{"id":14948,"date":"2018-06-26T13:29:09","date_gmt":"2018-06-26T13:29:09","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tlodi-gwledig-achos-powys\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:11","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:11","slug":"tlodi-gwledig-achos-powys","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tlodi-gwledig-achos-powys\/","title":{"rendered":"Tlodi gwledig: achos Powys"},"content":{"rendered":"<p><em>Fel rhan o'n cyfres Tlodi Gwledig, mae Dr Greg Thomas (Cyngor Sir Powys<\/em><em>) yn defnyddio Powys fel astudiaeth achos i ymchwilio i'r problemau sy'n ymwneud \u00e2 thlodi gwledig.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae tlodi gwledig yn aml wedi\u2019i guddio o\u2019r golwg ac yn gwrth-ddweud y darluniau ystrydebol hynny o ardaloedd gwledig o fryniau gwyrddion a phentrefi perffaith. Mae Powys yn un ardal sy\u2019n dioddef o\u2019r tlodi cudd hwn. Er nad oes llawer o bobl ym Mhowys heddiw yn dioddef o dlodi llwyr, mae rhai pobl yn methu \u00e2 chyrraedd y safonau byw rydym yn eu disgwyl mewn gwlad gyfoethog, ddatblygedig.<\/p>\n<p>Nid dim ond yr unigolyn y mae tlodi yn ei niweidio; mae hefyd yn effeithio ar les economaidd a chymdeithasol y wlad. Yng Nghymru, mae tlodi\u2019n <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/wp-content\/uploads\/2016\/11\/Prosperity-without-poverty.pdf.\">gysylltiedig \u00e2<\/a> gwariant cyhoeddus ychwanegol o tua \u00a33.6 biliwn y flwyddyn ar iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, yr heddlu a\u2019r gwasanaethau cyfiawnder. Mae hyn yn cyfateb i fwy nag 20% o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae pum prif fath o dlodi\u2019n effeithio ar drigolion Powys: tlodi ariannol, tlodi tanwydd, tlodi iechyd, tlodi digidol a thlodi plant.<\/p>\n<h4>Tlodi Ariannol<\/h4>\n<p>Mae tlodi ariannol ym Mhowys yn wahanol i dlodi ariannol mewn ardaloedd trefol. Er enghraifft, nid yw perchenogaeth o gerbyd yn ddangosydd addas mewn perthynas \u00e2 thlodi ym Mhowys. Oherwydd natur wledig Powys, mae\u2019n rhaid i bobl gael car i deithio i\u2019r gwaith ac, yn eironig, mae angen car arnynt yn aml i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae poblogaeth Powys felly\u2019n fwy tebygol o fod yn berchen ar gar na chyfartaledd Cymru; mae 17.5% o aelwydydd heb gar, o gymharu \u00e2 26% ar gyfartaledd yng Nghymru. Mae\u2019r ffaith bod trigolion Powys yn llai tebygol o lawer o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus na gweddill Cymru yn gysylltiedig \u00e2 hyn. Mae <a href=\"http:\/\/www.infobasecymru.net\/IAS\/profiles\/profile?profileId=169&amp;geoTypeId\">1.6% o\u2019r boblogaeth<\/a> yn teithio i\u2019r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus o gymharu \u00e2 6.6% o\u2019r boblogaeth genedlaethol.<\/p>\n<p>Mae tlodi mewn gwaith, yn hytrach na thlodi ariannol a achosir gan ddiweithdra, hefyd yn broblem fawr ym Mhowys. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos pa mor fregus y mae bywyd i\u2019r rheini sydd mewn gwaith \u00e2 th\u00e2l isel, yn arbennig y rheini ar gontractau dim oriau. Mae angen denu mwy o swyddi \u2018da\u2019 i Bowys i gyflogi pobl leol - rhywbeth a fydd yn arwain at lefelau uwch o incwm a hunan-barch.<\/p>\n<h4>Tlodi Tanwydd<\/h4>\n<p>Prif achosion tlodi tanwydd ym Mhowys yw pris ynni, lefel incwm cartrefi, ansawdd ffisegol ac effeithlonrwydd ynni tai, a pha mor fregus y mae\u2019r preswylwyr. Mae tlodi tanwydd wedi dod yn amlycach yn ddiweddar gan fod pris cyfartalog trydan domestig wedi cynyddu gan 80% a <a href=\"http:\/\/www.nea.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/03\/National-Energy-Action-NEA-briefing-for-annual-fuel-poverty-debate.pdf\">phrisiau nwy wedi dyblu<\/a> rhwng 2004 a 2016.\u00a0 Yn yr un cyfnod, mae\u2019r gyfran gyfartalog o incwm y cartref sy\u2019n cael ei gwario ar ynni hefyd wedi dyblu, sydd wedi arwain at effaith anghymesur ar dlodion sy\u2019n gweithio.<\/p>\n<h4>Tlodi Iechyd<\/h4>\n<p>Mae poblogaethau Powys yn dueddol o fod wedi\u2019u lleoli mewn trefi bach a phentrefi, sydd yn aml \u00e2 chysylltiadau ffordd a rheilffordd gwael, sy\u2019n her fawr o ran cael mynediad i wasanaethau. Ym Mhowys, mae\u2019n rhaid i 19.4% o gleifion <a href=\"http:\/\/wihsc.southwales.ac.uk\/media\/files\/documents\/2014-10-23\/MWHS_Report_-_WIHSC_for_Welsh_Government.pdf\">deithio mwy na 15 munud<\/a> at feddyg teulu, ac mae\u2019r broblem hon yn waeth o lawer yng ngogledd y sir (22.6% o gleifion) nag yn y de (11.9%). I gyd, mae 26,330 o gleifion cofrestredig ym Mhowys y mae\u2019n rhaid iddynt deithio mwy na 30 munud ar gyfer taith gron at feddyg teulu. Os nad oes gan y claf amser neu fynediad i drafnidiaeth i fynd i apwyntiad, mae\u2019n bosibl na fydd yn ceisio help, ac ni fydd yn manteisio ar y buddion posibl o ganfod problemau iechyd ar gam cynnar. Mae\u2019r problemau hyn yn cael eu dwys\u00e1u gan absenoldeb Ysbytai Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys.<\/p>\n<h4>Tlodi Digidol<\/h4>\n<p>Nid yw mynediad i dechnoleg a gwasanaethau digidol yn cael ei gymryd yn ganiataol gan bobl Powys. Nid oes gan <a href=\"https:\/\/gov.wales\/docs\/statistics\/2017\/170831-national-survey-2016-17-internet-access-online-public-services-en.pdf\">27% o aelwydydd<\/a> fynediad i\u2019r rhyngrwyd. Mae\u2019r rhyngrwyd sydd gan bobl yn aml o safon gwael - gyda <a href=\"http:\/\/www.ispreview.co.uk\/index.php\/2016\/03\/ofcom-2016-report-average-uk-home-broadband-speeds-reach-28-9mbps.html\">chyflymder cyfartalog<\/a> o rhwng 0.1 ac 8.5 Mbit\/eiliad, o gymharu \u00e2 29.8 Mbit\/eiliad ar draws y DU. Mae technoleg ddigidol yn dylanwadu ar sut rydym yn gweithio, cyfathrebu, defnyddio, dysgu, ymgysylltu a meddwl. Mae technoleg wedi galluogi mwy o wasanaethau personol, nwyddau a chynhyrchion rhatach, mwy o ddewis, cysylltiadau ehangach a mynediad gwell i wybodaeth a chyfathrebu. Mae sicrhau bod gan bawb fynediad i\u2019r rhyngrwyd a thechnolegau digidol eraill yn parhau\u2019n un o heriau pennaf cymdeithas fodern.<\/p>\n<h4>Tlodi Plant<\/h4>\n<p>Tlodi plant yw\u2019r ffactor sy\u2019n dylanwadu fwyaf ar iechyd a lles cenedlaethau\u2019r dyfodol. Y newyddion da yw bod lefelau tlodi plant ym Mhowys yn is na holl awdurdodau lleol eraill Cymru, namyn un. Dim ond Sir Fynwy sydd \u00e2 lefelau is. Ar \u00f4l ystyried costau tai, ystyrir bod <a href=\"http:\/\/www.endchildpoverty.org.uk\/poverty-in-your-area-2016\/\">21.47% o blant Powys<\/a> mewn tlodi, o gymharu \u00e2 27.33% yng Nghymru gyfan.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae tlodi plant yn broblem ym Mhowys o hyd, a gall plant sy\u2019n cael eu magu mewn tlodi wynebu risg uwch o iechyd gwael, trosedd a phroblemau ymddygiad. Gall y rhain i gyd gael eu lliniaru gan ymyriadau cynnar effeithiol. Mae incwm isel yn dueddol fod yn gysylltiedig \u00e2 thangyflawni addysgol mewn plentyndod cynnar a gall gael effaith negyddol ar enillion yn y dyfodol, gan arwain at dlodi sy\u2019n pontio\u2019r cenedlaethau os bydd hyn yn parhau am gyfnod hir.<\/p>\n<h4>Beth nesaf?<\/h4>\n<p>Mae\u2019r uchod yn awgrymu nad yw dangosyddion traddodiadol yn addas o bosib ar gyfer mesur effeithiau tlodi mewn ardaloedd gwledig fel Powys. Dylai amrywiaeth o ddangosyddion tlodi gwledig penodol gael eu datblygu i asesu\u2019r effaith y mae tlodi\u2019n ei chael ar y sir, ac i nodi gwasanaethau addas sy\u2019n galluogi pobl i oresgyn rhwystrau i\u2019w galluogi i gyfrannu\u2019n llawn at gymdeithas a manteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.<\/p>\n<p>Pobl sy\u2019n dioddef o dlodi sydd yn aml yn y sefyllfa orau i benderfynu ar yr hyn fyddai\u2019n eu helpu. Fel arfer, nid oes gan bobl mewn tlodi y p\u0175er i wneud penderfyniadau. Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi gwledig, bydd yn hanfodol sicrhau ein bod yn datblygu cymunedau cydlynol sy\u2019n ymgysylltu \u00e2\u2019u hardaloedd lleol ac sy\u2019n cymryd perchnogaeth ohonynt. Oherwydd cyfyngiadau ariannol sy\u2019n wynebu\u2019r sector cyhoeddus, bydd gan y trydydd sector r\u00f4l gynyddol o ran mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi. Oherwydd hyn mae angen i ni sicrhau ein bod yn datblygu ymddiriedaeth a chefnogaeth rhwng y trydydd sector a chymunedau lleol.<\/p>\n<p>Nid oes un ateb ar gael ar gyfer pob achos o dlodi gwledig, ac mae\u2019n hanfodol ein bod yn deall y problemau\u2019n llawn ac yn sicrhau bod y gymuned ehangach yn rhan o greu atebion. Dylai ymyriadau i daclo tlodi gael eu dylunio gan ddechrau ar lawr gwlad, gan sicrhau bod yr adnoddau\u2019n cyfateb i bwrpas y system a bod y gymuned yn eu cefnogi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Delwedd: <a href=\"https:\/\/www.flickr.com\/photos\/47042618@N06\/15788250181\/in\/photolist-q49UJ2-aniCHC-angirk-bNeunk-62xYcR-rz8KGJ-rgBQF7-7CMtAW-rjNU1f-csFUay-pVC3vA-oC4x9T-84AVnb-qZEwLN-cHXrZo-8uRxz7-x2supZ-qtbzpQ-wduy4T-pZCjK1-qxWvBN-qMMerT-eoJwRw-pQGq85-7vM5mj-4BLWmo-qCtV1A-anguaz-Tg9r2c-pXUhJT-bGqTSK-9Cpwad-pNYce4-pAhQE6-acC7fz-btw5SW-rcUwnJ-anffE1-johEr-Nsy28M-7jHuVh-aniAFN-8uRdiJ-xFGrco-9StLxp-xGxEWH-N9dKMS-6Yp3fc-8uUTMY-8reJHP\">Andrew Hill<\/a> (<a href=\"https:\/\/creativecommons.org\/licenses\/by-nd\/2.0\/\">CC BY-ND 2.0<\/a>)<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel rhan o'n cyfres Tlodi Gwledig, mae Dr Greg Thomas (Cyngor Sir Powys) yn defnyddio Powys fel astudiaeth achos i ymchwilio i'r problemau sy'n ymwneud \u00e2 thlodi gwledig. &nbsp; Mae tlodi gwledig yn aml wedi\u2019i guddio o\u2019r golwg ac yn gwrth-ddweud y darluniau ystrydebol hynny o ardaloedd gwledig o fryniau gwyrddion a phentrefi perffaith. Mae [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14947,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14948","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"15788250181_efeca53836_o.jpg","filesize":209136,"sizes":{"medium":{"file":"15788250181_efeca53836_o-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":70846,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/15788250181_efeca53836_o-744x496.jpg"},"thumbnail":{"file":"15788250181_efeca53836_o-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64285,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/15788250181_efeca53836_o-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"15788250181_efeca53836_o-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":74782,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/15788250181_efeca53836_o-768x512.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14947","name":"15788250181_efeca53836_o.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/15788250181_efeca53836_o.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/15788250181_efeca53836_o-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/15788250181_efeca53836_o.jpg","title":"15788250181_efeca53836_o.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14948","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14948"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14948\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16408,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14948\/revisions\/16408"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14947"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14948"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14948"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14948"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14948"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}