{"id":14984,"date":"2018-12-05T00:01:19","date_gmt":"2018-12-05T00:01:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/5-peth-dylech-chi-wybod-am-gydraddoldeb-rhywedd-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:19","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:19","slug":"5-peth-dylech-chi-wybod-am-gydraddoldeb-rhywedd-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/5-peth-dylech-chi-wybod-am-gydraddoldeb-rhywedd-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"5 Peth Dylech Chi Wybod am Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd yn cyfrannu at <a href=\"https:\/\/gov.wales\/topics\/people-and-communities\/equality-diversity\/review-of-gender-equality\/?lang=en\">Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd<\/a> Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach eleni \u00e2'r nod o wneud Cymru'n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhywedd<\/p>\n<p>Yn dilyn ein hadroddiad yn yr haf ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/putting-equality-at-the-heart-of-decision-making\/\">Bolisi ac Ymarfer Rhyngwladol<\/a>, yn ddiweddar cynhaliom ni seminar i aelodau o gr\u0175p ymgynghorol a gr\u0175p llywio'r Adolygiad, er mwyn helpu i lywio eu penderfyniadau ar yr hyn mae cydraddoldeb rhywedd yn ei olygu. Cyflwynodd yr Athro Emma Renold, Emma Taylor-Collins, Dr Rachel Minto, a Dr Alison Parken gysyniadau rhywedd, croestoriadedd, a llywodraeth ffeministaidd, gan arwain at drafodaeth ar beth y gallai'r rhain ei olygu mewn cyd-destun Cymreig.<\/p>\n<p>Yma, rwy'n trafod 5 peth a ddysgwyd gennym ni yn y seminar:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cydraddoldeb Rhywedd \u2260 Cyfiawnder Rhywedd<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Er bod y rhain yn gysyniadau cysylltiedig, mae ystyron gwahanol a gwahanol ddefnydd i gyraddoldeb rhywedd a chyfiawnder rhywedd. Mae cydraddoldeb rhywedd yn golygu bod pobl yn mwynhau'r un hawliau, adnoddau, cyfleoedd a gwarchodaeth gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, beth bynnag eu rhywedd. Mae cyfiawnder rhywedd yn golygu tegwch o ran triniaeth i bob rhywedd, yn \u00f4l eu hanghenion penodol. Gall hyn olygu bod pobl yn derbyn triniaeth gyfartal neu driniaeth wahanol <a href=\"http:\/\/unesdoc.unesco.org\/images\/0026\/002607\/260770e.pdf\">a ystyrir yn gyfatebol<\/a> o ran hawliau, buddion, cyfrifoldebau a chyfleoedd. Yn y pen draw mae'n golygu mai'r ffordd orau i gyflawni cydraddoldeb rhywedd yw drwy gyfiawnder rhywedd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong>Rhywedd yw'r ffordd y caiff cyrff yn \u00f4l eu rhyw eu byw, eu cynrychioli a'u rheoleiddio<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn aml caiff rhywedd ei gamddeall ac ambell waith caiff ei ddrysu neu ei gyfyngu i gysyniadau cysylltiedig, fel rhyw, hunaniaeth rhywedd, neu fynegiant rhywedd. Mae'n bwysig deall beth yw rhywedd gan ei fod yn gysyniad gwleidyddol sy'n trefnu cyfran fawr o gymdeithas.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/orca.cf.ac.uk\/107649\/1\/The-future-of-the-sex-and-relationships-education-curriculum-in-wales-en.pdf\">Llywodraeth Cymru<\/a> wedi dewis diffinio rhywedd fel y ffordd y caiff cyrff yn \u00f4l eu rhyw eu byw, eu cynrychioli a'u rheoleiddio. Mae rhywedd felly'n gysyniad eang, sy'n cwmpasu rhywedd fel hunaniaeth a mynegiant; rhywedd mewn iaith a chyfryngau; a rhywedd mewn normau cymdeithasol-ddiwylliannol ac yn y gyfraith. Drwy feddwl am rywedd yn cael ei fyw, ei gynrychioli a'i reoleiddio, gallwn edrych ar sut mae rhywedd yn ffurfio, ac yn cael ei ffurfio gan ffactorau economaidd, amgylcheddol, gwleidyddol, diwylliannol, cyfreithiol, hanesyddol, crefyddol ac ysbrydol.<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong>Mae croestoriadedd yn fwy na rhywedd, hil a dosbarth yn unig<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn syml, mae croestoriadedd yn cyfeirio at ryngweithio rhwng categor\u00efau a gaiff eu llunio gan gymdeithas a'r lefelau gwahanol dilynol o anfantais sy'n codi o'r rhyngweithio hwn. Mae'n tarddu o <a href=\"https:\/\/chicagounbound.uchicago.edu\/cgi\/viewcontent.cgi?article=1052&amp;context=uclf\">feddylfryd ffeministiaid du<\/a>, gyda'r ddadl fod buddiannau menywod du yn cael eu cau allan o ffeministiaeth a gwrth-hiliaeth. Hynny yw, dylem edrych ar sut mae rhaniadau cymdeithasol fel rhywedd, dosbarth a hil yn rhyngweithio - neu'n 'croestorri' - gyda'i gilydd i gynhyrchu profiadau penodol i grwpiau penodol.<\/p>\n<p>Yn aml mae croestoriadedd wedi'i reoli gan gategoreiddio cymdeithasol rhywedd, hil a dosbarth. Er eu bod yn gategor\u00efau pwysig, mae croestoriadedd hefyd yn ymwneud \u00e2 rhyngweithio rhwng categor\u00efau hunaniaeth eraill, gan gynnwys anabledd, oed, rhywioldeb, ffydd ac ati. Mae'n bwysig deall sut mae'r holl elfennau\u00a0 hyn o hunaniaeth yn rhyngweithio gyda'i gilydd i ddangos systemau braint a gormes ar y lefel facro.<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong>Mae<\/strong> <strong><a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/metoo?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Ehashtag\">#metoo<\/a><\/strong><strong> yn ymgorffori pwysigrwydd croestoriadedd<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Oeddech chi'n gwybod bod Tarana Burke yn 2006 wedi sefydlu'r <a href=\"https:\/\/metoomvmt.org\/\">Mudiad Me Too<\/a> i gefnogi goroeswyr trais rhywiol, yn enwedig menywod a merched Du, a menywod ifanc lliw eraill o gymunedau isel eu cyfoeth?<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/metoomvmt.org\/\">Mudiad Me Too <\/a>Tarana Burke yn wahanol i <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/metoo?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Ehashtag\">#metoo<\/a>, a aeth yn feiral ar \u00f4l <a href=\"https:\/\/twitter.com\/Alyssa_Milano\/status\/919659438700670976?ref_src=twsrc%5Etfw%7Ctwcamp%5Etweetembed%7Ctwterm%5E919659438700670976&amp;ref_url=https%3A%2F%2Fwww.rollingstone.com%2Fmovies%2Fmovie-news%2Falyssa-milano-wants-her-me-too-campaign-to-elevate-harvey-weinstein-discussion-123610%2F\">trydariad Alyssa Milano<\/a> yn dilyn y datgeliadau am Harvey Weinstein. Er bod nod y ddau fudiad yn debyg, mae'r lefelau gwahanol o ymwybyddiaeth sydd gan y cyhoedd am y ddau fudiad yn dangos bod rhyngweithio hil a rhywedd yn bwysig wrth ystyried sut mae pobl yn profi mantais ac anfantais mewn cymdeithas. Esboniodd Tarana Burke hyn yn ddiweddar mewn <a href=\"https:\/\/www.essence.com\/videos\/tarana-burke-explains-why-black-women-dont-think-metoo-is-for-them\/\">cyfweliad<\/a>: \"Mae'r byd yn ymateb i fenywod gwyn pan fyddant yn fregus. Nid yw ein naratif ni erioed wedi'i osod yn ganolog yn y cyfryngau prif ffrwd. Nid yw ein straeon ni'n cael eu hadrodd ac o ganlyniad, rydym ni'n teimlo'n llai gwerthfawr.\"<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong>Mae llywodraeth ffeministaidd yn seiliedig ar egwyddorion, arferion llywodraethu a sefydliadau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Gall Sweden ymfalch\u00efo mai ganddi hi mae'r \u2018<a href=\"https:\/\/www.government.se\/government-policy\/a-feminist-government\/\">llywodraeth ffeministaidd gyntaf\u2019<\/a> drwy'r byd oherwydd bod ei hegwyddorion, ei harferion llywodraethu a'i sefydliadau'n seiliedig ar ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd. Mae'r egwyddorion hyn yn cynnwys democratiaeth, cyfiawnder a datblygu economaidd, ac er nad yw'r rhain yn ffeministaidd yn unig, maent yn bwysig er mwyn gwireddu llywodraeth ffeministaidd. Mae hyn oherwydd eu bod yn cefnogi arferion llywodraethu yn Sweden sy'n cynnwys gwneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, a phrif ffrydio rhywedd, a ch\u00e2nt eu cefnogi drwy sefydliadau ffurfiol (cyfreithiau, rheolau) a sefydliadau anffurfiol (normau a diwylliant).<\/p>\n<p><strong>Y Camau Nesaf<\/strong><\/p>\n<p>Yn dilyn y digwyddiad hwn, cyfarfu Gr\u0175p Ymgynghorol yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd i drafod beth yw cydraddoldeb rhywedd a llywodraeth ffeministaidd yn y cyd-destun Cymreig. Bydd hyn yn llywio cynllun yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019.<\/p>\n<p>Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru hefyd yn parhau i weithio ar yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd dros y misoedd nesaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd yn cyfrannu at Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach eleni \u00e2'r nod o wneud Cymru'n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhywedd Yn dilyn ein hadroddiad yn yr haf ar Bolisi ac Ymarfer Rhyngwladol, yn ddiweddar cynhaliom ni seminar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14981,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14984","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"P1010849-smaller-scaled.jpg","filesize":522974,"sizes":{"medium":{"file":"P1010849-smaller-744x558.jpg","width":744,"height":558,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":80663,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-744x558.jpg"},"large":{"file":"P1010849-smaller-1200x901.jpg","width":1200,"height":901,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":165909,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-1200x901.jpg"},"thumbnail":{"file":"P1010849-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":66237,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"P1010849-smaller-768x577.jpg","width":768,"height":577,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":84669,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-768x577.jpg"},"1536x1536":{"file":"P1010849-smaller-1536x1153.jpg","width":1536,"height":1153,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":239820,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-1536x1153.jpg"},"2048x2048":{"file":"P1010849-smaller-2048x1537.jpg","width":2048,"height":1537,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":369669,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-2048x1537.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"P1010849-smaller-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":273246,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"3.6","credit":"","camera":"DMC-G80","caption":"","created_timestamp":"1542377355","copyright":"","focal_length":"14","iso":"640","shutter_speed":"0.016666666666667","title":"","orientation":"1","keywords":[]},"original_image":"P1010849-smaller.jpg","ID":"14981","name":"P1010849-smaller-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-scaled.jpg","title":"P1010849-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/P1010849-smaller-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14984","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14984"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14984\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16420,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14984\/revisions\/16420"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14981"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14984"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14984"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14984"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14984"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}