{"id":14997,"date":"2019-01-31T13:37:40","date_gmt":"2019-01-31T13:37:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-maer-dystiolaeth-yn-dweud-am-unigrwydd-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:23","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:23","slug":"beth-maer-dystiolaeth-yn-dweud-am-unigrwydd-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-maer-dystiolaeth-yn-dweud-am-unigrwydd-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Beth mae'r dystiolaeth yn dweud am unigrwydd yng Nghymru?"},"content":{"rendered":"<p><em>Dyma'r flog gyntaf o gyfres dair rhan am unigrwydd ac ynysiad yng Nghymru.\u00a0Mae rhan dau ar gael <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ynghylch-cefnogi-pobl-iau-a-phobl-hyn\/\">yma<\/a>, ac mae rhan tri ar gael <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ar-amddifadedd-a-chymunedau-gwahanol\/\">yma<\/a>.<\/em><\/p>\n<p><em>Yma, rydym yn trafod yr hyn a wyddom am unigrwydd fel cysyniad, a'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud am unigrwydd yng Nghymru.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi <a href=\"https:\/\/beta.gov.wales\/sites\/default\/files\/consultations\/2018-10\/consultation-document_1.pdf\">Strategaeth unigrwydd<\/a>, sydd i fod i gael ei lansio erbyn diwedd mis Mawrth. Daw hyn ar adeg pan fo mwy o ddiddordeb mewn unigrwydd ledled y DU, gyda Llywodraeth y DU yn lansio ei <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/750909\/6.4882_DCMS_Loneliness_Strategy_web_Update.pdf\">Strategaeth Unigrwydd<\/a> gyntaf; canolfan les 'What Works Centre for Wellbeing' yn rhyddhau <a href=\"https:\/\/whatworkswellbeing.org\/tackling-loneliness\/\">adroddiad tystiolaeth Mynd i'r Afael ag Unigrwydd\/Tackling Loneliness<\/a>; a rhyddhau canlyniadau <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/programmes\/articles\/2yzhfv4DvqVp5nZyxBD8G23\/who-feels-lonely-the-results-of-the-world-s-largest-loneliness-study\">Arbrawf Unigrwydd y BBC<\/a>. Mae'r rhain yn gamau cyntaf cadarnhaol wrth fynd i'r afael \u00e2 mater sy'n gysylltiedig ag effeithiau iechyd niweidiol, gan gynnwys cyfraddau uwch o iselder, pryder a marwoldeb, ac un sy'n effeithio ar bob oedran, yn \u00f4l adroddiadau cyson.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, mae'n werth egluro rhai o'r cysyniadau sy'n gysylltiedig \u00e2 phwng unigrwydd ac ynysiad. Er bod y cysyniadau'n gysylltiedig, mae unigrwydd ac ynysiad yn bethau gwahanol ac ni ddylent gael eu defnyddio'r naill am y llall. Yn nodweddiadol, unigrwydd yw teimlad goddrychol person am <em>ansawdd<\/em> perthnasoedd (pa mor agos neu fel arall mae perthnasoedd person), tra mae ynysiad yn cyfeirio at <em>nifer<\/em> gwrthrychol y perthnasoedd hyn (faint o berthnasoedd sydd gan berson). Mae'n golygu ei bod hi'n bosibl teimlo'n unig hyd yn oed pan fyddwch chi mewn cysylltiad \u00e2 llawer o bobl, a bod yn ynysig hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo'n unig. Fodd bynnag, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, bydd pobl yn cael profiad o unigrwydd ac yn ynysiad mewn ffyrdd ychydig yn wahanol ac i raddau gwahanol dros eu hoes.<\/p>\n<p><strong>Unigrwydd yng Nghymru\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Mae Cymru yn cydnabod bod unigrwydd yn elfen allweddol o les, felly mae'n olrhain \u201cy ganran o bobl unig\u201d drwy'r <a href=\"https:\/\/gov.wales\/statistics-and-research\/national-survey\/?tab=current&amp;lang=en\">Arolwg Cenedlaethol i Gymru<\/a>. Hyd yma, casglwyd data ar gyfer <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180213-national-survey-2016-17-loneliness-en.pdf\">2016-17<\/a> a <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180620-national-survey-wales-2017-18-headline-results-en.pdf\">2017-18<\/a>, gyda phob arolwg yn gofyn i dros 10,000 o bobl ledled Cymru am eu profiad goddrychol o unigrwydd. Gofynnwyd i'r ymatebwyr a oedden nhw'n cytuno neu'n anghytuno \u00e2 chwe gosodiad. Os oedden nhw'n uniaethu \u00e2 thri neu ragor o osodiadau'n gysylltiedig ag unigrwydd, yna ystyrid eu bod nhw\u2019n unig. Mae'r canlyniadau o <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180620-national-survey-wales-2017-18-headline-results-en.pdf\">2017-18<\/a> yn awgrymu bod 16% o'r bobl yn yr arolwg yn unig, sy'n 1% yn is na data <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180213-national-survey-2016-17-loneliness-en.pdf\">2016-17<\/a>.<\/p>\n<p>Mae'r ystadegau hyn yn is nag astudiaethau cenedlaethol eraill, sydd fel arfer yn cofnodi bod cyfartaledd o 25% o bobl yn unig (er bod hyn yn aml yn llawer uwch ar gyfer <a href=\"http:\/\/ec.europa.eu\/commfrontoffice\/publicopinion\/archives\/ebs\/ebs_069_en.pdf\">gwledydd De Ewrop<\/a>) a hefyd yn llawer is na'r 33% a ganfu <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/programmes\/articles\/2yzhfv4DvqVp5nZyxBD8G23\/who-feels-lonely-the-results-of-the-world-s-largest-loneliness-study\">Arolwg Unigrwydd y BBC<\/a> ar gyfer y DU i gyd. Gallech chi feddwl bod hyn yn golygu bod pobl yng Nghymru yn llai unig na'u cymdogion, ond oherwydd nad oes dull y cytunwyd arno o fesur unigrwydd, efallai fod y gwahaniaethau'n codi o'r dull a ddefnyddiwyd yn unig.<\/p>\n<p><strong>Pa Grwpiau Sy'n Unig?<\/strong><\/p>\n<p>Ychydig iawn o nodweddion grwpiau a oedd yn gysylltiedig ag unigrwydd a oedd \u00e2 chysylltiad cryf ag unigrwydd ar draws y ddau <a href=\"https:\/\/gov.wales\/statistics-and-research\/national-survey\/?tab=current&amp;lang=en\">Arolwg Cenedlaethol i Gymru<\/a>. O'r nodweddion a oedd \u00e2 chysylltiad, amlygwyd amddifadedd materol ac oedran yn benodol yn adroddiadau <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180213-national-survey-2016-17-loneliness-en.pdf\">2016-2017<\/a> a <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180620-national-survey-wales-2017-18-headline-results-en.pdf\">2017-2018<\/a> \u2013 er ei bod hi'n bwysig cofio mai cydberthynas y mae'r rhain yn ei dangos, nid achosiad!<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gov.wales\/statistics-and-research\/households-below-average-income\/?lang=en\">Llywodraeth Cymru<\/a> yn ystyried bod person yn profi amddifadedd materol os nad yw'n gallu cael mynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Yn <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180620-national-survey-wales-2017-18-headline-results-en.pdf\">2017-2018<\/a>, roedd hi'n ymddangos bod y gr\u0175p hwn dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn unig na'r rhai nad oedden nhw'n profi amddifadedd materol. Mae hyn ychydig yn uwch na chanlyniadau <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2018\/180213-national-survey-2016-17-loneliness-en.pdf\">2016-17<\/a>, lle roedd 37% o'r rhai a oedd mewn amddifadedd materol yn teimlo\u2019n unig, o'i gymharu \u00e2 14% o'r rhai nad oeddent mewn amddifadedd materol.<\/p>\n<p>Roedd oedran yn ffactor arwyddocaol hefyd, gyda'r rhai 65+ oed yn llai tebygol o fod yn unig na rhai 16-64 oed a'r gyfran o bobl unig yn lleihau gydag oedran. Er bod hyn yn rhywfaint o syndod gan fod pobl h\u0177n fel arfer yn cael eu portreadu fel y rhai sydd fwyaf agored i unigrwydd, adlewyrchir y patrwm hwn yn <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/programmes\/articles\/2yzhfv4DvqVp5nZyxBD8G23\/who-feels-lonely-the-results-of-the-world-s-largest-loneliness-study\">Arbrawf Unigrwydd y BBC<\/a>, er bod unigrwydd yn cael ei fesur yn wahanol. Mae'n bwysig tynnu sylw at hyn gan fod unigrwydd yn broblem drwy gydol bywyd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_2250\" aria-describedby=\"caption-attachment-2250\" style=\"width: 384px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-2250\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/proportion-of-lonely.png\" alt=\"\" width=\"384\" height=\"220\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2250\" class=\"wp-caption-text\">Ffynhonell: Arolwg Cenedlaethol Cymru<\/figcaption><\/figure>\n<p>Er syndod, nid yw data Llywodraeth Cymru yn dangos cysylltiad cyson rhwng lle mae rhywun yn byw a'r tebygrwydd iddo\/iddi fod yn unig. Yn 2016-17, roedd y data'n awgrymu bod pobl mewn ardaloedd trefol mewn mwy o berygl, ond yn yr arolwg diweddaraf, nid oedd cysylltiad rhwng unigrwydd a daearyddiaeth.<\/p>\n<p><strong>Beth fydd yn digwydd nesaf?<\/strong><\/p>\n<p>Mae'r drafodaeth uchod yn awgrymu, er bod mesur unigrwydd yn anodd a rhywfaint yn ddadleuol, fod cynnydd go iawn wedi'i wneud wrth geisio adeiladu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer unigrwydd yng Nghymru. Er mwyn cryfhau'r ymdrech hon, dylai ymchwil barhau i gael ei gasglu am y blynyddoedd dilynol, yn ogystal \u00e2 rhoi gwerth ar ragor o ymchwil hydredol.<\/p>\n<p>Yn <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/sut-mae-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-tystiolaeth-ynghylch-cefnogi-pobl-iau-a-phobl-hyn\/\">Rhan Dau<\/a> rwy'n trafod yr hyn y mae'r cysyniadau hyn a'r dystiolaeth sydd ar gael yn ei olygu i ymyriadau unigrwydd posibl yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma'r flog gyntaf o gyfres dair rhan am unigrwydd ac ynysiad yng Nghymru.\u00a0Mae rhan dau ar gael yma, ac mae rhan tri ar gael yma. Yma, rydym yn trafod yr hyn a wyddom am unigrwydd fel cysyniad, a'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud am unigrwydd yng Nghymru. &nbsp; Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14995,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[141,148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14997","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Older-person-loneliness-scaled.jpg","filesize":271793,"sizes":{"medium":{"file":"Older-person-loneliness-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":32525,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-744x496.jpg"},"large":{"file":"Older-person-loneliness-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":71228,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Older-person-loneliness-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":27986,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Older-person-loneliness-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34226,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Older-person-loneliness-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":108875,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Older-person-loneliness-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":181534,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Older-person-loneliness-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":136858,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Older-person-loneliness.jpg","ID":"14994","name":"Older-person-loneliness-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-scaled.jpg","title":"Older-person-loneliness.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Older-person-loneliness-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14997","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14997"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14997\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":14998,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14997\/revisions\/14998"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14995"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14997"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14997"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14997"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14997"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}