{"id":15008,"date":"2019-02-14T10:33:04","date_gmt":"2019-02-14T10:33:04","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ydy-dyfodol-yr-economi-yn-bygwth-trethiant-lleol\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:25","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:25","slug":"ydy-dyfodol-yr-economi-yn-bygwth-trethiant-lleol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ydy-dyfodol-yr-economi-yn-bygwth-trethiant-lleol\/","title":{"rendered":"Ydy dyfodol yr economi yn bygwth trethiant lleol?"},"content":{"rendered":"<p><em>Dyma\u2019r ail o\u2019n blogiau gan westeion sy\u2019n ymhelaethu ar rai o\u2019r cwestiynau ynghylch polisi trethu ehangach nad oedd hi\u2019n bosibl rhoi sylw llawn iddynt o fewn cyfyngiadau ein <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/the-welsh-tax-base-risks-and-opportunities-after-fiscal-devolution\/\">hymchwil i sylfaen drethu Cymru<\/a> y llynedd.\u00a0 Yma, mae Hugo Bessis o ganolfan Centre for Cities yn ystyried effaith twf awtomeiddio a chau mannau adwerthu\u2019r stryd fawr ar refeniw treth incwm ac ardrethi busnes yn y drefn honno. Mae\u2019n amlygu bod angen hyrwyddo swyddi y mae\u2019n debygol y bydd mwy o alw amdanynt yn y dyfodol a\u2019r angen am gefnogi canol dinasoedd i esblygu. <\/em><\/p>\n<p>Mae datganoli cyllid yn dod \u00e2 chyfleoedd mawr i gryfhau ymreolaeth leol a gwella twf economaidd ac mae\u2019r chwant am ddatganoli\u2019n gryf ar draws y llywodraeth; tra mae San Steffan yn gweithio ar ddatganoli ardrethi busnes ymhellach i awdurdodau lleol, bydd gan Gymru reolaeth rannol dros dreth incwm o fis Ebrill eleni.<\/p>\n<p>Ond mae twf awtomeiddio a dirywiad y sector adwerthu ill dau yn codi cwestiynau am gynaladwyedd datganoli\u2019r ddwy ffrwd drethi hyn, gan gynnwys pryderon mai gwanhau yn hytrach na chefnogi cyllid lleol y bydd datganoli yn y pen draw. Drwy lwc, mae dealltwriaeth o\u2019r tueddiadau economaidd sylfaenol sydd ar waith yn awgrymu nad gostyngiad mewn refeniw trethi fydd canlyniad y newidiadau hyn, ond i\u2019r polis\u00efau twf cywir gael eu rhoi yn eu lle.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Diwedd gwaith?<\/strong><\/p>\n<p>Nid dyma\u2019r tro cyntaf mewn hanes i <a href=\"http:\/\/www.centreforcities.org\/reader\/cities-outlook-2018\/future-work-cities\/#cities-and-past-trends-in-the-labour-market\">newid technolegol effeithio ar natur gwaith<\/a>. Mae llawer o swyddi a oedd yn gyffredin ganrif yn \u00f4l \u2013 fel gweision, negeseuwyr a gweithwyr golchdai \u2013 bron wedi diflannu bellach o ganlyniad i awtomeiddio. Eto mae cyfanswm nifer y swyddi wedi parhau i gynyddu dros y ganrif.<\/p>\n<p>Yn hytrach, yr hyn sydd wedi newid ac sy\u2019n debygol o newid yn y dyfodol yw\u2019r math o waith rydym ei wneud. Mae awtomeiddio wedi gwneud i nifer o swyddi llai crefftus fod yn ddiangen, ond hefyd mae wedi cryfhau a chynyddu\u2019r angen am sgiliau dadansoddol, creadigol a rhyngbersonol. Mae hyn yn golygu nad gwasgu nifer y swyddi sydd ar gael o gwbl y mae awtomeiddio (ac felly gwasgu\u2019r refeniw treth incwm), ond yn hytrach newid y math o waith rydym yn ei wneud, drwy symud gweithwyr tuag i fyny ar y gadwyn gynhyrchu.<\/p>\n<p>Yn amlwg, mae canolbwyntio ar ddarparu\u2019r amodau cywir i greu ac i ddenu\u2019r swyddi newydd hynny yn allweddol er mwyn cynnal a chynyddu refeniw o dreth incwm. Rydym yn gwybod bod y swyddi sy\u2019n gallu gwrthsefyll awtomeiddio orau ar hyn o bryd (ac yn \u00f4l pob tebyg, swyddi newydd yn y dyfodol) yn rhai medrus iawn. Mae hyn yn golygu bod rhaid gosod rhaglenni addysg a hyfforddiant priodol yn eu lle i wella sgiliau\u2019r gweithlu lleol (gweler adroddiad WCPP ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/future-of-work-in-wales\/\">Ddyfodol Gwaith<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/promoting-job-progression-in-low-pay-sectors\/\">Dilyniant Swyddi<\/a>). Bydd hyn yn cyfrannu i greu\u2019r amodau cywir i ddenu swyddi newydd ac i gynhyrchu refeniw trethi newydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Diwedd canol dinasoedd?<\/strong><\/p>\n<p>Ond nid stori am sgiliau yn unig yw hon. Mae\u2019r gweithgareddau hyn sy\u2019n fedrus iawn, ac yn ddwys eu gwybodaeth, yn fwy cynhyrchiol yng nghanol dinasoedd, lle maen nhw\u2019n manteisio ar fod yn agos at ddiwydiannau tebyg, rhywbeth sydd yn ei dro yn eu cymell i fod yn arloesol. Ac mae\u2019r ffordd y mae\u2019r busnesau hyn yn ffafrio lleoliad yng nghanol dinas wedi cryfhau yn ystod y blynyddoedd diweddar. Felly er mwyn denu\u2019r swyddi newydd hynny, rhaid i ganol dinasoedd ddarparu\u2019r \u201cecosystem\u201d y mae\u2019r cwmn\u00efau hyn yn chwilio amdano. Mae hyn yn cynnwys bod \u00e2 mynediad i weithlu medrus, wrth gwrs, ond hefyd datblygu dwyster trefol, cysylltiadau trafnidiaeth da a sylfaen o swyddfeydd o ansawdd uchel.<\/p>\n<p>Yn allweddol, bydd gwneud hynny\u2019n cefnogi gwasanaethau lleol y stryd fawr hefyd. Mae <a href=\"http:\/\/www.centreforcities.org\/publication\/building-blocks\/\">ymchwil<\/a> gan ganolfan Centre for Cities yn dangos mai 9 y cant yn unig o eiddo adwerthu, bwyd a hamdden a oedd yn wag yng nghanol dinasoedd llwyddiannus yn economaidd \u2013 y rhai a oedd yn gallu denu gweithwyr medrus iawn. I\u2019r gwrthwyneb, roedd cyfraddau gwacter yn 16 y cant ar gyfartaledd yn y canol dinasoedd gwannaf yn economaidd. Mae hyn oherwydd bod swyddi mewn swyddfeydd yn cynhyrchu mwy o ymwelwyr \u2013 sy\u2019n hanfodol er mwyn i strydoedd mawr oroesi. Ac oherwydd bod gweithwyr medrus iawn yn tueddu i gael cyflogau uwch, mae\u2019r galw am wasanaethau lleol yn cael ei gryfhau ymhellach.<\/p>\n<p>Dydy hyn ddim yn golygu na fydd newidiadau yn y stryd fawr. Wrth i siopau wynebu mwy o gostau a chystadleuaeth gan siopa ar-lein, mae wyneb y stryd fawr yn debygol o esblygu yn y dyfodol. Mae\u2019r newidiadau hyn i\u2019w gweld yn barod mewn canol dinasoedd llwyddiannus, gyda chyfran fwy o\u2019r arwynebedd llawr wedi\u2019i neilltuo i weithgareddau hamdden a bwyd, fel bwytai a bariau (y mae presenoldeb ffisegol, lleoliad da ac eiddo o safon yn dal i fod yn bwysig iawn iddynt) o\u2019u cymharu \u00e2 chanol dinasoedd gwan.<\/p>\n<p>Awgryma hyn fod canol dinasoedd yn esblygu \u2013 maen nhw\u2019n mynd i ganolbwyntio llai ar adwerthu a mwy ar wybodaeth a hamdden. Efallai fod dirywiad adwerthu\u2019n anochel, ond dydy hyn ddim yn nodi diwedd canol dinasoedd fel mannau i weithio, i gwrdd ac i gymdeithasu, na diwedd eu gallu i gynhyrchu refeniw trethi arwyddocaol. Bydd dinasoedd sy\u2019n llwyddo i ailddyfeisio economi canol eu dinas yn dal i allu cynhyrchu ardrethi busnes: bydd yr eiddo\u2019n dal i gael ei feddiannu, ond efallai y bydd gweithgarwch y meddiannydd yn newid ar hyd y daith.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Codi trethu yn economi\u2019r dyfodol<\/strong><\/p>\n<p>Ar y cyfan, does dim rheswm i feddwl bod awtomeiddio a dirywiad adwerthu\u2019n bygwth refeniw trethi. Yr hyn sy\u2019n newid yw y bydd refeniw yn dod o ffynonellau gwahanol \u2013 swyddi gwahanol yn achos treth incwm, a mathau gwahanol o fusnesau ar gyfer ardrethi busnes. Wedi dweud hynny, mae natur newidiol yr economi\u2019n golygu bod mwy o angen diwygio\u2019r system gyfredol, yn enwedig ardrethi busnes, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd angen i wneuthurwyr polisi ei ystyried.<\/p>\n<p>Ond fel blaenoriaeth, rhaid i bolis\u00efau yng Nghymru annog a chefnogi\u2019r newidiadau economaidd sydd i\u2019w gweld ledled y wlad. Yn benodol, dylai ymyriadau fod yn rhai sy\u2019n seiliedig ar bobl (yn addysgu\u2019r sgiliau y bydd eu hangen ar fusnesau) ac yn seiliedig ar leoedd (yn canolbwyntio ar wella canol dinasoedd mwyaf Cymru fel y gallan nhw ddarparu\u2019r amgylchedd adeiledig priodol i\u2019r cwmn\u00efau hyn). Bydd cyflawni hyn yn sicrhau y gall Cymru ddiogelu sylfaen trethi cadarn a thyfu economi hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Llun: <a href=\"https:\/\/www.flickr.com\/photos\/infomatique\/38872543435\/in\/photolist-22e2WS8-pk8kw3-aEYQ3t-pBmoY2-cbN8DS-pBAG1m-pzzMZy-5Te58u-U5Gefw-Nv9BK-XLWrYn-pk9emn-dEcKXf-b6p5re-4THpny-pk8Qad-8PcSow-28hFWut-22n17xS-db2tCy-6TSvC-qKb6o1-PRHR2-23FZoEB-2d8nWpm-pUU9gH-29EGD9W-m1LMyn-m1NdXW-m1MooF-sGwKuQ-imqFUR-2XKXPt-HbQATm-9ULz3r-Di5GnP-ioXq2L-pk8iFE-5T9JqT-cnviq5-PRHJ4-9i2EU3-ioXnzu-pzzUCo-4YXF4D-pk8npS-pBCiXx-CRSePR-9FiJA-q4vZYp\">William Murphy<\/a> (<a href=\"https:\/\/creativecommons.org\/licenses\/by-sa\/2.0\/\">CC BY-SA 2.0<\/a>)<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma\u2019r ail o\u2019n blogiau gan westeion sy\u2019n ymhelaethu ar rai o\u2019r cwestiynau ynghylch polisi trethu ehangach nad oedd hi\u2019n bosibl rhoi sylw llawn iddynt o fewn cyfyngiadau ein hymchwil i sylfaen drethu Cymru y llynedd.\u00a0 Yma, mae Hugo Bessis o ganolfan Centre for Cities yn ystyried effaith twf awtomeiddio a chau mannau adwerthu\u2019r stryd fawr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15007,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15008","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"38872543435_6c963e0ca6_k.jpg","filesize":1042717,"sizes":{"medium":{"file":"38872543435_6c963e0ca6_k-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":112892,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-744x496.jpg"},"large":{"file":"38872543435_6c963e0ca6_k-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":273031,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"38872543435_6c963e0ca6_k-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":94028,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"38872543435_6c963e0ca6_k-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":119883,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"38872543435_6c963e0ca6_k-1536x1025.jpg","width":1536,"height":1025,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":429359,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-1536x1025.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"38872543435_6c963e0ca6_k-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":527538,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15007","name":"38872543435_6c963e0ca6_k.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k.jpg","title":"38872543435_6c963e0ca6_k.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/38872543435_6c963e0ca6_k-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15008","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15008"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15008\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16426,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15008\/revisions\/16426"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15007"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15008"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15008"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15008"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15008"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}