{"id":12653,"date":"2021-06-16T10:20:46","date_gmt":"2021-06-16T10:20:46","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-rydyn-nin-ei-wneud-a-sut-rydyn-nin-ei-wneud\/"},"modified":"2025-04-11T13:14:44","modified_gmt":"2025-04-11T13:14:44","slug":"beth-rydyn-nin-ei-wneud-a-sut-rydyn-nin-ei-wneud","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/ynghylch\/beth-rydyn-nin-ei-wneud-a-sut-rydyn-nin-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud"},"content":{"rendered":"<h5>Defnyddio tystiolaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus a pholis\u00efau\u2019r llywodraeth<\/h5>\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus a gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyrchu a defnyddio tystiolaeth sy'n helpu i ddatblygu Cymru well.<\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n gweithio gydag arbenigwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i ddeall yr heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu Cymru a nodi'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n gwybod bod defnyddio tystiolaeth dda yn arwain at lunio polis\u00efau gwell a darparu gwasanaethau fwy effeithiol. Felly rydym ni'n edrych ar beth sydd angen ei wneud a sut i wneud hynny.<\/p>\n<figure id=\"attachment_5356\" aria-describedby=\"caption-attachment-5356\" style=\"width: 3277px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Centre-Framework-CYM-cropped.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5356 size-full\" src=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Centre-Framework-CYM-cropped.jpg\" alt=\"\" width=\"3277\" height=\"2325\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-5356\" class=\"wp-caption-text\">Cliciwch delwedd i ehangu<\/figcaption><\/figure>\n<h4><\/h4>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Sut rydym ni\u2019n gweithio<\/h4>\n<p>Ein nod yw llywio polisi ac arfer drwy ateb pum cwestiwn:<\/p>\n<h5><span style=\"color: #008080;\">1.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Pa dystiolaeth sydd ei hangen ar lunwyr polisi?<\/span><\/h5>\n<p><strong>Mae nodi pa dystiolaeth sydd ei hangen yn gam cyntaf pwysig tuag at wella polis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus y llywodraeth. <\/strong><\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n gweithio gyda gweinidogion, swyddogion, ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i nodi'r dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i ateb cwestiynau sy'n rhychwantu ystod eang o feysydd polisi.<\/p>\n<p>Rydym ni hefyd yn monitro datblygiadau polisi sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru, a thu hwnt, fel y gallwn ragweld anghenion tystiolaeth yn y dyfodol ac ymateb iddynt.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><span style=\"color: #008080;\">2.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Beth mae\u2019r dystiolaeth yn ei ddweud?<\/span><\/h5>\n<p><strong>Mae yna lawer o fathau a ffynonellau tystiolaeth. Rydym ni\u2019n helpu llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i gyrchu a chymhwyso tystiolaeth trwy syntheseiddio'r negeseuon allweddol o ymchwil annibynnol ac arbenigwyr blaenllaw. <\/strong><\/p>\n<p>Rydym ni am i lunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus gael y dystiolaeth orau sydd ar gael. Felly, ar \u00f4l i ni nodi'r hyn sydd ei angen arnyn nhw, rydyn ni'n dadansoddi'r ymchwil bresennol a phwy yw'r arbenigwyr blaenllaw.<\/p>\n<p>Trwy ddod \u00e2 thystiolaeth ynghyd gan arbenigwyr \u2013 yng Nghymru, yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol \u2013 rydym ni\u2019n chwarae r\u00f4l ymgynnull bwysig, gan gefnogi gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i gael gafael ar dystiolaeth a chyngor annibynnol, a helpu arbenigwyr i siarad yn uniongyrchol \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n comisiynu arbenigwyr i ysgrifennu adroddiadau gyda ni ac yn gwahodd eraill i adolygu ein gwaith gan gymheiriaid. Rydym ni hefyd yn trefnu gweithdai fel y gall llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus glywed gan arbenigwyr a defnyddio cyfryngau cymdeithasol a phodlediadau i rannu'r dystiolaeth yn ehangach.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><span style=\"color: #008080;\">3.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Sut allwn ni gyfathrebu'r dystiolaeth?<\/span><\/h5>\n<p><strong>Credwn y dylai tystiolaeth lywio'r broses o lunio polis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus ac rydym ni\u2019n cyfathrebu tystiolaeth mewn ffyrdd sy'n hwyluso hyn.<\/strong><\/p>\n<p>Dyna pam ein bod yn cynhyrchu amrywiaeth o allbynnau, mewn ystod o fformatau, sydd wedi'u teilwra i gynulleidfaoedd penodol. Mae ein gwaith yn cael ei ledaenu trwy adroddiadau, papurau briffio, blogiau, podlediadau, y wasg a'r cyfryngau traddodiadol, y cyfryngau cymdeithasol, papurau ymchwil, cynadleddau, cyfarfodydd bord gron a digwyddiadau.<\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n gwneud ein canfyddiadau yn hygyrch ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfathrebu\u2019n glir i\u2019n llunwyr polisi ac arweinwyr ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein holl adroddiadau a sesiynau briffio polisi wedi'u hysgrifennu mewn iaith glir, anarbenigol, a gellir eu lawrlwytho o'n gwefan.<\/p>\n<p>Ein nod yw bod yn ffynhonnell dystiolaeth ddibynadwy, annibynnol. Felly, mae ein cyhoeddiadau yn cael eu gwirio'n drylwyr i sicrhau eu bod yn gywir ac yn ddibynadwy.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><span style=\"color: #008080;\">4.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Sut mae ein tystiolaeth yn llywio polisi ac arfer?<\/span><\/h5>\n<p><strong>Ein nod yw gwella dealltwriaeth o sut y gall tystiolaeth lywio polis\u00efau'r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.<\/strong><\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n gwneud hyn trwy ddadansoddi'r effaith y mae ein gwaith yn ei chael ac adlewyrchu ar beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb.\u00a0 Gan dynnu ar ein profiadau ein hunain a phrofiadau cynhyrchwyr tystiolaeth eraill, rydym ni\u2019n cael mewnwelediadau i sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio wrth lunio polis\u00efau ac ymarfer. Rydym ni'n rhannu'r hyn a ddysgwn gyda'r Rhwydwaith What Works ac yn lledaenu ein canfyddiadau trwy gynadleddau a chyfnodolion academaidd.<\/p>\n<p>Mae'r astudiaethau achos isod, sy'n amlinellu ein gwaith ar effaith Brexit, plant sy'n derbyn gofal, a rhannu arfer gorau ar draws Rhwydwaith What Works, yn dangos rhai o'r ffyrdd yr ydym ni\u2019n olrhain effaith ein hymchwil. Mae'r rhain yn cynnwys casglu data, fel sawl gwaith y mae ein gwaith yn cael ei ddyfynnu yn nogfennau polisi'r llywodraeth a datganiadau gweinidogol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><span style=\"color: #008080;\">5.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Sut gallwn ni annog y defnydd o dystiolaeth ddibynadwy?<\/span><\/h5>\n<p><strong>Rydym ni\u2019n bencampwyr dros ddefnyddio tystiolaeth trwy ddangos ei ddefnyddioldeb i lunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a helpu ymchwilwyr i ymgysylltu \u00e2 nhw.<\/strong><\/p>\n<p>Ein nod yw cynyddu dealltwriaeth llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus o werth tystiolaeth ddibynadwy. Rydym ni\u2019n gwybod bod llunio polisi yn gymhleth ac y gall fod yn anodd i'r rhai y tu allan i'r llywodraeth wybod sut i gyflwyno eu tystiolaeth. Felly, rydym ni hefyd yn helpu arbenigwyr i ymgysylltu \u00e2'r broses.<\/p>\n<p>Mae ein rhaglen Prentisiaeth Ymchwil a\u2019n hinterniaethau PhD yn arfogi cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr i ymgymryd ag ymchwil sy'n berthnasol i bolisi, ac i allu cyfathrebu'n effeithiol \u00e2 llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<figure id=\"attachment_5383\" aria-describedby=\"caption-attachment-5383\" style=\"width: 306px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/WCPP-About-us-leaflet-Final-CYM.pdf\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5383\" src=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Cover-CYM.jpg\" alt=\"Beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud\" width=\"306\" height=\"433\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-5383\" class=\"wp-caption-text\">Cliciwch i'w lawrlwytho fel PDF: Beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Defnyddio tystiolaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus a pholis\u00efau\u2019r llywodraeth Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus a gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyrchu a defnyddio tystiolaeth sy'n helpu i ddatblygu Cymru well. Rydym ni\u2019n gweithio gydag arbenigwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i ddeall yr heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":17404,"parent":12623,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-12653","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"image":[],"files":[]},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12653","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12653"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12653\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12654,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12653\/revisions\/12654"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12623"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17404"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12653"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}