{"id":14992,"date":"2019-01-11T10:57:43","date_gmt":"2019-01-11T10:57:43","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/atal-digartrefedd-ymhlith-pobl-ifanc-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:22","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:22","slug":"atal-digartrefedd-ymhlith-pobl-ifanc-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/atal-digartrefedd-ymhlith-pobl-ifanc-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Er mwyn helpu i ddatblygu ein gwybodaeth am yr hyn sy'n cael ei wneud yng Nghymru i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, cefais fy nghomisiynu gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Youth-homelessness-and-care-leavers-Mapping-interventions-in-Wales.pdf\">ymarfer mapio<\/a> cychwynnol o'r ymyriadau sydd ar waith ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Er mwyn strwythuro'r mapio, defnyddiais yr un deipoleg atal a'r hyn a fabwysiadwyd gan Kaitlin Schwan a'i chydweithwyr yn eu <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Preventing-Youth-Homelessness-full-report.pdf\">hadolygiad rhyngwladol o dystiolaeth<\/a> sy'n nodi pum categori atal; atal strwythurol, atal systemau, ymyriadau cynnar, atal dadfeddiannu a sefydlogrwydd cartrefu. Gwnaed y mapio o safbwynt cartrefu, gan dynnu ar wybodaeth a gyhoeddwyd a chyfweliadau ff\u00f4n gydag unigolyn allweddol ym mhob un o'r timau opsiynau cartrefu.<\/p>\n<p>Profodd teipoleg atal yn fframwaith defnyddiol i osod yr ystod o ymyriadau digartrefedd ymhlith pobl ifanc ynddo. Mae'r adolygiad rhyngwladol o dystiolaeth yn casglu y dylai atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc gynnwys y pum edefyn atal i gael yr effaith fwyaf. Mae'r mapio'n dangos bod y rhan fwyaf o ymyriadau lleol yng Nghymru'n dod dan gategor\u00efau atal systemau, ymyriadau cynnar a sefydlogi cartrefu. Felly mae gwaith i'w wneud ar atal strwythurol ac atal dadfeddiannu sydd wedi'i dargedu'n benodol at bobl ifanc.<\/p>\n<p>Mae'r mapio hefyd yn dangos bod trefniadau gwaith a gwasanaethau i bobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau. Mae gan rai awdurdodau dimau amlasiantaethol sydd wedi'u cyd-leoli, cysylltiadau gwaith agos rhwng gwasanaethau tai a phlant ac amrywiaeth o opsiynau atal, cartrefu a chymorth i bobl ifanc hyd at 25 oed. Mewn awdurdodau eraill, mae'n amlwg nad yw hyd yn oed yr arferion gwaith sy'n ofynnol yn \u00f4l deddfwriaeth - e.e. cyd-asesiadau i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a chynllunio llwybrau i'r rheini sy'n gadael gofal - yn cael eu cynnal yn gyson. Mae gan leiafrif o awdurdodau agwedd generig at ddigartrefedd, gan ddisgwyl i bobl ifanc gyrchu gwasanaethau a phrosiectau sydd yn cael eu darparu i bob gr\u0175p oedran, yn hytrach na chael agwedd fwy targedig ac arbenigol. Ac er nad oedd y mapio'n edrych ar effeithiolrwydd yr amrywiol ymyriadau oedd ar waith, mae geiriau cynrychiolydd un awdurdod lleol a gyfwelwyd yn aros yn y cof: <em>'mae gennym ni ddarpariaeth ond rydym ni'n methu\u2019n ormodol - mae trosiant oherwydd nad yw'r cynlluniau'n cynnig yr hyn sydd ei angen ar bobl ifanc<\/em>.'<\/p>\n<p>Fodd bynnag, yr hyn oedd hefyd yn amlwg o'r sgyrsiau a gefais i gyda'r bobl roeddwn i'n cyfweld \u00e2 nhw oedd bod digartrefedd pobl ifanc yn faes dynamig. Yn ddiweddar mae nifer o awdurdodau wedi penodi swyddi arbenigol pwrpasol ar gyfer atal a mynd i'r afael \u00e2 digartrefedd pobl ifanc ac mae gan lawer gynlluniau i wella gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau plant ac asiantaethau allanol. Ceir tystiolaeth hefyd o arloesi yn y ddarpariaeth mewn rhai awdurdodau.<\/p>\n<p>Yn y cyd-destun hwn, roedd yn gadarnhaol iawn cael clywed <a href=\"http:\/\/record.assembly.wales\/Plenary\/5365#A46917\">datganiad<\/a> Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ar 20 Tachwedd 2018. Pwysleisiodd y Gweinidog fod ymagwedd draws-lywodraethol yn cael ei mabwysiadu at atal a mynd i'r afael \u00e2 digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Hefyd cyhoeddodd fanylion cyllid ychwanegol ar gyfer 2019-20. Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer amrywiaeth o fentrau gan gynnwys cydlynydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc ym mhob awdurdod, cronfa arloesi newydd i gefnogi datblygu opsiynau tai a chymorth addas i bobl ifanc, dyblu'r gronfa Dydd G\u0175yl Dewi sy'n cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i'r rheini sy'n gadael gofal a chynnydd yn y grant cymorth i bobl ifanc.<\/p>\n<p>Roeddwn i'n wirioneddol falch i weld y Gweinidog yn nodi bod yr adolygiad cartrefu fforddiadwy'n bwysig wrth ymdrin ag atal strwythurol. Nododd yr holl awdurdodau y cyfwelwyd \u00e2 nhw ar gyfer y mapio ddiffyg tai fforddiadwy i bobl ifanc ag anghenion cyffredinol. Mae'r adolygiad yn cynnig cyfle i gydnabod yr anawsterau strwythurol sy'n wynebu pobl ifanc wrth geisio cael cartrefi addas a fforddiadwy a sefydlu polis\u00efau a threfniadau cyllido fydd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl ifanc ar draws Cymru.<\/p>\n<p>Ar yr un diwrnod ag y gwnaeth y Gweinidog ei datganiad ar ddigartrefedd pobl ifanc, cyhoeddwyd <a href=\"https:\/\/www.homelesshub.ca\/youthpreventionroadmap\">map<\/a> ar gyfer atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghanada. Mae cyhoeddi'r adolygiad rhyngwladol o dystiolaeth a mapio yng Nghymru a datganiad y Gweinidog ar 20 Tachwedd yn elfennau pwysig mewn map sy'n esblygu i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru erbyn 2027.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Er mwyn helpu i ddatblygu ein gwybodaeth am yr hyn sy'n cael ei wneud yng Nghymru i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, cefais fy nghomisiynu gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal ymarfer mapio cychwynnol o'r ymyriadau sydd ar waith ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Er mwyn strwythuro'r mapio, defnyddiais yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14991,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[145,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14992","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tai-chartrefi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-scaled.jpg","filesize":427748,"sizes":{"medium":{"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-744x495.jpg","width":744,"height":495,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55128,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-744x495.jpg"},"large":{"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-1200x798.jpg","width":1200,"height":798,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":114400,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-1200x798.jpg"},"thumbnail":{"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":48126,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57282,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-768x511.jpg"},"1536x1536":{"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-1536x1022.jpg","width":1536,"height":1022,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":169315,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-1536x1022.jpg"},"2048x2048":{"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-2048x1363.jpg","width":2048,"height":1363,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":277809,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-2048x1363.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":214897,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash.jpg","ID":"14991","name":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-scaled.jpg","title":"maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/maksym-kaharlytskyi-478964-unsplash-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14992","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14992"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14992\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16423,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14992\/revisions\/16423"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14991"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14992"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14992"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14992"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14992"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}