{"id":15062,"date":"2019-08-21T07:28:30","date_gmt":"2019-08-21T07:28:30","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-cyrhaeddon-nir-fan-hon-a-sut-gallwn-ni-adeiladu-ar-hynny\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:32","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:32","slug":"sut-cyrhaeddon-nir-fan-hon-a-sut-gallwn-ni-adeiladu-ar-hynny","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-cyrhaeddon-nir-fan-hon-a-sut-gallwn-ni-adeiladu-ar-hynny\/","title":{"rendered":"Sut cyrhaeddon ni\u2019r fan hon a sut gallwn ni adeiladu ar hynny?"},"content":{"rendered":"<p>Ledled Cymru mae trafodaeth fywiog ar iechyd economi Cymru a\u2019i rhagolygon i\u2019r dyfodol. Derbynnir yn gyffredinol nad yw perfformiad economi Cymru gystal \u00e2 chyfartaledd y Deyrnas Unedig ac amrywiaeth o ranbarthau cymaradwy mewn mannau eraill yn Ewrop. Ond mae peth newyddion da. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae diweithdra wedi bod yn isel ac mae Cymru\u2019n perfformio\u2019n well na \u2018rhanbarthau perifferol\u2019 eraill ar fesurau megis Incwm Gros Gwariadwy Aelwyd fesul person a chyfoeth cyfartalog aelwydydd. Ond mae\u2019r economi yn wynebu <a href=\"https:\/\/orca.cf.ac.uk\/92104\/1\/Price%20Welsh%20economic%20performance.pdf\">heriau<\/a> sylweddol, gan gynnwys lefelau cymharol isel o Werth Ychwanegol Gros (GVA), lefelau uwch o fod heb waith, canlyniadau iechyd gwaelach a chrynodiadau gofodol o dlodi ac amddifadedd lluosog. Mae\u2019r ystadegau wedi bwydo <a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/click\/2015\/04\/the-competing-narratives-on-welsh-economic-performance\/\">naratifau sy\u2019n cystadlu \u00e2\u2019i gilydd<\/a> ynghylch economi Cymru. Mae rhai economyddion yn dadlau ei bod yn perfformio cystal \u00e2\u2019r disgwyl o ystyried yr hyn a ddaeth i ran Cymru. Mae eraill yn dadlau y dylai, ac y gallai, wneud yn llawer gwell.<\/p>\n<p>Er mwyn deall beth sydd y tu \u00f4l i\u2019r data economaidd a\u2019r gwahanol ddehongliadau ohono, mae\u2019n werth ystyried sut mae etifeddiaeth y gorffennol wedi ffurfio economi Cymru heddiw. Yn y blog hwn rydym yn nodi saith digwyddiad gwahanol, y mae pob un ohonynt wedi gadael \u00f4l parhaol ar Gymru, gan ffurfio cyflwr presennol yr economi, ond hefyd gan fwrw cysgod dros lwybrau datblygu posibl i\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>Yn aml diystyrir cyfnod rhag-ddiwydiannol economi Cymru. Mae dadansoddwyr y cyfnod hwn yn gwahaniaethu rhwng yr econom\u00efau gwledig oedd yn bodoli ar dir ffrwythlon yr arfordir a\u2019r rhai ar ucheldir Cymru. Maent yn pwysleisio pwysigrwydd hanesyddol cysylltiadau masnach cryf \u00e2 marchnadoedd Lloegr (yr oedd Porthmyn Cymru\u2019n symbol ohonynt i lawer). Fel mewn llawer rhan o\u2019r Deyrnas Unedig ar y pryd, roedd perchnogaeth ar dir wedi\u2019i grynhoi yn nwylo gr\u0175p bach o\u2019r el\u00eet, yr oedd llawer ohonynt yn byw y tu allan i Gymru. Roedd amodau byw llawer o\u2019r boblogaeth yn fregus, fel y gwelir o\u2019r <a href=\"http:\/\/www.bahs.org.uk\/AGHR\/ARTICLES\/59_1_3_Rees.pdf\">terfysgoedd rheolaidd<\/a> i brotestio oherwydd diffyg bwyd ac allforio\u2019r ychydig oedd ar gael, ac ar ddechrau\u2019r 18<sup>fed<\/sup> Ganrif gwelwyd ton gynyddol o brotestiadau cymdeithasol oedd yn cynnwys Merched Beca, Mudiad y Siartwyr a Gwrthryfel Casnewydd.<\/p>\n<p>Yn y 19<sup>eg<\/sup> Ganrif gwelwyd yr ail bennod yn hanes economi Cymru, a ddaeth yn drwm o dan ddylanwad cloddio am lo, chwarela a chynhyrchu haearn. Bu\u2019r diwydiannau hyn, oedd yn annatod glwm wrth dwf yr Ymerodraeth Brydeinig, nid yn unig yn dylanwadu ar economi Cymru, ond hefyd ar batrwm aneddiadau\u2019r wlad. Sbardunwyd twf sydyn porthladdoedd Abertawe a Chaerdydd, a\u2019r dociau yn y Barri, gan yr angen am allforio allbwn diwydiannol de Cymru i bellafoedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Hefyd gwelwyd trefi newydd yn cael eu geni ar draws Cymoedd de Cymru, yn gartref i weithlu\u2019r gweithiau glo a haearn, lle bu trefi Cymru yn y gorffennol wedi\u2019u cyfyngu i raddau helaeth i arfordir ffrwythlon y de neu\u2019r ardal o amgylch ceyrydd Edward 1<sup>af<\/sup> yn y gogledd (<a href=\"https:\/\/www.cambridge.org\/core\/services\/aop-cambridge-core\/content\/view\/3800C97F0307B93281BE7F10981F8944\/S0963926805002683a.pdf\/reassessing_the_towns_of_southern_wales_in_the_later_middle_ages.pdf\">Dimmock, 2005<\/a>). Yn yr un modd, yng ngorllewin Cymru, sbardunodd agor y Dociau Brenhinol yn Noc Penfro, yn 1814, dwf tref newydd ar gyrion hen anheddiad Penfro.<\/p>\n<p>Gyda throad yr ugeinfed ganrif, gwelwyd arwyddion cyntaf dirywiad conglfeini diwydiannol economi Cymru. Wrth i\u2019r gystadleuaeth gynyddu ac i\u2019r marchnadoedd traddodiadol golli tir, daeth diwydiannau Cymru\u2019n llai cystadleuol. Gadawodd gwladoli rhai sectorau diwydiannol allweddol yn y 1940au a\u2019r 1950au ei \u00f4l ar ddiwylliant gwleidyddol Cymru. Ond nid glo a dur yn unig oedd yn rhan o\u2019r economi, dyma oedd oes y cwmni mawr a mewnfuddsoddi o rannau eraill o\u2019r Deyrnas Unedig a\u2019r tu hwnt. Yn sg\u00eel buddsoddiadau sylweddol gan gwmn\u00efau fel Hotpoint, Ferodo a Courtaulds, cafwyd cyfleoedd cyflogaeth newydd i ddynion a hefyd, yn gynyddol, i fenywod.<\/p>\n<p>Yn y 1970au a\u2019r 1980au gwelwyd pedwaredd bennod economaidd Cymru, dan gwmwl dad-ddiwydiannu. Arweiniodd cystadleuaeth fyd-eang a gostyngiad yng nghymorth y wladwriaeth i ddiwydiannau traddodiadol at don ar \u00f4l ton o ddiswyddiadau a chau gweithfeydd. O ddiswyddo 6,500 o weithwyr ar un diwrnod yng Ngwaith Dur Shotton yn 1970, hyd at gau pyllau glo a fu gynt yn llewyrchus, cafodd economi Cymru ei hergydio gan wyntoedd newid economaidd. Ceisiodd polisi diwydiannol ddenu cwmn\u00efau newydd, fel Sony a Panasonic, ac adleolwyd cyflogwyr sector cyhoeddus i Gymru. Yn sg\u00eel hyn etifeddodd Cymru lefelau isel o entrepreneuriaeth, ymhlith gweithlu oedd yn fwy cyfarwydd \u00e2 gweithio i gyflogwyr mawr, gostyngiad yn lefelau GVA wrth i ddiwydiannau dwys o ran cyfalaf gyda lefelau uchel o gynhyrchiant y pen dorri\u2019n \u00f4l a chau, a dibyniaeth ar swyddi sector cyhoeddus. Ac eto, mae\u2019r cwmn\u00efau hynny sy\u2019n dal yma yn darparu sylfaen o weithgaredd gweithgynhyrchu medrus.<\/p>\n<p>Gwelwyd dirywiad economaidd pellach yn ystod y 1980au a\u2019r 1990au, ond bu hefyd adfywio ac ailddatblygu. Caeodd pyllau glo a ffatr\u00efoedd, gydag effeithiau trychinebus ar gymunedau lleol. Lansiwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn 1987, gyda\u2019r dasg o adfywio dociau adfeiliedig Bae Caerdydd a\u2019r ardal o amgylch. Yn 1999, rhoddwyd statws \u2018Amcan 1\u2019 i Orllewin Cymru a\u2019r Cymoedd gan yr UE, ac mae\u2019r ardal wedi cadw\u2019r statws hwnnw hyd heddiw. Cychwynnodd Awdurdod Datblygu Cymru (WDA), a sefydlwyd yn 1976, ar raglenni sylweddol o adennill tir, darparu ffatr\u00efoedd ymlaen llaw, a denu buddsoddiadau tramor, a ffurfiodd <a href=\"https:\/\/www.academia.edu\/4902708\/The_Welsh_development_agency\">dirlun diwydiannol Cymru<\/a>. Aethpwyd ar \u00f4l polisi mewnfuddsoddi yn arbennig o egn\u00efol, gan arwain at gyhuddiadau diweddarach bod Cymru\u2019n troi\u2019n economi \u2018<a href=\"https:\/\/api.parliament.uk\/historic-hansard\/commons\/1993\/jun\/28\/regional-development-wales\">gweithfeydd cangen<\/a>\u2019.<\/p>\n<p>Yn sg\u00eel datganoli yn 1999 cafodd Cymru fwy o reolaeth ar ddatblygu economaidd, a digwyddodd hynny ar yr un pryd \u00e2\u00a0dechrau dull gweithredu newydd oedd yn pwysleisio arloesedd, entrepreneuriaeth a datblygiad yr economi wasanaeth. Medodd Caerdydd lawer o fanteision y dull gweithredu newydd hwn, ac mae\u2019r ddinas wedi denu buddsoddiadau a llafur. Ar ddechrau\u2019r 21ain ganrif, hi oedd un o\u2019r dinasoedd oedd yn tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, ac roedd yn cynnwys cyfran uwch o gwmn\u00efau twf uchel nag unrhyw ddinas \u2018greiddiol\u2019 arall yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae rhannau eraill o Gymru wedi cael trafferth sicrhau gweithgaredd cyfatebol, ac mae Gorllewin Cymru a\u2019r Cymoedd yn dal yn un o ardaloedd economaidd mwyaf difreintiedig Ewrop. Mae hyn wedi peri i ymchwilwyr awgrymu, er bod Cymru o bosib wedi cael rhywfaint o ryddid i wneud ei phenderfyniadau economaidd ei hun, nad yw eto\u2019n hunan-ddibynnol yn economaidd.<\/p>\n<p>Bu cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd symud tuag at economi fwy cynaliadwy, ac ers i Ddeddf Cenedlaethau\u2019r Dyfodol ddod i rym yn 2015, mae dyletswydd statudol ar weinidogion Llywodraeth Cymru i hybu datblygu cynaliadwy, yn awr ac i\u2019r dyfodol. Mae hyn yn ein harwain at ddechrau seithfed pennod bosibl i economi Cymru, un sydd wedi\u2019i seiliio ar ddadgarboneiddio ac sy\u2019n pwysleisio gweithgarwch lleol ar ffurf economi \u2018<a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/commentary\/wales_foundational_economy\/\">sylfaenu<\/a>\u2019.\u00a0 Mae\u2019r broses o lunio strategaeth economaidd hefyd yn cael ei datganoli, wrth i ddwy \u2018fargen-dinas\u2019 a dwy \u2018fargen-twf\u2019 gael eu cytuno, a chreu <a href=\"https:\/\/gov.wales\/welsh-government-make-2-million-available-for-west-wales-arfor-pilot\">rhanbarth economaidd \u2018Arfor\u2019<\/a> newydd, sy\u2019n arwydd o gydnabod sut gallai polis\u00efau economaidd gefnogi amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach, yn hytrach nag fel arall.<\/p>\n<p>Fel unrhyw lyfr da, bydd pennod nesaf economi Cymru yn adeiladu ar yr hyn a welwyd eisoes, ond nid oes rhaid iddi fod dan ddylanwad y gorffennol. Gall polisi cyhoeddus chwarae r\u00f4l bwysig wrth lunio cyfeiriadau newydd sy\u2019n cofleidio treftadaeth a photensial Cymru. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae polis\u00efau economaidd wedi cael eu clymu wrth lwybrau a dulliau gweithredu sydd eisoes ar waith. Wrth lunio pennod nesaf datblygiad economaidd Cymru mae angen i ni greu naratif newydd a llwybrau newydd sy\u2019n hyrwyddo\u2019r gwerthoedd sy\u2019n bwysig i\u2019w phobl, yn hytrach na chop\u00efo dulliau gweithredu mannau eraill. Mae hon yn her bwysig a rennir, a bydd gofyn bod y llywodraeth, busnes a chymunedau lleol yn fentrus ac yn meddwl mewn ffordd newydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ledled Cymru mae trafodaeth fywiog ar iechyd economi Cymru a\u2019i rhagolygon i\u2019r dyfodol. Derbynnir yn gyffredinol nad yw perfformiad economi Cymru gystal \u00e2 chyfartaledd y Deyrnas Unedig ac amrywiaeth o ranbarthau cymaradwy mewn mannau eraill yn Ewrop. Ond mae peth newyddion da. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae diweithdra wedi bod yn isel ac mae [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13201,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,132],"class_list":["post-15062","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","filesize":522486,"sizes":{"medium":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-744x495.jpg","width":744,"height":495,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55597,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x495.jpg"},"large":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1200x798.jpg","width":1200,"height":798,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":126654,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1200x798.jpg"},"thumbnail":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51154,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":58438,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-768x511.jpg"},"1536x1536":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1536x1021.jpg","width":1536,"height":1021,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198503,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1536x1021.jpg"},"2048x2048":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-2048x1362.jpg","width":2048,"height":1362,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":340665,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-2048x1362.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":266342,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Welsh-Flag-2715-x-1805.jpg","ID":"9808","name":"Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-scaled.jpg","title":"Welsh-Flag-2715-x-1805.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Welsh-Flag-2715-x-1805-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15062","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15062"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15062\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16436,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15062\/revisions\/16436"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13201"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15062"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15062"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15062"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15062"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}