{"id":14938,"date":"2018-05-15T09:25:55","date_gmt":"2018-05-15T09:25:55","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ein-rhan-ni-yn-adolygiad-llywodraeth-cymru-o-gydraddoldeb-rhywedd\/"},"modified":"2025-04-11T13:26:09","modified_gmt":"2025-04-11T13:26:09","slug":"ein-rhan-ni-yn-adolygiad-llywodraeth-cymru-o-gydraddoldeb-rhywedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ein-rhan-ni-yn-adolygiad-llywodraeth-cymru-o-gydraddoldeb-rhywedd\/","title":{"rendered":"Ein rhan ni yn adolygiad Llywodraeth Cymru o Gydraddoldeb Rhywedd"},"content":{"rendered":"<p>Mewn araith ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, <a href=\"https:\/\/gov.wales\/newsroom\/articles\/firstminister\/180309-first-ministers-speech-to-oxford-university\/?skip=1&amp;lang=cy\">cyhoeddodd y Prif Weinidog<\/a> adolygiad o \"bolis\u00efau rhywedd a chydraddoldeb [i roi] symbyliad newydd i'n gwaith\". Bydd yr adolygiad yn ystyried yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio gystal yng Nghymru, yn cynnig adolygiad o ymarfer gorau rhyngwladol ac yn argymell sut y gallai Llywodraeth Cymru hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd yn well.<\/p>\n<p>Bydd cyfnod cyntaf yr adolygiad yn disgrifio camau gweithredu buan y gallai'r Llywodraeth eu cymryd, yn ogystal ag amlinellu meysydd lle bydd angen tystiolaeth, polisi a gweithredu pellach yn y tymor canolig a hir. Cynhelir yr ail gyfnod rhwng mis Gorffennaf 2018 a mis Gorffennaf 2019, gan arwain at fap ffordd ar gyfer cydraddoldeb, wedi'i deilwra i Gymru.<\/p>\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn darparu adolygiad o dystiolaeth o ymarfer gorau sy'n ystyried sut mae llywodraethau o gylch y byd wedi prif-ffrydio cydraddoldeb rhywedd wrth lunio polisi, deddfwriaeth a mentrau.\u00a0 Mae'r gwahaniaeth hwn, rhwng prif-ffrydio cydraddoldeb ym mhob polisi, a mentrau tymor byr gyda chyllid ansicr, yn debygol o fod yn allweddol i'r adolygiad a'r argymhellion dilynol. Mae modd i fentrau tymor byr gael effaith leol, ond gan eu bod yn gweithredu yn yr ymylon, y perygl yw bydd y normau ac arferion sefydliadol sylfaenol sy'n cynnal y status quo yn aros yn ddigyfnewid.<\/p>\n<p>Mae'r 'ddyletswydd i brif-ffrydio cydraddoldeb', sy\u2019n unigryw i Gymru ac sy'n golygu ei bod yn ofynnol i Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru hyrwyddo cydraddoldeb cyfle i bawb yn eu portffolios, yn llywio ymagwedd croestoriadol at yr adolygiad. Mae hyn yn cydnabod bod cysyniadau cymdeithasol o rywedd, rhywioldeb, ethnigrwydd, anabledd, dosbarth ac oedran yn fecanweithiau pwerus ar gyfer siapio syniadau am rolau, ymddygiadau a nodweddion. Gall y tybiaethau hyn alluogi neu gyfyngu, gan hwyluso'r llwybr i rai a chreu rhwystrau i eraill, er enghraifft yn y farchnad lafur a bywyd gwleidyddol. Mae'r ymagwedd hon hefyd yn cydnabod gwahaniaethau ymhlith menywod a'r ffyrdd y maent yn profi anghydraddoldebau rhywedd, felly mae'n bosibl fod angen datrysiadau polisi cynnil mewn perthynas ag addysg, iechyd, diogelwch personol, cyflogaeth ac ati.<\/p>\n<p>Wrth gasglu tystiolaeth yn y tymor canolig i hir dylid ceisio clywed gan 'arbenigwyr drwy brofiad' yn uniongyrchol a thrwy ychwanegu'r wybodaeth hon at dystiolaeth ymchwil ar anghydraddoldebau, gellid llywio'r modd y caiff polisi ei greu.<\/p>\n<p>Mae hon yn foment i ymestyn ac adeiladu ar y sail ddeddfwriaethol uwch a'r ewyllys wleidyddol barhaus yng Nghymru i herio anghydraddoldebau. Mae'n gyfle i ddefnyddio tystiolaeth am ysgogwyr anghydraddoldeb i gynyddu effeithiolrwydd polisi, ac, fel y cyhoeddodd Carwyn Jones ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 'ystyried sut rydym ni'n symud rhywedd i'r blaen ym mhob penderfyniad.'<\/p>\n<p>Ceir diddordeb sy'n pontio'r cenedlaethau i greu cynnydd fel y gwelwch o'r ffilm fer hon (yn Saesneg) a gr\u00ebwyd gan fyfyriwr, Ella Green, ar gyfer ei thraethawd terfynol. Mae'n dangos menywod yng Nghymru yn siarad am y dystiolaeth, yr heriau a'u profiadau o anghydraddoldeb rhywedd yn y gweithle.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/x2MnB3zHFmU\" width=\"560\" height=\"315\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><span data-mce-type=\"bookmark\" style=\"display: inline-block; width: 0px; overflow: hidden; line-height: 0;\" class=\"mce_SELRES_start\">\ufeff<\/span><\/iframe><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mewn araith ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog adolygiad o \"bolis\u00efau rhywedd a chydraddoldeb [i roi] symbyliad newydd i'n gwaith\". Bydd yr adolygiad yn ystyried yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio gystal yng Nghymru, yn cynnig adolygiad o ymarfer gorau rhyngwladol ac yn argymell sut [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14938","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"female-boss-cropped.jpg","filesize":436793,"sizes":{"medium":{"file":"female-boss-cropped-744x317.jpg","width":744,"height":317,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":38151,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-744x317.jpg"},"large":{"file":"female-boss-cropped-1200x511.jpg","width":1200,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78495,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-1200x511.jpg"},"thumbnail":{"file":"female-boss-cropped-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":42181,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"female-boss-cropped-768x327.jpg","width":768,"height":327,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39871,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-768x327.jpg"},"1536x1536":{"file":"female-boss-cropped-1536x654.jpg","width":1536,"height":654,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":115144,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-1536x654.jpg"},"2048x2048":{"file":"female-boss-cropped-2048x871.jpg","width":2048,"height":871,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":179421,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-2048x871.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"female-boss-cropped-1920x985.jpg","width":1920,"height":985,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":182803,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-1920x985.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"9280","name":"female-boss-cropped.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/female-boss-cropped.jpg","title":"female-boss-cropped","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14938","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14938"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14938\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16404,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14938\/revisions\/16404"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14938"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14938"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14938"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14938"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}