{"id":15021,"date":"2019-03-05T11:05:43","date_gmt":"2019-03-05T11:05:43","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/rheoli-perthnasau-amryfath-traws-lywodraethol\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:27","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:27","slug":"rheoli-perthnasau-amryfath-traws-lywodraethol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/rheoli-perthnasau-amryfath-traws-lywodraethol\/","title":{"rendered":"Rheoli perthnasau amryfath traws-lywodraethol"},"content":{"rendered":"<p>Mae'r \u2018darn meddwl\u2019 hwn yn adeiladu ar fy nghyflwyniad diweddar i seminar ar gyfer uwch swyddogion a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, oedd yn edrych ar fater dyrys gwaith traws-lywodraethol.\u00a0 Nid adolygiad academaidd yw hwn, ac rwy\u2019n fwriadol heb ei lethu \u00e2 llawer o gyfeiriadau academaidd.\u00a0 Yn lle hynny, yr wyf yn tynnu ar syniadau ymarferol, diddorol sy\u2019n ysbrydoli, yr wyf wedi dod ar eu traws yn ystod blynyddoedd lawer o ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau cyhoeddus, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.<\/p>\n<p>Fframwaith damcaniaethol sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i mi yw <strong>theori parthau <\/strong>(gweler isod).\u00a0 Mae'n amlygu'r gwahaniaethau rhwng y 'parth polisi', 'y parth rheoli' a\u2019r 'parth gwasanaeth' - o ran gwerthoedd a ffyrdd o weithio.\u00a0 Mae hyn yn bwysig i drafodaethau am waith traws-lywodraethol oherwydd bod llawer o\u2019r \u2018problemau mawr drwg\u2019 i\u2019w canfod yn y parth gwasanaeth\/proffesiynol.\u00a0 Meysydd fel amddiffyn cymdeithasol, addysg a iechyd sy\u2019n cyfrif am ryw ddwy ran o dair o\u2019r gwariant, a chyfran debyg o\u2019r gweithlu sector cyhoeddus, ar draws y gwledydd G7. Ac maent yn cael eu nodweddu gan amlygrwydd <em>proffesiynau<\/em> \u2013 meddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol ac athrawon yn ogystal \u00e2 llu o grwpiau proffesiynol eraill llai o faint ym meysydd trefn ac amddiffyn y cyhoedd, amddiffyniad a gweinyddiaeth gyhoeddus. Gall heriau gwaith traws-lywodraethol edrych yn wahanol iawn yn rheng flaen y gwasanaethau hyn i\u2019r hyn ydynt yn y parthau polisi a rheoli.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-2362 aligncenter\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/fig-1-talbot.png\" alt=\"\" width=\"537\" height=\"337\" \/><\/p>\n<p>Mae theori parthau hefyd yn ein helpu i ddeall problemau <em>o fewn <\/em>a <em>rhwng <\/em>sefydliadau.\u00a0 Oddi mewn i unrhyw sefydliad unigol gwasanaeth cyhoeddus mae\u2019n debygol y bydd problemau gyda chyfathrebu, cydgysylltu a gwrthdaro ar draws ffiniau parthau.<\/p>\n<p>Mae effaith ddeuol ddiddorol i\u2019r parthau rhwng sefydliadau.\u00a0 Gall cyfathrebu oddi mewn i un parth ar draws sefydliadau lluosog fod yn gymharol hawdd - oherwydd bod y parthau\u2019n gweithio mewn ffyrdd tebyg. Yn wir, mae llawer o rwydweithiau a chysylltiadau yn aml yn bodoli eisoes ar draws ffiniau sefydliadol ar lefel pob parth. Gall hyn fod yn gadarnhaol, a chaniat\u00e1u i syniadau a chydgysylltu ymledu.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-2364 aligncenter\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/fig-2-talbot.png\" alt=\"\" width=\"494\" height=\"310\" \/><\/p>\n<p>Fodd bynnag, gall cyfathrebu a chydgysylltu ar draws ffiniau parthau atgyfnerthu ffiniau sefydliadol pan roddir y r\u00f4l arweiniol yn y gwaith o reoli perthnasoedd trawsbynciol i barthau gwahanol mewn gwahanol sefydliadau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>O broblemau i atebion<\/h4>\n<p>Ffynhonnell arall ar gyfer ffyrdd buddiol o fynd ati gyda gwaith traws-lywodraethol, sydd wedi mynd rhywfaint allan o ffasiwn yn y blynyddoedd diwethaf, yw datblygiad sefydliadol (OD).<\/p>\n<p>Roedd arloeswyr OD yn y 1960au am esbonio a newid cymdeithas a sefydliadau. Bu un o sylfaenwyr enwocaf OD, Kurt Lewin, yn ymdrin \u00e2 phroblemau cymdeithasol a sefydliadol \u2013 gan gynnwys tensiynau hiliol yn UDA wedi\u2019r ail ryfel byd.<\/p>\n<p>Datblygwyd llawer o syniadau a thechnegau OD i fynd i'r afael \u00e2 rheoli gwrthdaro fertigol a llorweddol oddi mewn i unedau sefydliadol a rhyngddynt.\u00a0 Roedd OD cynnar yn amlygu gwirionedd digon syml - mae\u2019r angen am rannu llafur ac arbenigo yn anochel yn arwain at broblemau cydgysylltu ac integreiddio. Weithiau roedd hierarchaethau rheoli yn ddigon i gyflawni'r canlyniadau a ddymunid, ond pan na fydd hynny\u2019n ddigonol, rhaid cael dulliau eraill. Mae hyn yn arbennig o wir ar draws ffiniau rhwng sefydliadau y mae angen iddynt gydgysylltu i greu gwerth (boed hynny yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector).<\/p>\n<p>Roedd ymarfer OD yn dibynnu\u2019n drwm ar dystiolaeth - un enw ar hynny heddiw yw rheolaeth seiliedig ar dystiolaeth.\u00a0 Roedd yn pwysleisio bod cyflawni integreiddio yn galw am <em>ddiagnosis<\/em>, <em>dylunio<\/em>, <em>cynllunio gweithredu<\/em>, <em>gweithredu<\/em> a hefyd (yn \u00f4l at y dystiolaeth) <em>gwerthuso<\/em> mesurau i gyflawni gwell integreiddio. Nid proses linol oedd hon o reidrwydd, ond roedd angen i bob un o\u2019r elfennau uchod fod yn eu lle.<\/p>\n<p>Esblygodd llawer o dechnegau cynnar i gyflawni'r uchod \u2013 yn arbennig ar gyfer y camau cynllunio a gweithredu, er enghraifft:<\/p>\n<ul>\n<li>'Labordai' lle roedd gweithredwyr o wahanol unedau sefydliadol yn cwrdd ac yn trafod eu gwahaniaethau (gan ddefnyddio data o\u2019r <em>diagnosis<\/em>).<\/li>\n<li>Adborth arolwg i reolwyr o wahanol grwpiau ynghylch y problemau<\/li>\n<li>Penodi pobl sy'n gyfrifol am gydlynu llorweddol a chyfathrebu, gan gynnwys unigolion, timau a dulliau rheoli 'matrics'.<\/li>\n<li>Technegau datrys gwrthdaro<\/li>\n<li>Syniadau fel \"dadansoddiad maes grym\" Lewin a\u2019i syniadau am \u201drewi-dadrewi-ailrewi\u201d perthnasoedd a systemau sefydliadol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn ddiweddarach, yn y 1970au a'r 80au, cynhyrchodd OD lawer mwy o ddulliau gweithredu a thechnegau, er i\u2019r term \u2018datblygiad sefydliadol\u2019 fynd allan o ffasiwn yn raddol.\u00a0\u00a0 Tyfodd syniadau fel \u2018dadansoddi systemau\u2019, gwerthoedd a rheoli diwylliant i gyd o\u2019r gwreiddiau OD.<\/p>\n<p>Mae un dechneg yr wyf wedi\u2019i defnyddio ac wedi cael ei bod yn arbennig o ddefnyddiol yn haeddu sylw \u2013 <em>strwythurau dysgu cyfochrog.<\/em> Mae'r rhain yn golygu creu timau traws-sefydliadol o \u201cdafell\u201d groeslinol (er enghraifft, gan gynnwys pobl o bob un o\u2019r tri pharth) sydd wedi'u sefydlu i fynd i'r afael \u00e2 phroblem benodol. Maent yn cael eu sefydlu\u2019n fwriadol i fod yn wahanol o ran gwerthoedd, dulliau gweithredu a diwylliant i\u2019r sefydliadau y maent wedi deillio ohonynt, a hynny er mwyn datblygu atebion arloesol.<\/p>\n<p>Dyna'r rhan 'hawdd' \u2013 sicrhau cynllun clir a phroses ar gyfer cyflwyno\u2019r camau arloesi a\u2019u cynnwys yn y strwythurau gwreiddiol yw\u2019r rhan anodd.\u00a0 Yr allwedd yma fel arfer yw rhyw fath o weithredu arbrofol i roi cynnig ar arloesi cyn gweithredu ar draws y 'system gyfan'. (Mae llawer gormod o newidiadau yn y sector cyhoeddus yn hepgor y cam hwn yn gyfan gwbl, neu\u2019n methu gwerthuso a dysgu oddi wrtho\u2019n briodol.)<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Rheoli perthnasoedd amrywiol<\/h4>\n<p>Un o\u2019r problemau mae sefydliadau modern - o bob math - yn ei wynebu yw bod ganddyn nhw lefel uchel o wahaniaethu mewnol, a llawer iawn o berthnasoedd allanol i\u2019w rheoli.\u00a0 Mae hyn yn golygu bod rhaid i reolwyr ar bob lefel, ond yn arbennig ar y brig, fod yn stiwardiaid ar bob math o wahanol berthnasoedd o fewn y sefydliad a rhwng gwahanol sefydliadau.<\/p>\n<p>Profiad ffurfiannol pwysig yn fy ffordd i o feddwl oedd gweithio ar asiantaethau gweithredol neu\u2019r \u2018Camau Nesaf\u2019 yn y llywodraeth ganolog yn y 1990au, a chyda nhw hefyd weithiau.\u00a0 Dechreuodd y rhaglen o sefydlu asiantaethau oddi mewn i\u2019r gwasanaeth sifil yn y Deyrnas Unedig yn 1988 gydag adroddiad y \u2018Camau Nesaf\u2019, fel y\u2019i gelwid, ac yn fuan esblygodd yn newid strwythurol pwysig.\u00a0 Yn ei anterth roedd tua 80% o weision sifil yn gweithio mewn mwy na 140 o\u2019r cyfryw asiantaethau.<\/p>\n<p>Un o'r problemau a wynebwyd gennym oedd bod adrannau'r llywodraeth ganolog yn aml nid yn unig yn cynnwys llu o asiantaethau yn y pen draw (ar un adeg roedd gan Weinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig tua 40) ond hefyd lawer o berthnasoedd eraill rhwng sefydliadau - cwangos, partneriaid, cyflenwyr, gwasanaethau allanol, ac ati.<\/p>\n<p>Treuliais amser hefyd yn darllen y llenyddiaeth ar reoli corfforaethau amrywiol a hefyd ar bartneriaethau sector preifat er mwyn ceisio deall y problemau roedd hyn yn eu creu, ac un wers allweddol a ddysgais oedd bod angen ceisio, o leiaf, symleiddio\u2019r amrywiol berthnasoedd hyn.\u00a0 Roedd yn amlwg o ran o'r llenyddiaeth sector preifat fod agwedd \u2018un maint i bawb\u2019 fel arfer yn drychinebus, ond bod hynny hefyd yn wir am agwedd \u2018gadael i fil o flodau flodeuo\u2019.\u00a0 Yn syml, ni allai rheolaeth strategol a rheolwyr ymdopi \u00e2 gormod o berthnasoedd oedd yn rhy amrywiol.<\/p>\n<p>Un ateb oedd cael set gyfyngedig o dempledi safonol ar gyfer perthnasoedd fel ei bod yn glir pa rai sy\u2019n ffitio, yn fras, i ba flwch.\u00a0 Mae rheolwyr sy\u2019n gorfod delio gyda pherthynas benodol yn gwybod i ba dempled mae\u2019n ffitio, ac felly gallant amgyffred yn gynt \u00e2 beth maen nhw\u2019n delio.<\/p>\n<p>Er fy mod yn ymwybodol o gynigion penodol cyfyngedig i ddatblygu dull gweithredu o\u2019r fath, mae'n ddiddorol ei fod weithiau\u2019n ymddangos fel petai wedi \u2018codi\u2019 yn syml o ymarfer beth bynnag.\u00a0 Felly aeth y Weinyddiaeth Amddiffyn, er enghraifft, ati i symleiddio llawer iawn ar ei \u2018phroblem\u2019 asiantaeth, trwy gyfuno asiantaethau tebyg.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Rheoli ymaddasol<\/h4>\n<p>Un o'r pethau sydd wedi bod o ddiddordeb mawr i mi \u2013 ac sydd \u00e2 photensial mawr wrth feddwl am lywodraethu trawsbynciol - yw sut gall rheolwyr unigol newid ac addasu\u2019n gyflym i ffyrdd gwahanol o weithio, yn dibynnu ar eu cyd-destun. Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h6>Rheoli Newidiadau i Barthau<\/h6>\n<p>Wrth s\u00f4n am theori parthau bydda i\u2019n aml yn rhoi\u2019r enghreifftiau (sydd ddim mor) damcaniaethol am uwch-reolwr yn adran gwasanaethau plant awdurdod lleol.<\/p>\n<p>Yn y bore gallai ef neu hi fod yn mynychu\u2019r T\u00eem Uwch-reoli (<em>parth rheoli<\/em>) ac yn ymddwyn mewn ffordd reolaethol briodol (hierarchaidd, gyda ffocws ar effeithlonrwydd, ac ati). Mae defnyddwyr gwasanaeth yn <em>gwsmeriaid<\/em>.<\/p>\n<p>Yn y prynhawn gallai fod yn mynychu cynhadledd broffesiynol ar amddiffyn plant (<em>parth gwasanaeth\/proffesiynol<\/em>) a drefnwyd gan gymdeithas broffesiynol. Yma mae'n ymddwyn fel cydweithiwr proffesiynol -\u2013 mae rolau hierarchaidd yn llai pwysig, arbenigedd yw\u2019r elfen allweddol, colegoldeb yw\u2019r norm.\u00a0 Mae defnyddwyr gwasanaeth yn <em>gleientiaid<\/em>.<\/p>\n<p>Gyda\u2019r hwyr gallai fod angen iddo\/iddi fynychu cyfarfod gyda Chynghorwyr lleol (parth polisi) lle bydd y normau\u2019n ymwneud \u00e2 bargeinio, cydsyniad, ffurfio cynghreiriau a chyd-drafod.\u00a0 Mae defnyddwyr gwasanaeth yn <em>ddinasyddion<\/em>.<\/p>\n<p>Yr hyn sy'n ddiddorol yw pa mor hwylus mae rheolwyr da yn llithro rhwng gwahanol swyddogaethau, tra bod y rhai gwael yn methu gwneud hynny.<\/p>\n<h6>Rheoli mewn Cyd-destun Sefyllfaol<\/h6>\n<p>Mae enghraifft arall hynod ddiddorol i\u2019w gweld mewn rhai canghennau o\u2019r lluoedd arfog - yn arbennig lluoedd arbennig fel yr SAS neu Dimau \u2018Seal\u2019 yr UD, a hefyd yng Ngwylwyr y Glannau yn yr UD.<\/p>\n<p>Yn yr holl enghreifftiau hyn mae yna ddwy ffordd sylfaenol o weithredu \u2013 un ar gyfer y cyfnod cynllunio gweithredu ac un ar gyfer y cam gweithredu.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod cynllunio bydd uned SAS, Seal neu gwch Gwylwyr y Glannau o\u2019r UD fwy na thebyg yn cynnwys pawb sydd i fod i gymryd rhan mewn trafodaeth gymharol agored. Anogir mynegi barn a hyd yn oed anghytuno \u00e2 phobl ar lefel uwch.\u00a0 Mae pawb yn cael ei barchu fel rhywun a allai fod \u00e2 safbwynt gwahanol ac arbenigedd i\u2019w gyfrannu.<\/p>\n<p>Unwaith y bydd gweithredu\u2019n dechrau, fodd bynnag, mae\u2019r unedau hyn yn mynd yn \u00f4l i drefn gorchymyn a rheoli mwy traddodiadol i\u2019r lluoedd arfog - does dim amser i drafod llawer yn ystod ymgyrch achub neu frwydr t\u00e2n.<\/p>\n<p>Yr hyn sy'n ddiddorol yw gallu\u2019r timau hyn i newid, weithiau yn eithaf cyflym, rhwng dwy 'weithdrefn safonol' wahanol (SOP). Nid damwain yw hyn \u2013 mae\u2019n rhan o gynllun y sefydliadau, ac mae\u2019n un o\u2019r prif resymau am eu llwyddiant.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddwy enghraifft hon \u2013 rheoli newidiadau parth a rheoli mewn cyd-destun sefyllfaol, ac mae llawer o rai eraill - yn dangos bod unigolion a rheolwyr mewn sefydliadau yn gallu newid, neu addasu, yn gymharol gyflym rhwng dulliau gweithredu, cyhyd \u00e2\u2019u bod yn deall yn eglur <em>beth yw\u2019r gwahanol foddau <\/em>a <em>phryd maen nhw\u2019n briodol<\/em>.<\/p>\n<p>Mewn rhywbeth arall a ddeilliodd o\u2019r mudiad OD \u2013 <em>gwerthoedd rheoli cystadleuol (CVM)<\/em> \u2013 ceir trafodaeth helaeth ar y gwahanol rolau rheoli - sy\u2019n aml yn gwrthdaro - ym mhob sefydliad oherwydd natur gyferbyniol gynhenid sefydliadau dynol.\u00a0 Yn eu model nhw mae r\u00f4l y <em>\u2018cyfarwyddwr\u2019 <\/em>bron yn groes i r\u00f4l <em>\u2018mentor\u2019<\/em>, er enghraifft.\u00a0 Ond mae\u2019n rhaid i reolwyr wneud y ddau beth.<\/p>\n<p>Mae cefnogwyr CVM yn dadlau bod rheolwyr eithaf da yn aml yn cadw at un dull gweithredu, p\u2019un a yw'n effeithiol neu beidio. Weithiau mae \u2018cyfarwyddyd\u2019 yn gweithio, ac weithiau dyw e ddim.\u00a0 Mae rheolwyr rhagorol mewn gwirionedd yn gwybod pryd i fod yn hyblyg ac addasu a defnyddio dulliau gwahanol. Ar y llaw arall, mae rheolwyr gwael iawn yn ceisio bod yn hyblyg ond yn defnyddio\u2019r dulliau anghywir fel mater o drefn.<\/p>\n<p>Mae deall yr angen am hyblygrwydd priodol, ac ymaddasu i wahanol sefyllfaoedd a rolau, yn debygol o fod yn ffactor llwyddiant allweddol ar gyfer rheolwyr, gweithwyr proffesiynol a gwneuthurwyr polisi wrth alluogi llywodraethu trawsbynciol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Adeiladu t\u00eem o dimau?<\/h4>\n<p>Mae\u2019r set derfynol o syniadau yr wyf am s\u00f4n amdanynt unwaith eto yn dod o gyd-destun milwrol \u2013 y syniad o \"d\u00eem o dimau\" a ddatblygwyd gan y Cadfridog Stanley McChrystal sy'n s\u00f4n am sut llwyddodd <em>Tasglu Gweithrediadau Arbennig yr UD ar y Cyd <\/em>i addasu i'r sefyllfa yn Irac er mwyn datrys problemau trawsbynciol mewn cyd-destun milwrol.<\/p>\n<p>Roedd y Tasglu yn cynnwys amrywiol unedau gweithrediadau arbennig o bob rhan o luoedd arfog yr Unol Daleithiau, yn ogystal \u00e2 gwybodaeth ac adnoddau eraill.\u00a0 Er bod llawer o gydrannau unigol y Tasglu yn defnyddio\u2019r math o weithredu t\u00eem hyblyg a ddisgrifiais uchod, dyma\u2019r hyn yr oedd McChrystal yn ei alw\u2019n \u2018orchymyn timau\u2019 - h.y. hierarchaeth draddodiadol \u2018gorchymyn a rheoli\u2019 ar ben lliaws o dimau.<\/p>\n<p>Mae McChrystal yn awgrymu bod y Tasglu fel y cyfryw eisoes wedi symud i ffwrdd oddi wrth hierarchaeth draddodiadol 'Gorchymyn a rheoli' syml\u00a0 i 'orchymyn timau' (gweler isod)<\/p>\n<figure id=\"attachment_2366\" aria-describedby=\"caption-attachment-2366\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-2366\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Screenshot-2018-10-06-09.41.242.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"142\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2366\" class=\"wp-caption-text\">Gorchymyn a rheoli<\/figcaption><\/figure>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-medium wp-image-2368\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Screenshot-2018-10-06-09.41.24.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"168\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae hyn yn cyfateb i'r sefyllfa mewn llawer o wasanaethau dynol sector cyhoeddus lle mae gweithio mewn t\u00eem wedi dod yn gyffredin ond o fewn cyd-destun hierarchaethau gorchymyn cymharol draddodiadol (a atgyfnerthir weithiau gan anghenion atebolrwydd gwleidyddol).<\/p>\n<p>Mae McChrystal yn awgrymu mai\u2019r esblygiad nesaf fyddai symud o \u2018orchymyn timau\u2019 i \u2018d\u00eem o dimau\u2019.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-2370 aligncenter\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Screenshot-2018-10-06-09.41.252.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"209\" \/><\/p>\n<p>Mae\u2019n cyflwyno pedair egwyddor a sbardunodd yr ymgais:<\/p>\n<ol>\n<li>Ymddiriedaeth<\/li>\n<li>Diben cyffredin<\/li>\n<li>Ymwybyddiaeth a rennir<\/li>\n<li>Gweithredu wedi'i rymuso<\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn fyr, roedd y rhain yn cynnwys:<\/p>\n<ol>\n<li><em>Ymddiriedaeth,<\/em> oedd yn golygu adeiladu pontydd ar draws timau. Gwnaed hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd \u2013 lleoliadau tymor byr, cysgodi gwaith, swyddogion cyswllt, ac ati. Y syniad sylfaenol oedd nad oedd rhaid i bawb ym mhob t\u00eem wybod sut roedd y timau eraill yn gweithio na phwy oeddent, cyhyd \u00e2 bod rhywun yn gwybod.<\/li>\n<li>Roedd<em> diben cyffredin<\/em> yn golygu sicrhau bod pawb yn gwybod beth roeddent yn ceisio\u2019i wneud, o'r strategol i\u2019r gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau llawer mwy tryloyw ac agored i\u2019w cwestiynu nag sy'n arferol yn y lluoedd arfog, fel bod pawb dan sylw yn deall y nodau.<\/li>\n<li>Roedd <em>ymwybyddiaeth a rennir<\/em> hyd yn oed yn fwy rhyfeddol mewn sefyllfa filwrol, gyda chudd-wybodaeth a gwrthdaro. Agorwyd ymarferiad milwrol digon safonol \u2013 briffiad Gweithrediadau a Gwybodaeth gorchymyn dyddiol - yn y modd mwyaf anarferol.\u00a0 Ar un adeg roedd Gweithrediadau a Gwybodaeth dyddiol y Tasglu yn cynnwys 7,000 o gyfranogwyr drwy rwydwaith cyfathrebu diogel. Ie, saith mil. Yn amlwg nid oedd hyn heb ei heriau - yn fwyaf oll diogelu.\u00a0 Ond roedd manteision sicrhau bod cynifer o bobl yn <em>ymwybodol<\/em> ac yn gallu '<em>cysylltu\u2019r dotiau<\/em>' yn gorbwyso'r problemau.<\/li>\n<li>Yn olaf, roedd <em>grymuso gweithredu<\/em> yn golygu bod y timau ar lawr gwlad yn rhydd i addasu gweithrediadau gan wybod beth oedd y diben cyffredinol a beth oedd y cynlluniau a'r wybodaeth diweddaraf. Roedd hyn yn caniat\u00e1u manteisio ar gyfleoedd a allasai gael eu colli fel arall.<\/li>\n<\/ol>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn amlwg mae heriau i drosglwyddo unrhyw un neu\u2019r cyfan o\u2019r rhain i sefyllfaoedd anfilwrol a rhai heb wrthdaro.\u00a0 Mae\u2019r agwedd <em>rhannu ymwybyddiaeth <\/em>yn arbennig yn cynnwys anawsterau o ran cost, diogelu data, preifatrwydd ac ati.\u00a0 Ond mae pob un o\u2019r pedair egwyddor hyn yn sicr yn rhoi digon i ni gnoi cil arno.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae'r \u2018darn meddwl\u2019 hwn yn adeiladu ar fy nghyflwyniad diweddar i seminar ar gyfer uwch swyddogion a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, oedd yn edrych ar fater dyrys gwaith traws-lywodraethol.\u00a0 Nid adolygiad academaidd yw hwn, ac rwy\u2019n fwriadol heb ei lethu \u00e2 llawer o gyfeiriadau academaidd.\u00a0 Yn lle hynny, yr wyf yn tynnu ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15022,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[134,141],"research-and-impact":[133],"class_list":["post-15021","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-llywodraeth-leol","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Bright-idea-bulb-scaled.jpg","filesize":463524,"sizes":{"medium":{"file":"Bright-idea-bulb-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35375,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-744x496.jpg"},"large":{"file":"Bright-idea-bulb-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":93313,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Bright-idea-bulb-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":32363,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Bright-idea-bulb-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37555,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Bright-idea-bulb-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":155824,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Bright-idea-bulb-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":289186,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Bright-idea-bulb-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":221397,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Bright-idea-bulb.jpg","ID":"9406","name":"Bright-idea-bulb-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-scaled.jpg","title":"Bright-idea-bulb.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bright-idea-bulb-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15021","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15021"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15021\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15023,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15021\/revisions\/15023"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15022"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15021"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15021"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15021"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15021"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}