{"id":15050,"date":"2019-06-06T07:49:45","date_gmt":"2019-06-06T07:49:45","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tystiolaeth-arfer-ac-athroniaeth-sut-gallwn-gyflawni-arfer-effeithiol-syn-cael-ei-lywio-gan-dystiolaeth-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:31","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:31","slug":"tystiolaeth-arfer-ac-athroniaeth-sut-gallwn-gyflawni-arfer-effeithiol-syn-cael-ei-lywio-gan-dystiolaeth-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tystiolaeth-arfer-ac-athroniaeth-sut-gallwn-gyflawni-arfer-effeithiol-syn-cael-ei-lywio-gan-dystiolaeth-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Tystiolaeth, arfer ac athroniaeth: Sut gallwn gyflawni arfer effeithiol sy\u2019n cael ei lywio gan dystiolaeth yng Nghymru?"},"content":{"rendered":"<p>Mae Cymru\u2019n wynebu lefel ddigynsail o ddiwygio addysg ar hyn o bryd. Ochr yn ochr \u00e2 dull neilltuol o ddatblygu cwricwlwm daw pwyslais ar drawsnewid ysgolion i mewn i <a href=\"https:\/\/www.oecd.org\/education\/school\/school-learning-organisation.pdf\">sefydliadau dysgu proffesiynol<\/a> (SDPau). Mae hyn yn golygu bod rhanddeiliaid nid yn unig yn trafod pryderon cwricwlaidd yngl\u0177n \u00e2\u2019r wybodaeth y mae angen i ddisgyblion ei gwybod a sut, ond hefyd yr hyn y mae angen i athrawon ei wybod i wella eu harfer. Mae athrawon yn ymgysylltu \u00e2 thystiolaeth ymchwil yn gydran allweddol o\u2019r broses hon.<\/p>\n<p>Mae arfer sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth wedi dod yn fwy poblogaidd ers y 1990au, gyda phwyslais ar ddulliau gwyddonol yn dod i\u2019r amlwg o\u2019r maes meddygol (Davies 1999). Mae <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/pdf\/10.1111\/1467-8527.00106?casa_token=xp3NXxYwebMAAAAA:rDQAOiBC2i9gETh4wqxKEmdhz1qTaXZTddaNfyBlnU8ik23EOsueQHVPIy1UrSqZrogbhMfVIe4V\">gwrthwynebiad<\/a> i\u2019r dull gweithredu hwn yn cynnwys pryderon y gall ddisodli gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol athrawon, gan eu diraddio\u2019n dechnegwyr a allai fod yn cymhwyso canfyddiadau amhriodol\/amherthnasol i\u2019w cyd-destunau addysgu (Biesta 2007). Mae\u2019r feirniadaeth hon yn galw am newid tuag at arfer sy\u2019n cael ei <em>lywio <\/em>gan dystiolaeth, gan ddadlau bod hyn yn galluogi cyfuniad gwell o dystiolaeth ymchwil, gwybodaeth broffesiynol a gweithrediad i wella arfer athrawon.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.ingentaconnect.com\/content\/uwp\/wjed\/2017\/00000019\/00000001\/art00008\">ymchwil<\/a> ar ymgysylltiad athrawon ag ymchwil addysgol yng Nghymru yn dangos bod y rhan fwyaf o\u2019r athrawon a arolygwyd yn credu eu bod yn gwybod sut mae dod o hyd i dystiolaeth ymchwil a\u2019i defnyddio, ond nid oeddent yn teimlo bod ganddynt y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni\u2019r gweithgareddau hyn. Er bod y canlyniadau cyffredinol yn ymddangos yn ffafriol, mae yna gwestiynau sydd heb eu hateb o hyd. Er enghraifft, a yw\u2019r hunan-arfarniadau hyn gan athrawon yn gywir? Beth yw\u2019r amodau ar gyfer cefnogi athrawon gydag arfer sy\u2019n cael ei lywio gan dystiolaeth mewn ysgolion? A sut y gallwn ddeall yr amodau hyn yn well a\u2019u gwella?<\/p>\n<p>Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwiliad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) i archwilio\u2019r rhain a chwestiynau eraill. <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/meithrin-cyswllt-athrawon-a-thystiolaeth-ymchwil\/\">Un o ganfyddiadau diweddar yr adroddiad <\/a>yw\u2019r angen i bennu\u2019r ymddygiadau dymunol sy\u2019n gysylltiedig ag arfer sy\u2019n cael ei lywio gan dystiolaeth a\u2019r heriau y mae athrawon yn eu hwynebu wrth eu datblygu. Mae\u2019r rhain yn cynnwys llythrennedd ymchwil, glynu wrth arfer gorau mewn meysydd allweddol cenedlaethol a dull mwy myfyriol o weithredu ymchwil a dysgu proffesiynol. Ystyriaeth bwysig sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r ymddygiadau hyn yw\u2019r gallu i wahaniaethu rhwng honiadau normadol a thystiolaeth empirig. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth frwd o sut mae gwerthoedd, credoau a phrosesau creu ystyr yn llywio sut rydym yn cynhyrchu, dehongli ac ymateb i dystiolaeth ymchwil.<\/p>\n<p>Mae Ferrero (2005) yn cyfeirio at y trafferthion yn dehongli tystiolaeth i mewn i arfer:<\/p>\n<p><em>\u201cThe point here is that translating research into practice is not as straightforward as we often pretend. While the research can usually tell us something useful about how to teach \u2014 or how not to teach \u2014 it does so at a high level of abstraction. Furthermore, research tells us almost nothing about what to teach and why to teach it. This is because what and why aren\u2019t empirical questions; they are normative ones. Their answers derive from beliefs, value systems, and world views.\u201d<\/em> (t. 426)<\/p>\n<p>Mae Ferrero (2005) yn <a href=\"http:\/\/www.ascd.org\/publications\/educational-leadership\/feb05\/vol62\/num05\/Pathways-to-Reform@-Start-With-Values.aspx\">parhau<\/a> i bwysleisio pwysigrwydd gwerthoedd: \u201cbetween the science of learning and the practice of teaching lie important value judgments that color our reading of the research and the implications for practice we derive from it.\u201d Mae\u2019r beirniadaethau gwerth hyn yn deillio o, ac yn cael eu harfer drwy, ddaliadau delfrydegol ac ystyriaethau athronyddol o addysg a thystiolaeth ymchwil. Drwy fyfyrio\u2019n feirniadol ar ein rhagdybiaethau athronyddol ein hunain ynghylch addysg, ac ymgysylltu ag eraill ar eu barn nhw, gallwn feithrin dealltwriaeth well o dystiolaeth ymchwil a\u2019i pherthnasedd a\u2019i photensial o ran gwella ein harfer.<\/p>\n<p>Wrth i mi weithio gydag ysgolion a chonsortia lleol ar adeiladu capasiti athrawon ar gyfer ymgysylltu mewn ymchwil addysgol, dywedodd nifer o athrawon sy\u2019n rhan o\u2019r gwaith o ddatblygu\u2019r cwricwlwm newydd i Gymru nad oeddent yn teimlo eu bod yn barod o gwbl ar gyfer creu cwricwlwm gan nad oedd ganddynt yr adnoddau damcaniaethol - y wybodaeth athronyddol o ran theori a dylunio cwricwlwm. Mae hyn yn rhannol oherwydd, yn eu tyb nhw, gyflwr cythryblus polisi addysgol yng Nghymru sydd wedi gadael athrawon yn gaeth i gwricwlwm cenedlaethol gorlawn, gorbenodedig, lefelau cynyddol o gystadleuaeth rhwng ysgolion a mesurau atebolrwydd llym. Mewn lleoliad o\u2019r fath, mae ymdrechion athronyddol yn cael eu haberthu am ystyriaethau mwy \u201cymarferol\u201d. Fodd bynnag, drwy\u2019r model Ysgol Arloesi, mae llawer o athrawon yn teimlo eu bod wedi cael budd o gael yr amser, y wybodaeth a\u2019r cymorth i feddwl yn athronyddol am eu crefft.<\/p>\n<p>Er bod rhai athrawon wedi arddangos brwdfrydedd dros ymgysylltu mewn ystyriaethau athronyddol, mae eraill wedi mynegi dirmyg at ymdrechion o\u2019r fath, gan eu disgrifio fel \u201cbogail-syllu\u201d hunanbwysig. Mae\u2019r ymatebion hyn yn fy nigalonni, oherwydd os nad yw athrawon yn gwerthfawrogi meddwl athronyddol am addysg a\u2019u harfer, maent mewn perygl o <em>gamhysbysu <\/em>eu harfer, dad-rymuso eu haddysgeg a chyfrannu at ffrwyno - ac o bosib erydu - sylfeini deallusol eu proffesiwn.<\/p>\n<p>Nid dim ond trosi \u201cffaith\u201d yn weithred yw ymgysylltu ag arfer sy\u2019n cael ei lywio gan dystiolaeth. Mae\u2019n ystyriaeth bwrpasol o\u2019r ffactorau sy\u2019n arwain at gynhyrchu a chyfathrebu tystiolaeth, ynghyd a sut rydym yn ei dehongli a\u2019i gweithredu yn ein harfer ein hunain. Nid yw effeithiolrwydd a photensial arfer sy\u2019n cael ei lywio gan dystiolaeth - ei addewid trawsnewidiol os y mynnwch - yn llwyr ddibynnol ar ei gymhwysiad technegol. Yn hytrach, mae\u2019n dibynnu ar ein gallu i wahaniaethu rhwng honiadau normadol ac empirig, deall y gwerthoedd sydd wedi\u2019u sefydlu yn yr athroniaethau addysg sy\u2019n trefnu ein dulliau addysgu a dysgu, a\u2019n hymdrechion i ymgysylltu\u2019n gadarn, yn feddylgar ac yn ystyriol gyda thystiolaeth a\u2019i pherthynas \u00e2\u2019n credoau a\u2019n harferion addysgegol a rhai ein cydweithwyr.<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Cyfeiriadau:<\/strong><\/p>\n<p>Biesta, G. (2007) Why \u2018What Works\u2019 Still Won\u2019t Work: from Evidence-Based to Value-Based Education. <em>Studies in Philosophy of Education<\/em>. 29 (5) t. 491-503.<\/p>\n<p>Davies, P. (1999) What is Evidence-based Education?, British Journal of Educational Studies, 47:2, 108-121, DOI: 10.1111\/1467-8527.00106<\/p>\n<p>Ferrero, D. (2005) PDoes Research-based Mean Value-free? <em>PHI DELTA KAPPAN<\/em>. t.424-432.<\/p>\n<p>Ferrero, D. (2005). Pathways to Reform: Start with Values. Gwelwyd yn <a href=\"http:\/\/www.ascd.org\/publications\/educational-leadership\/feb05\/vol62\/num05\/Pathways-to-Reform@-Start-With-Values.aspx\">http:\/\/www.ascd.org\/publications\/educational-leadership\/feb05\/vol62\/num05\/Pathways-to-Reform@-Start-With-Values.aspx<\/a> ar 08\/04\/2019.<\/p>\n<p>Hargreaves, D.H. (1996) Teaching as a Research-Based Profession: Possibilities and Prospects (Caergrawnt, Darlith Flynyddol yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon).<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cymru\u2019n wynebu lefel ddigynsail o ddiwygio addysg ar hyn o bryd. Ochr yn ochr \u00e2 dull neilltuol o ddatblygu cwricwlwm daw pwyslais ar drawsnewid ysgolion i mewn i sefydliadau dysgu proffesiynol (SDPau). Mae hyn yn golygu bod rhanddeiliaid nid yn unig yn trafod pryderon cwricwlaidd yngl\u0177n \u00e2\u2019r wybodaeth y mae angen i ddisgyblion ei [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9162,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[],"research-and-impact":[133,130],"class_list":["post-15050","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"adult-study-group-smaller-4.jpg","filesize":263836,"sizes":{"medium":{"file":"adult-study-group-smaller-4-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55235,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-study-group-smaller-4-744x496.jpg"},"large":{"file":"adult-study-group-smaller-4-1200x799.jpg","width":1200,"height":799,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":112190,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-study-group-smaller-4-1200x799.jpg"},"thumbnail":{"file":"adult-study-group-smaller-4-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49717,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-study-group-smaller-4-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"adult-study-group-smaller-4-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57486,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-study-group-smaller-4-768x511.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15049","name":"adult-study-group-smaller-4.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-study-group-smaller-4.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-study-group-smaller-4-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/adult-study-group-smaller-4.jpg","title":"adult-study-group-smaller-4.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15050","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15050"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15050\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16433,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15050\/revisions\/16433"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9162"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15050"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15050"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15050"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15050"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}