{"id":14964,"date":"2018-08-23T12:39:18","date_gmt":"2018-08-23T12:39:18","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/gweithio-mewn-partneriaeth\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:14","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:14","slug":"gweithio-mewn-partneriaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/gweithio-mewn-partneriaeth\/","title":{"rendered":"Gweithio mewn partneriaeth"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn y blog hwn, mae ein Uwch-gymrawd Ymchwil, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/about\/person\/megan-mathias\/\">Megan Mathias<\/a> yn trafod sut mae'r Ganolfan yn denu arbenigedd er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 heriau ym maes polisi cyhoeddus Cymru <\/strong><\/p>\n<p>Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym yn ffodus i allu gweithio ar draws ystod eang o feysydd polisi. Er enghraifft, ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar faterion mor amrywiol \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/pennur-sylfaen-drethu-yng-nghymru\/\">sylfaen dreth Cymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/llwybrau-atal-digartrefedd-ymhlith-pobl-ifanc\/\">digartrefedd ymhlith pobl ifanc<\/a>, sefydliadau iechyd sy'n tangyflawni, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/beth-syn-gweithio-neu-beth-all-weithio-i-hyrwyddo-cydraddoldeb-rhywedd-yng-nghymru\/\">cydraddoldebau<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/tystiolaeth-i-arweinwyr-gwasanaethau-cyhoeddus-cymru-ynghylch-caffael-cyhoeddus\/\">caffael<\/a> \u2013 ymhlith llu o rai eraill.<\/p>\n<p>Nid ydym yn arbenigwyr ym mhob un o'r meysydd hyn. Nid yw hynny\u2019n bosibl. Yn hytrach, ein r\u00f4l yw cysylltu rhai o arbenigwyr gorau'r byd \u00e2 heriau polisi yr ydym yn eu wynebu yma yng Nghymru, a gwneud hynny mewn modd deallus.\u00a0 Mae hynny'n golygu ein bod yn treulio amser yn dod i ddeall yr heriau allweddol ac ystyried pa fath o arbenigedd fyddai o gymorth, cyn mynd ati i chwilio am bartneriaid posibl ar gyfer y prosiect.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid arbenigol mewn sawl ffordd: cydweithio ar adolygiadau o dystiolaeth, ceisio cyngor a barn arbenigol pan mae\u2019r dystiolaeth sydd ar gael yn brin, cynnal digwyddiadau er mwyn cysylltu arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus a llunwyr polis\u00efau yn uniongyrchol \u00e2 syniadau arbenigol, ac ati. Rydym bob amser yn rhoi sylw i'r penderfyniadau sydd angen eu gwneud yng Nghymru, a cheisio gwneud yn si\u0175r bod y dystiolaeth a'r cyngor arbenigol a ddarperir gennym yn amserol ac yn berthnasol.<\/p>\n<p>Felly, pwy yw'r arbenigwyr hyn? Wel, mae'n bleser gennym ddweud bod rhai ohonynt yn gydweithwyr o brifysgolion yma yng Nghymru. Nid ydym yn chwilio am arbenigwyr o Gymru yn unig, ond weithiau mae ceisio dod o hyn i'r partneriaid arbenigol cywir yn ein tywys adref. Dyma'r hyn a ddigwyddodd ar gyfer y prosiect presennol ar sylfaen dreth Cymru sy\u2019n cael ei arwain yn fedrus gan <strong>Guto Ifan ac Ed Poole<\/strong> yng <a href=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/wgc\/\">Nghanolfan Llywodraethiant Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>Yn aml, daw i\u2019r amlwg bod arbenigwyr yn y DU mewn sefyllfa dda i helpu. Yn aml, gall pobl sydd \u00e2 gwybodaeth eang am eu maes, <em>ac<\/em> sy'n meddu ar ddealltwriaeth o'r cyd-destun polisi yng Nghymru a'r DU yn ehangach, fod mewn sefyllfa i helpu i ddefnyddio tystiolaeth a syniadau sy'n deillio o bob cwr o\u2019r byd yn ein cyd-destun ninnau (er nad ydym, yn y Ganolfan, yn rhoi'r gorau i'r cyfrifoldeb hwnnw yn llwyr). Mae'r canlynol yn enghreifftiau o bartneriaid arbenigol yr ydym yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd ar sail y rhesymwaith hwn:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Yr Athro Chris Pascal a Tony Bertram<\/strong> yn y <a href=\"http:\/\/www.crec.co.uk\/\">Ganolfan er Ymchwil Plentyndod Cynnar<\/a> yn Birmingham ar y dystiolaeth ynghylch systemau blynyddoedd cynnar yn rhyngwladol;<\/li>\n<li><strong>Yr Athro Sharon Collard<\/strong>, Cyfarwyddwr Ymchwil y <a href=\"http:\/\/www.bristol.ac.uk\/geography\/research\/pfrc\/\">Ganolfan Ymchwil Cyllid Personol<\/a> ym Mhrifysgol Bryste ar y modd mae awdurdodau cyhoeddus Cymru yn trin dyledwyr sy'n agored i niwed.<\/li>\n<li><strong>Yr Athrawon<a href=\"http:\/\/www.dit.ie\/hepru\/researchteam\/hazelkorn\/\"> Ellen Hazelkorn<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.ncl.ac.uk\/gps\/staff\/profile\/johngoddard.html#background\">John Goddard<\/a><\/strong> ar opsiynau polisi er mwyn ymgorffori cenhadaeth ddinesig prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr o bob cwr o\u2019r byd. Mae hyn yn bwysig dros ben i ni \u2013 mae cyflwyno dealltwriaeth newydd yng Nghymru yn rhan greiddiol o'n cenhadaeth. Rydym yn ymgynghori'n rheolaidd ag arbenigwyr academaidd ac ymarfer rhyngwladol, ar bob prosiect. Gyda rhai heriau, rydym hefyd yn nodi partneriaid arbenigol dramor sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn bartneriaid arweiniol i ni ar brosiect. Unwaith eto, mae prosiect presennol y Ganolfan sy'n adolygu'r dystiolaeth ryngwladol ar atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yn enghraifft o hyn. Yn y maes hwn, pleser o\u2019r mwyaf yw cydweithio \u00e2'r <strong>Doctoriaid Kaitlin Schwan a Stephen Gaetz<\/strong>, o'r <a href=\"http:\/\/homelesshub.ca\/COH\">C<em>anadian Observatory on Homelessness<\/em><\/a> a <strong>David French a Melanie Redman<\/strong> o <em><a href=\"http:\/\/awayhome.ca\/\">A Way Home Canada<\/a><\/em>, clymblaid genedlaethol Canada sy\u2019n ceisio dod \u00e2 digartrefedd ymysg pobl ifanc i ben.<\/p>\n<p>Dim ond rhai enghreifftiau yw\u2019r rhain o bartneriaethau arbenigol a gynhelir yn y Ganolfan ar hyn o bryd. Cawsom y fraint o weithio gyda nifer o bobl eraill ar brosiectau yn y gorffennol hefyd \u2013 sydd i\u2019w gweld yn ein <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddiadau\/\">catalog o gyhoeddiadau<\/a>.<\/p>\n<p>Os hoffech ddod i wybod rhagor am sut ydym yn gweithio ar y cyd, ein partneriaethau presennol, neu'n wir os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bartneriaid gyda ni yn y dyfodol <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/person\/megan-mathias\/\">cysylltwch \u00e2 mi<\/a> ar bob cyfrif.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y blog hwn, mae ein Uwch-gymrawd Ymchwil, Megan Mathias yn trafod sut mae'r Ganolfan yn denu arbenigedd er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 heriau ym maes polisi cyhoeddus Cymru Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym yn ffodus i allu gweithio ar draws ystod eang o feysydd polisi. Er enghraifft, ar hyn o bryd rydym [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13411,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14964","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Collaboration-scaled.jpg","filesize":755221,"sizes":{"medium":{"file":"Collaboration-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":94467,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-744x496.jpg"},"large":{"file":"Collaboration-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":213093,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Collaboration-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":84282,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Collaboration-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":99582,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Collaboration-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":324062,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Collaboration-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":524964,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Collaboration-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":422880,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"2.8","credit":"Getty Images\/iStockphoto","camera":"NIKON D3X","caption":"Marketing Analysis Accounting Team Business Meeting Concept","created_timestamp":"1444873047","copyright":"Rawpixel Ltd","focal_length":"56","iso":"100","shutter_speed":"0.0125","title":"Marketing Analysis Accounting Team Business Meeting Concept","orientation":"0","keywords":["Businesswoman","Businessman","Brainstorming","Conference Table","Multi-Ethnic Group","Meeting","Global Business","Planning","Cooperation","Teamwork","Discussion","Business","Directly Above","Aerial View","High Angle View","Design Professional","Business Person","Professional Occupation","Occupation","Document","Corporate Business"]},"original_image":"Collaboration.jpg","ID":"9285","name":"Collaboration-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-scaled.jpg","title":"Marketing Analysis Accounting Team Business Meeting Concept","caption":"","description":"Marketing Analysis Accounting Team Business Meeting Concept","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Collaboration-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14964","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14964"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14964\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16411,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14964\/revisions\/16411"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13411"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14964"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14964"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14964"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14964"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}