{"id":14986,"date":"2018-12-10T11:37:42","date_gmt":"2018-12-10T11:37:42","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-a-wnaer-ar-draws-y-byd-i-fynd-ir-afael-a-llygredd-aer\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:20","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:20","slug":"beth-a-wnaer-ar-draws-y-byd-i-fynd-ir-afael-a-llygredd-aer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-a-wnaer-ar-draws-y-byd-i-fynd-ir-afael-a-llygredd-aer\/","title":{"rendered":"Beth a wnaer ar draws y byd i fynd i\u2019r afael \u00e2 llygredd aer?"},"content":{"rendered":"<p><em>Mae'r blog hwn yn tynnu ar adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/em> <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/strategaethau-a-thechnolegau-ansawdd-aer\/\"><strong><em>Strategaethau a thechnolegau ansawdd aer: Adolygiad cyflym o\u2019r dystiolaeth ryngwladol <\/em><\/strong><\/a><em>a ysgrifennwyd ar y cyd gan <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/person\/sarah-quarmby\/\">Sarah Quarmby<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/person\/georgina-santos\/\">Georgina Santos<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/person\/megan-mathias\/\">Megan Mathias<\/a> ac sy\u2019n archwilio'r hyn a wyddom am wahanol ffyrdd o lanhau\u2019r aer a anadlwn.\u00a0 <\/em><\/p>\n<h4>Beth yw ansawdd aer?<\/h4>\n<p>Caiff ansawdd aer ei fesur yn \u00f4l lefelau cymharol y llygredd yn yr aer. Mae'r rhan fwyaf o lygredd aer mewn ardaloedd trefol yn cael ei achosi gan draffig ar y ffyrdd. Mae diwydiant trwm, amaethyddiaeth a llygredd aelwydydd yn chwarae rhan hefyd, ond mae'r rhain yn tueddu i fod yn gwella neu\u2019n aros yr un peth dros amser, tra bod llygredd traffig ffyrdd <a href=\"https:\/\/uk-air.defra.gov.uk\/air-pollution\/causes\">yn gyffredinol yn gwaethygu<\/a>.<\/p>\n<p>Mae pum prif lygrydd sy\u2019n fwyaf niweidiol i iechyd dynol: mater gronynnol (PM<sub>2.5 <\/sub>a PM<sub>10<\/sub>), ocsidau nitrogen (NO<sub>x<\/sub>), sylffwr deuocsid (SO<sub>2<\/sub>), carbon monocsid (CO) a chyfansoddion organig anweddol (VOCs). Mae cyfrannau uchel o\u2019r sylweddau hyn yn yr awyr yn achosi amrywiaeth o broblemau iechyd, ac am y rheswm hwn mae eu lefelau\u2019n cael eu rheoleiddio gan ganllawiau rhyngwladol, er enghraifft gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal \u00e2 deddfwriaeth gwledydd unigol. Mae'n werth nodi bod y nwyon t\u0177 gwydr sy'n achosi cynhesu byd-eang yn wahanol i'r llygryddion a restrir uchod, ond mae llosgi tanwydd ffosil yn achosi llygredd yn yr aer a chynhesu byd-eang. Yn y modd hwn, mae cynhesu byd-eang ac ansawdd aer yn faterion ar wah\u00e2n ond mae cysylltiad rhyngddynt.<\/p>\n<h4>Beth sy'n cael ei wneud am lygredd aer?<\/h4>\n<p>Mae llywodraethau ledled y byd yn dechrau gweithredu\u2019n greadigol o ran ffyrdd i wella'r aer y mae eu dinasyddion yn ei anadlu. Mae dwy brif ffordd o edrych ar ansawdd aer: naill ai ceisio atal llygryddion rhag cael eu cynhyrchu, neu eu dileu unwaith maen nhw yn yr aer. Mae\u2019r ymdrechion i wneud yr olaf yn tueddu i fod yn fwy anghyffredin, gydag enghreifftiau sy\u2019n cynnwys simnai anferth yn Xi'an, Tsieina sy'n hidlo'r aer sy\u2019n mynd trwyddi, canonau d\u0175r yn Delhi sy\u2019n golchi llygredd o'r aer, a phaent sy\u2019n adweithio \u00e2 nitrogen deuocsid, gan ei dynnu o'r aer. Yn ddiweddar, mae <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/environment\/2018\/sep\/27\/uks-first-air-filtering-bus-launches-in-southampton\">dyfeisiau hidlo aer<\/a> hefyd wedi'u gosod ar fysiau yn Southampton. Nid oes llawer o dystiolaeth i awgrymu bod y math hyn o fentrau yn gweithio, nid lleiaf oherwydd mai \u00e2 chyfran fach iawn o'r aer yn unig y maent yn dod i gysylltiad.\u00a0 Fel yr ysgrifennodd yr Athro Alastair Lewis <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/beware-chinas-anti-smog-tower-and-other-plans-to-pull-pollution-from-the-air-90596\">yn ddiweddar<\/a>, \"mae\u2019n llawer haws meddwl am dechnolegau a chynlluniau sy\u2019n atal allyriadau niweidiol yn y ffynhonnell, yn hytrach na cheisio cipio\u2019r llygredd sy\u2019n digwydd o ganlyniad ar \u00f4l iddo gael ei ollwng a chyrraedd yr aer.\"<\/p>\n<h4>Felly beth sy\u2019n gweithio?<\/h4>\n<p>Gan fod y rhan fwyaf o lygredd aer trefol yn dod o\u2019r traffig, un ffordd o atal llygryddion rhag cael eu cynhyrchu yw cyfnewid defnydd unigolion o geir tanwydd ffosil am ffurfiau cludiant amgen. Mewn cyferbyniad \u00e2 cherbydau sy\u2019n cael eu gyrru gan danwydd ffosil, nid yw cerbydau trydan yn cynhyrchu allyriadau wrth gael eu gyrru.\u00a0 Gan fod rhaid i\u2019r trydan sy'n eu pweru gael ei gynhyrchu rywsut, mae cerbydau trydan yn dal i gynhyrchu mater gronynnol o \u00f4l traul breciau a theiars, ond maent yn creu llawer llai o lygredd na'u cymheiriaid tanwydd ffosil.<\/p>\n<p>Gall rhai dulliau effeithiol eraill o wella ansawdd aer fod yn llawer symlach, er bod t\u0175r sugno mwrllwch Tsieina a cheir trydan yn creu penawdau gwell.\u00a0 Ceir tystiolaeth o blaid y mentrau hyn:<\/p>\n<p>Dangoswyd bod<strong> parthau allyriadau isel, <\/strong>lle mae defnydd o gerbydau yn gyfyngedig, yn cael effeithiau cadarnhaol ar ansawdd aer yn lleol, er bod perygl y gallai pobl osgoi\u2019r ardal yn hytrach na pheidio \u00e2 defnyddio\u2019r car o gwbl, a fyddai'n golygu bod y llygredd yn syml wedi symud i rywle arall.<\/p>\n<p>Mae<strong> gostwng terfynau cyflymder<\/strong> yn fesur effeithiol, yn bennaf oherwydd ei fod yn golygu bod gyrwyr yn stopio a chychwyn llai, yn hytrach na bod o ganlyniad i yrru arafach ynddo\u2019i hun. Mae terfynau cyflymder is hefyd yn cael effaith ar unwaith bron ar ansawdd yr aer, sy\u2019n golygu eu bod yn fesur tymor byr defnyddiol.<\/p>\n<p><strong>Gall rhwystrau ffisegol <\/strong>ar hyd ffyrdd atal llygredd rhag ymledu i\u2019r ardaloedd o amgylch, yn dibynnu ar eu dyluniad a\u2019r tywydd lleol.\u00a0 Gwell fyth yw rhwystrau sydd wedi\u2019u creu\u2019n rhannol o lystyfiant.<\/p>\n<p>Hefyd nid yw<strong> teithio llesol, <\/strong>sy\u2019n cynnwys cerdded a beicio, yn cynhyrchu unrhyw lygredd. Os yw beicio i fod yn ffordd ddeniadol o deithio o gwmpas, mae angen seilwaith addas, megis rhwydwaith o lonydd beicio pwrpasol.<\/p>\n<p>Mae dulliau teithio a rennir, fel <strong>trafnidiaeth gyhoeddus <\/strong>hefyd yn achosi llai o lygredd, ond yn aml mae angen anogaeth ar bobl i newid o ddefnyddio ceir preifat. Mae un ffordd o sicrhau\u2019r newid ymddygiad yma ar waith ym mhrifddinas Estonia, Tallinn, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod ar gael am ddim ers 2013.<\/p>\n<p>Yn olaf, ceir rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod mentrau \"<strong>trefi gwyrdd<\/strong>\" fel gerddi fertigol a waliau gwyrdd yn cael effaith fuddiol ar ansawdd aer, yn enwedig mewn amgylcheddau adeiledig. Gall llystyfiant weithredu fel <a href=\"https:\/\/www.sciencefocus.com\/planet-earth\/do-trees-reduce-air-pollution-levels\/\">hidlydd aer naturiol<\/a>, gan fod rhai llygryddion yn cael eu hamsugno gan y dail. Ar y llaw arall, ar strydoedd ag adeiladau tal, gallai coed gadw\u2019r llygredd ar lefel y stryd, gan wneud ansawdd\u00a0 yr aer yn waeth-maen nhw'n fwyaf buddiol mewn ardaloedd llai adeiledig. (Mae yna hyd yn oed <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S130910421530235X\">astudiaethau<\/a> wedi cael eu gwneud ar y rhywogaethau gorau o goed ar gyfer gwella ansawdd aer).<\/p>\n<p>Mae hyn oll yn dangos nad y mentrau mwyaf effeithiol o ran ansawdd aer yw\u2019r rhai mwyaf cyffrous o reidrwydd.\u00a0 Mae\u2019r technolegau sy'n dileu llygredd o'r aer heb eu profi eto i raddau helaeth, yn enwedig ar y raddfa a fyddai\u2019n angenrheidiol i sicrhau unrhyw effaith amlwg.\u00a0 Er y gallai dyfodol mesurau ansawdd aer gynnwys technolegau newydd megis cerbydau trydan, gallai hefyd fod yn seiliedig ar bethau mor syml \u00e2\u2019r terfyn cyflymder, rhwystr wrth ymyl y ffordd a llwybr beicio.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae'r blog hwn yn tynnu ar adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Strategaethau a thechnolegau ansawdd aer: Adolygiad cyflym o\u2019r dystiolaeth ryngwladol a ysgrifennwyd ar y cyd gan Sarah Quarmby, Georgina Santos a Megan Mathias ac sy\u2019n archwilio'r hyn a wyddom am wahanol ffyrdd o lanhau\u2019r aer a anadlwn.\u00a0 Beth yw ansawdd aer? Caiff [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12819,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[135,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14986","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Exhaust-emmissions-scaled.jpg","filesize":325021,"sizes":{"medium":{"file":"Exhaust-emmissions-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34229,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-744x496.jpg"},"large":{"file":"Exhaust-emmissions-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":72600,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Exhaust-emmissions-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28125,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Exhaust-emmissions-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35892,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Exhaust-emmissions-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":111923,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Exhaust-emmissions-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":197960,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Exhaust-emmissions-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":141204,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Exhaust-emmissions.jpg","ID":"9368","name":"Exhaust-emmissions-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-scaled.jpg","title":"Exhaust-emmissions.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Exhaust-emmissions-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14986","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14986"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14986\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16421,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14986\/revisions\/16421"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12819"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14986"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14986"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14986"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14986"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}