{"id":15086,"date":"2019-10-21T12:24:39","date_gmt":"2019-10-21T12:24:39","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/mynd-ir-afael-ag-anghydraddoldebau-trwy-gyllidebu-rhywedd\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:34","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:34","slug":"mynd-ir-afael-ag-anghydraddoldebau-trwy-gyllidebu-rhywedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/mynd-ir-afael-ag-anghydraddoldebau-trwy-gyllidebu-rhywedd\/","title":{"rendered":"Mynd i\u2019r afael ag Anghydraddoldebau trwy Gyllidebu Rhywedd"},"content":{"rendered":"<p>Yn sg\u00eel y cyfle sy\u2019n cael ei ddarparu gan yr <a href=\"https:\/\/chwaraeteg.com\/projects\/gender-equality-review\/\">Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd<\/a> a\u2019r ymrwymiad i\u00a0 <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2019-03\/190204-cabinet-gender-equality-review-update-18-19-27.pdf\">egwyddorion ffeministaidd<\/a> gan Lywodraeth Cymru, mae\u2019n adeg ddelfrydol i\u2019r Llywodraeth gamu\u2019n llawn i mewn i ddadansoddiad rhywedd o\u2019i phroses gyllidebol. \u00a0Gyda fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol a gweithredu asesiadau effaith integredig, mae\u2019r cam hwnnw i mewn i gyllidebu rhywedd yn cyfateb yn glir i gyfeiriad polisi.<\/p>\n<p>Cyllidebu rhywedd yw dull o lunio polisi sy\u2019n rhoi dadansoddiad rhywedd yng nghanol y broses polisi a chyllideb, gan gyfuno\u2019r ddau mewn dull gweithredu systemau cyfan. Mae hefyd yn cwblhau\u2019r cylch polisi trwy gyflwyno penderfyniadau gwariant a refeniw. \u00a0Nid yw\u2019n broses o osod cyllidebau ar wah\u00e2n ar gyfer benywod a dynion.<\/p>\n<p>Mae gwersi clir ar gyfer Llywodraeth Cymru o\u2019n <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/tackling-inequality-through-gender-budgeting\/\">hadolygiad o\u2019r dystiolaeth ryngwladol ar gyllidebu rhywedd<\/a>. Er mwyn sicrhau cyfeiriad strategol, mae angen arweiniad gwleidyddol, ac arweiniad ac ymgysylltiad ar lefel weithredol gan adrannau Llywodraeth Cymru. Ar lefel weithredol, mae dadansoddiadau cydraddoldeb cadarn a chynhyrchu a chymhwyso data cydraddoldeb yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod realiti gwahanol bywydau pobl yn llywio penderfyniadau polisi ac adnoddau. Mae ymgysylltiad Seneddol yn hanfodol ar gyfer darparu mewnbwn wrth i gynigion cyllidebol gael eu llunio ac ar gyfer craffu ac atebolrwydd effeithiol wrth weithredu\u2019r gyllideb.<\/p>\n<p>Mae profiadau o gyllidebu rhywedd ar wahanol lefelau o\u2019r llywodraeth yn datgelu gwirioneddau\u2019r gwrthsafiad sy\u2019n gallu bodoli yn wyneb yr ymgyrch i newid ffyrdd sefydledig o weithio. \u00a0Mae cyllidebu rhywedd yn ddull gweithredu trawsffurfiannol o lunio polisi sy\u2019n galw am ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd fel nod gwleidyddol cyfreithlon. \u00a0Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion ffeministaidd a fframwaith arloesol Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn tystio i benderfyniad i arloesi.<\/p>\n<p>Mae llywodraethau eraill sydd wedi cymryd camau i arloesi a thrawsffurfio polisi trwy gyllidebu rhywedd yn cynnwys Gwlad yr I\u00e2 ac Awstria, lle bu cyfleoedd gwleidyddol newid cyfansoddiadol yn gatalydd. \u00a0Darparodd datganoli a chreu Senedd yr Alban a\u2019r Weithrediaeth \u2018foment\u2019 wleidyddol debyg. \u00a0Yn ystod bron ugain mlynedd o weithgaredd, mae cyllidebu rhywedd yn dal heb ei weithredu\u2019n llawn yn yr Alban, gan ategu\u2019r angen am ddal i bwyso am hynny - y tu mewn a\u2019r tu allan i\u2019r llywodraeth. \u00a0Cafwyd rhwystrau a chamau cadarnhaol ar hyd y ffordd, gan gynnwys y cam arloesol o gynhyrchu <a href=\"https:\/\/www.gov.scot\/publications\/equality-fairer-scotland-budget-statement-scottish-budget-2019-20\/\">Datganiad Cyllideb Cydraddoldeb<\/a> ers 2009: yr unig un o\u2019i fath yn y Deyrnas Unedig. \u00a0Mae arfer sy\u2019n datblygu ers 2005 yng nghymuned annibynnol <a href=\"https:\/\/www.juntadeandalucia.es\/organismos\/haciendaindustriayenergia\/areas\/presupuestos\/genero\/paginas\/genero-gplus.html\">Andaluc\u00eda<\/a> wedi cynhyrchu cyfres o drefniadau sefydliadol, offer a modelau ar gyfer llunio polisi, gan gynnwys y dull G+ a chyfres o archwliadau rhywedd i werthuso\u2019r canlyniadau. \u00a0Ar lefel dinas, mae <a href=\"http:\/\/ajuntament.barcelona.cat\/pressupostos2018\/ca\/\">Cyngor Dinas Barcelona<\/a> yn ymroddedig i ddadansoddiad rhywedd o ymrwymiadau gwariant ar draws ei linellau polisi a rhaglenni, o dan ddwy golofn graidd y dull strategol o ymdrin \u00e2 llywodraethu - llywodraeth ffeministaidd a chyfiawnder cymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae enghreifftiau o gyllidebu rhywedd ar wahanol lefelau o fewn y llywodraeth - cenedlaethol, datganoledig a rhanbarthol, cynghorau lleol - yn bodoli ledled Ewrop. Mae\u2019r gweithgaredd a\u2019r ymchwil yma wedi cynhyrchu ystod o offer, methodolegau a dulliau gweithredu y gall Llywodraeth Cymru dynnu arnynt wrth symud ymlaen.<\/p>\n<p>Dros flynyddoedd lawer, mae dadansoddiad <a href=\"https:\/\/wbg.org.uk\">Gr\u0175p Cyllideb Benywod y Deyrnas Unedig<\/a> wedi datgelu\u2019n gyson effeithiau anghyfartal a chamwahaniaethol penderfyniadau gwariant cyhoeddus ar fenywod a dynion. Yn arbennig yn ystod y blynyddoedd diwethaf o \u2018gyni\u2019, mae benywod Du ac Asiaidd, benywod sy\u2019n unig rieni i blant anabl, a benywod h\u0177n wedi dioddef yn waeth na neb. \u00a0Mae\u2019r dadansoddiad gan y sefydliad cymdeithas sifil hwn yn dangos bod dwy wers allweddol i Lywodraeth Cymru. \u00a0Yn gyntaf, r\u00f4l bwysig cymdeithas sifil wrth ddatblygu polisi, fel sy\u2019n amlwg yng Nghymru trwy arweinyddiaeth <a href=\"https:\/\/chwaraeteg.com\">Chwarae Teg<\/a> ar yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd. \u00a0Yn ail, mae\u2019r ffaith bod dadansoddiad Gr\u0175p Cyllideb Benywod y Deyrnas Unedig wedi bod yn angenrheidiol i ddatgelu canlyniadau anghyfartal polisi cyhoeddus yn datgelu diffygion difrifol ymarfer llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn perthynas \u00e2 dadansoddi rhywedd. \u00a0Mae cyllidebu rhywedd wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel \u201c<a href=\"https:\/\/www.imf.org\/external\/pubs\/ft\/wp\/2016\/wp16149.pdf\">cyllidebu da<\/a>\u201d. Mae hefyd yn ddull o sicrhau cydymffurfiaeth \u00e2 gofynion deddfwriaethol. Yn y Deyrnas Unedig, a\u2019r gwledydd sy\u2019n rhan ohoni, mae dadansoddi rhywedd yn un o ofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus oddi mewn i <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/ukpga\/2010\/15\/section\/149\">Ddeddf Cydraddoldeb 2010<\/a>.<\/p>\n<p>Mae cyllidebu rhywedd yn edrych ar ddyraniad adnoddau, yn ailddosbarthu adnoddau fel bod targedau cyllid cyhoeddus yn targedu canlyniadau cyfartal o ran rhywedd, ac yn ceisio unioni anghydraddoldebau presennol a rhai sy\u2019n parhau. \u00a0Mae\u2019r dull hwn o ymdrin \u00e2 chyllid cyhoeddus a pholisi cydraddoldeb rhywedd gweithredol yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ei hybu a\u2019i gefnogi gan OECD, y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), a Banc y Byd. \u00a0\u00a0Faint mwy o resymau sydd eu hangen, felly, ar unrhyw lywodraeth i weithredu er mwyn cyflwyno cyllidebu rhywedd?<\/p>\n<p>Mae datganoli wedi cynhyrchu amrywiadau sylweddol yng nghynnwys a dulliau gweithredu llunio polisi rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a llywodraeth y Deyrnas Unedig. \u00a0Rydym wedi rhannu dysgu rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a gallwn barhau i feithrin arfer arloesol trwy weithio i ddatblygu uchelgais a rennir o ran cydraddoldeb a hawliau dynol ar wah\u00e2n yng Nghymru a\u2019r Alban, yn ogystal \u00e2 chyda\u2019n gilydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffocws presennol ar gydraddoldeb rhywedd a\u2019r map ffordd clir o\u2019r Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd yn darparu adeg addas i Lywodraeth Cymru ymateb i anogaeth \u201cGweithredoedd nid Geiriau\u201d. Mae\u2019n bryd bod yn fentrus wrth weithredu fel llywodraeth ffeministaidd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Am yr awdur:<\/em><\/p>\n<p><em>Dr Angela O\u2019Hagan yw prif awdur <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/mynd-ir-afael-ag-anghydraddoldeb-drwy-gyllidebu-ar-sail-rhyw\/\">\u2018Mynd i\u2019r afael ag Anghydraddoldeb drwy Gyllidebu ar Sail Rhyw\u2019<\/a> ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae\u2019n Gadeirydd annibynnol ar Gr\u0175p Ymgynghorol Llywodraeth yr Alban ar Gydraddoldeb a Chyllidebau, ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Gr\u0175p Cyllideb Benywod y Deyrnas Unedig. \u00a0Mae hi\u2019n Uwch-ddarlithydd mewn Cydraddoldeb a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow. \u00a0Mae hi\u2019n cyfrannu at bodlediad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyllidebu rhywedd, sydd ar gael yn:<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn sg\u00eel y cyfle sy\u2019n cael ei ddarparu gan yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd a\u2019r ymrwymiad i\u00a0 egwyddorion ffeministaidd gan Lywodraeth Cymru, mae\u2019n adeg ddelfrydol i\u2019r Llywodraeth gamu\u2019n llawn i mewn i ddadansoddiad rhywedd o\u2019i phroses gyllidebol. \u00a0Gyda fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol a gweithredu asesiadau effaith integredig, mae\u2019r cam hwnnw i mewn i gyllidebu rhywedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13399,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15086","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"gender-balance-smaller.jpg","filesize":280639,"sizes":{"medium":{"file":"gender-balance-smaller-744x299.jpg","width":744,"height":299,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29981,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller-744x299.jpg"},"large":{"file":"gender-balance-smaller-1200x483.jpg","width":1200,"height":483,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":66280,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller-1200x483.jpg"},"thumbnail":{"file":"gender-balance-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":43898,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"gender-balance-smaller-768x309.jpg","width":768,"height":309,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":30996,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller-768x309.jpg"},"1536x1536":{"file":"gender-balance-smaller-1536x618.jpg","width":1536,"height":618,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":100076,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller-1536x618.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"gender-balance-smaller-1920x805.jpg","width":1920,"height":805,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":180766,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller-1920x805.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9276","name":"gender-balance-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/gender-balance-smaller.jpg","title":"gender-balance-smaller","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15086","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15086"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15086\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16437,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15086\/revisions\/16437"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13399"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15086"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15086"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15086"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15086"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}