{"id":19862,"date":"2025-07-30T09:37:25","date_gmt":"2025-07-30T09:37:25","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=news&#038;p=19862"},"modified":"2025-12-11T21:57:34","modified_gmt":"2025-12-11T21:57:34","slug":"cydweithrediad-gyda-achub-y-plant-cymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/cydweithrediad-gyda-achub-y-plant-cymru\/","title":{"rendered":"Cydweithrediad gyda Achub y Plant Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Rydym yn falch ein bod yn gweithio ag Achub y Plant Cymru er mwyn cyd gynnal cyfarfod nesaf ein&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/rhwydwaith-mewnwelediad-stigma-tlodi\/\">Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi,&nbsp;<\/a>a fydd yn rhoi sylw i leisiau a phrofiadau pobl ifanc o stigma tlodi yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb ar 8 Mai yn rhoi cyfle i gr\u0175p o bobl ifanc o ddwy ysgol yn ne Cymru i rannu canfyddiadau eu prosiect ymchwil am brofiadau pobl ifanc o dlodi ac o stigma tlodi. Byddan nhw hefyd yn trafod atebion polisi gyda\u2019r rhai sy\u2019n creu polis\u00efau, ymarferwyr, academyddion, ymchwilwyr ac arbenigwyr drwy brofiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, \u201cRydym ni\u2019n edrych ymlaen at gael clywed gan bobl ifanc yn y Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi, ac at gael defnyddio\u2019r hyn a fyddwn ni\u2019n ei ddysgu yn ein gwaith er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cCafodd y Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi ei sefydlu\u2019r llynedd er mwyn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau lleol a chenedlaethol i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi, codi ymwybyddiaeth o naratifau ac arferion sy\u2019n creu stigma, a herio mythau am dlodi. Mae hi\u2019n gwbl allweddol ein bod yn gwrando ac yn deall safbwyntiau pobl ifanc fel rhan o\u2019r broses hon.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: \u201cEin prif nod yw sicrhau ein bod yn gwrando ar leisiau a syniadau plant a phobl ifanc, ac yn rhoi llwyfan i\u2019r lleisiau hynny er mwyn rhoi diwedd ar yr anghyfiawnderau a ddaw yn sgil tlodi plant, sy\u2019n effeithio ar fywydau un o bob tri phlentyn yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae canfyddiadau ein prosiect ymchwil yn dangos fod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o\u2019r pwysau ariannol sy\u2019n wynebu eu haelwydydd a\u2019u cymunedau, yn enwedig y pwysau sydd wedi dod yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae\u2019r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at y pwysau y mae\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn ei roi ar blant, a sut gall peidio \u00e2 chael digon o arian i \u2018brynu\u2019r brand neu\u2019r eitemau cywir\u2019 arwain at gael eich bwlio neu gael cyfoedion yn rhoi pwysau arnoch. Mae hyn yn gallu cael effaith ar iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc, ac yn gwneud iddynt golli eu huchelgais.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae hi\u2019n gwbl allweddol ein bod yn gwrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i\u2019w ddweud, a\u2019n bod yn defnyddio eu syniadau i wella pethau ar eu cyfer. Rydym yn falch iawn ein bod yn cydweithio ar y digwyddiad hwn er mwyn rhoi llwyfan iddyn nhw ddefnyddio a dangos grym eu llais\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma beth oedd gan rai o\u2019r plant a\u2019r bobl ifanc a gymerodd ran ym mhrosiect ymchwil&nbsp;<strong>Grym Llais<\/strong>&nbsp;Achub y Plant Cymru i\u2019w ddweud am stigma tlodi a\u2019i effaith ar iechyd meddwl:<\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cMae pethau sydd wedi eu brandio yn ddrutach ac yn anoddach i\u2019w prynu, ac mae hynny\u2019n gallu gwneud i rywun deimlo nad ydynt yn ddigon da.\u201d&nbsp;<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cOs nad oes gennych chi ddigon o arian rydych chi\u2019n gallu cael eich bwlio am nad ydy eich rhieni yn gallu fforddio pethau, ac mae hynny\u2019n achosi straen.\u201d&nbsp;<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cMae angen rhoi mwy o gefnogaeth i blant sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl sydd wedi eu hachosi gan brinder arian yn y cartref.\u201d&nbsp;<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi CPCC yn rhwydwaith ledled y DU o unigolion a sefydliadau sydd \u00e2\u2019r nod cyffredin o geisio deall, atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn well. Mae cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddeall a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn rhan o&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/stigma-tlodi\/\">raglen waith ehangach<\/a>&nbsp;Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cael ei chynnal rhwng 12 Mai ac 18 Mai eleni, a\u2019r thema yw \u2018cymuned\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Anfonwch e-bost at&nbsp;<a href=\"mailto:info@wcpp.org.uk\">info@wcpp.org.uk<\/a>&nbsp;os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y prosiect hwn neu am ein gwaith yn gyffredinol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn falch ein bod yn gweithio ag Achub y Plant Cymru er mwyn cyd gynnal cyfarfod nesaf ein&nbsp;Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi,&nbsp;a fydd yn rhoi sylw i leisiau a phrofiadau pobl ifanc o stigma tlodi yng Nghymru. Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb ar 8 Mai yn rhoi cyfle i gr\u0175p o bobl ifanc o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":18869,"template":"","categories":[],"tags":[],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19862","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"project":"","lead_author":12458,"authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19862","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19862\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19863,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19862\/revisions\/19863"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18869"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19862"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19862"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19862"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19862"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}