{"id":15013,"date":"2019-02-26T11:52:04","date_gmt":"2019-02-26T11:52:04","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/mae-angen-i-ni-siarad-am-gaffael\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:26","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:26","slug":"mae-angen-i-ni-siarad-am-gaffael","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/mae-angen-i-ni-siarad-am-gaffael\/","title":{"rendered":"Mae angen i ni siarad am gaffael"},"content":{"rendered":"<p>Ar 4 Chwefror fe gyhoeddon ni adroddiad newydd pwysig ar gaffael. Mae <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/tu-hwnt-i-gontractio-stiwardiaeth-gwasanaeth-cyhoeddus-i-uchafu-gwerth-cyhoeddus\/\"><em>Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaeth cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus<\/em><\/a>\u00a0yn dadlau bod angen i wleidyddion a phrif weithredwyr ddefnyddio caffael yn strategol i fwyafu\u2019r canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer eu cymunedau lleol, yn hytrach na mynd am yr opsiwn cost isaf yn unig.<\/p>\n<p>Amlygodd y digwyddiad lansio gydag academyddion uwch, swyddogion o Lywodraeth Cymru, rheolwyr awdurdodau lleol a phanel o arbenigwyr oedd yn cynnwys John Tizard (cyd-awdur yr adroddiad), Liz Lucas (Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) a Benoit Guerin, (Ymchwilydd Uwch yn Athrofa\u2019r Llywodraeth) rai negeseuon pwysig.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong> Nid mater syml o 'wneud neu brynu' yw hyn<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Roedd ein panelydd John Tizard yn dadlau mai darpariaeth fewnol ddylai fod yn opsiwn diofyn ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig rhai sy\u2019n troi o gwmpas pobl, megis iechyd a gofal cymdeithasol.\u00a0\u00a0 Lle gellir gwneud achos cryf o blaid contractio gwasanaeth allan, mae angen i gynghorau gadw eu capasiti mewnol er mwyn gosod safonau a rheoli contractau\u2019n effeithiol.\u00a0 Pwysleisiodd y cyfranogwyr yn ein digwyddiad nad darparu gwasanaeth yn allanol neu\u2019n fewnol yw\u2019r unig opsiynau: gall cyrff cyhoeddus ddyfarnu a rheoli grantiau, sy\u2019n aml yn fwy addas ar gyfer mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, ac y mae\u2019n ofynnol i awdurdodau lleol eu hyrwyddo fel darparwyr gwasanaethau gofal a chymorth o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.\u00a0 Gellir defnyddio grantiau i annog arloesedd a chefnogi arbrofion.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong> Mae angen gwell gwybodaeth am farchnadoedd arnom ni <\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae ein gwariant blynyddol ar gaffael yn \u00a36 biliwn, felly mae cyfrifoldeb ar y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddiogelu buddiannau dinasyddion wrth ddarparu gwasanaethau a mwyafu gwerth cyhoeddus ei fuddsoddiadau.\u00a0 Bu ein panelwyr Benoit Guerin a John Tizard, oedd yn myfyrio ar fethiannau sgandalau <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/learning-the-lessons-from-carillion-thoughts-from-our-panel-discussion\/\">diweddar<\/a> wrth gontractio gwasanaethau allan, yn amlinellu eu <a href=\"https:\/\/www.instituteforgovernment.org.uk\/publications\/government-procurement\">hargymhellion ar gyfer adrodd am ddata yn agored<\/a> a storfa ganolog, neu <a href=\"https:\/\/www.tuc.org.uk\/research-analysis\/reports\/domesday-book-public-service-contracts-%E2%80%93-better-data-better-value-money\">'Lyfr Domesday'<\/a>, fyddai\u2019n cynnwys manylion pwy sy\u2019n prynu beth gan bwy a pha mor dda mae\u2019r contract yn perfformio.\u00a0 Mae manteision mynediad i wybodaeth o'r fath yn eang: penderfyniadau mwy gwybodus o ran gwariant a rheoli risg; tystiolaeth ar gyfer craffu ar gyflenwyr a\u2019u herio; ac atebolrwydd i\u2019r trethdalwr. Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod tryloywder contractau yn arwain at fwy o ymgeiswyr amrywiol, a bod hynny\u2019n arwain yn ei dro at fargeinion gwell.\u00a0 Roedd pryderon am wybodaeth fasnachol sensitif ac achosion posibl o dorri'r gyfraith cystadleuaeth, fodd bynnag, roedd ein panelwyr yn ein sicrhau, fel mater o ddiddordeb i\u2019r cyhoedd, y dylai gwybodaeth fanwl, safonol am bob contract cyhoeddus gael ei chyhoeddi ac y dylid sicrhau bod <a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/818d05bc-1f1b-11e9-a46f-08f9738d6b2b\">contractwyr yn cynnal yr un safonau<\/a> \u00e2\u2019r cyrff cyhoeddus sy\u2019n eu contractio.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong> Efallai nad oes arnom angen strategaeth caffael newydd<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Fis Medi diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ar y pryd fod strategaeth caffael newydd yn cael ei datblygu, yn diweddaru \u00a0<a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/prp\/toolkit\/june15walesprocurementpolicystatement2015v1.pdf\">Datganiad Polisi Caffael<\/a> 2015, ond roedd ein panelydd llywodraeth leol, Liz Lucas, yn cwestiynu a oedd angen strategaeth newydd, gan gyfeirio at y cyfarwyddyd clir sydd eisoes yn bodoli o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol.\u00a0 Mae\u2019r Ddeddf <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/desh\/publications\/160915-spsf-1-core-guidance-en.PDF\">yn pennu caffael fel sbardun allweddol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy<\/a> ac mae t\u00eem Comisiynydd Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn datblygu \u00a0canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus drwy eu rhaglen <a href=\"https:\/\/futuregenerations.wales\/the-art-of-the-possible\/\">Celfyddyd y Posibl<\/a>. Felly, yn lle strategaeth newydd, roedd Liz yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhaglenni fydd yn datblygu capasiti caffael ar draws gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong> Allwn ni ddim fforddio <em>peidio \u00e2<\/em><\/strong> <strong>chodi caffael i\u2019r brig<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Roedd ein panelwyr yn dadlau bod angen i wleidyddion blaenllaw a phrif weithredwyr gymryd caffael yn fwy o ddifrif a rhoi caniat\u00e2d i swyddogion caffael arloesi, yn enwedig mewn achosion lle mae buddion neu arbedion yn cronni yn y tymor hwy neu\u2019r tu allan i\u2019w hadran neu eu sefydliad eu hunain.\u00a0 Tra bod caffael yn dal i gael ei weld fel y lleiaf o\u2019r gwasanaethau ariannol, ac fel swyddogaeth dechnegol a thrafodion sy\u2019n canolbwyntio ar yr opsiynau cost isaf, byddwn ni\u2019n colli cyfleoedd i ymgymryd \u00e2 phroses cyn-caffael sy\u2019n ychwanegu gwerth a gweithgareddau rheoli\/cyflawni contractau.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong> Mae'n bryd ail-werthuso caffael, fel proffesiwn a swyddogaeth<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae degawd o gyni wedi dileu capasiti i gaffael.\u00a0 O ganlyniad, mae cynghorau heb y gallu na\u2019r amser i feddwl am ffyrdd gwahanol o ddarparu gwerth gorau.\u00a0 Roedd ein panelwyr yn galw am fath newydd o swyddog caffael sy'n deall p\u0175er caffael fel galluogwr cynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ac yn gallu gweithredu ar lefel strategol. Rhaglenni hyfforddi pwrpasol yw rhan o'r ateb, ond er mwyn denu a chadw doniau mae angen i ni godi proffil caffael yn y sector cyhoeddus ac annog rhwydweithiau proffesiynol i feithrin arfer da. Ac mae angen inni weithio'n fwy hyblyg ac ar y cyd fel bod cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn rhannu arbenigedd caffael arbenigol na allant ei fforddio wrth weithredu ar eu pen eu hunain.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Felly, beth nesaf?<\/strong><\/p>\n<p>Roedd cyfranogwyr yn ein digwyddiad yn cytuno ar yr angen am newidiadau sylfaenol yn ein dull o gaffael gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.\u00a0 Yma yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ein nod yw helpu i gefnogi hyn, ac rydym ni\u2019n edrych ymlaen at barhau\u2019r sgwrs pan fyddwn ni\u2019n lansio ein hadroddiad nesaf ar Gaffael Cyhoeddus Cynaliadwy yn fuan.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 4 Chwefror fe gyhoeddon ni adroddiad newydd pwysig ar gaffael. Mae Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaeth cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus\u00a0yn dadlau bod angen i wleidyddion a phrif weithredwyr ddefnyddio caffael yn strategol i fwyafu\u2019r canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer eu cymunedau lleol, yn hytrach na mynd am yr opsiwn cost [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12772,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15013","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Funding-gap-finances.jpg","filesize":76288,"sizes":{"medium":{"file":"Funding-gap-finances-744x484.jpg","width":744,"height":484,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40145,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-744x484.jpg"},"thumbnail":{"file":"Funding-gap-finances-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37281,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Funding-gap-finances-768x499.jpg","width":768,"height":499,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41786,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-768x499.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9168","name":"Funding-gap-finances.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Funding-gap-finances.jpg","title":"Funding-gap-finances.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15013","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15013"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15013\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16428,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15013\/revisions\/16428"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12772"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15013"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15013"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15013"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15013"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}