{"id":15068,"date":"2019-09-10T08:49:31","date_gmt":"2019-09-10T08:49:31","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/hunanladdiad-ymhlith-gwrywod-epidemig-tawel\/"},"modified":"2026-01-14T15:08:28","modified_gmt":"2026-01-14T15:08:28","slug":"hunanladdiad-ymhlith-gwrywod-epidemig-tawel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/hunanladdiad-ymhlith-gwrywod-epidemig-tawel\/","title":{"rendered":"Hunanladdiad ymhlith gwrywod - epidemig tawel"},"content":{"rendered":"<p>Dydd Mawrth 10 Medi yw <a href=\"https:\/\/www.iasp.info\/wspd2019\/\">Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd<\/a>. Nod y digwyddiad blynyddol hwn yw codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad, addysgu am achosion ac arwyddion rhybuddiol o hunanladdiad a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig \u00e2 hunanladdiad, ymddygiad hunanladdol a phroblemau iechyd meddwl eraill.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.who.int\/mental_health\/prevention\/suicide\/suicideprevent\/en\/\">Sefydliad Iechyd y Byd<\/a> mae agos at 800,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i hunanladdiad. Mae hyn yn cyfateb i un person bob 40 eiliad ond mae bron yn sicr bod yr amcangyfrif hwn yn rhy isel gan fod hunanladdiad yn aml yn cael ei gamddosbarthu ar gofnodion marwolaeth, oherwydd natur sensitif \u2013 ac weithiau anghyfreithlon \u2013 y digwyddiad.<\/p>\n<p>Mae tair gwaith cymaint o ddynion yn marw drwy hunanladdiad na menywod mewn gwledydd cyfoethocach a disgrifiwyd hyn gan <a href=\"https:\/\/www.bcmj.org\/articles\/silent-epidemic-male-suicide\">rai arbenigwyr<\/a> fel \"epidemig tawel\" oherwydd diffyg ymwybyddiaeth gyhoeddus a dadl polisi ynghylch maint y broblem a'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael \u00e2 hi.<\/p>\n<p>Fel rhan o'n rhaglen waith ar gyfer 2019\/2020, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i'r Ganolfan edrych ar dueddiadau mewn hunanladdiad ymhlith dynion yng Nghymru. Mae'r blog hwn yn rhoi trosolwg cryno o'r data cyfredol.<\/p>\n<p><strong>Hunanladdiad yn y DU ac yng Nghymru<\/strong><\/p>\n<p>Yn \u00f4l y <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/birthsdeathsandmarriages\/deaths\/bulletins\/suicidesintheunitedkingdom\/2018registrations\">bwletin ystadegol diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn 2018<\/a> dynion a bechgyn oedd yn gyfrifol am dri chwarter o'r 6507 o hunanladdiadau a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn batrwm cyson ers canol y 1990au, ac mae'n cyfateb i 17.24 marwolaeth i bob 100,000 o wrywod.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-3385\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/uk-suicide-rates-CYM.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"561\" \/><\/p>\n<p>Mae'r <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/search?q=suicide\">ONS<\/a> hefyd yn adrodd mai dynion 45-49 oed sydd \u00e2'r gyfradd hunanladdiad uchaf gyda 27.1 o farwolaethau fesul 100,000 yn 2018. Y genhedlaeth hon oedd \u00e2'r gyfradd hunanladdiad uchaf hefyd o 1991-2011, pan oeddent yn 30-44 oed.<\/p>\n<p>Mae bwletin ystadegol yr ONS ar <a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/birthsdeathsandmarriages\/deaths\/articles\/suicideinwalessince1981\/2019-06-27\">hunanladdiad yng Nghymru ers 1981<\/a> yn dangos bod cyfartaledd o 300 o farwolaethau y flwyddyn yn ystod y cyfnod, ac roedd 76% o'r rhain yn wrywod. Yn wahanol i'r DU gyfan, mae'r gyfradd hunanladdiad ymhlith gwrywod wedi bod ar gynyddu yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae gan ddynion sy'n gweithio mewn galwedigaethau sgiliau isel elfennol, gofalgar, hamdden a gwasanaethau eraill ac mewn crefftau medrus yng Nghymru risg sylweddol uwch o lawer o hunanladdiad na rhai eraill. Gall hyn fod yn gysylltiedig \u00e2 chyflog isel, diogelwch swydd a pherygl o gael anaf, a hefyd gwybodaeth am ddulliau marwol iawn o gyflawni hunanladdiad a mynediad atynt. Mae'r ystadegau hefyd yn cyfeirio at gysylltiad rhwng hunanladdiad ac amddifadedd.<\/p>\n<p><strong>Pam mae dynion dair gwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad nag yw menywod<\/strong><\/p>\n<p>Mae arbenigwyr yn awgrymu bod y gyfradd hunanladdiad uwch ymhlith dynion yn gysylltiedig ag ystod o ffactorau.\u00a0 Yn arbennig, mae ganddynt ddulliau mwy marwol o gyflawni hunanladdiad na menywod, gallant fod yn fwy amharod i ofyn am gymorth, ac yn aml mae perthynas sy\u2019n chwalu'n effeithio'n fwy difrifol arnynt nag ar fenywod. Fodd bynnag, yn aml ni ellir pennu un rheswm penodol pam mae rhywun yn cymryd ei fywyd ei hun.<\/p>\n<p>Nododd <a href=\"https:\/\/www.samaritans.org\/wales\/about-samaritans\/research-policy\/middle-aged-men-suicide\/\">adroddiad a gomisiynwyd gan y Samariaid<\/a> yn A 2012 fod newid cymdeithasol yn un o'r prif achosion o hunanladdiad ymhlith gwrywod 45-59 oed, gan gyfeirio atynt fel y 'genhedlaeth glustogi', 'sydd wedi\u2019u dal rhwng gwrywdod traddodiadol tawel, cryf, llym eu tadau a chenhedlaeth fwy blaengar, agored ac unigolyddol eu meibion'.<\/p>\n<p><strong>Beth yw r\u00f4l polisi yng Nghymru?<\/strong><\/p>\n<p>Yn 2015 lansiodd Llywodraeth Cymru strategaeth pum mlynedd ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, o'r enw <a href=\"https:\/\/gweddill.gov.wales\/docs\/dhss\/publications\/150716strategyen.pdf\">Siarad \u00e2 fi 2<\/a>, sy'n adlewyrchu ymrwymiad aelodau Sefydliad Iechyd y Byd i leihau'r gyfradd hunanladdiad 10% erbyn 2020. Mae hyn yn ceisio mynd i'r afael \u00e2 stigma hunanladdiad, cyflwyno ymatebion ac ymyriadau priodol, a chefnogi'r rhai sydd mewn profedigaeth neu y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-3381\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-suicide-rates-CYM.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"508\" \/><\/p>\n<p>Wrth lansio'r strategaeth, dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd:<\/p>\n<p><em>\"Mae hunanladdiad fel arfer yn digwydd mewn ymateb i gyfres gymhleth o ffactorau sy\u2019n bersonol ac yn gysylltiedig \u00e2 dylanwadau cymdeithasol a chymunedol ehangach.... Er mwyn atal hunanladdiad a hunan-niwed mae angen cydweithio effeithiol ar draws adrannau\u2019r Llywodraeth ganolog, rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gan gynnwys y trydydd sector, defnyddwyr gwasanaethau ac, wrth gwrs, clinigwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ystod o leoliadau gan gynnwys ysgolion, gweithleoedd, ysbytai a chymunedau.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Mae'n debygol y bydd y strategaeth yn cael ei hadnewyddu y flwyddyn nesaf ac mae ffyrdd o leihau'r gyfradd hunanladdiad yn parhau yn flaenoriaeth uchel i lunwyr polisi yng Nghymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os yw'r materion a godwyd yn y blog hwn yn effeithio arnoch, ffoniwch <strong>116 123<\/strong> i siarad \u00e2'r <a href=\"https:\/\/www.samaritans.org\/?nation=wales\">Samariaid<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dydd Mawrth 10 Medi yw Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Nod y digwyddiad blynyddol hwn yw codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad, addysgu am achosion ac arwyddion rhybuddiol o hunanladdiad a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig \u00e2 hunanladdiad, ymddygiad hunanladdol a phroblemau iechyd meddwl eraill. Yn \u00f4l Sefydliad Iechyd y Byd mae agos at 800,000 o bobl yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15069,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15068","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Man-stressed-at-work-scaled.jpg","filesize":194592,"sizes":{"medium":{"file":"Man-stressed-at-work-744x497.jpg","width":744,"height":497,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":32180,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-744x497.jpg"},"large":{"file":"Man-stressed-at-work-1200x801.jpg","width":1200,"height":801,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":62574,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-1200x801.jpg"},"thumbnail":{"file":"Man-stressed-at-work-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28836,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Man-stressed-at-work-768x513.jpg","width":768,"height":513,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33047,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-768x513.jpg"},"1536x1536":{"file":"Man-stressed-at-work-1536x1025.jpg","width":1536,"height":1025,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":89118,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-1536x1025.jpg"},"2048x2048":{"file":"Man-stressed-at-work-2048x1367.jpg","width":2048,"height":1367,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":136874,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-2048x1367.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Man-stressed-at-work-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":109513,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Man-stressed-at-work.jpg","ID":"15064","name":"Man-stressed-at-work-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-scaled.jpg","title":"Man-stressed-at-work.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Man-stressed-at-work-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15068","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15068"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15068\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15071,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15068\/revisions\/15071"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15069"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15068"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15068"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15068"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15068"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}