{"id":15031,"date":"2019-03-11T14:19:46","date_gmt":"2019-03-11T14:19:46","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-all-llywodraethau-ymgysylltu-ar-cyhoedd-am-ofal-iechyd\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:28","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:28","slug":"sut-all-llywodraethau-ymgysylltu-ar-cyhoedd-am-ofal-iechyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-all-llywodraethau-ymgysylltu-ar-cyhoedd-am-ofal-iechyd\/","title":{"rendered":"Sut all llywodraethau ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd am ofal iechyd?"},"content":{"rendered":"<p>Mae un o\u2019r prosiectau sydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar y gweill yn edrych ar ffyrdd y gall llywodraethau ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd am ofal iechyd. Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol \u201c<a href=\"https:\/\/gov.wales\/topics\/health\/publications\/healthier-wales\/?lang=en\">Cymru Iachach<\/a>\u201d yn gosod ymgysylltiad \u00e2\u2019r cyhoedd fel rhan greiddiol o\u2019i dull gofal iechyd wrth edrych tua\u2019r dyfodol, ond nid oes sicrwydd eto sut fydd hyn yn edrych. Rydym ni\u2019n adeiladu ar waith blaenorol ar gyllidebu cyfranogol gan ragflaenydd y ganolfan, Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, ynghyd ag ymchwil ehangach i ddulliau ymgysylltu yng Nghymru ac yn rhyngwladol, er mwyn sefydlu sut fydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd ar iechyd yn edrych yn ymarferol.<\/p>\n<p>Nid yw Llywodraeth Cymru yn unigryw yn ei diddordeb mewn ffyrdd o wella r\u00f4l y cyhoedd mewn penderfyniadau ar lunio polisi. Mae melin drafod Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau wedi tynnu sylw at ddemocratiaeth cydgynghorol (ffordd o gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd mewn democratiaeth) fel un o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.thersa.org\/discover\/publications-and-articles\/rsa-blogs\/2018\/07\/our-call-for-action-on-deliberative-democracy\">prif feysydd ymgyrchu<\/a>.\u00a0 Maent hefyd wedi ymuno \u00e2\u2019r elusen <a href=\"https:\/\/www.involve.org.uk\/about\/about-involve\">Involve<\/a>, sy\u2019n gweithio\u2019n gyfan gwbl ar wella lefelau cymryd rhan y cyhoedd. Mewn cynhadledd ddiweddar ar <a href=\"https:\/\/www.bennettinstitute.cam.ac.uk\/events\/policy-success-and-failure-embedding-effective-lea\/\">lwyddiant a methiant polisi<\/a> yn Sefydliad Bennet ar gyfer Polisi Cyhoeddus yng Nghaergrawnt, cafodd y mater o ymgysylltiad cyhoeddus ei grybwyll yn aml. Mae ymdeimlad y gallai\u2019r sefyllfa wleidyddol bresennol fod yn ffafriol ar gyfer annog mwy o\u2019r cyhoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau uwchlaw\u2019r norm democrataidd presennol; mewn geiriau eraill, efallai bod \u201c<a href=\"https:\/\/paulcairney.wordpress.com\/tag\/kingdon\/\">cyfle<\/a>\u201d ar hyn o bryd ar gyfer y syniad hwn.\u00a0 Mae hyn yn benodol wir yng Nghymru, sydd hyd yn oed \u00e2 deddfwriaeth ar ffurf <a href=\"http:\/\/futuregenerations.wales\/about-us\/future-generations-act\/\">Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015<\/a> sy\u2019n rhestru cymryd rhan fel egwyddor gwneud penderfyniadau craidd ar gyfer cyrff cyhoeddus.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Sbectrwm ymgysylltu<\/h4>\n<p>Mae\u2019r graddau a\u2019r math o ymgysylltu yn amrywio\u2019n fawr gan ddibynnu ar y cyd-destun a\u2019r canlyniadau a ddymunir. Rydym ni o\u2019r farn fod Sbectrwm Cyfranogiad Cyhoeddus y <a href=\"https:\/\/www.iap2.org\/default.aspx\">Gymdeithas Cyfranogiad Cyhoeddus Ryngwladol<\/a> (a ddangosir yn y ddelwedd isod) yn ffordd dda o feddwl am hyn.\u00a0 Mae\u2019n mapio\u2019r lefelau ymgysylltu cynyddol gan ddechrau gyda \u201chysbysu\u201d a symud at \u201cymgynghori\u201d \u201ccynnwys,\u201d \u201ccydweithio\u201d ac yn olaf \u201cgrymuso\u201d.\u00a0 Yn syml, mae hysbysu yn golygu diweddaru\u2019r cyhoedd am bwnc penodol, ond nid yw\u2019n gyfle iddynt gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. Mae ymgynghori yn cynnwys casglu adborth cyhoeddus ar benderfyniadau\u2019r llywodraeth, tra bo cynnwys a chydweithio yn golygu gweithio gyda\u2019r cyhoedd drwy gydol y broses.\u00a0 Grymuso yw\u2019r math uchaf o ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd ac mae\u2019n rhoi i\u2019r cyhoedd y gair olaf wrth wneud penderfyniadau. O ddweud hynny, fe ddylem ni fod yn wyliadwrus o ddyfarnu gwerth i\u2019r sbectrwm yn awtomatig. Nid yw\u2019r ffaith mai grymuso yw\u2019r lefel ymgysylltu uchaf yn golygu mai dyna\u2019r\u00a0ffordd fwyaf priodol bob tro. Bydd hynny\u2019n dibynnu ar y cyd-destun penodol.<\/p>\n<figure id=\"attachment_2396\" aria-describedby=\"caption-attachment-2396\" style=\"width: 509px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-2396\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/quarmby.png\" alt=\"\" width=\"509\" height=\"312\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2396\" class=\"wp-caption-text\">Llun: Involve<\/figcaption><\/figure>\n<h4>Gwahanol ffyrdd o ymgysylltu<\/h4>\n<p>Yn ymarferol, mae ymgysylltu yn dueddol o fod ar ffurf modelau penodol. Cynhaliodd Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru adolygiad o dystiolaeth ar <a href=\"http:\/\/ppiw.org.uk\/files\/2017\/08\/PPIW-report_participatory-budgeting-evidence-review_-July-2017-FINAL.pdf\"><strong>gyllidebu cyfranogol<\/strong><\/a>, ffurf o ymgysylltu lle mae poblogaethau lleol yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am y ffordd y caiff cyllid cyhoeddus ei ddyrannu. Mae\u2019r adolygiad o dystiolaeth yn fframwaith ar gyfer penderfynu pa ffurf o gyllidebu cyfranogol sy\u2019n briodol ar gyfer y cyd-destun, yn seiliedig ar gyfres o gwestiynau: Beth yw'r nod? Beth ddylai\u2019r lefelau cyfranogi fod? Beth yw graddfa\u2019r broses? Pwy fydd yn rhan o\u2019r broses? Ar ba gam y bydd pobl yn cael eu cynnwys? Beth yw\u2019r dull cynnwys? Er bod y cwestiynau hyn yn deillio o\u2019r gwaith cyllidebu cyfranogol, maent yn berthnasol i ymgysylltu cyhoeddus yn gyffredinol, ac rydym ni\u2019n eu defnyddio fel rhan o ymchwil gynnar ar gyfer ein prosiect presennol ar ymgysylltiad cyhoeddus ac iechyd.<\/p>\n<p>Un dull poblogaidd o ymgysylltu yng nghyd-destun iechyd yw\u2019r <strong>rheithgor dinasyddion<\/strong>. Mae hwn fel arfer yn cynnwys grwp o rhwng 12 a 24 o bobl a gaiff eu dewis i gynrychioli demograffeg ardal benodol, ac sy\u2019n cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau trafod ar fater penodol dros gyfnod o sawl diwrnod. Caiff tystiolaeth gan arbenigwyr ei chyflwyno a\u2019i hadolygu ac mae\u2019r rheithgor yn penderfynu o blith amrywiaeth o gamau gweithredu amgen, mewn <a href=\"https:\/\/www.epa.gov\/international-cooperation\/public-participation-guide-citizen-juries\">ffordd debyg i reithgor cyfreithiol<\/a>. Mae tystiolaeth ym awgrymu bod rheithgor dinasyddion yn ffordd effeithiol o ymgysylltu, gan fod y rheithgor yn ddigon bach i ganiat\u00e1u trafodaeth gynhyrchiol, ond hefyd yn ddigon amrywiol i ddwyn amrywiaeth o safbwyntiau ynghyd,<\/p>\n<p>Mae <strong>cynulliadau dinasyddion<\/strong> yn debyg ond ar raddfa fwy; o tua 40 i 100 o gyfranogwyr, ac yn aml dros gyfnod hirach o amser. \u00a0Roedd y refferendwm diweddar yng Ngweriniaeth Iwerddon dros b\u2019un a ddylid cael gwared ar Wythfed Diwygiad y Cyfansoddiad yn <a href=\"https:\/\/www.electoral-reform.org.uk\/the-irish-abortion-referendum-how-a-citizens-assembly-helped-to-break-years-of-political-deadlock\/\">seiliedig ar argymhellion<\/a> o gynulliad dinasyddion, ac mae\u2019n enghraifft proffil uchel o effaith bosibl y dulliau ymgysylltu hyn.\u00a0 Hefyd, mae cynulliadau dinasyddion diweddar wedi bod ar gyllid gofal cymdeithasol yn <a href=\"https:\/\/www.involve.org.uk\/resources\/publications\/project-reports\/citizens-assembly-social-care-how-fund-social-care\">Lloegr<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.involve.org.uk\/resources\/blog\/project-update\/unanimous-support-citizens-assembly-northern-ireland-better-conditions\">Iwerddon<\/a>. Mae modelau ymgysylltu eraill na ch\u00e2nt eu defnyddio mor eang yn cynnwys polau cydgynghorol a chynadleddau consensws, ond mae\u2019r sylfaen dystiolaeth am eu heffeithiolrwydd yn fwy cyfyng.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Ein hymagwedd ni<\/h4>\n<p>Gan gadw hyn oll mewn cof, fe ddechreuon ni drwy adolygu\u2019r gwahanol fathau o ymgysylltu sydd eisoes ar waith yng Nghymru. Yn gyfochrog \u00e2 hynny, fe nodon ni gyfeiriadau at ymgysylltu yn \u201cCymru Iachach\u201d ac edrych ar y ffurf y gallant gymryd yn ymarferol o ran ble maent yn ffitio ar y sbectrwm ymgysylltu, a pha raddfa o ymgysylltu fyddai fwyaf addas. Gan adeiladu ar hyn, rydym ni wrthi\u2019n adolygu\u2019r dystiolaeth ar ymgysylltu cyhoeddus o amgylch tri chanlyniad a nodir yn \u201cCymru Iachach\u201d. Sut i annog poblogaethau i ddilyn ffordd iachach o fyw, sut i ddylunio gofal o amgylch y claf, ac ymgysylltiad cyhoeddus er mwyn newid systemau. Bydd y rhain yn sail i gyfres o weithdai a fyddwn yn eu cynnal yn ddiweddarach eleni lle byddwn yn hwyluso trafodaeth ag arbenigwyr, swyddogion Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr o\u2019r system iechyd a gofal cymdeithasol a sectorau perthnasol eraill. Yn y rhain, byddwn yn trafod y gwahanol fodelau ymgysylltu sydd wedi gweithio mewn mannau eraill a goblygiadau hyn o ran ymgysylltiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Llun gan\u00a0<a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/3aVlWP-7bg8?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Mikael Kristenson<\/a>\u00a0ar\u00a0<a href=\"https:\/\/unsplash.com\/search\/photos\/meeting?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Unsplash<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae un o\u2019r prosiectau sydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar y gweill yn edrych ar ffyrdd y gall llywodraethau ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd am ofal iechyd. Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol \u201cCymru Iachach\u201d yn gosod ymgysylltiad \u00e2\u2019r cyhoedd fel rhan greiddiol o\u2019i dull gofal iechyd wrth edrych tua\u2019r dyfodol, ond [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15029,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150,18],"tags":[135],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15031","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-iechyd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","filesize":794536,"sizes":{"medium":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":92801,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x496.jpg"},"large":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":199370,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":81333,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97800,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":301061,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":509970,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"mikael-kristenson-242070-unsplash-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":386840,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"mikael-kristenson-242070-unsplash.jpg","ID":"15028","name":"mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-scaled.jpg","title":"mikael-kristenson-242070-unsplash.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/mikael-kristenson-242070-unsplash-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15031","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15031"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15031\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15032,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15031\/revisions\/15032"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15029"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15031"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15031"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15031"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15031"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}