{"id":21736,"date":"2026-09-16T10:38:00","date_gmt":"2026-09-16T10:38:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=news&#038;p=21736"},"modified":"2026-09-16T13:42:47","modified_gmt":"2026-09-16T13:42:47","slug":"sector-llywodraeth-leol-cymru-yn-unedig-ar-y-fford-ymlaen","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/sector-llywodraeth-leol-cymru-yn-unedig-ar-y-fford-ymlaen\/","title":{"rendered":"Sector llywodraeth leol Cymru yn unedig ar y ffordd ymlaen"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae arweinwyr cynghorau a phrif weithredwyr wedi cytuno ar weledigaeth newydd ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, gan nodi sut y gall cynghorau weithio\u2019n wahanol i sicrhau canlyniadau gwell fyth i gymunedau.<br><br>Gan ddechrau o\u2019r casgliad a dderbynnir yn eang, sef bod llywodraeth leol yn anghynaliadwy ar hyn o bryd oherwydd costau cynyddol, cyfyngiadau cyllidebol, a galw cynyddol am wasanaethau statudol, mae <em><a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/llywodraeth-leol-barod-am-y-dyfodol\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/llywodraeth-leol-barod-am-y-dyfodol\/\">Llywodraeth leol sy\u2019n addas ar gyfer y dyfodol<\/a><\/em>, sef adroddiad gan <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/llywio-dyfodol-cynaliadwy-i-lywodraeth-leol-yng-nghymru\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/llywio-dyfodol-cynaliadwy-i-lywodraeth-leol-yng-nghymru\/\">y gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol<\/a>, yn pwysleisio\u2019r angen i gynghorau Cymru yn y dyfodol fod yn \u201cgydweithredol, ataliol, canolbwyntio ar ganlyniadau, yn agored i arloesi, wedi\u2019u galluogi\u2019n ddigidol, ac wedi\u2019u grymuso\u2019n ariannol\u201d er mwyn ffynnu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai cynghorau\u2019n adeiladu ar eu r\u00f4l fel darparwyr gwasanaethau hanfodol i ddod yn arweinwyr democrataidd cryfach fyth yn eu hardaloedd, gan ddod \u00e2 chymunedau a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd o amgylch blaenoriaethau cyffredin.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff y weledigaeth ei chyflwyno yn Llywodraeth leol sy\u2019n addas ar gyfer y dyfodol, adroddiad terfynol gr\u0175p gwaith annibynnol a gynullwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar y cyd \u00e2 Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Daeth y gr\u0175p ag arweinwyr cynghorau, prif weithredwyr ac arbenigwyr llywodraeth leol ynghyd i ddatblygu atebion ymarferol ar gyfer dyfodol y sector.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r adroddiad yn cyflwyno model gweithredu cynaliadwy i helpu cynghorau i ymateb i alw cynyddol, pwysau ariannol a phwysau ar y gweithlu, technoleg newydd a heriau sy\u2019n fwyfwy cymhleth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n galw am gydweithio agosach ar draws gwasanaethau cyhoeddus, ffocws cryfach ar atal ac ar ganlyniadau, a llais cryfach i breswylwyr yn y penderfyniadau sy\u2019n effeithio arnynt. Mae hefyd yn annog cynghorau i ailystyried sut y caiff gwasanaethau eu darparu ac i ddatblygu diwylliannau a ffyrdd newydd o weithio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywed yr adroddiad y bydd angen i\u2019r newidiadau hyn gael eu cefnogi gan ddiwygiadau i drefniadau cyllido, perfformiad ac atebolrwydd llywodraeth leol. Mae hefyd yn galw am newid yn y ffordd y mae cynghorau\u2019n gweithio \u00e2 Llywodraeth Cymru, \u00e2 phreswylwyr, \u00e2\u2019i gilydd ac \u00e2\u2019r sector cyhoeddus ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai\u2019r weledigaeth yn galluogi cynghorau i ddatblygu a phrofi dulliau sy\u2019n addas i\u2019w cymunedau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae\u2019r weledigaeth hon yn gofyn inni edrych y tu hwnt i wasanaethau unigol a chanolbwyntio ar yr hyn y mae pobl ei eisiau mewn gwirionedd ar gyfer eu cymunedau: bywydau iachach, cyfleoedd da a lleoedd lle gall pawb ffynnu. Mae cyflawni hynny\u2019n golygu cynnwys preswylwyr yn y dewisiadau sy\u2019n effeithio arnynt a gweithio\u2019n llawer agosach ar draws ffiniau sefydliadol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRydym yn gwybod nad oes un ateb a fydd yn gweithio ym mhobman. Yr hyn sy\u2019n bwysig yw rhoi\u2019r rhyddid, y capasiti a\u2019r hyder hirdymor i gynghorau ddysgu, addasu ac adeiladu ar yr hyn sy\u2019n gweithio\u2019n lleol. Mae\u2019r adroddiad hwn yn rhoi cyfeiriad cyffredin inni a chyfle i lunio pennod nesaf llywodraeth leol Cymru gyda\u2019n gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cYn y pen draw, mae llywodraeth leol yn ymwneud \u00e2 phobl, y lleoedd y maent yn byw ynddynt, y cyfleoedd sydd ar gael iddynt a\u2019r cymorth y gallant droi ato pan fydd ei angen arnynt.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd yr Athro Dan Bristow, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae\u2019r gr\u0175p gwaith annibynnol wedi galluogi\u2019r sector llywodraeth leol i ddatblygu a chytuno ar weledigaeth unedig ar gyfer ei ddyfodol ac ar lwybr clir tuag at wireddu\u2019r weledigaeth honno.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cFodd bynnag, bydd cyflawni\u2019r nodau hynny a sicrhau bod cynaliadwyedd yn dod yn realiti yn gofyn am ddiwygio strwythurol a newid diwylliannol. Mae angen i newid a arweinir gan y sector gael ei ategu gan arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru. Bydd diwygiadau i fframweithiau cyllido, perfformiad ac atebolrwydd llywodraeth leol yn elfennau hanfodol er mwyn i\u2019r cynllun hwn lwyddo.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Rob Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Solace Cymru, y corff proffesiynol sy\u2019n cynrychioli prif weithredwyr llywodraeth leol yng Nghymru:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cNid yw\u2019r un prif weithredwr awdurdod lleol yng Nghymru dan unrhyw gamargraff bod y ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithredu ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Rydym hefyd yn deall nad oes ateb ar unwaith i leihau\u2019r galw am ein gwasanaethau nac i wella ein sefyllfa ariannol yn sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cYn erbyn y cefndir hwn, mae angen inni weithio\u2019n wahanol i helpu ein cymunedau i ffynnu, ac mae\u2019r gwaith a wnaed gan y gr\u0175p gwaith hwn yn enghraifft wych o gam i\u2019r cyfeiriad cywir. Mae\u2019r hyn sydd wedi\u2019i ddatblygu a\u2019i fynegi yn weledigaeth glir a strategol ar gyfer model gweithredu ymarferol a all roi\u2019r sector ar sylfaen gadarnach ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cBydd yn gofyn am newid pwyslais a ffyrdd newydd o weithio ar sawl lefel, ac rydym yn ymwybodol iawn mai yma y mae\u2019r gwaith caled yn dechrau. Ond mae gan lywodraeth leol yng Nghymru hanes rhagorol o weithio\u2019n wahanol a thrawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae angen mwy o hyn arnom, ac mae angen inni gydweithio fwyfwy \u00e2\u2019n gilydd, \u00e2 phreswylwyr, \u00e2 phartneriaid cymunedol ac \u00e2 Llywodraeth Cymru. Mae angen inni hefyd barhau i ddatblygu ein gweithlu ein hunain a\u2019n galluoedd arwain er mwyn sicrhau bod ein dull yn ataliol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Yn anad dim, mae angen inni fod yn \u2018addas ar gyfer y dyfodol\u2019 er mwyn inni allu cyflawni orau dros ein cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae llywodraeth leol yng Nghymru wedi dangos gwytnwch rhyfeddol dros y degawd diwethaf ac mae\u2019n parhau i gyflawni er budd pob cymuned. Mae\u2019n hanfodol ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn rym er daioni wrth inni symud ymlaen i\u2019r degawd nesaf.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a gynullwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac sy\u2019n cynnwys arweinwyr cynghorau, prif weithredwyr ac arbenigwyr annibynnol, wedi cytuno ar weledigaeth newydd ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, wedi\u2019i hategu gan fodel gweithredu ar gyfer sut gall cynghorau weithio\u2019n wahanol i sicrhau canlyniadau gwell i gymunedau.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":21716,"template":"","categories":[150],"tags":[141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21736","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner.jpg","filesize":572604,"sizes":{"medium":{"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-744x248.jpg","width":744,"height":248,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39999,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-744x248.jpg"},"large":{"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-1200x400.jpg","width":1200,"height":400,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":75722,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-1200x400.jpg"},"thumbnail":{"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53766,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-768x256.jpg","width":768,"height":256,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41744,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-768x256.jpg"},"1536x1536":{"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-1536x512.jpg","width":1536,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":104444,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-1536x512.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-395x132.jpg","width":395,"height":132,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":16080,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-395x132.jpg"},"square_thumb":{"file":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-800x640.jpg","width":800,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":65326,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-800x640.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"1","keywords":[],"alt":""},"ID":"21713","name":"Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Web-banner-image-Local-Government-fit-for-the-future-website-banner.jpg","title":"Web banner image Local Government fit for the future - website banner","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/21736","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/21736\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21744,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/21736\/revisions\/21744"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21716"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21736"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21736"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21736"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21736"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}