{"id":15011,"date":"2019-02-19T12:55:09","date_gmt":"2019-02-19T12:55:09","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ar-bobl-iau-a-hyn\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:26","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:26","slug":"sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ar-bobl-iau-a-hyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ar-bobl-iau-a-hyn\/","title":{"rendered":"Sut mae mynd i\u2019r afael ag unigrwydd? Tystiolaeth ar bobl iau a h\u0177n"},"content":{"rendered":"<p><em>Dyma'r ail flog mewn cyfres o dri ar unigrwydd ac ynysiad yng Nghymru.\u00a0<\/em><\/p>\n<p><em>Yma, rydym yn trafod ffyrdd posibl o fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl iau a phobl h\u0177n, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael.<\/em><\/p>\n<p>Gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio ei <a href=\"https:\/\/beta.gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2018-10\/consultation-document_1.pdf\">Strategaeth Unigrwydd<\/a> erbyn diwedd Mawrth 2019, mae'n bwysig ystyried beth sydd gan y dystiolaeth i\u2019w ddweud am yr hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael ag unigrwydd. Bu <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/beth-maer-dystiolaeth-yn-dweud-am-unigrwydd-yng-nghymru\/\">rhan un<\/a> yn trafod beth rydym ni\u2019n ei wybod am nodweddion y rheini sy\u2019n fwyaf tebygol o brofi unigrwydd yng Nghymru; a'r hyn y mae'r data yn ei amlygu yw mai pobl ifanc a'r rhai sy\u2019n dioddef amddifadedd materol sy\u2019n fwyaf tebygol o fod yn unig. Dangosodd y data hefyd gysylltiad posibl rhwng ble mae rhywun yn byw a\u2019r tebygolrwydd y byddant yn unig.<\/p>\n<p><strong>Ymchwil ar Ymyriadau Unigrwydd<\/strong><\/p>\n<p>Y gwaith ymchwil mwyaf cynhwysfawr a systematig a wnaed ar ymyriadau unigrwydd yw'r adroddiad tystiolaeth <a href=\"https:\/\/whatworkswellbeing.org\/tackling-loneliness\/\">Tackling Loneliness<\/a> a lansiwyd yn ddiweddar gan ganolfan <a href=\"https:\/\/whatworkswellbeing.org\/\">What Works Centre for Wellbeing<\/a>. Mae'r adroddiad yn edrych ar 40 o wahanol astudiaethau unigol, sy\u2019n cwmpasu 5040 o bobl.<\/p>\n<p>Yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn nodi diffyg tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer lliniaru unigrwydd. Nid yw hynny\u2019n golygu nad yw ffyrdd o fynd i\u2019r afael ag unigrwydd yn gweithio, ond yn hytrach bod mwyafrif llethol y 40 astudiaeth ar raddfa fach ac yn rhai tymor byr, sy\u2019n golygu y byddai effeithiau ar unigrwydd yn annhebygol iawn o fod i\u2019w gweld.\u00a0\u00a0 Mae hyn yn golygu bod yr adroddiad yn gochel rhag gwneud argymhellion uniongyrchol i lunwyr polisi, er ei fod yn cyfeirio at ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y person a rhai wedi'u teilwra fel ffyrdd addawol o fynd i\u2019r afael ag unigrwydd.\u00a0 Rhoddir arweiniad cryf ar gyfer cyfeiriad ymchwil yn y dyfodol hefyd, fel y gall polisi\u2019r dyfodol gael ei lywio gan dystiolaeth ynghylch ffyrdd effeithiol o leihau unigrwydd.<\/p>\n<p>Gyda hyn mewn golwg, rydym yn trafod yma beth mae\u2019r dystiolaeth gyfyngedig yn ei ddweud am fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl h\u0177n a phobl iau.<\/p>\n<p><strong>Mynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl h\u0177n<\/strong><\/p>\n<p>Roedd y 40 astudiaeth a adolygwyd yn yr adroddiad gan ganolfan <a href=\"https:\/\/whatworkswellbeing.org\/\">What Works Centre for Wellbeing<\/a> yn canolbwyntio ar ymyriadau unigrwydd ar gyfer pobl h\u0177n yn unig, gan nad oedd dim o\u2019r ymchwil ar grwpiau oed eraill yn bodloni\u2019r meini prawf i'w chynnwys yn yr adolygiad. Yn yr astudiaethau hyn, roedd yr ymyriadau a gynlluniwyd i leddfu unigrwydd yn cynnwys treulio amser gydag anifeiliaid, addysgu sut i ddefnyddio technoleg, garddio, gweithgarwch corfforol, therapi hel atgofion, a chyfeillio.<\/p>\n<p>Mae'r adroddiad yn gwahaniaethu rhwng ffyrdd o fynd i'r afael ag unigrwydd yn \u00f4l sefyllfa bywyd y person h\u0177n. Y rheswm am hynny yw bod profiad o unigrwydd mewn cartref gofal yn wahanol iawn i'r profiad o unigrwydd a geir wrth fyw ar eich pen eich hun, sy\u2019n golygu y bydd ffyrdd effeithiol o fynd i'r afael ag unigrwydd yn wahanol i'r ddau gr\u0175p. Er enghraifft, mae\u2019n awgrymu bod rhaglenni cyfeillio yn ffyrdd addawol o fynd i'r afael ag unigrwydd y tu allan i gartrefi gofal a llety preswyl, tra gallai therapi anifeiliaid a cherddoriaeth fod yn well i leihau unigrwydd y rhai sydd mewn llety preswyl.<\/p>\n<p><strong>Mynd i\u2019r afael ag unigrwydd ymhlith pobl iau<\/strong><\/p>\n<p>Er gwaethaf adroddiadau cyson bod cyfraddau unigrwydd yn uwch ymhlith pobl iau na phobl h\u0177n, prin yw'r dystiolaeth ynghylch beth sy'n gweithio o ran lliniaru unigrwydd ymysg pobl iau. Y rheswm am hynny yw bod canfyddiad hanesyddol o unigrwydd fel un o broblemau bywyd pobl h\u0177n - er y bydd mwy o ymchwil yn digwydd ar ffyrdd o fynd i\u2019r afael ag unigrwydd ymhlith pobl ifanc wrth i\u2019r dystiolaeth barhau i ddangos mai pobl iau sy\u2019n fwy tebygol o fod yn unig.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae\u2019r dystiolaeth yn cyfeirio at rai ffyrdd addawol o fynd i\u2019r afael ag unigrwydd ymhlith pobl ifanc.\u00a0 Un dull gweithredu penodol sy\u2019n ymddangos yn addawol yw annog rhyngweithio ar draws y cenedlaethau.\u00a0 Mae <a href=\"https:\/\/homeshareuk.org\/\">Prosiectau Rhannu Cartref (Homeshare)<\/a> yn dwyn ynghyd bobl h\u0177n sydd angen cymorth i aros yn eu cartrefi, a phobl ifanc sy'n darparu cwmn\u00efaeth a lefel isel o gymorth ymarferol, yn gyfnewid am le fforddiadwy i fyw. Dangosodd <a href=\"https:\/\/homeshareuk.org\/hs-resource-library\/homeshare-offers-solution-to-loneliness-and-housing-crisis\/\">un darn o waith ymchwil<\/a> fod y person h\u0177n a\u2019r person iau yn y prosiectau hyn yn teimlo\u2019n llai unig, oherwydd effeithiau mwy o gwmn\u00efaeth.<\/p>\n<p>Yn dilyn ymlaen o hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu <a href=\"https:\/\/www.sell2wales.gov.wales\/search\/show\/search_view.aspx?ID=NOV275102\">ymchwil<\/a> ar yr hyn y mae\u2019r dystiolaeth yn ei ddweud am leihau unigrwydd trwy greu cyswllt rhwng y cenedlaethau. Cyhoeddir y canfyddiadau yn y gwanwyn a gellir eu defnyddio i lywio eu <a href=\"https:\/\/beta.gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2018-10\/consultation-document_1.pdf\">Strategaeth Unigrwydd<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Beth mae hyn yn ei olygu?<\/strong><\/p>\n<p>Mae diffyg tystiolaeth ynghylch ffyrdd effeithiol o leihau unigrwydd ar gyfer pobl h\u0177n a phobl\u00a0 iau yn awgrymu y byddai unrhyw ymyriadau a roddir ar waith yn elwa o gael eu gwerthuso, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith a ddymunir. Ochr yn ochr \u00e2 hyn, mae angen mwy o ymchwil i gryfhau'r sylfaen o dystiolaeth; yn arbennig ynghylch yr ymyriadau hynny sy\u2019n targedu pobl o dan 55 oed, o wahanol ethnigrwydd, a gwahanol grwpiau sosio-economaidd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma'r ail flog mewn cyfres o dri ar unigrwydd ac ynysiad yng Nghymru.\u00a0 Yma, rydym yn trafod ffyrdd posibl o fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl iau a phobl h\u0177n, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael. Gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio ei Strategaeth Unigrwydd erbyn diwedd Mawrth 2019, mae'n bwysig ystyried [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15010,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[141,148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15011","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-scaled.jpg","filesize":327131,"sizes":{"medium":{"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":46087,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-744x496.jpg"},"large":{"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":95444,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39460,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48341,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":140573,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":224883,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"5810b0201e9994.89137906-224353-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":168313,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"5810b0201e9994.89137906-224353.jpg","ID":"15010","name":"5810b0201e9994.89137906-224353-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-scaled.jpg","title":"5810b0201e9994.89137906-224353.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5810b0201e9994.89137906-224353-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15011","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15011"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15011\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16427,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15011\/revisions\/16427"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15010"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15011"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15011"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15011"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15011"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}