{"id":15047,"date":"2019-05-17T07:14:50","date_gmt":"2019-05-17T07:14:50","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pwerau-ac-ysgogiadau-polisi-beth-syn-gweithio-i-gyflawni-polisiau-llywodraeth-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:30","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:30","slug":"pwerau-ac-ysgogiadau-polisi-beth-syn-gweithio-i-gyflawni-polisiau-llywodraeth-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pwerau-ac-ysgogiadau-polisi-beth-syn-gweithio-i-gyflawni-polisiau-llywodraeth-cymru\/","title":{"rendered":"Pwerau ac Ysgogiadau Polisi \u2013 Beth sy\u2019n gweithio i gyflawni polis\u00efau Llywodraeth Cymru?"},"content":{"rendered":"<p>Wrth i Gymru nodi ugain mlynedd o ddatganoli, mae ein hadroddiad diweddaraf, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/pwerau-ac-ysgogiadau-polisi-beth-syn-gweithio-i-gyflawni-polisiau-llywodraeth-cymru\/\">Pwerau ac Ysgogiadau Polisi: Beth sy\u2019n gweithio i gyflawni polis\u00efau Llywodraeth Cymru?<\/a>, yn cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil i\u2019r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio\u2019r pwerau a\u2019r ysgogiadau polisi sydd ar gael iddi. Wedi amlinellu\u2019r cyd-destun polisi yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf, mae\u2019r adroddiad yn trafod dwy astudiaeth achos \u00a0o lunio polisi ers datganoli pwerau deddfu sylfaenol llawn i\u2019r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Rydym yn tynnu casgliadau penodol yn y ddau achos, ac yn cynnig pedwar canfyddiad cyffredinol o'r prosiect. Gobeithiwn y byddant yn ddefnyddiol i lunwyr polisi ac i eraill sy\u2019n ymddiddori yn y modd mae llywodraethau- yn enwedig, llywodraethau bach a phwerau ac adnoddau cyfyngedig, megis Llywodraeth Cymru- yn mynd ati i ddatblygu a chyflawni polis\u00efau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddau achos yn enghreifftiau cyferbyniol o lunio polisi datganoledig. Yr un cyntaf yw datblygu a gweithredu fframwaith statudol newydd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd. Na allai Llywodraeth Cymru weithredu\u2019r fframwaith newydd ar ei phen ei hun, gan mai awdurdodau lleol sydd yn gyfrifol am wasanaethau digartrefedd. Ond trwy ddatblygu rhwydweithiau cryf gyda llywodraeth leol a\u2019r trydydd sector,\u00a0 ychwanegodd gweinidogion a swyddogion adnoddau eu partneriaid at adnoddau cyfyngedig\u00a0 y Llywodraeth ei hun. Wrth i\u2019r Llywodraeth lunio\u2019r fframwaith newydd, byddai\u2019r partneriaid yn rhannu eu profiad a\u2019u harbenigedd, yn enwedig o ran canfod a dadansoddi problemau, ac asesu ymarferoldeb camau gweithredu arfaethedig. Ar \u00f4l pasio\u2019r ddeddfwriaeth, roedd Llywodraeth Cymru\u2019n yn gweithio \u00e2 nhw i ddatblygu canllaw statudol, i hyfforddi staff i\u2019w gweithredu, ac i fonitro cynnydd. Roedd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hyn oll am nad oedd amheuaeth bod digartrefedd yn fater sydd wedi\u2019i ddatganoli; roedd cytundeb yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn roedd angen ei wneud; ac roedd gan Weinidogion yr adnoddau deddfwriaethol ac, er na allai cynyddu\u2019r gyllideb ddigartrefedd yn sylweddol, ariannol\u00a0 yr oedd eu hangen ar asiantaethau lleol i fynd i\u2019r afael \u00e2 digartrefedd.<\/p>\n<p>Ein hail achos yw\u2019r ymdrech gyntaf, aflwyddiannus, i gyflwyno isafbris uned o alcohol yng Nghymru. Unwaith eto, nid oedd gan Lywodraeth Cymru'r adnoddau ei hun i weithredu\u2019r isafbris, ond roedd awdurdodau lleol yn hyderus y byddent yn gallu ei gorfodi. Ac roedd gan Lywodraeth Cymru berthnasoedd cryf gyda rhai o randdeiliaid yn y sector alcohol, gan gynnwys academyddion, grwpiau trydydd sector, a chyfranogion iechyd. Roedd y rheiny i gyd yn cytuno bod angen gosod isafbris alcohol er mwyn leihau yfed alcohol problemus. Ond nid oedd gan Lywodraeth Cymru cystal perthynas gyda\u2019r diwydiant diodydd, a phrofodd y polisi wrthwynebiad o gyfeiriad y diwydiant, yn ogystal \u00e2 Llywodraeth y DU. Er bod Llywodraeth Cymru yn credu bod polisi alcohol yn fater iechyd y cyhoedd, ac felly yn ddatganoledig, mynnai llywodraeth y DU ei fod yn fater plismona a chyfiawnder troseddol, a\u2019i fod felly y tu allan i gymhwysedd Llywodraeth Cymru. Daeth gweinidogion Cymru i\u2019r casgliad y byddai brwydr wleidyddol a chyfreithiol \u00e2 llywodraeth y DU ac efallai gwrthwynebwyr ariannog eraill yn gofyn am neilltuo mwy o adnoddau nag y gallai eu cyfiawnhau ar y pryd, ac felly tynnwyd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn \u00f4l.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddau achos yn dangos bod angen i lunwyr polisi ystyried fesul achos pa offerynnau polisi sydd fwyaf addas i gyflawni eu hamcanion. Er bod deddfwriaeth a chyllid yn amodau angenrheidiol, nid ydynt yn ddigon ar eu pen eu hunain ac mae angen i lunwyr polis\u00efau deall sut mae defnyddio pwerau anffurfiol i gyflawni pethau. Rydym yn amlygu dau gysyniad a all eu helpu i wneud hyn. Mae <em>meta-lywodraethu<\/em> yn ystyried sut all llywodraethau fanteisio ar eu hadnoddau arbennig i greu a rheoli rhwydweithiau. Mae\u2019r <em>Deipoleg NATO<\/em>\u00a0 yn amlygu pedwar prif fath o offeryn polisi, sef Nodaledd\u00a0 (\u2018y nodwedd o fod yng nghanol rhwydwaith gwybodaeth neu gymdeithasol\u2019), Awdurdod, Trysor, a Threfniadaeth (\u2018Organisation\u2019 yn Saesneg). Gall y deipoleg helpu llunwyr polisi i ddeall dosbarthiad eu hofferynnau polisi, a\u2019u perthynas \u00e2\u2019i gilydd.<\/p>\n<p>Mae adran olaf yr adroddiad yn cyflwyno pedwar canfyddiad cyffredinol o\u2019r astudiaeth:<\/p>\n<ul>\n<li>Yn gyntaf, rydym yn argymell bod llunwyr polisi <strong>yn cydnabod y cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru ac i ganolbwyntio ar amcanion polisi y mae modd eu cyflawni<\/strong>. Nid yw hyn yn golygu peidio \u00e2 bod yn uchelgeisiol, ond mae yn dangos pwysigrwydd cymryd golwg realistig a chreadigol ar yr hyn y gellir ei gyflawni.<\/li>\n<li>Yn ail, dylai <strong>ystyried ar y cychwyn pa offerynnau polisi sydd eu hangen arnynt fel y gellir eu trefnu a\u2019u defnyddio\u2019n briodol<\/strong>. Mae edrych mewn ffordd realistig ar y cymysgedd o offerynnau polisi sydd ar gael yn gallu helpu llunwyr polisi i benderfynu a yw menter polisi\u2019n debygol o lwyddo.<\/li>\n<li>Yn drydydd, gan mai adnoddau deddfwriaethol, ariannol a materol Llywodraeth Cymru\u2019n gyfyngedig o hyd, mae\u2019n bwysig ei bod ni\u2019n <strong>chwilio am ffyrdd o ategu ei hadnoddau ffurfiol drwy annog cyfranogiad sefydliadau eraill<\/strong>.<\/li>\n<li>Yn olaf, dylai <strong>wneud y gorau ar y manteision y mae\u2019r cyd-destun polisi Cymreig yn ei gynnig<\/strong>. Er enghraifft, mae\u2019r lefel uchel o sefydlogrwydd gwleidyddol yn golygu y dylai fod modd edrych y tu hwnt i\u2019r cylch etholiadol nesaf, a dylai maint cymharol fach Cymru ei gwneud yn haws i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o\u2019r hyn sy\u2019n digwydd yn y \u2018rheng flaen\u2019.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i Gymru nodi ugain mlynedd o ddatganoli, mae ein hadroddiad diweddaraf, Pwerau ac Ysgogiadau Polisi: Beth sy\u2019n gweithio i gyflawni polis\u00efau Llywodraeth Cymru?, yn cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil i\u2019r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio\u2019r pwerau a\u2019r ysgogiadau polisi sydd ar gael iddi. Wedi amlinellu\u2019r cyd-destun polisi yng Nghymru dros y ddau ddegawd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15046,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[141],"research-and-impact":[133],"class_list":["post-15047","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-llywodraeth-leol","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"devolution-20.jpg","filesize":863296,"sizes":{"medium":{"file":"devolution-20-744x424.jpg","width":744,"height":424,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":86348,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-744x424.jpg"},"large":{"file":"devolution-20-1200x683.jpg","width":1200,"height":683,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":211447,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-1200x683.jpg"},"thumbnail":{"file":"devolution-20-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":85531,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"devolution-20-768x437.jpg","width":768,"height":437,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91890,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-768x437.jpg"},"1536x1536":{"file":"devolution-20-1536x875.jpg","width":1536,"height":875,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":327980,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-1536x875.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"devolution-20-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":475137,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15046","name":"devolution-20.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20.jpg","title":"devolution-20.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/devolution-20-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15047","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15047"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15047\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16432,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15047\/revisions\/16432"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15046"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15047"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15047"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15047"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15047"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}