{"id":11924,"date":"2025-02-20T12:01:25","date_gmt":"2025-02-20T12:01:25","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/person\/yr-athro-steve-martin\/"},"modified":"2026-02-06T12:37:18","modified_gmt":"2026-02-06T12:37:18","slug":"steve-martin","status":"publish","type":"person","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/person\/steve-martin\/","content":{"rendered":"\n<p>Steve Martin yw Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ac Athro Polisi Cyhoeddus a Rheolaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ganddo hanes hir a llwyddiannus o sefydlu ac arwain timau ymchwil hynod effeithiol a darparu cyngor strategol i lywodraethau a chyrff cyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Steve wedi arwain mwy na 50 o brosiectau ymchwil pwysig ac wedi dal amrywiaeth o rolau cynghori ac anweithredol. Bu\u2019n Gadeirydd ar Banel Arbenigol Llywodraeth y DU ar Lywodraethu Lleol, fe\u2019i penodwyd yn gyfarwyddwr anweithredol yr Asiantaeth Gwella a Datblygu, ac mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr i Rwydwaith newydd Llywodraeth Leol, Cynghorydd Academaidd i\u2019r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac aelod o banel annibynnol ar gyflogau a lwfansau aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Penodwyd Steve yn aelod o Gyngor Beth sy\u2019n Gweithio yn 2015 ac ar hyn o bryd mae hefyd yn aelod o Fyrddau Cynghori\u2019r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol a PolicyWise. Mae wedi cynghori\u2019r Undeb Ewropeaidd, Trysorlys y DU, Swyddfa\u2019r Cabinet, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraethau Cymru a\u2019r Alban, y Comisiwn Archwilio, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Chwaraeon Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn ei r\u00f4l bresennol, Steve sefydlodd y Ganolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol a chwaraeodd ran ganolog yn sefydlu enw da rhyngwladol Prifysgol Caerdydd am ymchwil polisi cyhoeddus o'r radd flaenaf, ac ef oedd cyfarwyddwr y Ganolfan. Cyn ymuno \u00e2 Chaerdydd bu\u2019n arwain y Consortiwm Ymchwil Awdurdodau Lleol yn Ysgol Busnes Warwick lle bu\u2019n dysgu polisi cyhoeddus a strategaeth busnes.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Steve wedi cyhoeddi 95 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a mwy na 200 o adroddiadau polisi ar gyfer llywodraethau a chyrff cyhoeddus. Bu\u2019n gyd-olygydd \u2018Policy &amp; Politics\u2019 o 2015-2020, gan oruchwylio cynnydd triphlyg yn ei ffactor effaith, ac ar hyn o bryd mae\u2019n aelod o fyrddau golygyddol Public Money &amp; Management a Policy &amp; Politics.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Steve wedi dysgu ar Academi Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol ac wedi datblygu ac arwain rhaglenni graddedigion ac \u00f4l-raddedig ym Mhrifysgolion Birmingham, Caerdydd, Warwick ac Aston yn ogystal \u00e2 gwasanaethu fel arholwr allanol ar gyfer rhaglenni PhD a Meistr yn y DU ac yn rhyngwladol.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10564,"template":"","class_list":["post-11924","person","type-person","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"files":[],"person_title":"Prof","first_name":"Steve","middle_names":"","last_name":"Martin","honours":"","email_z6tvmkngpfo":"","group_f4ceu89yds":{"position":"Athro Emeritws a Chyn-gyfarwyddwr","organisation":"Internal","external_organisation":"Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru"},"advisory_group":"0","internal_primary_grouping":"staff","internal_priority":"","external_primary_grouping":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/person\/11924","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/person"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/person"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/person\/11924\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20292,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/person\/11924\/revisions\/20292"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10564"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11924"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}