{"id":15044,"date":"2019-05-15T07:27:34","date_gmt":"2019-05-15T07:27:34","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/cyflwyno-aelodau-ein-bwrdd-ymgynghorol\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:29","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:29","slug":"cyflwyno-aelodau-ein-bwrdd-ymgynghorol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/cyflwyno-aelodau-ein-bwrdd-ymgynghorol\/","title":{"rendered":"Cyflwyno Aelodau ein Bwrdd Ymgynghorol"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r gr\u0175p yn <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/pobl\/grwp-cynghori\/\">gyfuniad disglair<\/a> o fwy na 20 o unigolion blaenllaw sydd \u00e2\u00a0phrofiad o fod wedi gweithio ar y lefelau uchaf yn y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, academia, melinau trafod a sefydliadau ymchwil annibynnol. Mae\u2019n cynnwys aelodau sydd \u00e2\u00a0phrofiad fel gwleidyddion cenedlaethol a lleol, ymgynghorwyr gwleidyddol, gweision sifil uwch, uwch-reolwyr llywodraeth leol, iechyd, y system cyfiawnder troseddol, ysgolion ac addysg uwch.<\/p>\n<p>Mae ein Gr\u0175p Ymgynghorol yn helpu i sicrhau bod gwaith y Ganolfan yn drylwyr, yn awdurdodol, ac yn annibynnol. Y gr\u0175p yw ein ffrindiau beirniadol, yn helpu i lywio strategaeth gyffredinol y Ganolfan a\u2019i datblygiad i\u2019r dyfodol, ac yn ein cynghori ar ffyrdd o sicrhau bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p yn adlewyrchu ymrwymiad y Ganolfan i weithio ar lefel genedlaethol a lleol trwy gynnig gwybodaeth fanwl am weithio yn y ddau rychwant a\u2019r heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae hefyd yn cyfuno arbenigedd ym mhob un o\u2019r pedwar maes polisi allweddol y mae gwaith y Ganolfan yn canolbwyntio arnynt, sef iechyd a gofal cymdeithasol, yr economi a sgiliau, cyfiawnder cymdeithasol, a chynaliadwyedd amgylcheddol.<\/p>\n<p>Mae rhai aelodau o\u2019r gr\u0175p wedi\u2019u trwytho yn yr heriau y mae Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn ymdrechu i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw. Mae eraill yn dod \u00e2 gwybodaeth amhrisiadwy ynghylch sut mae materion tebyg yn derbyn sylw yn yr Alban, yn Lloegr ac yn rhyngwladol. Mae pob aelod o\u2019r gr\u0175p yn gyt\u00fbn yn eu cred a\u2019u hymroddiad i ddatblygu r\u00f4l tystiolaeth wrth lywio ymatebion i\u2019r heriau polisi hyn.<\/p>\n<p>Yn ei gyfarfod cychwynnol ym mis Tachwedd, bu\u2019r gr\u0175p yn trafod cenhadaeth y Ganolfan, ei ffyrdd o weithio gyda gweinidogion a gwasanaethau cyhoeddus i gyd-gynhyrchu tystiolaeth a\u2019i defnyddio, a sut gallwn ni fwyafu effaith ei gwaith. Edrychwyd yn fanwl ar waith y Ganolfan ym maes yr economi a iechyd a gofal cymdeithasol, gan drafod ei gweithgareddau, ei digwyddiadau a\u2019i hadroddiadau diweddar yn y meysydd polisi hyn, a sut byddwn ni\u2019n adeiladu ar hynny yn ystod y misoedd sy\u2019n dod.<\/p>\n<p>Rydym wrth ein bodd yn cael cyngor, profiad a mewnwelediad gr\u0175p sydd mor gryf, mor brofiadol ac mor ddylanwadol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod gwaith y Ganolfan yn parhau i ymledu ac yn cynnal llunwyr polisi ac ymarferwyr ledled Cymru mewn ffyrdd sy\u2019n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol trwy wella\u2019r canlyniadau i ddinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r gr\u0175p yn gyfuniad disglair o fwy na 20 o unigolion blaenllaw sydd \u00e2\u00a0phrofiad o fod wedi gweithio ar y lefelau uchaf yn y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, academia, melinau trafod a sefydliadau ymchwil annibynnol. Mae\u2019n cynnwys aelodau sydd \u00e2\u00a0phrofiad fel gwleidyddion cenedlaethol a lleol, ymgynghorwyr gwleidyddol, gweision sifil uwch, uwch-reolwyr llywodraeth leol, iechyd, y system [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15043,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15044","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"advisory-group.jpg","filesize":236885,"sizes":{"medium":{"file":"advisory-group-744x497.jpg","width":744,"height":497,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":81172,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/advisory-group-744x497.jpg"},"thumbnail":{"file":"advisory-group-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":70054,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/advisory-group-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"advisory-group-768x513.jpg","width":768,"height":513,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":85028,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/advisory-group-768x513.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15043","name":"advisory-group.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/advisory-group.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/advisory-group-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/advisory-group.jpg","title":"advisory-group.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15044","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15044"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15044\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16431,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15044\/revisions\/16431"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15043"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15044"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15044"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15044"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15044"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}