{"id":15035,"date":"2019-03-27T12:02:16","date_gmt":"2019-03-27T12:02:16","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/rol-newid-ymddygiad-wrth-lywio-penderfyniadau-ynghylch-polisi-cyhoeddus\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:29","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:29","slug":"rol-newid-ymddygiad-wrth-lywio-penderfyniadau-ynghylch-polisi-cyhoeddus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/rol-newid-ymddygiad-wrth-lywio-penderfyniadau-ynghylch-polisi-cyhoeddus\/","title":{"rendered":"R\u00f4l newid ymddygiad wrth lywio penderfyniadau ynghylch polisi cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<p>Mae newid ymddygiad yn thema gynyddol gyffredin mewn polis\u00efau cyhoeddus. Mae Peter John yn mynd mor bell \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.ucl.ac.uk\/political-science\/downloads\/peter_john_lecture_speech_201112.pdf\">honni<\/a> mai \u2018dim ond drwy newid ymddygiad dinasyddion y gellir mynd i\u2019r afael yn llawn \u00e2 llawer o\u2019r prif heriau mewn polis\u00efau cyhoeddus\u2019.<\/p>\n<p>Yn flaenorol, mae ymyriadau mewn polis\u00efau cyhoeddus wedi gweithio o safbwynt y dybiaeth mai prosesau rhesymegol yw ymddygiadau a bod codi ymwybyddiaeth o fater ynddo\u2019i hun yn ddigon i newid ymddygiad. Nid yw\u2019r dybiaeth hon yn ystyried yr arferion sy\u2019n rhan o ymddygiad pobl na\u2019r hyn sy\u2019n digwydd o\u2019u cwmpas. Yn fwy diweddar, mae ystod o raglenni gwyddoniaeth ymddygiadol, fel y rhai a ddatblygwyd gan <a href=\"https:\/\/38r8om2xjhhl25mw24492dir-wpengine.netdna-ssl.com\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/BIT-Publication-EAST_FA_WEB.pdf\">D\u00eem y Cipolygon Ymddygiadol<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/www.ucl.ac.uk\/behaviour-change\/cbc-news\/designing-health-behaviour-change-interventions\">Ganolfan Newid Ymddygiad<\/a>, wedi ceisio rhoi ystyriaeth lawer fwy manwl i\u2019r ystod o ffactorau sy\u2019n dylanwadu ar ymddygiad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r datblygiadau yn y drafodaeth ynghylch newid ymddygiad yn adlewyrchu\u2019r rhai ynghylch polis\u00efau cyhoeddus a systemau polisi yn fwy cyffredinol: hynny yw, maent yn <a href=\"http:\/\/blogs.lse.ac.uk\/politicsandpolicy\/complex-systems-thinking-for-policy\/\">fl\u00ear ac yn gymhleth<\/a>, ac y dylem gadw hynny mewn cof wrth baratoi camau ac ymyriadau. Mae trafodaeth o hyd ynghylch p\u2019un a yw ymyriadau gwyddoniaeth ymddygiadol yn gallu datrys problemau polisi o hyd, neu a oes angen i lunwyr polis\u00efau feddwl yn hytrach am sut y gellir <a href=\"https:\/\/www.thelancet.com\/journals\/lancet\/article\/PIIS0140-6736(17)31267-9\/fulltext\">addasu systemau cyfan<\/a> er mwyn cael deilliannau mwy ffafriol. Bydd cyfuniad o\u2019r ddau yn fwy llwyddiannus yn \u00f4l pob tebyg.<\/p>\n<p>Mae model ymddygiad COM-B yn declyn defnyddiol er mwyn dadansoddi newidiadau unigol ac mewn systemau. Mae\u2019n nodi tri ffactor sy\u2019n llywio ymddygiad:<\/p>\n<ol>\n<li>Gallu: y gallu seicolegol i ymddwyn mewn modd penodol<\/li>\n<li>Cyfle: yr amgylchedd ffisegol a chymdeithasol sy\u2019n galluogi ymddygiad<\/li>\n<li>Cymhelliant: y mecanweithiau myfyriol ac awtomatig sy\u2019n cymell neu\u2019n atal ymddygiad<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae\u2019r Ganolfan Newid Ymddygiad yn dadlau bod pob un o\u2019r rhain yn cyfuno i lywio ymddygiad, felly rhaid i unrhyw ymyriadau polisi eu hystyried a mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw i gyd. Yn syml, nid yw gwybod beth yw ymddygiad iach yn ddigonol gan fod angen gwybod beth sy\u2019n cymell yr ymddygiad a pha amgylchedd sy\u2019n ei alluogi.<\/p>\n<p>Mae gan hyn oblygiadau ymarferol i bolis\u00efau cyhoeddus. Er enghraifft, mae ymgyrch wybodaeth yn fath cyffredin o ymyriad i newid ymddygiad. Gallai taflenni gael eu hanfon at bobl berthnasol. Gallai hysbysebion gael eu gosod ar hysbysfyrddau. Fodd bynnag, ni fydd y rhain yn cael unrhyw effaith os mai\u2019r cyfan y maent yn ceisio ei wneud yw newid dealltwriaeth rhywun.<\/p>\n<p>Ni fydd camau newid ymddygiad yn effeithiol ychwaith os canolbwyntir ar un unigolyn ar y tro. Mae newid ymddygiad yn golygu sylweddoli bod ymddygiad yn digwydd o fewn system o ymddygiadau eraill. Er enghraifft, ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, \u2018<a href=\"https:\/\/www.ucl.ac.uk\/behaviour-change\/cbc-news\/designing-health-behaviour-change-interventions\">mae\u2019n cynnwys dadansoddi ymddygiad y rhai sy\u2019n derbyn ac yn rhoi gofal iechyd, a\u2019r rhai sy\u2019n paratoi ac yn cyflwyno polis\u00efau iechyd cyhoeddus, a\u2019r rhai sy\u2019n cael eu dylanwadu ganddynt\u2019<\/a>..<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid yw hyn yn llywio ymyriadau polisi oni bai ein bod yn ystyried sut i\u2019w dylunio a\u2019u defnyddio\u2019n gywir. Mae model COM-B yn cynnig proses chwe cham ar gyfer dylunio ymyriadau er mwyn newid ymddygiad:<\/p>\n<ol>\n<li>Dewis yr ymddygiad a dargedir<\/li>\n<li>Nodi\u2019r ymddygiad a dargedir<\/li>\n<li>Deall yr ymddygiad a dargedir<\/li>\n<li>Creu\u2019r ymyriad<\/li>\n<li>Nodi cynnwys yr ymyriad<\/li>\n<li>Cyflwyno\u2019r ymyriad<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae rhannu\u2019r ymyriad fel hyn yn wahanol gamau yn fodd o wneud yn si\u0175r bod yr ymddygiadau cywir yn cael eu targedu (1), eu bod yn cael eu disgrifio mor glir \u00e2 phosibl er mwyn gallu eu mesur (2), a\u2019u bod yn cael eu deall mewn cymaint o fanylder \u00e2 phosibl (3). Mae hyn yn golygu bod modd creu ymyriad (4), mewn modd sy\u2019n addas ar gyfer targedu\u2019r ymddygiad (5), ac yna eu cyflwyno yn y cyd-destun priodol (6), er enghraifft drwy ymyriad wyneb yn wyneb, neu newid mewn polisi cyhoeddus.<\/p>\n<p>O fewn y broses hon, bydd deilliannau anfwriadol o hyd a\/neu\u2019r posibilrwydd y bydd y polisi yn methu. Bydd gwybodaeth amherffaith bob amser wrth wneud unrhyw benderfyniad polisi. Fodd bynnag, dyna\u2019n union ddiben defnyddio safbwyntiau ymddygiadol. Mae\u2019n ein hannog i ystyried ystod mor eang \u00e2 phosibl o ffactorau dylanwadol.<\/p>\n<p>Hyd yma, rydym wedi defnyddio\u2019r gwaith hwn mewn dau aseiniad ar wah\u00e2n. Yn ein gwaith am <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/behaviour-change-in-the-welsh-nhs-insights-from-three-programmes\/\">newid ymddygiad yn y GIG yng Nghymru<\/a>, fe wnaethom adolygu rhai o\u2019r ymdrechion yng Nghymru i annog newidiadau yn y ffordd y mae\u2019r GIG yn rhyngweithio \u00e2 chleifion. Mae hyn yn cynnwys newid natur y sgyrsiau rhwng cleifion a chlinigwyr, annog staff anfeddygol i gael sgyrsiau gyda dinasyddion ac annog pobl i ymddwyn yn iachach er mwyn eu helpu i osgoi gorfod cael triniaeth yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Rydym hefyd wedi defnyddio fframweithiau newid ymddygiad a allai helpu i gynyddu <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/increasing-household-waste-recycling-with-behavioural-science\/\">cyfraddau ailgylchu ymhlith teuluoedd yng Nghymru<\/a>. Daeth nifer o them\u00e2u i\u2019r amlwg gan gynnwys y ffaith fod grwpiau ar wah\u00e2n i\u2019r llywodraeth mewn sefyllfa i nodi\u2019r hyn sy\u2019n rhwystro pobl rhag newid eu hymddygiad a dylunio ymyriadau sy\u2019n addas i\u2019r cyd-destun lleol. Fe bwysleisiodd hefyd y gallai ymyriadau newid ymddygiad fod yn fwy llwyddiannus os ydynt yn gallu newid arferion cyfredol.<\/p>\n<p>Mae llawer o waith i\u2019w wneud o hyd. Mae angen sylfaen dystiolaeth lawer ehangach er mwyn deall ymddygiadau cyfredol a sut i\u2019w newid. Y tu hwnt i hynny, mae angen i ni wybod rhagor o hyd am sut i ymgysylltu \u00e2 dinasyddion mewn unrhyw ymyriadau newid ymddygiad. Fodd bynnag, dylai fod defnyddio safbwyntiau newid ymddygiad er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r heriau sylfaenol ym maes polisi fod yn flaenoriaeth o hyd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae newid ymddygiad yn thema gynyddol gyffredin mewn polis\u00efau cyhoeddus. Mae Peter John yn mynd mor bell \u00e2 honni mai \u2018dim ond drwy newid ymddygiad dinasyddion y gellir mynd i\u2019r afael yn llawn \u00e2 llawer o\u2019r prif heriau mewn polis\u00efau cyhoeddus\u2019. Yn flaenorol, mae ymyriadau mewn polis\u00efau cyhoeddus wedi gweithio o safbwynt y dybiaeth mai [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15034,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,132],"class_list":["post-15035","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"403411-PCSCB8-777-scaled.jpg","filesize":111718,"sizes":{"medium":{"file":"403411-PCSCB8-777-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":13274,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-744x418.jpg"},"large":{"file":"403411-PCSCB8-777-1200x675.jpg","width":1200,"height":675,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28480,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-1200x675.jpg"},"thumbnail":{"file":"403411-PCSCB8-777-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":13269,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"403411-PCSCB8-777-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":13569,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-768x432.jpg"},"1536x1536":{"file":"403411-PCSCB8-777-1536x864.jpg","width":1536,"height":864,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":42889,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-1536x864.jpg"},"2048x2048":{"file":"403411-PCSCB8-777-2048x1152.jpg","width":2048,"height":1152,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":72824,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-2048x1152.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"403411-PCSCB8-777-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64616,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"403411-PCSCB8-777.jpg","ID":"15034","name":"403411-PCSCB8-777-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-scaled.jpg","title":"403411-PCSCB8-777.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-2048x1152.jpg 2048w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/403411-PCSCB8-777-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15035","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15035"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15035\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16430,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15035\/revisions\/16430"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15034"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15035"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15035"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15035"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15035"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}