{"id":14989,"date":"2018-12-20T10:46:05","date_gmt":"2018-12-20T10:46:05","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/caffael-cydweithredol-yng-nghymru-cyd-ymdrechu-ond-i-ba-gyfeiriad\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:22","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:22","slug":"caffael-cydweithredol-yng-nghymru-cyd-ymdrechu-ond-i-ba-gyfeiriad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/caffael-cydweithredol-yng-nghymru-cyd-ymdrechu-ond-i-ba-gyfeiriad\/","title":{"rendered":"Caffael cydweithredol yng Nghymru: cyd-ymdrechu... ond i ba gyfeiriad?"},"content":{"rendered":"<p>Yma yn y Ganolfan, rydym yn archwilio\u2019r dystiolaeth ynghylch caffael cyhoeddus, a\u2019n nod yw cyhoeddi rhai adroddiadau cryno yn gynnar yn 2019.\u00a0 Mae cydweithio ar gaffael - cyfuno galluoedd er mwyn crynhoi a chryfhau arbenigedd yn fewnol neu er mwyn cael mynediad at arbedion maint - yn thema sy\u2019n dod i\u2019r amlwg.\u00a0\u00a0 Felly, fel rhan o'n proses ymchwil, rydym wedi bod yn adeiladu darlun o'r mathau o gaffael cydweithredol sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Yma rydym yn rhannu ein canfyddiadau hyd yma.<\/p>\n<p><strong>Beth yw caffael?\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Ar un lefel, ystyr<strong> caffael<\/strong> yn syml yw prynu nwyddau, gwasanaethau neu waith. Mae'n un o swyddogaethau craidd y dull presennol o reoli gwasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig: heddiw, mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario tua thraean o'i gyllideb flynyddol drwy gaffael (c. \u00a36 biliwn y flwyddyn). Mae llwyddiant ein gwasanaethau caffael yn effeithio ar lu o wasanaethau cyhoeddus: o arlwyo mewn ysgolion i waith cynnal a chadw ambiwlans; o brynu gliniaduron i adeiladu gorsafoedd t\u00e2n; o wasanaethau cyffuriau ac alcohol i lawer o\u2019r TG sy'n cefnogi ein GIG.<\/p>\n<p><strong>Y prif sefydliadau caffael cydweithredol yng Nghymru... ar hyn o bryd<\/strong><\/p>\n<p>Yn draddodiadol, bu dwy brif ffordd o gaffael ar y cyd - drwy sefydliadau prynu cyhoeddus a chonsortia pwrcasu. Mae sefydliadau prynu cyhoeddus yn cynnig pecynnau contract ffurfiol gyda busnesau penodol i\u2019w haelodau, ac mae\u2019r rheiny\u2019n nodi telerau contractau i\u2019r dyfodol, a elwir yn gytundebau fframwaith. Consortiwm pwrcasu yw sefydliadau annibynnol yn dod at ei gilydd, yn ffurfiol neu'n anffurfiol, i gyfuno eu gofynion a'u p\u0175er prynu.<\/p>\n<p>Ar y cychwyn, roedd y trefniadau caffael cydweithredol hyn yn digwydd yn bennaf <em>o fewn sectorau. <\/em>Ar hyn o bryd, mae dau gonsortiwm pwrcasu sector-benodol mawr yng Nghymru: <a href=\"http:\/\/www.nwssp.wales.nhs.uk\/home\">Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru<\/a> (NWSSP) yn y sector iechyd a <a href=\"http:\/\/www.hepcw.ac.uk\/\">Chonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru<\/a> (HEPCW). <a href=\"http:\/\/www.audit.wales\/system\/files\/publications\/Public-Procurement-in-Wales-2017-English_0.pdf\">Dywedir<\/a> bod y ddau yn gyffredinol yn lleihau costau caffael ac yn gwella cydymffurfiaeth \u00e2 deddfwriaeth yr UE, ond mae anghytundeb ynghylch i ba raddau y maent yn llwyddo i sicrhau budd i gymunedau lleol a busnesau bach a chanolig (BBaChau).<\/p>\n<p>Yn fwy diweddar, bu symudiad tuag at gaffael <em>ar draws sectorau <\/em>ar gyfer nwyddau a gwasanaethau cyffredin ac ailadroddus.\u00a0 Y dull gweithredu hwn o gaffael, sy\u2019n seiliedig ar reoli categor\u00efau, yw\u2019r sylfaen ar gyfer prif gorff prynu cyhoeddus Cymru, y <a href=\"http:\/\/nps.gov.wales\/?skip=1&amp;lang=en\">Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol<\/a> (NPS). Mae\u2019n ddiddorol bod awdurdodau lleol sy\u2019n gwario dros hanner cyfanswm y gwariant ar gaffael gan gyrff cyhoeddus, ac mae bron i dri-chwarter o\u2019r gwariant drwy NPS wedi bod gan awdurdodau lleol. Ffurfiwyd yr NPS yn 2013, ac fe\u2019i sefydlwyd yn rhannol o dan fenthyciad Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru, ond nid yw\u2019r defnydd ohono a\u2019r arbediadau ganddo wedi bodloni\u2019r disgwyliadau, ac yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y byddai\u2019r NPS yn cau dros amser, fel rhan o ddull polisi cenedlaethol newydd. Darganfyddodd arolwg gan Swyddfa Archwilio Cymru bod y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus wedi defnyddio consortia pwrcasu eraill hefyd ers 2013, gyda tua hanner y rheiny yn awgrymu eu bod yn prynu drwy ffyrdd eraill yn gyson. Soniwyd am ystod eang o gonsortia pwrcasu a sefydliadau prynu cyhoeddus a phreifat, gyda chyfeiriad at brynu defnyddebau, cerbydau, esgidiau, gwaith adeiladu, ymgynghoriaeth, a bagiau gwastraff bwyd ymysg nwyddau a gwasanaethau eraill.<\/p>\n<p><strong>Rhai enghreifftiau o gydweithio creadigol <\/strong><\/p>\n<p>Ymhell oddi wrth y strwythurau ffurfiol ar raddfa fawr a amlinellir uchod, mae cyrff cyhoeddus yn canfod ffyrdd creadigol o ddod at ei gilydd i gaffael yn fwy effeithiol. Mae dulliau gweithredu\u2019n amrywio cryn dipyn, a gallant fod yn ad hoc ac anffurfiol; mae'r enghreifftiau canlynol yn rhoi syniad o'r amrywiaeth hwn.<\/p>\n<p>Mae rhai trefniadau caffael cydweithredol yn canolbwyntio ar feysydd penodol o angen cymdeithasol, fel prosiect <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/news\/view\/1329945-adopting-together-ktp-shortlisted-for-awards\">Adopting Together<\/a>, sy\u2019n ceisio gwella caffael gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru, gyda ffocws ar y plant sy'n gorfod aros hwyaf i gael eu mabwysiadu. Dan arweiniad Dr Jane Lynch o Ysgol Fusnes Caerdydd, mae'r prosiect yn dwyn ynghyd elusennau a sefydliadau a ariennir gan y Llywodraeth o dan gynlluniau ffurfiol rheoli perthynas ar y cyd a chytundebau lefel gwasanaeth. Mae'r prosiect yn pwysleisio y gall manteision cymunedol fod yn rhan annatod o brosesau caffael sy'n rhoi gwell gwerth am arian yn y tymor hir. Yn ymdrin \u00e2 phwnc tebyg ond gan ddefnyddio dull gwahanol iawn, mae <a href=\"https:\/\/www.rctcbc.gov.uk\/EN\/Council\/CouncillorsCommitteesandMeetings\/Meetings\/Cabinet\/2016\/02\/18\/Reports\/AgendaItem2ChildrensCommissioningConsortium.pdf\">Consortiwm Comisiynu Plant Cymru (4Cs yn Saesneg)<\/a> yn gorff o aelodau gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac mae\u2019n cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau comisiynu strategol ar gyfer gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal. Mae hefyd yn rheoli <a href=\"https:\/\/www.rctcbc.gov.uk\/EN\/Council\/CouncillorsCommitteesandMeetings\/Meetings\/Cabinet\/2016\/02\/18\/Reports\/AgendaItem2ChildrensCommissioningConsortium.pdf\">fframweithiau o ddarparwyr<\/a> ar gyfer maethu annibynnol a gofal preswyl ac adnodd ar-lein i gefnogi awdurdodau lleol i ganfod lleoliadau addas sydd ar gael i\u2019r plant yn eu gofal.<\/p>\n<p>Mae trefniadau yn bodoli hefyd i rannu gwybodaeth caffael ac arbenigedd ymhlith sefydliadau sector cyhoeddus, megis y cwmni ymgynghori ar gaffael <a href=\"https:\/\/www.atebionsolutions.co.uk\/#for-the-public\">Atebion Solutions<\/a>, a gr\u00ebwyd gan Gyngor Caerdydd yn 2016. Mae staff Atebion yn gyflogedig gan Gyngor Caerdydd, ac yn gweithio i\u2019w cyflogwr eu hunain ac i gyrff cyhoeddus eraill, fel bod modd i\u2019r cyngor gadw arbenigedd caffael a allai gael ei cholli fel arall.\u00a0 Yn ddiweddar mae Atebion wedi cychwyn ar <a href=\"https:\/\/spendmatters.com\/uk\/down-the-procurement-pub-with-an-announcement-bloom\/\">drefniant cydweithredol ei hun<\/a> gyda\u2019r ymgynghoriaeth sector preifat Bloom, i ddarparu cytundeb fframwaith pedair blynedd ar gyfer TG a digidol.<\/p>\n<p>Mae dull arall i\u2019w weld ymhellach i'r gorllewin, lle mae cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi sefydlu <a href=\"http:\/\/democracy.carmarthenshire.gov.wales\/documents\/s22216\/Report.pdf\">trefniant gwasanaeth caffael a rennir<\/a>. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) hefyd yn dod i'r amlwg fel cyfryngau ar gyfer caffael ar y cyd yn y rhanbarth. Mae <a href=\"http:\/\/www.thecarmarthenshirewewant.wales\/public-services-board\/\">BGC Sir Gaerfyrddin<\/a> er enghraifft yn cychwyn ar fenter i ailddychmygu\u2019r system fwyd leol.\u00a0 Drwy ddwyn ynghyd campysau coleg a phrifysgol, y cyngor a phartneriaid eraill i grynhoi\u2019r galw ar draws lleoliadau addysg a iechyd y darperir gwasanaeth arlwyo ar eu cyfer yn y sir, y gobaith yw ysgogi cyfleoedd i ddatblygu a chynnal cynhyrchu bwyd lleol o ansawdd uchel. Yr uchelgais yw y bydd caffael cydlynus yn well gwarant o ddigon o alw a chyflenwad ac felly\u2019n cefnogi\u2019r economi leol yn well, yn arbennig amaethyddiaeth a garddwriaeth, yn ogystal \u00e2 chyfrannu at fynd i'r afael \u00e2 thlodi bwyd, gwastraff a newid yn yr hinsawdd, a hybu iechyd a llesiant.<\/p>\n<p><strong>Adfyfyrio wrth fynd heibio: bu casglu gwybodaeth am arferion caffael yn ddigon anodd...<\/strong><\/p>\n<p>Ar adeg pan fo adnoddau cyhoeddus yn cael eu hymestyn ymhellach nag erioed, mae disgwyl i gyrff cyhoeddus gyflawni mwy a mwy o werth o bob ymarfer caffael. Bellach disgwylir i broses gaffael gydbwyso'r gost yn erbyn y <a href=\"http:\/\/www.audit.wales\/system\/files\/publications\/Public-Procurement-in-Wales-2017-English_0.pdf\">cyfleoedd i<\/a> ddarparu manteision cymunedol, cefnogi econom\u00efau lleol, gwobrwyo gwaith teg, masnach deg ac arferion moesegol yn y gadwyn gyflenwi, yn ogystal \u00e2 lleihau\u2019r effeithiau amgylcheddol ar gylch bywyd - yn y b\u00f4n cyflawni egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).<\/p>\n<p>Fodd bynnag, roedd creu hyd yn oed y ciplun cyfyngedig hwn o gaffael ar y cyd yng Nghymru ymhell o fod yn hawdd. Dengys yr enghreifftiau uchod fod dulliau addawol o gydweithio \u00e2 chyflenwyr ac ar draws y sector cyhoeddus ar gael.\u00a0 Fodd bynnag, cymerodd amser i gael hyd i\u2019r rhain - gan dynnu ar nifer cyfyngedig o adroddiadau allweddol, ac ar gysylltiadau ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac academia (diolchwn yn arbennig i\u2019n cydweithwyr yn Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Phrifysgol Caerdydd). I\u2019n cydweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus, sydd dan bwysau amser ac yn awyddus i wella\u2019u harferion caffael ar frys, a symud ymlaen o ddehongliadau cul o gost a gwerth, byddai cofnod mwy cynhwysfawr o'r mathau o gaffael a defnyddio cyflenwyr allanol sydd ar waith yng Nghymru yn werthfawr.<\/p>\n<p><em>Byddwn ni\u2019n cyhoeddi adolygiadau tystiolaeth y Ganolfan ar gaffael strategol, cynaliadwy ac arloesol yn gynnar yn 2019.\u00a0 Ein nod yw y bydd yr adolygiadau a\u2019r blogiau hyn ar gaffael cyhoeddus yn cyfrannu at y ddadl dinesig, ac yn llywio datblygiad y strategaeth caffael cenedlaethol yn y dyfodol. Cysylltwch \u00e2 mi ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Llun gan\u00a0<a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/7ckybxQTYhI?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">rawpixel<\/a>\u00a0ar\u00a0<a href=\"https:\/\/unsplash.com\/search\/photos\/working?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Unsplash<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yma yn y Ganolfan, rydym yn archwilio\u2019r dystiolaeth ynghylch caffael cyhoeddus, a\u2019n nod yw cyhoeddi rhai adroddiadau cryno yn gynnar yn 2019.\u00a0 Mae cydweithio ar gaffael - cyfuno galluoedd er mwyn crynhoi a chryfhau arbenigedd yn fewnol neu er mwyn cael mynediad at arbedion maint - yn thema sy\u2019n dod i\u2019r amlwg.\u00a0\u00a0 Felly, fel rhan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14988,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137,140,141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14989","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-economi","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"rawpixel-632449-unsplash.jpg","filesize":1104946,"sizes":{"medium":{"file":"rawpixel-632449-unsplash-744x421.jpg","width":744,"height":421,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":74627,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-744x421.jpg"},"large":{"file":"rawpixel-632449-unsplash-1200x678.jpg","width":1200,"height":678,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":175896,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-1200x678.jpg"},"thumbnail":{"file":"rawpixel-632449-unsplash-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":74389,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"rawpixel-632449-unsplash-768x434.jpg","width":768,"height":434,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78902,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-768x434.jpg"},"1536x1536":{"file":"rawpixel-632449-unsplash-1536x868.jpg","width":1536,"height":868,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":277436,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-1536x868.jpg"},"2048x2048":{"file":"rawpixel-632449-unsplash-2048x1158.jpg","width":2048,"height":1158,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":468279,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-2048x1158.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"rawpixel-632449-unsplash-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":414249,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14988","name":"rawpixel-632449-unsplash.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash.jpg","title":"rawpixel-632449-unsplash.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rawpixel-632449-unsplash-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14989","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14989"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14989\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16422,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14989\/revisions\/16422"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14988"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14989"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14989"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14989"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14989"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}