{"id":15000,"date":"2019-02-05T10:24:52","date_gmt":"2019-02-05T10:24:52","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tu-hwnt-i-gontractio-stiwardiaeth-gwasanaethau-cyhoeddus-i-uchafu-gwerth-cyhoeddus\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:24","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:24","slug":"tu-hwnt-i-gontractio-stiwardiaeth-gwasanaethau-cyhoeddus-i-uchafu-gwerth-cyhoeddus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tu-hwnt-i-gontractio-stiwardiaeth-gwasanaethau-cyhoeddus-i-uchafu-gwerth-cyhoeddus\/","title":{"rendered":"Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn y blog hwn, mae John Tizard, cyd-awdur ein hadroddiad diweddaraf, <\/em><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/tu-hwnt-i-gontractio-stiwardiaeth-gwasanaeth-cyhoeddus-i-uchafu-gwerth-cyhoeddus\/\">Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus<\/a>,\u00a0<em>yn cyflwyno rhai materion a dadleuon allweddol. Mae hyn yn rhan o\u2019n cyfres ar gaffael cyhoeddus \u2013 rhagor o wybodaeth <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/tystiolaeth-i-arweinwyr-gwasanaethau-cyhoeddus-cymru-ynghylch-caffael-cyhoeddus\/\">yma. <\/a><\/em><\/p>\n<p>Mae\u2019r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros \u00a36bn y flwyddyn ar gaffael gwasanaethau, gwaith a nwyddau. Nid oes unrhyw un yn gwybod sut y dadansoddir hyn o ran categori gwariant eang (gwasanaethau, gwaith a nwyddau), faint sy\u2019n cael ei wario ar gyflenwyr yng Nghymru neu y tu hwnt iddi, faint sy\u2019n cael ei wario ar y gymuned wirfoddol, menter gymdeithasol neu sectorau corfforaethol.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r diffyg hwn o ran data a gwybodaeth sylfaenol yn unigryw i Gymru. Mae hefyd yn berthnasol i Loegr, er bod gwerth y gwariant lawer yn uwch yn nhermau absoliwt ac fel cyfran o gyfanswm gwariant cyhoeddus. Yn draddodiadol, mae Cymru wedi allanoli a chontractio cymaint yn llai o wasanaethau cyhoeddus na Lloegr.\u00a0 Serch hynny, mae rhai gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu contractio yng Nghymru.<\/p>\n<p>Byddai o fudd i\u2019r cyhoedd wybod mwy am yr hyn sy\u2019n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus dan gontract, pa wasanaethau sy\u2019n rhan o hyn, sut maen nhw\u2019n perfformio a phwy yw\u2019r contractwyr.\u00a0 Fel y dangosodd <a href=\"https:\/\/www.parliament.uk\/business\/committees\/committees-a-z\/commons-select\/work-and-pensions-committee\/inquiries\/parliament-2017\/carillion-inquiry-17-19\/\">cwymp Carillion<\/a> y llynedd, gall y llywodraeth a'r sector cyhoeddus yn ehangach fod yn agored i\u2019r posibilrwydd o gontractwyr mawr yn methu, ac yn arbennig y rhai hynny sydd \u00e2 chyfran sylweddol o'r farchnad.<\/p>\n<p>Yn yr adroddiad <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/tu-hwnt-i-gontractio-stiwardiaeth-gwasanaeth-cyhoeddus-i-uchafu-gwerth-cyhoeddus\/\"><em>Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus <\/em><\/a>ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae Megan Mathias a minnau wedi edrych ar y dirwedd contractio yng Nghymru, gan ei chymharu \u00e2 chyd-destun y DU, a chanolbwyntio ar y gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na chontractau am nwyddau neu waith, megis prosiectau adeiladu. Rydym wedi cynnig mesurau y gallai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y GIG, y gwasanaeth heddlu a chyrff cyhoeddus eraill eu defnyddio i reoli risgiau, uchafu gwerth cyhoeddus a sicrhau atebolrwydd yn well.<\/p>\n<p>Yn yr adroddiad, rydym wedi cyflwyno\u2019r achos dros sefydlu \u2018Llyfr Dydd y Farn\u2019 i gofnodi data a gwybodaeth am bob contract sylweddol sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru \u2013 ac yn ddelfrydol, caiff y \u2018Llyfr Dydd y Farn\u2019 hwn ei gysylltu ag un tebyg yn Lloegr. Gall y Llywodraeth barchu ffiniau cenedlaethol, ond mae contractwyr yn gweithio ar eu traws ac felly dylid cysylltu\u2019r data a\u2019r dadansoddiadau \u00e2 Lloegr. Rwyf wedi cyd-ysgrifennu <a href=\"https:\/\/www.tuc.org.uk\/sites\/default\/files\/Domesday%20Book%20for%20public%20service%20contracts.pdf\">adroddiad ar gyfer Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) am yr achos dros Lyfr Dydd y Farn o\u2019r fath<\/a> a sut y gellir ei ddefnyddio.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn dadlau dros stiwardio gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach yn wleidyddol, ac i\u2019r stiwardiaeth hon ganolbwyntio ar uchafu gwerth cyhoeddus a budd y cyhoedd. Mae angen i benderfyniadau am natur y gwasanaethau cyhoeddus a\u2019r gwariant arnynt gynnwys gwerth am arian yn ogystal \u00e2 ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach.\u00a0 Mae\u2019n rhaid i\u2019r gwaith o stiwardio gwasanaethau cyhoeddus fynd i\u2019r afael \u00e2 chynaliadwyedd gwasanaethau, eu hallbynnau a\u2019u canlyniadau, eu heffeithiolrwydd, eu heffeithlonrwydd, eu hecwiti ac ansawdd y gyflogaeth ar gyfer y rhai hynny sy\u2019n darparu\u2019r gwasanaethau. Dylid hefyd roi ystyriaeth bellach i\u2019r allanoldebau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu creu a\u2019r ffordd y c\u00e2nt eu darparu. Er enghraifft, os caiff gwasanaethau eu hallanoli a bod hyn yn golygu llai o swyddi neu swyddi\u2019n cael eu hallforio i fannau eraill, neu cyflogai is a\/neu amodau neu delerau gwannach ar gyfer y gweithlu \u2013 mae\u2019n anochel y bydd goblygiadau cynyddol ar econom\u00efau lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y GIG a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Rydym yn dadlau y dylai pob corff yn y sector cyhoeddus asesu\u2019r effaith gyfannol yn ogystal ag edrych ar yr hirdymor wrth ystyried allanoli unrhyw wasanaethau.<\/p>\n<p>Yn yr adroddiad hwn rydym yn cyflwyno\u2019r achos dros sefydlu fframwaith polisi cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal \u00e2 diffinio pa wasanaethau y gellir ystyried eu hallanoli, a\u2019r rhai na ddylid eu hallanoli. Ceir achos cryf dros sicrhau mai\u2019r <a href=\"http:\/\/www.smith-institute.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/01\/Out-of-contract-Time-to-move-on-from-the-%E2%80%98love-in%E2%80%99-with-outsourcing-and-PFI.pdf\">rhagosodiad yw darparu gwasanaethau cyhoeddus yn fewnol<\/a>, a\u2019i wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyfiawnhau a phrofi bod peidio \u00e2 rheoli\u2019r gwasanaethau yn fewnol o fudd i\u2019r cyhoedd.<\/p>\n<p>Dyma ddewisiadau gwleidyddol, a thrwy stiwardio gwasanaethau cyhoeddus, dylai cyrff gwleidyddol ar lefel genedlaethol a lleol fabwysiadau meini prawf \u201ccynhyrchwch neu prynwch\u201d i lywio safbwyntiau am fodelau cyflenwi.<\/p>\n<p>Os yw cyrff cyhoeddus yn penderfynu eu bod nhw\u2019n dymuno allanoli, yna dylai fod yn ofynnol iddynt ymgynghori \u00e2 rhanddeiliaid; nodi eu hamcanion fel bod modd eu dwyn i gyfrif am berfformiad ar \u00f4l i gontractau gael eu cyflwyno; bod yn dryloyw a sicrhau bod eu contractwyr yn dryloyw hefyd; a mabwysiadau polis\u00efau caffael a thelerau contract sy\u2019n sicrhau bod y contract a\u2019r contractwr yn gweithredu er lles y cyhoedd. Mae\u2019n rhaid iddynt hefyd sicrhau bod ganddynt y gallu proffesiynol a\u2019r crebwyll masnachol i fod yn gleientiaid effeithiol \u2013 oherwydd y gwirionedd yw bod dulliau gwael o gaffael a rheoli contractau yn arwain at fethiannau o ran allanoli. Yn olaf, dylent fabwysiadau polis\u00efau ac arferion sy\u2019n gymesur \u00e2\u2019r risgiau posibl a maint a chymhlethdod y gwasanaethau.<\/p>\n<p>Mae Cymru\u2019n le gwell na Lloegr i ddatblygu dull mwy soffistigedig o drin gwasanaethau cyhoeddus, sy\u2019n mynd y tu hwnt i gontractio ac allanoli, ac sy\u2019n nodi mai\u2019r rhagosodiad yw darparu\u2019n fewnol. Dylid ymgorffori\u2019r dull hwn yn y gwaith o stiwardio gwasanaethau cyhoeddus yn wleidyddol, a chael amcan eglur i uchafu gwerth cyhoeddus.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y blog hwn, mae John Tizard, cyd-awdur ein hadroddiad diweddaraf, Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus,\u00a0yn cyflwyno rhai materion a dadleuon allweddol. Mae hyn yn rhan o\u2019n cyfres ar gaffael cyhoeddus \u2013 rhagor o wybodaeth yma. Mae\u2019r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros \u00a36bn y flwyddyn ar gaffael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13178,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[140,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15000","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-economi","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"cog-ideas-small-scaled.jpg","filesize":269991,"sizes":{"medium":{"file":"cog-ideas-small-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48386,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-744x496.jpg"},"large":{"file":"cog-ideas-small-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":96025,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"cog-ideas-small-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":46802,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"cog-ideas-small-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50708,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"cog-ideas-small-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":134392,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"cog-ideas-small-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":199838,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"cog-ideas-small-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":174759,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"cog-ideas-small.jpg","ID":"9382","name":"cog-ideas-small-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-scaled.jpg","title":"cog-ideas-small.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/cog-ideas-small-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15000","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15000"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15000\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16424,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15000\/revisions\/16424"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13178"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15000"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15000"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15000"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15000"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}