{"id":15052,"date":"2019-06-25T12:24:31","date_gmt":"2019-06-25T12:24:31","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ein-damcaniaeth-newid\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:31","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:31","slug":"ein-damcaniaeth-newid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ein-damcaniaeth-newid\/","title":{"rendered":"Ein Damcaniaeth Newid"},"content":{"rendered":"<p>Ceir cytundeb eang ar draws amrywiol gymunedau polisi ac ymchwil bod tystiolaeth yn gallu chwarae rhan hanfodol mewn prosesau o drafod democrataidd ar nodau, cynllun a gweithrediad ymyriadau polisi cyhoeddus. Yr her i bawb sy'n gweithio yn rhyngwyneb polisi ac ymchwil yw sut i asesu gwerth (effaith) yr hyn a wnawn.<\/p>\n<p>I fynd i'r afael \u00e2'r her hon, dechreuom ni ar broses i ddiffinio ein \"damcaniaeth newid\". Lluniom ni fodel o'n ffyrdd o weithio sy'n dechrau gyda'r hyn rydym ni am ei gyflawni, ac sy'n egluro'r berthynas rhwng hynny a phwy ydym ni, beth rydym ni'n ei wneud, sut rydym ni'n ei wneud a beth rydym ni'n ei fesur. Mae wedi bod yn ymdrech t\u00eem, ac wedi profi'n broses hynod o adeiladol a chreadigol. Gyda'n gilydd, rydym ni wedi adnabod pum r\u00f4l bwysig a rhyngddibynnol sy'n cynrychioli ehangder yr hyn rydym ni'n ei wneud.<\/p>\n<p>Fel t\u00eem rydym ni yn:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Dehongli anghenion tystiolaeth<\/strong>: drwy gynnal perthnasoedd agos gyda Gweinidogion, swyddogion ac arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus, drwy ein rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol a thrwy fonitro datblygiadau polisi'n barhaus.<\/li>\n<li><strong>Cynnull tystiolaeth ac arbenigedd<\/strong>: drwy gyd-gynllunio rhaglen ymatebol o gyfuno ymchwil a thystiolaeth i fodloni anghenion tystiolaeth gwneuthurwyr polisi yng Nghymru ar draws amrywiol feysydd polisi, a thrwy hwyluso rhyngweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac arbenigwyr.<\/li>\n<li><strong>Gwella dealltwriaeth o dystiolaeth a pholis\u00efau<\/strong>: drwy gynnal a chyhoeddi ymchwil sy'n cyfrannu at wybodaeth ac ymarfer ar lunio polisi a defnyddio tystiolaeth.<\/li>\n<li><strong>Cyfathrebu tystiolaeth<\/strong>: drwy lunio amrywiaeth o allbynnau hygyrch wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.<\/li>\n<li><strong>Eiriol dros ac adeiladu capasiti i ddefnyddio tystiolaeth<\/strong>: drwy weithredu fel ffynhonnell ddibynadwy o gyngor arbenigol annibynnol, dangos gwerth tystiolaeth ac arbenigedd i bolisi ac ymarfer, hyrwyddo diwylliant yn seiliedig ar dystiolaeth ac adeiladu capasiti o gwmpas defnydd o dystiolaeth.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Gwerth ein damcaniaeth newid yw ei bod yn gadael i ni esbonio i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid beth rydym yn ei wneud, sut a pham. Mae'n fframwaith ar gyfer archwilio a yw ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth. Rydym ni wedi adnabod nifer o ffactorau fydd yn ein helpu i ddeall ein heffaith a llywio ein hymarfer yn y dyfodol. Nid mater o rifau yn unig yw hyn. Rydym ni'n datblygu ffyrdd i asesu ansawdd ein perthnasoedd, a sut mae'r rhyngweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac arbenigwyr a drefnir gennym ni yn cynyddu'r awydd ac yn adeiladu capasiti i ddefnyddio tystiolaeth mewn prosesau llunio polisi. Cadwch olwg ar ein gwefan am adroddiadau ar y cynnydd rydym ni wedi'i wneud yn mesur ein heffaith.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ceir cytundeb eang ar draws amrywiol gymunedau polisi ac ymchwil bod tystiolaeth yn gallu chwarae rhan hanfodol mewn prosesau o drafod democrataidd ar nodau, cynllun a gweithrediad ymyriadau polisi cyhoeddus. Yr her i bawb sy'n gweithio yn rhyngwyneb polisi ac ymchwil yw sut i asesu gwerth (effaith) yr hyn a wnawn. I fynd i'r afael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14444,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,132],"class_list":["post-15052","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"idea-sharing-smaller-2.jpg","filesize":275331,"sizes":{"medium":{"file":"idea-sharing-smaller-2-744x397.jpg","width":744,"height":397,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51854,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-744x397.jpg"},"large":{"file":"idea-sharing-smaller-2-1200x641.jpg","width":1200,"height":641,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97318,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-1200x641.jpg"},"thumbnail":{"file":"idea-sharing-smaller-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54985,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"idea-sharing-smaller-2-768x410.jpg","width":768,"height":410,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54776,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-768x410.jpg"},"1536x1536":{"file":"idea-sharing-smaller-2-1536x820.jpg","width":1536,"height":820,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":134654,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-1536x820.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"idea-sharing-smaller-2-1920x1068.jpg","width":1920,"height":1068,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":198865,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-1920x1068.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"13198","name":"idea-sharing-smaller-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/idea-sharing-smaller-2.jpg","title":"idea-sharing-smaller-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15052","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15052"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15052\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16434,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15052\/revisions\/16434"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14444"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15052"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15052"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15052"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15052"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}