{"id":15083,"date":"2019-10-21T12:30:16","date_gmt":"2019-10-21T12:30:16","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ydy-gofal-iechyd-yng-nghymru-yn-wir-mor-wahanol-a-hynny\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:34","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:34","slug":"ydy-gofal-iechyd-yng-nghymru-yn-wir-mor-wahanol-a-hynny","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ydy-gofal-iechyd-yng-nghymru-yn-wir-mor-wahanol-a-hynny\/","title":{"rendered":"Ydy gofal iechyd yng Nghymru yn wir mor wahanol \u00e2 hynny?"},"content":{"rendered":"<p>Pryd bynnag mae cyfryngau\u2019r Deyrnas Unedig yn trafod y GIG, yn amlach na pheidio maen nhw\u2019n trafod y GIG yn Lloegr, yn hytrach nag ym mhob un o\u2019r pedair gwlad, er mai anaml y mae\u2019n egluro\u2019r gwahaniaeth hwnnw.<\/p>\n<p>Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynlluniau i newid sut mae\u2019r GIG yn cael ei lywodraethu, roeddem ni\u2019n tybio y gallai fod yn amserol myfyrio ar y gwahaniaethau gwirioneddol yn system iechyd Cymru, a beth gallai\u2019r newidiadau arfaethedig ei olygu.<\/p>\n<p><strong>Pwy sy\u2019n rheoli gwasanaethau\u2019r GIG yng Nghymru?<\/strong><\/p>\n<p>Ers 2009, mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi cael eu rheoli a\u2019u darparu gan saith bwrdd iechyd lleol (LHBs). Mae\u2019r Byrddau hyn yn comisiynu ac yn darparu gwasanaethau yn eu hardaloedd, ac yn gyfrifol am iechyd eu poblogaeth leol.<\/p>\n<p>Mae hynny\u2019n golygu eu bod nhw\u2019n darparu neu\u2019n comisiynu\u2019r ystod lawn o wasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau mewn ysbytai, iechyd meddwl a chymunedol; a\u2019u bod yn contractio Meddygon Teulu, fferyllwyr, optegwyr a deintyddion i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol.<\/p>\n<p>Yn wahanol i\u2019r chwech arall, nid oes gan Fwrdd Iechyd Powys Ysbyty Cyffredinol mawr i\u2019r Dosbarth.\u00a0 O ganlyniad, mae\u2019n comisiynu llawer o\u2019i wasanaethau ysbyty o Loegr, ar draws y ffin, ac mae\u2019n ymwneud yn llawer llai \u00e2 darparu gofal ysbyty eilaidd yn uniongyrchol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r strwythur hwn yn cyferbynnu \u00e2 mannau eraill yn y Deyrnas Unedig; yn Lloegr fe wnaeth <a href=\"https:\/\/www.kingsfund.org.uk\/projects\/new-nhs\">Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012<\/a> gynnal y rhaniad rhwng comisiynu (sy\u2019n cael ei arwain yn lleol gan <a href=\"https:\/\/www.nhscc.org\/ccgs\/\">191 o Grwpiau Comisiynu Clinigol <\/a>\u00a0ac yn genedlaethol gan NHS England) a\u2019r ddarpariaeth gwasanaeth a arweinir yn bennaf gan fwy na 200 o Ymddiriedolaethau GIG ac Ymddiriedolaethau Sylfaen GIG.\u00a0 Mae gan yr Alban system o <a href=\"https:\/\/www.scot.nhs.uk\/organisations\/\">fyrddau iechyd integredig<\/a> tebyg i Gymru; yng Ngogledd Iwerddon <a href=\"https:\/\/www.health-ni.gov.uk\/\">mae un adran o\u2019r llywodraeth yn <\/a>goruchwylio iechyd a gofal cymdeithasol ac mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.hse.ie\/eng\/about\/\">Weithrediaeth Gwasanaethau Iechyd <\/a>yn gyfrifol am wasanaeth iechyd sy\u2019n cael ei ddarparu gan gyfuniad o ddarparwyr cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<figure id=\"attachment_3505\" aria-describedby=\"caption-attachment-3505\" style=\"width: 407px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-3505\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/wales-map.jpg\" alt=\"\" width=\"407\" height=\"517\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-3505\" class=\"wp-caption-text\">Byrddau Iechyd Lleol yn GIG Cymru o 1 Ebrill 2019<\/figcaption><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2\u2019r Byrddau Iechyd Lleol, mae tri Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru, pob un ohonynt \u00e2 chylch gorchwyl Cymru gyfan:<\/p>\n<ul>\n<li>mae <a href=\"https:\/\/www.ambulance.wales.nhs.uk\/\">Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru<\/a> yn darparu trafnidiaeth i gleifion mewn achosion brys ac fel arall;<\/li>\n<li>mae <a href=\"http:\/\/www.velindre-tr.wales.nhs.uk\/home\">Ymddiriedolaeth GIG Felindre<\/a> yn darparu gwasanaethau canser arbenigol, ac yn cynnal nifer o wasanaethau cefnogi cenedlaethol; ac mae<\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.publichealthwales.wales.nhs.uk\/\">Iechyd Cyhoeddus Cymru<\/a> yn darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus i Gymru gyfan, a hefyd yn cefnogi Timau Iechyd Cyhoeddus lleol, sy\u2019n rhan o\u2019r Byrddau Iechyd Lleol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ar ben hynny mae amrywiaeth o gyrff cenedlaethol sy\u2019n gyfrifol am agweddau ar<a href=\"http:\/\/www.wales.nhs.uk\/nwis\/home\">TG<\/a> a rhai<a href=\"http:\/\/www.nwssp.wales.nhs.uk\/home\"> \u2018gwasanaethau a rennir<\/a>\u2019 (e.e. cyflogres, ystadau, cyfreithiol a chaffael). Mae <a href=\"https:\/\/heiw.nhs.wales\/\">Addysg a Gwella Iechyd Cymru <\/a>yn goruchwylio cynllunio, addysg, hyfforddiant a datblygiad gweithlu iechyd Cymru.\u00a0 Mae <a href=\"https:\/\/twitter.com\/NHSWalesDU\">Uned Ddarparu GIG Cymru<\/a> yn cefnogi Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoli perfformiad ar draws GIG Cymru ac mae\u00a0 <a href=\"http:\/\/www.1000livesplus.wales.nhs.uk\/news\/51535\">Gwella 1000 o Fywydau<\/a> yn cefnogi gwelliannau i iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.<\/p>\n<p><strong>R\u00f4l Llywodraeth Cymru <\/strong><\/p>\n<p>Ar hyn o bryd Prif Weithredwr GIG Cymru sy\u2019n gyfrifol am arwain a rheoli\u2019n strategol holl wasanaethau GIG Cymru, ond mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar Gr\u0175p Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.\u00a0 Fodd bynnag, bydd hynny\u2019n newid yn y dyfodol agos gan fod Llywodraeth Cymru wedi <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2019-08\/cabinet-paper-8-july-2019_0.pdf\">ymrwymo\u2019n ddiweddar<\/a> i sefydlu Gweithrediaeth GIG newydd, gwahanol i Gymru.\u00a0 Mae hyn yn ymateb i\u2019r argymhelliad yn Adolygiad Seneddol 2018 o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, lle galwyd am \u2018ganolfan weithredol gryfach\u2019, a \u2018gwahanu mwy amlwg rhwng swyddogaeth gweithrediaeth genedlaethol GIG Cymru, a\u2019r swyddogaeth gwasanaeth sifil cenedlaethol. \u00a0Roedd hyn yn ei dro yn adleisio canfyddiadau\u2019r OECD yn 2016, lle nodwyd bod \u2018Angen llaw ganolog gryfach yn tywys nawr, er mwyn chwarae r\u00f4l fwy rhagnodol\u2019 yng ngofal iechyd Cymru.<\/p>\n<p><strong>Sut mae gwasanaethau\u2019n cael eu cynllunio a\u2019u hariannu?<\/strong><\/p>\n<p>Nid oes gan Gymru bellach system seiliedig ar farchnad fel Lloegr; yn hytrach mae\u2019n canolbwyntio\u2019n fwy ar ddull seiliedig ar gynllunio, gyda\u00a0 <a href=\"https:\/\/seneddresearch.blog\/2018\/06\/19\/checking-the-financial-pulse-of-local-health-boards-and-nhs-trusts-in-wales\/\">Chynlluniau Tymor Canolig Integredig<\/a>.3-blynedd yn sylfaen iddo.\u00a0 Mae nodweddion tebyg rhwng comisiynu a chynllunio; mae\u2019r ddau beth yn ymwneud \u00e2 nodau strategol, gwneud dewisiadau, a ffurfio gwasanaethau cyfredol ac i\u2019r dyfodol.\u00a0 Fodd bynnag, nid yw Cymru\u2019n defnyddio arian i sbarduno newid yn y system yn yr un ffordd \u00e2 Lloegr.\u00a0 Mae gan Loegr system\u00a0 <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/simple-guide-to-payment-by-results\">talu yn \u00f4l canlyniadau<\/a> sy\u2019n seiliedig ar dariff, gyda chomisiynwyr yn rheoli\u2019r gyllideb, tra bod Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru yn derbyn\u00a0 <a href=\"http:\/\/www.wales.nhs.uk\/governance-emanual\/nhs-funding\">dyraniadau cyllid craidd penodol<\/a> yn bennaf ar sail maint a chyfansoddiad eu poblogaeth leol.<\/p>\n<p><strong>Sut mae GIG Cymru yn cael ei reoleiddio a\u2019i fonitro?\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Mae rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal iechyd y GIG a rhai annibynnol yn cael ei arwain gan <a href=\"http:\/\/hiw.org.uk\/about\/?lang=en\">Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru<\/a> (HIW). Gall HIW nodi meysydd ar gyfer gwelliant lle mae darparwyr yn methu cyrraedd y safonau.\u00a0 Mae HIW hefyd yn un elfen - ar y cyd \u00e2 Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru - o <a href=\"https:\/\/gov.wales\/topics\/health\/nhswales\/escalation\/?lang=en\">drefniadau esgaladu ac ymyrraeth<\/a> teiran GIG Cymru, sy\u2019n craffu ar sefyllfa gyffredinol pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIG yng nghyswllt ansawdd, perfformiad gwasanaeth a rheolaeth ariannol.<\/p>\n<p>Mae hyn yn wahanol i Loegr, lle gellid dadlau bod y drefn yn ymyrryd yn fwy; mae\u2019r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) yn arolygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ganddo <a href=\"https:\/\/www.cqc.org.uk\/what-we-do\/how-we-do-our-job\/taking-action\">bwerau cryf i ymyrryd<\/a>, gan gynnwys y gallu i gyflwyno hysbysiadau rhybudd, gorfodi dirwyon neu osod mesurau arbennig ar ddarparwyr. Ochr yn ochr \u00e2\u2019r CQC, NHS Improvement sy\u2019n gyfrifol am oruchwylio Ymddiriedolaethau\u2019r NHS, ymddiriedolaethau sylfaenol a darparwyr annibynnol gofal a ariannir gan yr NHS, ond mae hefyd yn gallu ymyrryd.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd, mae Cymru hyd yn awr wedi cadw\u2019r <a href=\"http:\/\/www.wales.nhs.uk\/sitesplus\/899\/home\">Cynghorau Iechyd Cymunedol<\/a> (CICau) - y cyrff statudol annibynnol sy\u2019n cynrychioli buddiannau cleifion a\u2019r cyhoedd, ac sydd hefyd yn arolygu gwasanaethau lleol y GIG.\u00a0 Mae 7 Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC), sy\u2019n rhannu ffiniau gyda\u2019r byrddau iechyd lleol.\u00a0 Fodd bynnag, yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion o dan <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2019-06\/health-and-social-care-quality-and-engagement-wales-bill-overview.pdf\">y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) <\/a>i gyfnewid y CICau am Gorff Llais Dinasyddion newydd i Gymru gyfan, gyda\u2019r bwriad o gynrychioli buddiannau pobl ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>Yn Lloegr, mae cleifion yn lleol ac yn genedlaethol yn cael eu cynrychioli gan <a href=\"https:\/\/www.healthwatch.co.uk\/what-we-do\">Healthwatch<\/a>, tra bod <a href=\"http:\/\/scottishhealthcouncil.org\/about_us\/about_us.aspx#.XGrGQbinw2w\">Cyngor Iechyd yr Alban <\/a>\u00a0a\u2019r <a href=\"http:\/\/online.hscni.net\/home\/hsc-structure\/\">Cyngor Cleifion a Chleientiaid <\/a>yng Ngogledd Iwerddon yn darparu lleisiau annibynnol i gleifion, cleientiaid, gofalwyr a chymunedau ynghylch materion iechyd a gofal cymdeithasol.\u00a0 Fodd bynnag, nid oes gan yr un o\u2019r cyrff hyn yr ystod o bwerau statudol sydd ar gael i CICau.<\/p>\n<p><strong>Beth yw\u2019r heriau?\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Bydd Gweithrediaeth newydd y GIG yn cael ei sefydlu ar adeg heriol ond diddorol.\u00a0 Mae Cymru\u2019n wynebu llawer o\u2019r un materion \u00e2 gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig a\u2019r tu hwnt: <a href=\"http:\/\/www.senedd.assembly.wales\/documents\/s81533\/Health%20Social%20Care%20and%20Sport%20Committee%20Report%20on%20the%20Welsh%20Governments%20draft%20budget%202019-20.pdf\">gweithlu a recriwtio<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.audit.wales\/news\/four-health-boards-wales-over-spend-again\">pwysau ariannol<\/a>, <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2019-09\/nhs-activity-and-performance-summary-july-and-august-2019-261.pdf\">amserau aros hir, mwy o alw am wasanaethau<\/a>,<a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2019-05\/valuing-our-health.pdf\"> yr heriau iechyd cynyddol <\/a>\u00a0sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chlefyd cronig a ffyrdd afiach o fyw,\u00a0 <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-01\/Review-health-social-care-report-final.pdf\">a chyflawni\u2019r cyfuniad a\u2019r ffurf gywir o wasanaethau.<\/a><\/p>\n<p>Mae hefyd faterion llywodraethu ac ansawdd unigryw. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers 2015, ac mae sawl Bwrdd Iechyd Lleol arall wedi bod yn destun ymyrraeth wedi\u2019i thargedu neu fonitro lefel uwch.\u00a0 Cwestiynwyd effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu ansawdd teiran ac ehangach yn sg\u00eel y pryderon difrifol am wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, mae\u2019r cynigion yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu)(Cymru) i ddisodli CICau wedi bod yn bwnc llosg, gyda phryderon ynghylch colli hawliau i archwilio ysbytai a meddygfeydd, absenoldeb strwythurau clir i sicrhau cynrychiolaeh leol a\u2019r posibilrwydd o golli llais ynghylch cynigion dadleuol i newid y gwasanaeth.\u00a0 Mae angen mynd i\u2019r afael \u00e2 llawer o bethau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pryd bynnag mae cyfryngau\u2019r Deyrnas Unedig yn trafod y GIG, yn amlach na pheidio maen nhw\u2019n trafod y GIG yn Lloegr, yn hytrach nag ym mhob un o\u2019r pedair gwlad, er mai anaml y mae\u2019n egluro\u2019r gwahaniaeth hwnnw. Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynlluniau i newid sut mae\u2019r GIG yn cael ei lywodraethu, roeddem ni\u2019n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15081,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15083","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"NHS-Hospital.jpg","filesize":797272,"sizes":{"medium":{"file":"NHS-Hospital-744x497.jpg","width":744,"height":497,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61261,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x497.jpg"},"large":{"file":"NHS-Hospital-1200x801.jpg","width":1200,"height":801,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":149232,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1200x801.jpg"},"thumbnail":{"file":"NHS-Hospital-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53487,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"NHS-Hospital-768x513.jpg","width":768,"height":513,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64704,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-768x513.jpg"},"1536x1536":{"file":"NHS-Hospital-1536x1026.jpg","width":1536,"height":1026,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":244799,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1536x1026.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"NHS-Hospital-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":329301,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9397","name":"NHS-Hospital.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital.jpg","title":"NHS-Hospital.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NHS-Hospital-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15083","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15083"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15083\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15084,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15083\/revisions\/15084"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15081"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15083"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15083"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15083"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15083"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}