rydym wedi rhoi cynnig arnynt.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dod \u00e2 thystiolaeth yn fyw a\u2019i gwneud yn hygyrch<\/strong><\/p>\n<p>Weithiau mae pobl yn dweud bod \u2018y dystiolaeth yn siarad drosti ei hun\u2019, ond o\u2019n profiad ni nid yw hynny\u2019n wir o gwbl. Mae\u2019r dystiolaeth yn aml yn amhendant, ac felly gall fod yn anodd pennu goblygiadau \u2018beth am hynny?\u2019 i ymchwil. Rydym felly\u2019n treulio llawer o amser yn EIF (fel eraill) yn \u2018cyfieithu\u2019r dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys ystyried ystyr gwirioneddol canfyddiadau i gomisiynu lleol, datblygu gwasanaeth ac ymarfer, a throi hyn yn adnoddau a chanllawiau sy\u2019n uniongyrchol berthnasol i gyd-destunau darpariaeth leol penodol. Nid yw hyn bob amser yn bosibl: weithiau mae gormod o gwestiynau na all y dystiolaeth eu hateb (am nawr). Ymysg yr enghreifftiau EIF presennol o\u2019r adnoddau hyn mae adnoddau cynllunio, matricsau aeddfedrwydd, canllawiau comisiynwyr, briffiau, weminarau ac - yn fwy uchelgeisiol na\u2019r gweddill i gyd - dod \u00e2\u2019r adnoddau hyn ynghyd mewn hybiau ar-lein pwrpasol, lle gall ymarferwyr lleol ddod o hyd i amrywiaeth o wybodaeth am faes penodol o ymyrraeth gynnar, fel trawsnewid system blynyddoedd cynnar neu leihau gwrthdaro rhwng rhieni.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mynd \u00e2\u2019r dystiolaeth at ein cynulleidfaoedd<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n amlwg, os ydym am i bobl ddefnyddio\u2019r dystiolaeth, fod angen i ni ei rhoi yn eu dwylo. Mae mynd \u00e2\u2019r dystiolaeth allan i\u2019r byd ehangach yn hanfodol, drwy ddigwyddiadau, seminarau, gweithdai neu ddulliau eraill. Rydym wedi bod yn ceisio deall yr hyn y gellir ei gyflawni drwy\u2019r dulliau \u2018un ergyd\u2019 yma. Rydym yn gwybod bod disgwyl i bawb newid eu harferion ar \u00f4l digwyddiad untro yn afrealistig, ond mae\u2019n dal i fod yn bwysig i ni ddeall yr hyn y gallwn obeithio ei gyflawni fel hyn.<\/p>\n<p>Rydym wedi profi potensial hyn yn y gorffennol. Yn 2016 cyhoeddom adolygiad tystiolaeth mawr o 75 o ymyriadau gyda\u2019r nod o gefnogi rhyngweithiadau cadarnhaol rhwng y rhiant a\u2019r plentyn yn y blynyddoedd cynnar. Yna, i gefnogi\u2019r adroddiad, gwnaethom gyflwyno digwyddiadau o feintiau amrywiol, gan ymgysylltu \u00e2 thri chwarter o\u2019r awdurdodau lleol.<\/p>\n<p>Bu\u2019n bosibl i ni bennu effeithiolrwydd y digwyddiadau hyn drwy gyfres o arolygon dilynol (gweler adroddiad blynyddol 2017\/18 am ragor o fanylion ar y gwaith hwn). Dysgom, bedwar i chwe mis ar \u00f4l mynychu ein cynhadledd, fod 60% o gyfranogwyr wedi dweud eu bod wedi myfyrio llawer ar eu harferion, bod 15% wedi newid eu hymddygiad yn sylweddol a bod 55% wedi newid eu hymddygiad ychydig. Gofynnom yn benodol i\u2019n hunain a oedd mynegiant o fwriad i ddefnyddio\u2019r dystiolaeth yn syth ar \u00f4l digwyddiad dysgu yn trosi i mewn i weithgarwch yn y tymor hwy. Gan gydnabod cyfyngiadau data hunan-adrodd yn seiliedig ar ad-alw, codwyd ein calonnau o weld bod rhai cyfranogwyr wedi dweud bod hyn wedi digwydd. Bedwar i chwe mis ar \u00f4l ein digwyddiadau seminar tystiolaeth, dywedodd 65% o ymatebwyr eu bod wedi defnyddio tystiolaeth EIF yn y chwe mis diwethaf, roedd 93% wedi trafod arfer gorau gyda\u2019u cydweithwyr, ac roedd 90% wedi myfyrio ar eu harferion eu hunain.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Partneriaethau gyda chyrff sector a gweithlu<\/strong><\/p>\n<p>Weithiau, y ffordd orau o gael eich clywed yw cyfathrebu drwy a gyda\u2019r sefydliadau y mae ein cynulleidfaoedd eisoes yn gwrando arnynt. Er enghraifft, yn ein hymdrechion i gyrraedd cynghorwyr sy\u2019n aelodau arweiniol i blant, rydym wedi gweithio gyda\u2019r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) i adeiladu ein tystiolaeth i mewn i\u2019w rhaglen dysgu a datblygu broffesiynol ac i gynhyrchu adnoddau i gynghorwyr, fel pecyn adnoddau cymorth cynnar.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gweithio gyda lleoedd lleol a rhedeg rhwydweithiau<\/strong><\/p>\n<p>Rydym yn gweithio\u2019n uniongyrchol gyda lleoedd lleol ac yn hwyluso rhwydweithiau\u2019n rheolaidd, gan ddod \u00e2 phobl mewn rolau tebyg ynghyd i drafod defnyddio tystiolaeth yn eu gwaith. Ein henghraifft fwyaf uchelgeisiol hyd yma yw Academi Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar, sy\u2019n dod \u00e2 thimau o arweinwyr systemau lleol sy\u2019n gyfrifol am wasanaethau mamolaeth a\u2019r blynyddoedd cynnar ynghyd o bum ardal (Dudley, Barking a Dagenham, Norfolk, Westminster, Kensington a Chelsea a Sandwell) i ddefnyddio\u2019r dystiolaeth i archwilio dulliau gweithredu newydd, atgyfnerthu cynllunio lleol, cael mynediad i gymorth a her annibynnol, a buddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth. Rydym yn bwriadu gwerthuso effaith yr academi i gyfranogwyr a phrofi ymarferoldeb y model hwn fel sbardun i annog defnydd o dystiolaeth. Yn y gorffennol, rydym wedi rhedeg rhwydweithiau i arweinwyr yr heddlu sy\u2019n ymwneud ag ymyrraeth gynnar ac \u2018arloeswyr\u2019 mewn lleihau gwrthdaro rhwng rhieni.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Archwilio potensial gwyddoniaeth ymddygiadol<\/strong><\/p>\n<p>Rydym yn dechrau arbrofi gyda\u2019r defnydd o wyddoniaeth ymddygiadol i\u2019n helpu i feddwl am ffyrdd o annog defnydd o\u2019n tystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys dechrau gwaith i annog defnydd o dystiolaeth drwy archwilio agweddau ac ymddygiadau presennol cynulleidfaoedd penodol a defnyddio hyn i lywio gwaith dilynol. Er enghraifft, gwnaethom gyhoeddi canllaw yn ddiweddar i ysgolion cynradd ar ddysgu cymdeithasol ac emosiynol (SEL) yn seiliedig ar dystiolaeth, mewn partneriaeth \u00e2\u2019r Sefydliad Gwaddol Addysgol, ac rydym wedi bod yn cydweithio ar brosiect ategol i archwilio\u2019r rhwystrau y gallai ysgolion eu hwynebu wrth fabwysiadu ein hargymhellion. Mae ymchwil ansoddol, yn defnyddio\u2019r model newid ymddygiad COM-B a ddatblygwyd gan yr Athro Susan Michie, wedi ein helpu i arfarnu sut mae ysgolion yn ystyried gweithgarwch SEL a\u2019r rhwystrau canfyddedig i ddefnyddio tystiolaeth, ac i ddylunio cynllun symud gwybodaeth sy\u2019n ymateb yn weithredol i\u2019r canfyddiadau hyn.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwaith hwn wedi\u2019i gefnogi gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sydd \u00e2 diddordeb yn ein myfyrdodau cychwynnol ar werth y math hwn o broses i\u2019r rhwydwaith What Works. Mae\u2019r gwaith hwn ar gam cynnar i ni, ac ni fydd y cyllid presennol yn galluogi unrhyw werthusiad difrifol o\u2019r dulliau rydym yn eu defnyddio. Ond rydym eisoes yn gweld bod potensial go iawn i\u2019r fethodoleg. Mae wedi ein helpu i osgoi\u2019r trap o wneud rhagdybiaethau am yr hyn sy\u2019n atal ysgolion rhag ymgysylltu \u00e2\u2019r dystiolaeth SEL, a\u2019n galluogi i deilwra ein negeseuon cyfathrebu cychwynnol i ymateb yn uniongyrchol i rai o\u2019r rhwystrau a nodwyd.<\/p>\n<p>Er enghraifft, gallem yn hawdd fod wedi rhagdybio bod angen goresgyn rhwystr ysgogiad: bod angen i ni berswadio ysgolion fod SEL yn bwysig. Fodd bynnag, rhoddodd ein gwaith ansoddol ddealltwriaeth glir i ni o\u2019r manylion yma: bod ysgolion cynradd eisoes yn ystyried SEL yn rhywbeth pwysig iawn ac, yn hanfodol, yn rhywbeth y maent eisoes yn ei wneud, ac yn ei wneud yn dda. Mewn realiti, mae\u2019r neges y mae angen iddi daro tant yn ymwneud \u00e2 phwysigrwydd gweithrediad SEL o ansawdd uchel, a\u2019r angen i ysgolion ymgysylltu \u00e2\u2019r dystiolaeth. O ganlyniad, rydym nawr yn canolbwyntio ar allbynnau sy\u2019n nodi sut beth yw \u2018darparu SEL yn dda\u2019, yn hytrach na\u2019r rheini sy\u2019n esbonio \u2018pam mae SEL yn bwysig\u2019.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Ble nesaf i ddysgu beth sy\u2019n gweithio ar gyfer defnyddio tystiolaeth?<\/strong><\/p>\n<p>Dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu amrywiaeth o dulliau ar gyfer annog defnydd o dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar yn\u00a0 EIF, ond mae\u2019r dulliau hyn wedi\u2019u datblygu\u2019n \u2018fewnol\u2019 yn bennaf, heb ddefnyddio na chyfrannu at y llenyddiaeth sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r hyn sy\u2019n gweithio o ran defnyddio tystiolaeth. Yn aml, gall fod yn anodd dod o hyd i\u2019r adnoddau i fonitro a yw\u2019r dulliau rydym yn eu defnyddio yn gweithio o ran newid ymddygiad a sicrhau defnydd o dystiolaeth. Mae angen i hyn newid. Rydym yn ymrwymedig i fod yn fwy ystyriol yn ein defnydd o ddulliau defnyddio tystiolaeth ac i wneud mwy i ddysgu beth sy\u2019n gweithio orau o ran annog defnydd o dystiolaeth ymysg ein cynulleidfaoedd penodol.<\/p>\n<p>Rydym o ddifrif ynghylch sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio. Golyga hyn y bydd gweithio gyda chanolfannau What Works eraill ac academyddion sydd \u00e2 diddordeb yn y defnydd o dystiolaeth yn ffocws mawr i ni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, i sicrhau ein bod yn cyfrannu at theori ac arfer wrth gymryd y naid nesaf ymlaen.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Un o brif swyddogaethau EIF yw sicrhau bod tystiolaeth ar ymyrraeth gynnar yn cael ei defnyddio mewn polisi, penderfyniadau ac arferion. Mae Jo Casebourne a Donna Molloy yn crynhoi rhai o\u2019r dulliau amrywiol rydym wedi\u2019u defnyddio i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r her benodol hon, a\u2019n hymrwymiad i wneud gwelliannau parhaus o ran sut rydym yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15099,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,130],"class_list":["post-15100","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"EIF-LOGO.jpg","filesize":31420,"sizes":{"medium":{"file":"EIF-LOGO-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":17982,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EIF-LOGO-744x372.jpg"},"thumbnail":{"file":"EIF-LOGO-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":20806,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EIF-LOGO-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"EIF-LOGO-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":19804,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EIF-LOGO-768x384.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15099","name":"EIF-LOGO.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EIF-LOGO.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EIF-LOGO-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/EIF-LOGO.jpg","title":"EIF-LOGO.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15100","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15100"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15100\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16442,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15100\/revisions\/16442"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15099"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15100"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15100"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15100"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15100"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}