{"id":15088,"date":"2019-10-30T14:27:54","date_gmt":"2019-10-30T14:27:54","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/rhyddhau-pwer-caffael-cyhoeddus\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:35","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:35","slug":"rhyddhau-pwer-caffael-cyhoeddus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/rhyddhau-pwer-caffael-cyhoeddus\/","title":{"rendered":"Rhyddhau p\u0175er caffael cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<p>O ystyried y pwysau sydd ar gyllidebau, mae\u2019n ddealladwy bod y ffocws yn aml ar gaffael gwasanaethau cyhoeddus am y gost isaf sy\u2019n bosibl. Ond mae cydnabyddiaeth gynyddol o\u2019r cyfleoedd i ddefnyddio caffael cyhoeddus mewn modd mwy creadigol er mwyn hybu arloesedd ac amrywiaeth o <a href=\"https:\/\/www.nesta.org.uk\/report\/state-of-innovation-welsh-public-services-and-the-challenge-of-change\/\">ddibenion cymdeithasol ehangach<\/a>. \u00a0Yng Nghymru rydym ni\u2019n gwario tua <a href=\"https:\/\/www.nesta.org.uk\/blog\/transforming-public-services-through-innovative-procurement\/\">\u00a36 biliwn y flwyddyn<\/a> ar gaffael cyhoeddus, sef tua degfed ran o\u2019r holl weithgarwch economaidd, a bu galwadau cynyddol am <a href=\"http:\/\/gov.wales\/docs\/det\/publications\/171213-economic-action-plan-en.pdf\">harneisio p\u0175er <\/a>y gwariant hwn er mwyn cyflawni amcanion amgylcheddol, hyrwyddo cwmn\u00efau lleol a sbarduno arloesedd. Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch yr hyn rydym ni\u2019n dymuno ei gyflawni trwy gaffael cyhoeddus, yn ogystal \u00e2\u2019r ffactorau sy\u2019n atal hynny rhag digwydd.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau adroddiad yn galw am\u00a0 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/sustainable-public-procurement\/\">ddulliau cynaliadwy o ymdrin \u00e2\u00a0chaffael cyhoeddus <\/a>sy\u2019n <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/beyond-contracting-public-service-stewardship-to-maximise-public-value\/\">mwyafu gwerth cyhoeddus<\/a>.\u00a0 Yn y blog hwn rydym ni\u2019n mynd ati i grynhoi rhai o\u2019r gwersi a ddysgwyd yn sg\u00eel y llenyddiaeth gynyddol ynghylch sut gall y sector cyhoeddus ddefnyddio\u2019i b\u0175er gwario i hybu arloesedd a mynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r heriau economaidd a chymdeithasol mwyaf brys.<\/p>\n<p>Fel mae Mariana Mazzucato yn egluro\u2019n rymus yn ei llyfr <em>The Entrepreneurial State<\/em>, mae\u2019r Wladwriaeth yn creu marchnadoedd \u201cac mae ei gallu i fentro a chymryd siawns yn hanfodol os yw econom\u00efau i dyfu mewn modd sy\u2019n flaengar ar lefel fyd-eang\u201d. \u00a0Un o oblygiadau hynny yw bod angen i lywodraethau ddod yn fwy medrus wrth ddefnyddio caffael i annog arloesedd sy\u2019n sbarduno gweithgarwch economaidd newydd a chanlyniadau gwell i\u2019r rhai sy\u2019n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Yn fras, arloesedd yw cyflwyno cynnyrch neu wasanaethau newydd neu well. Gall ddarparu cyfleoedd ar gyfer arbedion cost, cynhyrchu gweithgaredd economaidd newydd, a\/neu wella gwasanaethau. Ein ffocws yma yw sut gallai caffael cyhoeddus gryfhau datblygiad cynnyrch neu wasanaethau newydd neu well. Un o\u2019r dadleuon cryf sy\u2019n cael eu cynnig o blaid hybu arloesedd trwy gaffael yw\u2019r posibiliadau ar gyfer sbarduno economi fwy arloesol; un sy\u2019n gallu cefnogi swyddi o ansawdd uwch am gyflog uwch. Un arall yw\u2019r awgrym bod modd i\u2019r sector cyhoeddus wireddu enillion effeithlonrwydd trwy arloesedd a hybu lefelau cynhyrchiant uwch. Yn yr un modd, trwy ei alluoedd arweinyddiaeth, gall y sector cyhoeddus greu marchnadoedd newydd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau na fyddai\u2019r sector preifat o reidrwydd yn eu cyflwyno ei hun. Yng Nghymru, enghraifft dda yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu <a href=\"https:\/\/gweddill.gov.wales\/docs\/desh\/publications\/190321-prosperity-for-all-a-low-carbon-wales-en.pdf\">cymdeithas garbon isel<\/a>.<\/p>\n<p>Mae goresgyn y rhwystrau i hybu caffael er arloesedd yn galw am newid sefydliadol yn hytrach nag atebion technegol. Mae tair nodwedd amlwg:<\/p>\n<ul>\n<li>Yr angen am arweinyddiaeth effeithiol. Mae arferion caffael yn cychwyn ar y brig, ac mae\u2019n hanfodol bod gwleidyddion arweiniol ac uwch-reolwyr yn dangos eu cefnogaeth i ddulliau gweithredu sy\u2019n ysgogi arloesedd.<\/li>\n<li>Eglurder pwrpas. Ochr yn ochr ag arweinyddiaeth mae rhaid i ni fod yn eglur ynghylch y canlyniadau rydym am eu cyflawni. Gall canolbwyntio ar fanylebau swyddogaethol (yn hytrach na rhai technegol) fod o gymorth. Mewn cyferbyniad, gall gwahoddiadau tendro sydd \u00e2\u00a0diffiniad cul gyfyngu ar y cyfleoedd i ddarparwyr arloesi.<\/li>\n<li>Annog gwerthfawrogiad o risg. Un feirniadaeth hir-sefydlog ar arferion caffael traddodiadol yw bod yr awydd i leiafu risgiau yn arwain at ddiwylliant o gydymffurfio \u2013 sy\u2019n cael ei grynhoi yn y dywediad apocryffaidd \u2018na chollodd neb ei swydd erioed am brynu IBM\u2019. Mae\u2019n bwysig bod y sector cyhoeddus yn gwella o ran rhoi cyfle i staff gymryd risgiau priodol, gan wybod na fydd pob un o\u2019r rhain yn dod \u00e2\u00a0budd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn achos llawer o awdurdodau lleol, gwyddom fod pwysau beunyddiol y gwaith yn cyfyngu ar y cyfleoedd i feddwl yn fwy strategol am amcanion tymor hwy. Hefyd gall (an)allu cwmn\u00efau lleol i ymateb i fanylebau mwy arloesol lesteirio ymdrechion i hybu arloesedd. Mae hyn yn ategu\u2019r angen am arweiniad ac eglurder pwrpas. Mae dulliau gweithredu llwyddiannus wedi\u2019u seilio yn y cyd-destun lleol ac yn ymarferol o ran eu dyheadau (cychwynnol) \u2013 ffocws y cwestiynau allweddol y mae\u2019n rhaid rhoi sylw iddynt yw arloesedd <em>ar gyfer beth <\/em>ac arloesedd <em>gan bwy.<\/em> Yna gall gweithwyr caffael cyhoeddus sicrhau cydbwysedd rhwng awydd i gefnogi cyflenwyr lleol, sy\u2019n cystadlu ag annog cyflwyno cynnyrch neu wasanaethau mwy arloesol.<\/p>\n<p>A dyma, mewn gwirionedd, yw un o\u2019r heriau go iawn i\u2019r rhai sydd am sbarduno arloesedd trwy gaffael cyhoeddus \u2013 yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Ai ein nod yw hybu cynnyrch a gwasanaethau arloesol er budd y trigolion, neu sbarduno capasiti arloesol cwmn\u00efau lleol a\u2019r economi leol? Mewn byd delfrydol byddai\u2019r ddau beth yn bosibl, ond mewn gwirionedd bydd angen cyfaddawdu weithiau. Her arall yw bod gweithgareddau caffael yn aml yn ddarniog. Rhaid sicrhau cyfle i fyrddau iechyd, awdurdodau lleol ac eraill gydweithio er mwyn sicrhau gwerth gwell a sbarduno arloesedd trwy gaffael ar y cyd. Fodd bynnag, mae llawer o arbrofion cyffrous ar waith hefyd mewn sefydliadau sydd \u00e2 chyllidebau caffael bychain.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dystiolaeth ynghylch defnyddio caffael cyhoeddus i sbarduno arloesedd yn cynyddu, yn arbennig yn achos gwasanaethau (yn hytrach na nwyddau). Gall polis\u00efau caffael cadarnhaol helpu cwmn\u00efau i ennill contractau yn y dyfodol gan gleientiaid sector preifat yn ogystal \u00e2 rhai sector cyhoeddus (<a href=\"https:\/\/www.research.manchester.ac.uk\/portal\/en\/publications\/procurement-and-innovation-underpinning-the-debate-background-paper-forum-organised-within-the-underpinn-project(f40c222c-3761-47f0-a99a-0c081b698621)\/export.html\">Edler et al, 2011<\/a>) ac mae tystiolaeth o Sweden yn awgrymu bod modd cyflawni hynny heb effeithiau niweidiol ar gydweithio a chystadleuaeth.<\/p>\n<p>Tystiolaeth gymysg sydd ynghylch ai cwmn\u00efau bach neu rai mwy yw\u2019r rhai mwyaf tebygol o ymateb i bolis\u00efau caffael sy\u2019n ceisio hybu arloesedd. Ond mae rhai astudiaethau\u2019n awgrymu eu bod yn cael effaith fwy trawiadol ar gwmn\u00efau bach, a gallai hynny fod yn bwysig yng Nghymru. Mae <a href=\"http:\/\/ftp.zew.de\/pub\/zew-docs\/dp\/dp08052.pdf\">Aschhoff a Sofka<\/a> (2008), er enghraifft, yn dod i\u2019r casgliad bod caffael cyhoeddus yn cael yr effaith uniongyrchol fwyaf ar allbwn arloesedd os yw cwmn\u00efau bychain \u2013 yn enwedig mewn rhanbarthau sy\u2019n wynebu her economaidd \u2013 yn ymwybodol ohonynt ac mae\u2019r ymarferiad caffael ei hun wedi\u2019i lunio mewn modd sy\u2019n cydnabod sgiliau, adnoddau a phrofiad mwy cyfyngedig cwmn\u00efau bach.<\/p>\n<p>Mae tystiolaeth gynyddol, felly, bod caffael cyhoeddus yn gallu sbarduno arloesedd, ac mae amrywiaeth o arferion a mentrau clodwiw eisoes ar waith. Yn rhy aml, fodd bynnag, mae diffyg ymwybyddiaeth o hyd o\u2019r hyn mae eraill yn ei wneud, a chyfleoedd cyfyngedig i rannu profiadau. Rhaid i ganfod ffyrdd o ddysgu oddi wrth ein gilydd ac annog gweithredu mwy cydlynus ar y cyd fod ar frig y rhestr o gamau gweithredu ar gyfer y rhai sy\u2019n awyddus i ryddhau p\u0175er caffael cyhoeddus er mwyn datblygu mwy o gapasiti arloesedd yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>O ystyried y pwysau sydd ar gyllidebau, mae\u2019n ddealladwy bod y ffocws yn aml ar gaffael gwasanaethau cyhoeddus am y gost isaf sy\u2019n bosibl. Ond mae cydnabyddiaeth gynyddol o\u2019r cyfleoedd i ddefnyddio caffael cyhoeddus mewn modd mwy creadigol er mwyn hybu arloesedd ac amrywiaeth o ddibenion cymdeithasol ehangach. \u00a0Yng Nghymru rydym ni\u2019n gwario tua \u00a36 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13689,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15088","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-scaled.jpg","filesize":212894,"sizes":{"medium":{"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-744x311.jpg","width":744,"height":311,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33999,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-744x311.jpg"},"large":{"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-1200x502.jpg","width":1200,"height":502,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":70971,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-1200x502.jpg"},"thumbnail":{"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":47774,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-768x321.jpg","width":768,"height":321,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36242,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-768x321.jpg"},"1536x1536":{"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-1536x642.jpg","width":1536,"height":642,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":102903,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-1536x642.jpg"},"2048x2048":{"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-2048x856.jpg","width":2048,"height":856,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":155735,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-2048x856.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Collaborative-moving-forward-smaller-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":186989,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Collaborative-moving-forward-smaller.jpg","ID":"9532","name":"Collaborative-moving-forward-smaller-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-scaled.jpg","title":"Collaborative-moving-forward-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaborative-moving-forward-smaller-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15088","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15088"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15088\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16438,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15088\/revisions\/16438"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13689"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15088"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15088"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15088"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15088"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}