{"id":14945,"date":"2018-06-18T11:24:56","date_gmt":"2018-06-18T11:24:56","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/sut-gall-atebion-cymunedol-gwella-cludiant-gwledig-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:10","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:10","slug":"sut-gall-atebion-cymunedol-gwella-cludiant-gwledig-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-gall-atebion-cymunedol-gwella-cludiant-gwledig-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Sut gall atebion cymunedol gwella cludiant gwledig yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Mewn blog gwadd yn rhan o'n cyfres ar dlodi gwledig, dyma Chyfarwyddwraig Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru Christine Boston yn esbonio sut gall atebion cymunedol fod yn allweddol i wella trafnidiaeth yng Nghymru wledig.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r haul yn tywynnu erbyn hyn, ac mae\u2019r tywydd gwael eithafol a gawsom ar ddechrau 2018 yn teimlo fel amser maith yn \u00f4l. Fodd bynnag, nid oes llawer o amser wedi mynd heibio ers i bobl ar draws Cymru orfod ymdopi \u00e2 bywyd heb gludiant.\u00a0 Nid oedd yn bosibl teithio yn ein prif ddinasoedd wrth i eira trwm atal pobl rhag gyrru, ac arwain at ganslo gwasanaethau bysiau a threnau.\u00a0 Am gyfnod byr, teimlai pobl sydd \u00e2 chysylltiadau teithio da fel arfer, mor ar wah\u00e2n \u00e2\u2019r rheini sy\u2019n byw mewn cymunedau gwledig o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>Mae adroddiad ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ynghylch sut i wella cludiant gwledig yn awgrymu bod hyd at chwarter y boblogaeth wledig yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a bod llawer ohonynt yn profi cyfleoedd cyfyngedig ac ynysu cymdeithasol.\u00a0 I\u2019r bobl hynny, mae cludiant yn gwbl allweddol i allu bod yn annibynnol, mwynhau bywyd o ansawdd da ac ar gyfer eu lles yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Oherwydd ffactorau\u2019n ymwneud \u00e2 daearyddiaeth a phoblogaeth, mae cludiant gwledig yn dibynnu ar ryw fath o gymhorthdal, boed hynny\u2019n arian cyhoeddus, grantiau neu amser gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, wrth i\u2019r sector cyhoeddus wynebu rhagor o doriadau, rydym yn aml yn clywed am wasanaethau\u2019n cael eu cyfyngu neu eu dileu. Mae diffyg cludiant gwledig a chost uchel teithio preifat yn creu argyfwng mewn cymunedau gwledig, ac mae hyn arwain at brinder mynediad yn yr ardaloedd hynny.<\/p>\n<p>Mae cwmni lleol sy\u2019n gallu cynnig cludiant ar gyfer teithiau hanfodol ar gael i rai pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae prinder cludiant.\u00a0 Er enghraifft, ym Mhowys, mae 17 o gynlluniau cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaethau fel deialu i deithio, cynlluniau ceir cymunedol, llwybrau bysiau hyblyg a gr\u0175p llogi bws mini ar gyfer grwpiau lleol.\u00a0 Yn 2016-17, gyrrodd y cynlluniau hynny bellter o 795,000 milltir ar gyfer 8,500 o aelodau gan ddarparu 95,000 o deithiau i deithwyr unigol, gyda 90% o yrwyr yn gwirfoddoli o\u2019u hamser fel bod y gwasanaethau hynny\u2019n bosibl.\u00a0 Mae gwasanaethau tebyg ar waith mewn cymunedau ar draws Cymru, gan gynnig cludiant lleol ar gyfer y rheini sydd ei angen fwyaf.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae\u2019r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn cyflwyno prosiect sy\u2019n ceisio cynyddu a gwella'r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol fel bod mwy o bobl \u2013 yn enwedig mewn ardaloedd gwledig \u2013 yn gallu elwa ar gludiant hyblyg a fforddiadwy.\u00a0 Mae prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi cael arian am bum mlynedd i ddatblygu gwasanaethau cludiant ymhellach sy\u2019n ateb y galw ar draws Cymru.<\/p>\n<p>Drwy gyfrwng <a href=\"https:\/\/gov.wales\/topics\/environmentcountryside\/farmingandcountryside\/cap\/ruraldevelopment\/wales-rural-development-programme-2014-2020\/?skip=1&amp;lang=cy\"><em>Rhaglen Datblygu Gwledig \u2013 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 \u2013 2020<\/em><\/a>, dan nawdd Llywodraeth Cymru a\u2019r Undeb Ewropeaidd, bydd y prosiect yn ceisio datblygu rhwydwaith Cludiant Cymunedol cynaliadwy drwy wella gwydnwch a chapasiti\u2019r sector Cludiant Cymunedol yng Nghymru, a\u2019u galluogi i gael effaith ar dlodi gwledig a\u2019r ymdeimlad o fod ar wah\u00e2n mewn ardaloedd gwledig<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiect eisoes wedi nodi nifer o fentrau i\u2019w datblygu, ac mae\u2019r t\u00eem yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau fydd yn cynyddu mynediad at fysiau mini ar gyfer grwpiau, ceir cymunedol, sgwteri olwynion i\u2019r gwaith, a moduron \u00e2 mynediad i gadeiriau olwyn.<\/p>\n<p>Mae llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar nodi partneriaid sydd am wneud i bethau ddigwydd. Felly, os ydych am ddod i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael a sut i gymryd rhan, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:connectingcommunities@ctauk.org\">connectingcommunities@ctauk.org<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mewn blog gwadd yn rhan o'n cyfres ar dlodi gwledig, dyma Chyfarwyddwraig Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru Christine Boston yn esbonio sut gall atebion cymunedol fod yn allweddol i wella trafnidiaeth yng Nghymru wledig. Mae\u2019r haul yn tywynnu erbyn hyn, ac mae\u2019r tywydd gwael eithafol a gawsom ar ddechrau 2018 yn teimlo fel amser maith yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14944,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[137,142],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14945","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-pontio-cyfiawn"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"5946566118_1a0756df1c_o.jpg","filesize":146342,"sizes":{"medium":{"file":"5946566118_1a0756df1c_o-744x533.jpg","width":744,"height":533,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51331,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5946566118_1a0756df1c_o-744x533.jpg"},"thumbnail":{"file":"5946566118_1a0756df1c_o-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":42369,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5946566118_1a0756df1c_o-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"5946566118_1a0756df1c_o-768x551.jpg","width":768,"height":551,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54157,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5946566118_1a0756df1c_o-768x551.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14944","name":"5946566118_1a0756df1c_o.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5946566118_1a0756df1c_o.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5946566118_1a0756df1c_o-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/5946566118_1a0756df1c_o.jpg","title":"5946566118_1a0756df1c_o.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14945","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14945"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14945\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16407,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14945\/revisions\/16407"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14944"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14945"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14945"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14945"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14945"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}