{"id":15094,"date":"2019-11-08T12:20:37","date_gmt":"2019-11-08T12:20:37","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/troi-allan-heb-fai-cadwr-ddysgl-yn-wastad\/"},"modified":"2026-01-14T15:06:30","modified_gmt":"2026-01-14T15:06:30","slug":"troi-allan-heb-fai-cadwr-ddysgl-yn-wastad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/troi-allan-heb-fai-cadwr-ddysgl-yn-wastad\/","title":{"rendered":"Troi allan heb fai cadw\u2019r ddysgl yn wastad"},"content":{"rendered":"<p>Ddylai landlordiaid fedru troi tenantiaid allan heb roi rheswm? Mae hwn yn gwestiwn sy\u2019n denu sylw cynyddol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, gall landlord dorri contract gyda thenant ar unrhyw bryd, cyhyd \u00e2\u2019i fod yn rhoi 2 fis o rybudd. Y ffordd arferol o gyfeirio at hyn yw \u2018troi allan heb fai\u2019 neu \u2018hysbysiad Adran 21\u2019 (ar \u00f4l y rhan berthnasol o\u2019r ddeddfwriaeth wreiddiol oedd yn caniat\u00e1u hyn).<\/p>\n<p>Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi labelu hyn fel arfer <a href=\"https:\/\/www.welshlabour.wales\/latest\/2019\/04\/13\/mark-drakefords-speech-to-welsh-labour-conference-2019\/\">sarhaus sy\u2019n diraddio<\/a>, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bwriad i ddilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban a dileu\u2019r opsiwn hwn o\u2019r llyfrau statud. Er bod grwpiau tenantiaid yn gyffredinol yn croesawu\u2019r symudiad hwn, mae landlordiaid yn llafar iawn eu gwrthwynebiad. Yn y blog hwn rydym ni\u2019n edrych ar y dadleuon sy\u2019n cael eu rhoi gerbron ac yn ystyried y dystiolaeth bresennol ynghylch troi allan heb fai.<\/p>\n<p>O dan Adran 21 o\u2019r Ddeddf Tai (1988) gall landlordiaid droi tenantiaid sydd \u00e2 thenantiaeth deiliadaeth fer a sicrhawyd dim ond trwy roi rhybudd iddynt bod rhaid iddynt adael. Does dim rhaid iddyn nhw roi rheswm am eu penderfyniad. Mae landlordiaid yn dadlau mai <a href=\"https:\/\/news.rla.org.uk\/rla-vice-chair-douglas-haig-comments-on-section-21-announcement-at-welsh-labour-party-conference\/\">Adran 21 yw asgwrn cefn sylfaenol y sector rhentu preifat<\/a>. Maen nhw\u2019n honni, pan fydd yr amgylchiadau\u2019n caniat\u00e1u hynny, ei fod yn hanfodol bod gan landlordiaid preifat system effeithiol sy\u2019n eu galluogi i adennill meddiant o\u2019u heiddo. Maen nhw\u2019n amlygu gwerth hyn ar gyfer amgylchiadau megis pan fydd gan denantiaid \u00f4l-ddyledion rhent, yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, neu os yw\u2019r landlord am werthu\u2019r eiddo neu symud i mewn iddo eu hunain. Yn arwyddocaol, maen nhw\u2019n cyfeirio at y ffaith bod y mecanweithiau amgen o dan y system bresennol yn rhy anodd, hir a drud. Yn arbennig, maen nhw\u2019n dadlau bod y ddarpariaeth \u2018Adran 8\u2019 amgen yn aml yn aneffeithiol. O dan Adran 8 mae gofyn bod landlordiaid yn gwneud cais i\u2019r Llysoedd i droi tenantiaid allan, a\u2019u bod yn arddangos rhesymau neu \u201csail\u201d benodol y mae angen darparu tystiolaeth briodol ohonynt. Bernir bod system y llysoedd ei hun hefyd yn rhy gymhleth, yn anodd cael mynediad iddi, a heb adnoddau digonol. Ar gyfartaledd mae\u2019n cymryd 5 mis i gais am adfeddiannu dderbyn sylw o dan Adran 8.<\/p>\n<p>Wedi\u2019i osod yn erbyn hyn mae\u2019r pryder bod y system bresennol yn gadael tenantiaid ar drugaredd penderfyniadau a gymerir gan eu landlord, fel bod ymdeimlad gwaelodol o ansicrwydd i denantiaid. Os bydd landlord yn penderfynu ei fod am droi tenant allan, fe all wneud hynny, a gallai tenantiaid gael eu troi allan am fawr ddim rheswm heblaw bod y landlord am gynyddu\u2019r rhent neu oherwydd bod tenantiaid yn \u2018bod yn anodd\u2019. Gall fod goblygiadau i\u2019r ansicrwydd hwn o <a href=\"https:\/\/whq.org.uk\/the-magazine\/issue\/115\/the-complex-relationship-between-housing-insecurity-and-mental-health\/\">safbwynt iechyd meddwl y tenant<\/a>, ac yn gallu gadael tenantiaid yn amharod i godi materion cynnal a chadw, rhag i hynny sbarduno\u2019r landlord i fynd ati i\u2019w <a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/about-us\/policy\/policy-research-topics\/citizens-advice-cymru-wales-policy-research\/preventing-retaliatory-evictions-in-wales\/\">troi allan er mwyn talu\u2019r pwyth yn \u00f4l<\/a>. Heb hawl i herio nac \u2018amddiffyn\u2019 y troi allan a chan wybod bod gorfodaeth i symud o fewn dau fis yn bosibl, gall tenantiaid deimlo fod ganddyn nhw ddim grym. Yn ogystal \u00e2 chostau gorfod symud i\u2019r tenant, mae\u2019r cyfnod dau fis o rybudd yn rhoi amser cyfyngedig yn unig i gael hyd i gartref newydd a pharatoi i symud ty, gan gyfyngu ar eu hopsiynau, yn arbennig mewn ardaloedd lle mae prinder eiddo preifat ar rent. I\u2019r rhai \u00e2 phlant oed ysgol, gall y symudiad olygu bod angen newid ysgolion, ac i\u2019r rhai sydd eisoes \u00e2 chyflyrau meddygol, gall olygu amharu ar y gofal a\u2019r gefnogaeth maen nhw\u2019n eu derbyn.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/increasing-minimum-notice-period-no-fault-eviction\">cynigion<\/a> Llywodraeth Cymru yn ceisio newid y cyfnod o rybudd sy\u2019n ofynnol, yn hytrach na newid yr arfer o droi allan heb fai yn llwyr. Mae hyn yn unol \u00e2 mesurau diwygio eraill diweddar i bolisi tai megis <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/anaw\/2014\/7\/contents\/enacted\">Deddf Tai (Cymru) 2014<\/a> a\u00a0<a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/anaw\/2016\/1\/contents\/enacted\">Deddf Rhentu Tai (Cymru) 2016<\/a>. O\u2019u cyfuno, mae hyn yn darparu system reoleiddio newydd ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod yn y sector rhentu preifat, yn ogystal \u00e2 disodli\u2019r drefn o ran tenantiaethau diogel ac wedi\u2019u sicrhau. Mewn ymateb i\u2019r pryderon sy\u2019n cael eu lleisio ar ran tenantiaid, mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynigion i newid y Ddeddf Rhentu Cartrefi er mwyn:<\/p>\n<ul>\n<li>Estyn y cyfnod byrraf o rybudd sy\u2019n ofynnol o dan rybudd adran 173 (sy\u2019n cyfateb i Adran 21 yng Nghymru, fel a geir yn Neddf 2016) o ddau fis tan chwe mis, ac yn<\/li>\n<li>Cyfyngu ar gyflwyno rhybudd o\u2019r fath tan chwe mis ar \u00f4l dyddiad cyflwyno\u2019r contract (yn hytrach na phedwar mis fel y nodir ar hyn o bryd yn y Ddeddf).<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddai hynny i bob pwrpas yn golygu bod tenantiaid, wrth gychwyn tenantiaeth newydd, yn cael y sicrwydd o fedru aros yn eu cartref am o leiaf 12 mis cyhyd ag nad yw\u2019r contract yn cael ei dorri. \u00a0Tra bod grwpiau fel Shelter Cymru yn croesawu\u2019r symudiad hwn yn gyffredinol, maen nhw\u2019n honni bod hyn yn <a href=\"https:\/\/sheltercymru.org.uk\/a-big-step-towards-long-term-security-for-wales-half-a-million-private-tenants\/\">dal heb fynd yn ddigon pell i ddarparu sicrwydd<\/a> tymor hir ar gyfer yr hanner miliwn o denantiaid preifat sydd yng Nghymru. \u00a0Mewn cyferbyniad, mae Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl (RLA) yn credu bod hwn yn \u201csymudiad gwarthus\u201d sydd yn ei hanfod yn cyflwyno contractau 12-mis yn ddiofyn, ac yn gadael landlordiaid yn ddirym yng nghyswllt tenantiaid trafferthus.<\/p>\n<p>Mae cydbwyso buddiannau landlordiaid a thenantiaid yn enwog o anodd, ac nid yw\u2019n cael ei gynorthwyo gan ddiffyg tystiolaeth wrthrychol yn y maes hwn. Nid yw cyfran y tenantiaid y mae troi allan heb fai yn effeithio arnynt yn hysbys, gan fod llawer o denantiaid yn gadael eu tenantiaeth heb wrthwynebu rhybudd Adran 21 (neu Adran 173). Yn yr un modd, nid yw\u2019n glir eto sut gallai newid neu ddileu\u2019r arfer hwn effeithio ar y sector rhentu preifat. \u00a0Yn yr Alban, lle dilewyd troi allan heb fai ym mis Rhagfyr 2017, mae\u2019n dal yn rhy gynnar i asesu effaith y newidiadau. \u00a0Mewn cyferbyniad \u00e2 Chymru, mae\u2019r Alban wedi dileu tenantiaethau cyfnod penodol i roi deiliadaeth heb derfyn i denantiaid. \u00a0Er mwyn troi tenantiaid allan, mae bellach yn ofynnol bod landlordiaid yn rhoi isafswm o 84 diwrnod o rybudd i denantiaid, ac mae\u2019n rhaid iddynt ddarbwyllo <a href=\"https:\/\/www.housingandpropertychamber.scot\/who-we-are\/chamber-and-tribunals\">Tribiwnlys Haen Gynt<\/a>af (rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban) bod un o 18 <a href=\"https:\/\/blog.openrent.co.uk\/scotland-axes-no-fault-evictions-new-tenancy-rules\/\">maen prawf posibl<\/a> ar gyfer troi allan yn cael ei fodloni. \u00a0Mae wyth o\u2019r rhain yn darparu sail ar gyfer troi allan gorfodol, tra bod y deg sy\u2019n weddill yn rhai dewisol, ac yn caniat\u00e1u i\u2019r Tribiwnlys benderfynu a oes sail ar gyfer troi allan neu beidio.<\/p>\n<p>Mae r\u00f4l y Llysoedd yn y broses hon yn amlygu maes lle mae gan Lywodraeth Cymru lai o reolaeth. Gan nad yw hwn yn b\u0175er a ddatganolwyd, arweinir diwygiadau i\u2019r gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Maent yn cydnabod bod y broses o geisio adfeddiannu trwy\u2019r Llysoedd yn gallu cymryd gormod o amser a\u2019u bod yn cyflwyno cynigion, megis systemau ar-lein, i leihau amserau achosion ar gyfartaledd. Yn ymarferol, fodd bynnag, mae\u2019n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu oddi mewn i ddull gweithredu barnwrol ehangach sy\u2019n cwmpasu Cymru a Lloegr, o bosibl yn cyfyngu ar y cyfleoedd ar gyfer diwygiadau pellgyrhaeddol eraill, fel y cyflwynwyd yn yr Alban.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, mae\u2019r ymgynghoriad yn darparu cyfle i\u2019r ddwy ochr gyflwyno\u2019u hachos, a\u2019r gobaith yw bod modd sicrhau cydbwysedd priodol fydd yn golygu nad oes effaith niweidiol ar hyfywedd y sector rhentu preifat yng Nghymru. Os yw hyn i ddigwydd, mae\u2019n rhaid cydnabod y bydd y cynigion y mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arnynt yn debygol o ffurfio rhan yn unig o\u2019r diwygiadau, a bydd ymgynghoriad Lloegr ei hun ar <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/819270\/A_New_Deal_for_Renting_Resetting_the_Balance_of_Rights_and_Responsibilities_between_Landlords_and_Tenants.pdf\">rybuddion Adran 21<\/a> yn amlinellu\u2019r gwaith sy\u2019n digwydd yng nghyswllt y llysoedd. Gall gymryd peth amser, felly, cyn i effaith lawn unrhyw newidiadau ddod i\u2019r amlwg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, mae\u2019n rhaid gobeithio bod y drafodaeth fywiog a enynnwyd ynghylch hyn yn arwain llunwyr polisi i gadw cydbwysedd priodol rhwng darparu sicrwydd amhrisiadwy yn neiliadaeth tenantiaid, ond hefyd yn rhoi hyblygrwydd i landlordiaid o ran adfeddiannu eu heiddo. Os yw hyn hefyd yn arwain at sylfaen fwy cadarn o dystiolaeth, gan dynnu ar brofiad o bob rhan o\u2019r Deyrnas Unedig, bydd gennym ni sylfaen well ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ddylai landlordiaid fedru troi tenantiaid allan heb roi rheswm? Mae hwn yn gwestiwn sy\u2019n denu sylw cynyddol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, gall landlord dorri contract gyda thenant ar unrhyw bryd, cyhyd \u00e2\u2019i fod yn rhoi 2 fis o rybudd. Y ffordd arferol o gyfeirio at hyn yw \u2018troi allan heb fai\u2019 neu \u2018hysbysiad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15093,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[145],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15094","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tai-chartrefi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Rental-properties.jpg","filesize":708123,"sizes":{"medium":{"file":"Rental-properties-744x494.jpg","width":744,"height":494,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":109241,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties-744x494.jpg"},"large":{"file":"Rental-properties-1200x797.jpg","width":1200,"height":797,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":243388,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties-1200x797.jpg"},"thumbnail":{"file":"Rental-properties-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":92857,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Rental-properties-768x510.jpg","width":768,"height":510,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":115318,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties-768x510.jpg"},"1536x1536":{"file":"Rental-properties-1536x1020.jpg","width":1536,"height":1020,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":359123,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties-1536x1020.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Rental-properties-1807x1080.jpg","width":1807,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":460620,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties-1807x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15093","name":"Rental-properties.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rental-properties.jpg","title":"Rental-properties.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15094","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15094"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15094\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16440,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15094\/revisions\/16440"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15093"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15094"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15094"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15094"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15094"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}