{"id":15026,"date":"2019-03-07T11:37:19","date_gmt":"2019-03-07T11:37:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ar-amddifadedd-a-chymunedau-gwahanol\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:27","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:27","slug":"sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ar-amddifadedd-a-chymunedau-gwahanol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ar-amddifadedd-a-chymunedau-gwahanol\/","title":{"rendered":"Sut mae mynd i'r afael ag unigrwydd? Tystiolaeth ar amddifadedd a chymunedau gwahanol"},"content":{"rendered":"<p><em>Dyma'r trydydd mewn cyfres blog tair rhan ar unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru.<\/em><\/p>\n<p><em>Yma, mae <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/person\/suzanna-nesom\/\">Suzanna Nesom<\/a> yn trafod sut y gellid mynd i'r afael ag unigrwydd yn achos pobl ag amddifadedd materol ac mewn cymunedau gwahanol, o gofio'r dystiolaeth sydd ar gael.<\/em><\/p>\n<p>Mae'r gyfres hon o flogiau wedi bod yn archwilio'r hyn sy'n hysbys am unigrwydd yng Nghymru a'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud am fynd i'r afael ag unigrwydd, cyn lansio <a href=\"https:\/\/beta.gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2018-10\/consultation-document_1.pdf\">Strategaeth Unigrwydd<\/a>\u00a0Llywodraeth Cymru. Nododd <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/beth-maer-dystiolaeth-yn-dweud-am-unigrwydd-yng-nghymru\/\">Rhan Un<\/a> mai pobl ifanc a'r rhai sy'n dioddef o amddifadedd materol yw\u2019r grwpiau sydd fwyaf tebygol o fod yn unig, ac roedd <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ynghylch-cefnogi-pobl-iau-a-phobl-hyn\/\">Rhan Dau<\/a> yn trafod ffyrdd addawol o fynd i'r afael ag unigrwydd pobl iau a phobl h\u0177n. Mae'r erthygl hon yn s\u00f4n am ffyrdd o leihau unigrwydd ar gyfer pobl sy'n dioddef o amddifadedd materol. Trafodir ymyriadau gwahanol ar gyfer cymunedau gwahanol hefyd, gan fod y dystiolaeth yn awgrymu rhywfaint o gysylltiad rhwng unigrwydd a lle'r ydych yn byw.<\/p>\n<p><strong>Mynd i'r Afael ag Unigrwydd Oherwydd Amddifadedd Materol<\/strong><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/statistics-and-research\/national-survey\/?tab=current&amp;lang=en\">Arolwg Cenedlaethol Cymru<\/a> yn dangos bod dros draean o bobl a ddiffinnir gan <a href=\"https:\/\/gov.wales\/statistics-and-research\/households-below-average-income\/?lang=en\">Lywodraeth Cymru<\/a> fel rhai nad ydynt yn gallu cyrchu nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau, yn ystyried eu bod nhw eu hunain yn unig. Er gwaethaf hyn, nid oes fawr dim tystiolaeth, os o gwbl, ar ffyrdd effeithiol o leihau unigrwydd i'r bobl hyn. Mae'n debyg mai'r rheswm dros hyn yw bod unigrwydd, yn hanesyddol, wedi cael ei weld fel problem henaint, yn hytrach nag yn statws cymdeithasol-economaidd; sy'n golygu bod y rhan fwyaf o'r ymdrechion i fynd i'r afael ag unigrwydd wedi canolbwyntio ar bobl h\u0177n.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, gan fod rhai pobl yn cyfeirio at gysylltiad rhwng amddifadedd materol a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, efallai bod y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch mynd i'r afael ag unigrwydd i bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus yn berthnasol. Yma, daw peth <a href=\"https:\/\/create.canterbury.ac.uk\/15655\/1\/Social_Prescribing_Review_2015.pdf\">tystiolaeth addawol<\/a> o <a href=\"https:\/\/www.campaigntoendloneliness.org\/blog\/a-review-of-social-prescribing-schemes\/\">\u00a0rhagnodi cymdeithasol <\/a>, sy'n cysylltu cleifion meddygon teulu gyda chyfleusterau anfeddygol sy'n darparu cymorth cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol. Er ei bod yn addawol, mae angen mwy o dystiolaeth am y cysylltiad rhwng rhagnodi cymdeithasol a lleihau unigrwydd cyn iddo lywio polisi.<\/p>\n<p>Yn ddiddorol, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu <a href=\"https:\/\/www.sell2wales.gov.wales\/search\/show\/search_view.aspx?ID=OCT270811\">ymchwil<\/a> ar effaith unigrwydd ac arwahanrwydd ar y defnydd o wasanaethau cyhoeddus. Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn, ond mae'n annhebygol y byddant yn effeithio ar <a href=\"https:\/\/beta.gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2018-10\/consultation-document_1.pdf\">Strategaeth Unigrwydd<\/a> Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><strong>Mynd i'r afael ag Unigrwydd mewn ardaloedd Trefol<\/strong><\/p>\n<p>Er bod tystiolaeth nad oes unrhyw gysylltiad cyson rhwng ble mae rhywun yn byw a'i debygolrwydd o fod yn unig, mae rhai syniadau diddorol ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd mewn cymunedau gwahanol. Ar gyfer ardaloedd trefol, mae un ffordd a awgrymir o fynd i'r afael ag unigrwydd yn cynnwys troi dinasoedd yn 'ddinasoedd y gellir byw ynddynt'.<\/p>\n<p>I wneuthurwyr polisi, mae hyn yn golygu llunio polisi sy'n rhoi sylw i ansawdd bywyd. Mae ymyriad Transport for London, <a href=\"https:\/\/tfl.gov.uk\/corporate\/about-tfl\/how-we-work\/planning-for-the-future\/healthy-streets\">Healthy Streets Approach<\/a> yn gwneud hyn drwy osod pobl a'u hiechyd yn ganolog i wneud polis\u00efau er mwyn newid y canolbwynt ar greu strydoedd sy'n ddymunol, yn ddiogel, ac yn ddeniadol. Mae cefnogwyr y dull hwn yn awgrymu y caiff hyn effaith gadarnhaol ar leihau unigrwydd, wrth i hwyluso ymgysylltu cymdeithasol ddod yn flaenoriaeth yn nyluniadau strydoedd. Er nad yw hyn wedi'i roi ar waith, mae'n syniad addawol a fyddai'n elwa pe bai rhagor o dystiolaeth ar gael.<\/p>\n<p><strong>Mynd i'r afael ag Unigrwydd mewn Ardaloedd Gwledig<\/strong><\/p>\n<p>Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer lleihau unigrwydd mewn cymunedau gwledig, ond gan fod gan <a href=\"https:\/\/www.ofcom.org.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0032\/95882\/CN16-Wales.pdf\">ddim ond 57% o eiddo<\/a> yng nghefn gwlad Cymru seilwaith band eang ffibr, gallai mentrau sy'n defnyddio technoleg a chysylltedd i leihau unigrwydd fod yn berthnasol.<\/p>\n<p>Mae llawer o'r ymchwil hwn yn gweld bod defnyddio technoleg yn gallu lliniaru unigrwydd, yn enwedig i bobl h\u0177n. Mae'r ymyriadau hyn naill ai'n ymwneud \u00e2 chysylltu pobl \u00e2'r rhyngrwyd neu \u00e2 defnyddio technoleg i helpu rhyngweithio. Mae enghreifftiau o'r gwaith ymchwil hwn yn cynnwys defnyddio robotiaid mewn gofal henoed sy\u2019n gallu efelychu rhyngweithio rhwng pobl ac anifeiliaid, yn ogystal \u00e2 chyrsiau ar sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd neu apiau ar y we.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, gall technoleg atgyfnerthu ymdeimlad o unigrwydd neu arwahanrwydd os na chaiff ei weithredu'n ofalus. Rhaid i ymyriadau sicrhau bod gan bobl y wybodaeth a'r sgiliau i ddefnyddio'r dechnoleg hon yn unol \u00e2\u2019r ffordd a fwriadwyd. Hefyd mae ystyriaethau moesegol a moesol o ran ymdrin ag unigrwydd drwy dechnoleg gan fod modd ei weld yn rhywbeth sy'n disodli rhyngweithio dynol, yn hytrach nag yn gymorth ychwanegol.<\/p>\n<p><strong>Beth sy\u2019n digwydd nesaf?<\/strong><\/p>\n<p>Bydd unigrwydd yn parhau i ddenu diddordeb llunwyr polis\u00efau yn y DU, yn enwedig yng Nghymru gyda rhyddhau'r <a href=\"https:\/\/beta.gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2018-10\/consultation-document_1.pdf\">Strategaeth Unigrwydd<\/a> erbyn Mawrth 2019. Bydd y ganolfan <a href=\"https:\/\/whatworkswellbeing.org\/\">What Works Centre for Wellbeing<\/a> hefyd yn parhau i weithio ar unigrwydd gan ymchwilio i'w gysylltiad \u00e2 lles trwy gydol oes, ac archwilio cyfraniad gwirfoddoli a dulliau seiliedig ar le wrth leihau unigrwydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma'r trydydd mewn cyfres blog tair rhan ar unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru. Yma, mae Suzanna Nesom yn trafod sut y gellid mynd i'r afael ag unigrwydd yn achos pobl ag amddifadedd materol ac mewn cymunedau gwahanol, o gofio'r dystiolaeth sydd ar gael. Mae'r gyfres hon o flogiau wedi bod yn archwilio'r hyn sy'n hysbys [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15025,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[141,148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15026","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"young-mother-post-natal-depression-scaled.jpg","filesize":347573,"sizes":{"medium":{"file":"young-mother-post-natal-depression-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":38173,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-744x496.jpg"},"large":{"file":"young-mother-post-natal-depression-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":85511,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"young-mother-post-natal-depression-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33444,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"young-mother-post-natal-depression-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40167,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"young-mother-post-natal-depression-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":132516,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"young-mother-post-natal-depression-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":227403,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"young-mother-post-natal-depression-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":174813,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"young-mother-post-natal-depression.jpg","ID":"15025","name":"young-mother-post-natal-depression-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-scaled.jpg","title":"young-mother-post-natal-depression.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/young-mother-post-natal-depression-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15026","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15026"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15026\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16429,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15026\/revisions\/16429"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15025"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15026"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15026"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15026"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15026"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}